Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

262 PENTRE GALAR

CYFEIRNOD GRID: SN185310
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1035

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr ar lethr dwyreiniol Mynydd Preseli yn y Sir Benfro fodern. Mae'r ardal yn cynnwys tirwedd ddefodol neolithig/efydd o bwys gyda nifer o gofebau gweledol iawn. Yn ystod y cyfnod hanesyddol gorweddai yng Nghantref ganoloesol Cemaes a ddygwyd o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan deulu Fitzmartin tua 1100. Cadwodd teulu Fitzmartin hi fel Barwniaeth Cemaes hyd 1326 pan y'u holynwyd gan deulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydffiniol gyda'r Cantref Cemais diweddarach a grwyd yn 1536, ond parhi llawer o hawliau a dyletswyddau ffiwdal, rhai mor ddiweddar 1922. Fel y rhan fwyaf o ran de-ddwyreiniol y Farwniaeth o fewn Mynydd Preseli, parhaodd ardal Pentre Galar i gael ei dal o dan gyfundrefnau tenantiaeth Gymreig. Mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys tir o ansawdd gwael ac ymddengys ei fod wedi parhau yn dir pori a gweundir heb ei amgu, gyda hawliau pori a thorri mawn cyffredin hyd 1812 pan gafodd ei amgu drwy Ddeddf Seneddol a sefydlwyd y patrwm ffiniau syth rheolaidd presennol. Fodd bynnag y mae dwy elfen enw ffarm 'ganol ' a allai awgrymu anheddiad cynharach. Mae'r enw ffarm 'Llety' fwy na thebyg yn ddiweddarach ac efallai'n tystio i weithlu amaethyddol teithiol yn y 19eg ganrif. Nodir prif ffordd drwy'r ardal hon ar fap Rees fel llwybr canoloesol, ond daeth yn ffordd dyrpeg rhwng 1791 a 1809 o dan Ymddiriedolaeth Dyrpeg Hendy?gwyn. Dangosir y llwybr presennol ar fapiau Arolwg Ordnans 1809. Ceir chwarel lechi fechan segur ar ymyl gorllewinol yr ardal. Mae'r anheddiad o hyd yn brin ac mae'r clwstwr o dai ym Mhentre Galar yn bennaf yn ddatblygiad o'r 20fed ganrif. Bu plannu coedwigaeth cyfyngedig yng nghanol yr 20fed ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Gorwedd ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Pentre Galar ar ochr ddwyreiniol Mynydd Preseli rhwng 210m a 350m. Mae'r ardal gymeriad yn gorwedd mewn basn agored - dyffryn blaenau Afon Gafel, is-afon i Afon Taf - gyda llethr cyffredinol yn gogwyddo i lawr o'r gorllewin i'r dwyrain. Mae brigiadau creigiog a cherrig mawr yn digwydd ar lethrau uwch ar ymyl gorllewinol yr ardal. Gosodwyd y system caeau ar draws yr ardal gyfan yn 1812 a ffurfia batrwm cydlynol o gaeau bach rheolaidd. Mae'r rhain yn gyffredinol ar ffurf siapau sgwr, er bod caeau hirsgwar hefyd i'w cael yno. Ar dir uwch mae'r cloddiau ffin yn rhai pridd a cherrig, rhai yn cynnwys clogfeini sylfaen a ellir ei galw'n feini hirion. Mae'r gwrychoedd a arferai orchuddio'r cloddiau wedi diflannu bron i gyd. Ar lefelau is mae'r cloddiau yn wrychoedd pridd gydag ambell glawdd cerrig a phridd. Yma mae'r gwrychoedd mewn gwell cyflwr ond nid ydynt yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda ag eithrio ar hyd heolydd a llwybrau ac mae llawer yn llinellau o lwyni gwasgarog yn unig, wedi tyfu'n wyllt ac wedi eu hesgeuluso. Ffensys gwifren sy'n rhoi ffiniau i gadw da byw i fewn ar draws yr holl ardal. Mae'r defnydd tir bron yn gyfangwbl yn dir pori gydag ychydig o dir r. Mae'r rhan fwyaf o'r tir pori wedi ei wella er bod darnau o dir pori heb ei wella yn bodoli, a cheir tir garw brwynog a dyddodion mawn yn rhai o waelodion y cwm. Ceir hefyd brysgwydd yng ngwaelodion y cwm. Ar wahn i blanhigfa goniffer o'r 20fed ganrif ar ochr orllewinol yr ardal hon ychydig o goed tal a geir, ond mae'r gwrychoedd a dyfodd yn wyllt a'r coetir prysgwydd yn rhoi golwg goediog i ddarnau sylweddol o'r ochr ddwyreiniol is. Patrwm yr anheddiad yw un o fythynnod a thai a ffermydd gwasgarog. Mae'r tai hynaf bron i gyd o'r 19eg ganrif yn yr arddull frodorol ac yn gyffredinol wedi eu codi o gerrig gyda thoeon llechi, yn ddeulawr a thri bae, wedi eu rendro sment neu/ac o garreg foel. Mae'r rhan fwyaf wedi eu moderneiddio. Ceir hefyd fythynnod unllawr o'r un cyfnod ac arddull. Mae'r rhan fwyaf o'r anheddau hyn wedi eu moderneiddio. Ceir t-unnos neu safle bwthyn o bridd yno. Hefyd ceir tai a byngalos o'r 20fed ganrif mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau. Mae'r adeiladau amaethyddol yn gyffredinol yn fach, yn adlewyrchu maint y daliadau. Yr arddulliau mwyaf cyffredin yw: cyfres o dai sengl bach wedi eu codi o gerrig yn yr 19eg ganrif; ysgubor haearn rhychog ac adeiladau eraill o ganol yr 20fed ganrif; nifer o adeiladau dur, concrid ac asbestos o ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae ysguboriau haearn rhychog du yn nodwedd o'r daliadau amaethyddol. Ceir ffermydd mwy eu maint ac fe'u nodweddir gan gasgliadau o adeiladau amaethyddol o ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae adeiladau eraill yn cynnwys pont ^l-ganoloesol. Ni cheir adeiladau rhestredig yn yr ardal. Mae ffordd yr A478 yn croesi'r ardal hon o'r gogledd i'r de. Mae'n glir o batrwm y caeau bod y ffordd yno cyn sefydlu'r caeau. Mae elfennau trafnidiaeth eraill yn y dirwedd yn cynnwys lonydd llwybrau troellog a syth. Yn y rhan fwyaf o enghreifftiau mae llain o sawl metr rhwng ymyl y ffordd a'r clawdd ffin sydd wedi ei amgu. Mae trosglwyddydd teledu a leolir ar ochr ddwyreiniol yr ardal yn elfen amlwg yn y dirwedd.

Mae'r ardal yn gyfoethog mewn archaeoleg a gofnodwyd, y cyfan bron o gyfnod cyn-hanesyddol. Mae safle ddarganfod mesolithig/neolithig a ffatri fwyell?garreg neolithig. Fodd bynnag, nodweddion defodau y cyfnodau neolithig/efydd sydd amlycaf, yn cynnwys meingylch bosibl, tomen gylch bosibl a ffos grwn, sawl marc pridd a chorfflosgiad, sy'n ffurfio cyfadeilad o amgylch y ffatri fwyeill yng nghanol yr ardal. I'r gogledd o'r crynhoad hwn ceir un domen grwn bendant a dwy bosibl, pr o feini a restrwyd, twmpath llosg posibl a mannau darganfod cynhanesyddol a Rhufeinig. Cyfyngir gweithgaredd diweddarach i chwarel ^l-ganoloesol.

Mae'r patrwm caeau rheolaidd iawn yn diffinio'r dirwedd hanesyddol yn yr ardal gymeriad hon yn glir. Mae ardaloedd i'r gogledd, dwyrain a'r de eto i'w diffinio ond yn y rhan hon ceir patrymau amgu sydd wedi'u hen sefydlu. I'r Gorllewin mae tir uchel Crugiau Dwy a led-amgaewyd yn rhoi ymyl bendant i ardal gymeriad Pentre Galar.

Ffynonellau: David and Williams, 1995; Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1997; Lewis n.d.; Arolwg Ordnans, Brasluniau Tirfesurwyr, 2" i 1 filltir, Tudalen 188, 1809; Archifdy Sir Benfro D/HSPC/5/1; Rees 1932.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]