Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

259 GORS FAWR - WAUN CLEDDAU

CYFEIRNOD GRID: SN127285
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 487.9

Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr, afreolaidd wasgaredig o dir agored yn y sir Benfro fodern, wedi ei thorri'n ddwfn gan ardal gymeriad gaeŽdig Mynachlog-ddu sy'n gorwedd ar lethr deheuol Mynydd Preseli. Gorweddai o fewn Cantref Canoloesol Cemaes a ddygwyd o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan deulu Fitzmartin tua 1100. Daliodd teulu Fitzmartin hi fel Barwniaeth Cemaes, hyd 1326 pan gawsant eu dilyn gan deulu Audley. Fel gyda'r rhan fwyaf o ran dde-ddwyreiniol y Farwniaeth o fewn Mynydd Preseli, parhaodd ardal Gors Fawr-Waun Cleddau i gael ei dal gan y system denantiaeth Gymreig. Yn 1118, cyflwynodd William Fitzmartin yr ardal hon yn gyfan fel rhan o faenor Nigra Grangia, i Deironiaid Abaty Llandudoch. Roedd y faenor yn un helaeth iawn, yn cynnwys 5 gweddgyfair a oedd yn werth £8 15s 6ch yn 1535. Fodd bynnag roedd ei asesiad i fod yn hanner ffi marchog yn unig yn awgrymu bod llawer ohono mwy na thebyg yn dir pori gweundir agored yn ystod y cyfnod canoloesol. Cadwodd trigolion treflan y Plwyf Bach, Plwyf Llandudoch hawliau pori i'r cyn faenor hyd gyfnod y 19eg ganrif. Ar Ddiddymiad y Mynachlogydd daeth y faenor i feddiant John Bradshaw o Lanandras, ynghyd ag abaty Llandudoch, ac ar Űl hynny fe'i daliwyd ar wah‚n i Farwniaeth Cemaes. Mae Cofnod y Llys Ychwanegiadau yn awgrymu bod ymdrechion cyfyng iawn ar amgau'r faenor yn ffurfiol wedi digwydd yn y cyfnod canoloesol, gan barhau o bosibl hyd flynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Perthynai rhan fechan o ben deheuol yr ardal i Lwyn-yr-ebol, maenor a berthynai i Abaty Hendy-gwyn ar Daf a roddwyd i'r Sistersiaid gan Maelgwn ap Rhys, mab Rhys ap Gruffydd, rhwng 1197 a 1231. Roedd hwn hefyd i raddau mawr yn dir pori agored. Mae mapiau'r degwm tua 1840 yn dangos sefyllfa debyg i un heddiw -tir pori agored - ar wah‚n i rai adrannau mawr iawn mewn rhai rhannau sydd bellach yn ddiangen, a rhai ymwthiadau bach ar hyd ymylon yr ardal. Roedd yr ardal yn ganolfan i gynhyrchu llechi, a ddechreuodd yn gynnar . Roedd Chwarel y Gilfach ar brydles oddi wrth gyn faenor Llwyn yr Ebol erbyn 1691 o leiaf, a chafodd ei gynnyrch ei farchnata o dan yr enw "Whitland Abbey Slates"; haerir iddynt doi'r Cyffredin. Mae yn dal i gynhyrchu ychydig, ond caeodd chwareli y Tyrch Isaf yng nghanol yr ardal - a oedd yn gweithio o ddiwedd y 18fed ganrif, ac a roddodd y llechi i doi Neuadd y Sir, Caerfyrddin, - yn 1939.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad Gors Fawr - Waun Cleddau yn cynnwys tir agored o ansawdd gwael yn y Cleddau Ddwyreiniol uchaf a'i his-afonydd. Rhennir yr ardal, a'i gwahanu a 'i hamgylchynu gan dir caeŽdig ardal gymeriad Mynachlog-ddu. Mae'n gorwedd rhwng tua 175m a 220m. Ffurfia dyffryn y Cleddau Ddwyreiniol Uchaf fasn agored, y mae ei ochrau isaf yn cynnwys caeau a ffermydd (ardal gymeriad Mynachlog-ddu), ac mae llawr y dyffryn (yr ardal gymeriad hon) wedi ei ddraenio'n wael ac yn agored. Mae bron y cyfan o'r ardal yn dir pori garw iawn, gyda mawnydd yn yr ardaloedd gwlypaf ac isaf. Ar wah‚n i beth coed prysgwydd yn rhai o waelodion y dyffrynnoedd a phlanhigfa goedwigaeth fechan mae hon yn dirwedd di-goed. Mae cloddiau ffin diangen yn tystio i ymdrechion blaenorol i amgŠu rhannau o'r ardal, ac mae'r ffosydd yn olion cynlluniau draenio. Yr unig ffensys terfyn i gadw da byw rhag crwydro bellach yw y ffensys gwifren sydd weithiau i'w gweld. Mae hen chwareli llechi helaeth gerllaw Pont Hywel. Nid oes aneddiadau wedi goroesi yn yr ardal gymeriad hon. Nid yw'r lonydd a'r traciau wedi eu hamgŠ gan gloddiau.

Nid yw'r archaeoleg a gofnodwyd yn yr ardal yn ddwys ac mae'n gyfyngedig o ran ei fath. Fodd bynnag, ceir safleoedd cynhanesyddol pwysig - cylch cerrig Gors Fawr o'r oes neolithig/Efydd a ph‚r carreg (i gyd yn Henebion rhestredig). Mae archaeoleg diweddarach wedi ei gyfyngu yn bennaf i safleoedd chwareli a nodweddion cysylltiedig, adeiladau adfeiliedig, cledrau rheilffyrdd a dyfrffosydd, ond hefyd ceir maen coffa Waldo Williams yn yr ardal hon.

Ceir hefyd faen hir a godwyd i nodi yr ymdrech ddiweddar i symud carreg las o'r Preseli i Gêr y Cewri. Ceir dau adeilad rhestredig o fewn i'r ardal . Mae Melin Pont Hywel , ar ymyl yr ardal, yn felin flawd o'r 18fed ganrif a addaswyd i fod yn ganolfan cerfio llechi sydd ar agor i'r cyhoedd. Hwn yw'r unig adeilad cyfannedd yn yr ardal. Gall Pont Hywel fod yn bont rhannol ganoloesol - cyfeirir ati gan George Owen tua 1600 - neu yn y traddodiad canoloesol. Adeiladweithiau eraill o hynodrwydd yw'r pontydd Űl-ganoloesol ym Mhont Glandy a Phont Mynachlog-ddu.

Ar y rhan fwyaf o'r ochrau mae'r ardal hon wedi eu hymylu ‚ thir caeŽdig ardal gymeriad Mynachlog-ddu ac ardaloedd cymeriad eraill wedi eu hamgŠu megis Llethr a Llangolman. Ceir ffin glir wedi ei marcio'n dda rhwng y rhain i gyd ag ardal gymeriad Gors Fawr - Waun Cleddau.

Ffynonellau: Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1997; Jones 1996; Lewis 1969; Map Degwm a rhaniad Llandisilio 1840; Map Degwm a rhaniad Monachlogddu 1846; Owen 1897; Archifdy Sir Benfro D/RTP/SKY 23; Pritchard 1907; Rees 1932; Richard 1935; Richards 1998; Williams 1990.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]