Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

264 MYNYDD PRESELI

CYFEIRNOD GRID: SN111326
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 2995

Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr o'r Sir Benfro fodern yn cynnwys y cyfan o Fynydd Preseli ei hun. Gorweddai o fewn Cantref canoloesol a ddaeth o dan reolaeth Eingl-Normanaidd , tua 1100 gan deulu Fitzmartin a'i daliodd fel Barwniaeth Cemaes hyd 1326 pan gawsant eu holynu gan deulu Audley. Roedd y Farwniaeth yn gydffiniol 'r Cantref Cemais diweddarach, a grwyd yn 1536, ond parhaodd llawer o hawliad a dyletswyddau ffiwdal, rhai mor hwyr 1922. Mae'r ardal gymeriad yn cynnwys y rhan agored o Fynydd Preseli, sy'n cynnwys gweundir uchel gyda brigiadau creigiog. Mae arwyddocd cynharach yr ardal fel tirwedd yn cael ei gadarnhau gan ddwyster y nodweddion angladdol a defodol o'r Oes Efydd. Dominyddir rhan orllewinol ardal gymeriad Mynydd Preseli gan y domen grwn ar gopa Foel Eryr, a'r ochr ddwyreiniol gan y tomennydd (a'r fryngaer ddiweddarach) ar Foel Drygarn. Yr ardal hefyd oedd tarddle cerrig glas Cr y Cewri. Perthynai rhan o amgylch Carn Afr ar ben deheuol yr ardal i arglwyddiaeth mesne (neu faenor) Maenclochog yn ystod y cyfnod canoloesol, a gai ei dal o Farwniaeth Cemaes gan Arglwyddi Roche Llangwm yn y 13eg a'r 14eg ganrif ac wedi ei asesu ar hanner ffi marchog. Fel arall, mae'r ardal gymeriad yn cyfateb, fwy neu lai, i gomin agored mawr Mynydd Preseli, yr oedd gan rydd-ddalwyr Cemaes hawliau pori a mawnog arno drwy siarter Nicholas Fitzmartin ar ddiwedd y 13eg ganrif fel y'i diffiniwyd mewn arolwg yn 1594. Rhydd hwn y ffiniau fel ffordd y "Ffleminiaid" a "Bwlchgwynt (Windypete)" yn anuniongyrchol i'r dwyrain i Blaenbanon (yn ardal gymeriad Mynachlog-ddu) ac yna'n mynd i waered .mor bell ag Eglwys Wen, Meline .a Chilgwyn. Roedd Ffordd y Ffleminiaid (neu'r 'Via Flandrensica') a welir yn y dogfennau hyn a'r rhai cynharach yn gloddwaith pridd amlwg a ystyrir yn llwybr cynhanesyddol. Gwna arolwg 1594 hi'n glir nad oedd 'y comin wedi ei wella gan yr arglwydd hyd yma' ac mae yn dir agored hyd heddiw. Fodd bynnag hwyrach bod Parc Ceirw wedi ei gofnodi o dan yr enw Cnwc yr Hydd yng ngogledd yr ardal, tra bod anheddiad o'r gorffennol a pheth amgu i'w weld gan y 13 o safleoedd anheddau gwledig segur a ddynodwyd yn yr ardal yn ystod arolwg diweddar. Dynodwyd amrediad o fathau o safleoedd, yn cynnwys cabanau hir a thai hir sydd heb eu dyddio, rhai yn gysylltiedig ag olion ffiniau, a safleoedd hafotai o'r 18fed a'r 19eg ganrif a ddefnyddid gan rydd-ddeiliaid wrth bori defaid a gwartheg yn yr haf. Nid yw'n ymddangos fod unrhyw dystiolaeth o ffermio cwningod. Croeswyd y comin gan y brif ffordd rhwng Hwlffordd ac Aberteifi ers y cyfnod canoloesol ac ar ei ffin gyda thir a amgaewyd i'r gogledd saif Tafarn-y-bwlch, a oedd wedi bod yn dafarn mae'n siwr yn 1729 pan gafodd ei nodi a'i labelu fel hynny ar fap Emanuel Bowen. Daeth y ffordd yn ffordd dyrpeg a nawr mae'n ffordd y B4329.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Mynydd Preseli yn cynnwys holl dir agored Mynyddoedd y Preseli yn amrywio o bwynt uchel o 468m lawr i ddarnau mawr o dir corsiog ar yr ochr oleddol ar tua 120m. Yn ei hanfod mae Mynydd Preseli yn gefnen sy'n goleddu yn ddwyreiniol-orllewinol ac yn cyrraedd ei bwynt uchaf ar Foel Eryr ar ei ben gorllewinol, a 363m ar Foel Drygarn ar ei ben dwyreiniol. Mae ffermdir a amgaewyd ar lethrau mwy agored sy'n wynebu'r gogledd a'r gogledd orllewin yn rhedeg i weundir agored yr ardal hon ar tua rhwng 120m a 200m, ond yng nghesail y mynydd ar lethrau sy'n wynebu'r de a'r de ddwyrain ceir caeau a ffermydd hyd at uchder o 300m. Mae'r dirwedd gyfan yn un o weundir agored a rhostir wedi ei orchuddio rhedyn yn cael ei bori gan ddefaid. Prin yw'r llethrau serth ac mae nodwedd glogwynaidd a llethrau creigiog mynyddoedd eraill Cymru yn absennol. Fodd bynnag, mae brigiadau craig doleritig copa a llethr yn elfen naturiol glir o dirwedd Mynydd Preseli.Mae'r rhain yn arbennig o amlwg ar Garn Menyn, lle mae cefnen bigog a ffurfiwyd ganddynt yn dominyddu'r nen. Briga carreg las Preseli a ddefnyddiwyd i godi Cr y Cewri ac i wneud bwyeill neolithig i'r wyneb ar Garn Menyn a Charn Alw. Mae arwyddocd y dirwedd hon i bobl gynhanesyddol yn destun dadlau mawr yn y byd archeolegol. Nid yw Mynydd Preseli yn dirwedd a boblogir, er bod darnau o gaeau, ffermydd a bythynnod a adawyd ar ei ymylon yn tystio i ddiboblogi diweddar yn yr 19eg ganrif, tra bod aneddiadau mwy hynafol yn tystio i dirwedd a ddefnyddid yn ddwysach. Bryngaerau oes haearn Foel Drygarn a Charn Alw yw anheddiadau mwyaf amlwg a chlir y dirwedd hon, ond mae olion gwasgariad lled drwm o anheddau mwy unig ar draws y rhostir agored yn dangos defnydd dwys o'r dirwedd yn y gorffennol. Ar adegau gall hyn fod yn ganlyniad hafota a hendrefa, ond mae cloddiau ffin isel rwbelog caeau a hir-adawyd yn tystio i ddaliadau amaethyddol parhaol. Mae cernydd claddu cynhanesyddol ar y copaon hefyd yn wedd amlwg ar y dirwedd hon. Ceir olion chwareli bach i ganolig eu maint ar y llethrau deheuol. Ar wahn i lwybrau, mae elfennau trafnidiaeth y dirwedd yn gyfyngedig i'r B4329 sy'n mynd o'r de i'r gogledd ar draws y mynyddoedd a'r hen lwybr ar hyd y gefnen o'r dwyrain i'r gorllewin a elwir yn Ffordd Fflemin, sydd erbyn hyn yn llwybr troed i dwristiaid. Mae'r archaeoleg a gofnodwyd yn perthyn yn bennaf i'r cyfnodau cynhanesyddol ac l- ganoloesol. Fe'i dominyddir gan nodweddion defodol cynhanesyddol y ceir llawer ohonynt. Maent yn cynnwys beddfaen siambr neolithig a chylch cerrig neolithig bosibl sydd wedi ei restru ar Waun Mawn, beddfaen siambr bosibl arall a darganfyddiadau neolithig. Mae'r domen grwn restredig o'r oes efydd ar Foel Eryr yn dominyddu ochr orllewinol yr ardal gerllaw pr cerrig a cheir tomen restredig arall wrth ymyl. Hefyd ceir grp o domennydd crwn rhestredig ar Foel Cwm Cerwyn, grp o dair tomen grwn ar gopa Foel Drygarn sy'n dominyddu ochr ddwyreiniol yr ardal, pedair tomen grwn arall a dwy domen bosibl a thomen gylch. Ceir maen hir restredig o'r oes efydd a dwy faenhir bosibl a phr o feini rhestredig. Mae'r anheddiad cynhanesyddol agored ar Fanc Llwydlos yn rhestredig. Ceir hefyd anheddiad cynhanesyddol ar Foel Eryr a Waun Mawn , ar Carn Afr, Carn Alw a Charn Goedog lle ceir nifer o safleoedd cynhanesyddol eraill y mae ei natur yn anhysbys ond sy'n cynnwys tomen gylch bosibl. Mae grp arall o safleoedd cynhanesyddol ar Garn Menyn/ Carn Gyfrwy hefyd o natur anhysbys ond mae'n cynnwys ffatri fwyeill. Gorwedd bryngaer restredig o'r oes haearn ar Foel Drygarn. Cynrychiolir y cyfnod canoloesol gan safle croes ganoloesol, melin ddr a ffynhonnau. Mae'r anheddiad arall yn l-ganoloesol yn cynnwys tri ar ddeg o safleoedd aneddiadau gwledig anghyfannedd (DRS) yn cynnwys t hir, llwyfan, cysgodfan bugail, anedd gerrig, hafod o'r 18fed a'r 19fed ganrif, cabanau, corlannau, grp t hir a chloddiau. Ceir hefyd chwareli l ganoloesol.

Mae Mynydd Preseli yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol glir iawn. Ei nodwedd ddiffiniol yw ei natur agored. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu'n amlwg gyda'r tir amaethyddol sefydlog ac a amgaewyd sydd o'i hamgylch.

Ffynonellau: Bradley 2000; Charles 1992; Howells 1977; Map degwm a rhaniad Meline, 1841; Map degwm a rhaniad Monachlogddu, 1846; Mytum a Webster, 1989; Map degwm a rhaniad Nanhyfer,1843; Map degwm a rhaniad Llanfair Nant Gwyn, 1838; Sambrook 1997; Thorpe et al199; Map degwm a rhaniad Eglwys Wen, 1841;

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]