Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

260 FOEL DYRCH

CYFEIRNOD GRID: SN 157301
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 132.1

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fach gryno yn y Sir Benfro fodern yn cynnwys bryn diarffordd Foel Dyrch, ar lethr de-ddwyreiniol Mynydd Preseli. Gorweddai o fewn Cantref canoloesol Cemaes a ddaeth o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan deulu Fitzmartin tua 1100. Daliodd teulu Fitzmartin hi fel Barwniaeth Cemaes hyd 1326 pan ddilynwyd hwy gan deulu Audley. Roedd y Farwniaeth yn gyd-ffiniol 'r Cantref Cemais diweddarach a grwyd yn 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a dyletswyddau ffiwdal, rhai mor ddiweddar 1922. Fel gyda'r rhan fwyaf o ran de-ddwyreiniol y Farwniaeth o fewn Mynydd Preseli parhaodd ardal Foel Dyrch o dan gyfundrefnau tenantiaeth Cymreig. Yn 1118 cyflwynodd William Fitzmartin yr ardal hon, fel rhan o faenor Nigra Grangia i Deironiaid Abaty Llandudoch. Roedd ei hasesiad ar hanner ffi marchog yn unig yn awgrymu bod y faenor fwy na thebyg yn bennaf yn dir pori gweundir agored yn ystod y cyfnod canoloesol. Ar Ddiddymiad y Mynachlogydd fe'i meddiannwyd gan John Bradshaw o Lanandras, ynghyd ag Abaty Llandudoch, ac fe'i daliwyd ar l hynny ar wahn i farwniaeth Cemaes. Roedd Foel Dyrch yn rhan o weundir agored, yn ddaliad o'r farwniaeth gyda hawliau pori a thorri mawn cyffredin, ac mae'n parhau yn dir agored. Cafodd ei ddefnyddio at ddibenion eraill yn y gorffennol; roedd chwarel lechi Tyrch Uchaf ar ymyl ddeheuol yr ardal - a ddarparodd lechi i doi Neuadd y Sir Caerfyrddin - yn gweithio o ddiwedd yr 18fed ganrif tan 1939, ac mae dau safle chwareli bach yn gorwedd ar lethrau'r ardal. Yn ystod yr ail ryfel byd defnyddiwyd yn l pob tebyg chwarel Tyrch Uchaf gan Luoedd America fel llwyfan ymarfer gynnau.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae Foel Dyrch yn fryn crwn clir ar ochr dde-ddwyreiniol Mynydd Preseli sy'n codi o'r tir amaethyddol caedig o'i amgylch i tua 250m i gyrraedd uchder mwyaf o 368m. Mae'n dir agored. Y prif ddefnydd tir yw tir pori garw-grug ac eithin. Elfen glir yn y dirwedd hanesyddol yw pyllau a thwmpathau gwastraff Tyrch Uchaf a chwareli bach eraill. Nid oes aneddiadau wedi goroesi. Fodd bynnag, ceir clystyrau bach o goed ar, ac, o amgylch ffermdai a bythynnod gwag ar lethr ddwyreiniol y bryn. Ar wahn i'r rhain mae hwn yn dirwedd ddi-goed. Ni cheir ffyrdd na llwybrau.

Cyfyngir yr archaeoleg a gofnodwyd i un maen hir posibl, a thomen grwn bosibl ar gopa Foel Dyrch, y ddwy o'r Oes Efydd. Yn ychwanegol at hyn ceir corlan l- ganoloesol, chwarel lechi Tyrch Uchaf a dwy gloddfa arall llai, a nodweddion milwrol o'r ail ryfel byd.

Nid oes adeiladau yn dal i sefyll.

Mae Foel Dyrch yn ardal gymeriad o dirwedd hanesyddol didoledig, gyda ffin ymyl galed i'r gogledd, gorllewin a'r de yn erbyn tir caedig Mynachlog-ddu. Nid yw'r ffin i'r dwyrain wedi ei ddiffinio cystal yn erbyn tir lled agored Crugiau Dwy.

Ffynonellau: Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1997; Lewis 1969; Map Degwm a rhaniad Monachlogddu 1846; Rees 1932; Richards 1998 .

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]