Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

267 RHOSFACH

CYFEIRNOD GRID: SN104280
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 312.3

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar gwr deheuol Mynydd Preseli, o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Daethpwyd Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydamserol Chantref Cemaes a grwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar 1922. Roedd ardal gymeriad Rhosfach yn eiddo i arglwyddiaeth ganol neu faenor Maenclochog, a ddelid o Farwniaeth Cemaes gan arglwyddi Roche Llangwm yn y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif pan aseswyd ei fod yn werth ffi un marchog. Ym 1594, delid Maenclochog - fel maenorau eraill yng Nghemaes- ar brydles flynyddol o'r Farwniaeth ac mewn Extent aseswyd ei bod yn werth 3s 8d. Fodd bynnag, fel y rhan fwyaf o ran dde-ddwyreiniol y Farwniaeth, o fewn Mynydd Preseli, parhaodd yr ardal hon i gael ei dal o dan systemau Cymreig o dirddaliadaeth. Mae'r ardal gymeriad wedi'i hamgu erbyn hyn ond yn ystod y cyfnod canoloesol, mae'n debyg bod yr ardal gyfan yn rhostir pori agored. Ym 1301, rhoddodd David de la Roche i fynachod Abaty Hendy-gwyn-ar-Daf yr hawl i bori ceffylau 'ar Breseli a'r lleoedd diffaith oddi amgylch am saith mlynedd, am un geiniog ac ar l hynny 2 swllt'. Gallai rhywfaint o'r tir hwn fod wedi'i leoli yn ardal Rhosfach, sy'n cynnwys pedair ardal ar wahn o dir comin. Yr ardaloedd hyn yw'r cyfan sydd ar l o ardal o dir comin mwy o faint y mae Hanes y Sir yn cofnodi i'w hawliau torri mawn gael eu hawlio ym 1724. Ceir Hafod yn enw ar fferm tua'r gorllewin hefyd. Cofnodwyd ffermydd Pengawsai a Meini-hirion, a leolir o fewn system o gaeau bach ym mhen deheuol pellaf yr ardal yn yr 16eg ganrif. Parhaodd gweddill yr ardal gymeriad hon yn l pob tebyg i fod yn dir agored tan ddyddiad diweddar. Mae'r mwyafrif o'r caeau yn fawr, ac iddynt ffiniau syth, tra na chofnodir enwau'r mwyafrif o'r ffermydd cyn y 18fed ganrif, rhywbeth a gadarnheir gan y tarddiad beiblaidd sydd i rai ohonynt ee. Pisgah a Phen-Nebo. Dengys y mapiau degwm, o'r 1840au, gaeau tebyg i leiniau mewn rhai lleoliadau, sy'n awgrymu bod o leiaf ran o'r ardal hon wedi datblygu o system isranedig o leini, a heddiw mae rhai o'r caeau hyn yn dal i fod yn hir ac yn gul. Felly ymddengys fod yr ardal gymeriad hon yn gymysgedd o hen ffermydd sefydlog, a rhywfaint o anheddu gan sgwatwyr o bosibl, a lleiniau mawr o dir comin a aneddwyd ac a amgaewyd ar ddiwedd y 18fed ganrif. Erbyn hyn mae'r tiroedd comin wedi'u henwi ar l yr aneddiadau yn Llangolman, Llandeilo Llwydarth, Maenclochog a Rhosfach, ond nid yw hyn yn adlewyrchu dosbarthiad hawliau pori cynharach. Dangosir y gydberthynas rhwng y tir amgaedig a'r daranau hyn o dir comin sydd ar l yn glir iawn ar fap ystad Tymawr yn dyddio o 1777, sydd fel arall yn dangos patrwm tebyg i'r un a welir heddiw. Lleolir tair chwarel lechi a enwyd ym mhen gorllewinol yr ardal hon. Gweithrediadau byrhoedlog ar raddfa weddol fach o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif oedd pob un o'r chwareli hyn. Lleolir lefel ddienw yng

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Rhosfach ar lethrau deheuol Mynydd Preseli. Mae'r llethrau hyn sy'n wynebu'r de ac sydd rhediad graddol yn gorwedd rhwng 270m a 200m o uchder. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal yn dir ffermio amgaedig, ond ceir darnau o dir agored - sef Comin Llangolman, Comin Llandeilo, Comin Maenglochog a Chomin Rhosfach. Nodweddir y patrwm amgu gan gaeau bach afreolaidd eu sip, ond ceir rhai caeau hir sip llain yn rhan ddwyreiniol yr ardal. At ei gilydd rhennir y caeau gan gloddiau o gerrig a phridd ac arnynt wrychoedd. Ar wahn i'r gwrychoedd hynny a geir o bob tu i ffyrdd a llwybrau mae'r gwrychoedd mewn cyflwr gwael iawn - naill ai maent wedi diflannu neu ceir rhesi di-drefn o lwyni a choed bach. Defnyddir ffensys gwifrau ar y cloddiau i ddal gwartheg. Cymysgedd o dir pori wedi'i wella, tir pori heb ei wella a thir pori garw yn cynnwys brwyn, eithin a choetir prysglog ar y tir comin yw'r defnydd a wneir o'r tir. Ar wahn i'r coed bach yn y gwrychoedd sydd wedi tyfu'n wyllt a'r coetir prysglog, nid yw coetir yn elfen nodweddiadol o'r dirwedd hanesyddol. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd a bythynnod gwasgaredig. Mae'r anheddau at ei gilydd yn dyddio o'r 19fed ganrif, maent yn yr arddull frodorol ac wedi'u hadeiladu o gerrig (wedi'u rendro a/neu cherrig moel). Mae ganddynt dri bae, un llawr a hanner a dau lawr, a thoeau llechi. Mae'n debyg bod y rendrad sment ar rai o'r anheddau yn cuddio adeiladwaith pridd (clom). Mae'r bythynnod unllawr yn elfen nodedig o'r dirwedd hon. Mae ychydig o dai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif mewn amrywiaeth o arddulliau a defnyddiau. At ei gilydd mae'r adeiladau amaethyddol yn fach, sy'n adlewyrchu maint y daliadau. Maent yn cynnwys rhesi bach unigol a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif; ysguboriau a strwythurau eraill o haearn rhychog o ganol yr 20fed ganrif; a strwythurau bach a adeiladwyd o ddur, concrid ac asbestos ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig yn yr ardal hon. Mae'r llwybrau trafnidiaeth yn cynnwys lonydd a llwybrau troellog cul sydd gwrychoedd uchel ar bobtu iddynt.

Mae archeoleg a gofnodwyd yn eithaf amrywiol ac mae'n cynnwys beddrod siambrog bosibl o'r oes neolithig, amlosgiad o'r oes efydd, crug crwn cofrestredig a dau grug posibl arall, ac un maen hir pendant a thri maen hir posibl. Mae bryngaer gofrestredig o'r oes haearn (neu fwnt canoloesol), a bryngaer bosibl arall. O'r cyfnod canoloesol mae safle melin, ac o'r cyfnod l-ganoloesol bedair chwarel gan gynnwys y chwareli Mill, Galchen a Vagur, a gwersyll milwrol yn dyddio o'r ail ryfel byd gerllaw Maenclochog.

Mae i'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon ffiniau pendant iawn. Yn ffinio hi i'r gogledd, i'r dwyrain ac i'r gorllewin ceir ardal o dir a amgaewyd trwy ddeddf Seneddol - sef Mynydd Bach - ac i'r de gan ffermydd a chaeau mwy o faint Llangolman.

Ffynonellau: Archifdy Sir Benfro D/EE/7/338; Charles 1992; Howells 1977; Howells, 1987; Hunter, 1852; Map a rhaniad degwm Llandeilo Llwydarth, 1841; Map a rhaniad degwm Llangolman, 1841; Rees 1932; Richards 1998

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]