Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

271 MYNYDD-DU

CYFEIRNOD GRID: SN070306
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 211.4

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar ochrau deheuol Mynydd Preseli, o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Daethpwyd Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydamserol Chantref Cemaes a grwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar 1922. Yn ystod y cyfnod canoloesol, gorweddai rhan o ardal gymeriad Mynydd-du o fewn plwyf (a bwrdeistref) Nanhyfer, ond roedd y rhan fwyaf ohoni yn rhan o gyn-faenor Redwalls. Redwalls yw prif anheddiad canoloesol anghyfannedd Sir Benfro a'r un pwysicaf o bosibl a lleolir craidd y faenor yn y Fagwyr Goch ychydig i'r gorllewin o'r ardal gymeriad hon. Ceir sn amdani yn gyntaf ym 1293 pan roddodd y Brenin Edward I i Robert de Vale, sef Arglwydd Dale yn Sir Benfro, farchnad wythnosol a ffair flynyddol yn para tri diwrnod 'ar gyfer ei faenor Redwalls'.Roedd y faenor wedi'i throsglwyddo i'r teulu Vales o Farwniaeth Cemaes yn ystod y 13eg ganrif. Ni wyddom pryd na sut y daeth i feddiant y teulu ond mae ei lleoliad, a'r ffaith nad aseswyd y faenor erioed o ran ffoedd marchog, yn awgrymu ei bod wedi'i chreu'n ddiweddar, sef assart sylweddol ar dir cymharol wael yn dyddio o'r 13eg ganrif, a fethodd yn y pen draw. Mae'n debyg nad yw'r enw 'Redwalls' yn tarddu o liw ei waliau, fel yr awgrymodd Charles, ond ei fod yn llygriad o Rudvall, sef term a roddid yn Sir Benfro ar fath o ddeiliadaeth leol lle y crynhoid llain-gaeau a'u pori ar y cyd. Yn ystod yr 16eg ganrif delid y faenor yn l system tirddaliadaeth 'Seisnig', lle y talai dau denant rent o 3 yr un yn flynyddol i Farwniaeth Cemaes, a system tirddaliadaeth Gymreig, lle y talai un tenant 20s yn flynyddol, fel y cofnodwyd mewn Extent o'r Farwniaeth a luniwyd ym 1594. Fodd bynnag, ymddengys hefyd bod y faenor yn dirywio; ni chofnodwyd ond cyfanswm o bedwar daliad o ddemn yn y faenor ynghyd thenantiaid a'u rhwymediaethau o ran medi, a hawliau pori gwartheg ar y llain-gaeau. Mae'n debyg bod y patrwm o gaeau bach afreolaidd eu sip yn hanner deheuol yr ardal gymeriad yn deillio o'r gwaith a wnaed i amgu'r cyfrwy leiniau ar ddechrau'r cyfnod l-ganoloesol. Mae'n bosibl bod y pedwar daliad yn cyfateb i'r pedair fferm fach a ddangosir ar y mapiau graddfa fawr cynharaf o'r ardal hon, sy'n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif. Ar yr un mapiau mae'r patrwm o gaeau mwy o faint, mwy rheolaidd eu sip ar y llethrau uwch i'r gogledd o'r ardal hon (sy'n ymestyn i ardal gymeriad Banc Du) yn deillio o waith a wnaed ar ddiwedd yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif i amgu'r hyn a fu gynt yn dir comin, a berthynai i blwyf a bwrdeistref Nanhyfer. Ni newidiodd patrwm y caeau fawr ddim ers hynny, ac eithrio bod rhai o'r caeau mwy o faint wedi'u hisrannu. Mae'r B4239 sy'n rhedeg trwy'r ardal yn dyddio o'r cyfnod canoloesol pan ffurfiai'r prif lwybr o Hwlffordd i Abergwaun. Mae rhan o Reilffordd Maenclochog (GWR yn ddiweddarach) a fu'n weithredol o 1876 tan 1949 hefyd yn croesi ymyl ddeheuol yr ardal

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Mynydd-du yn gorwedd ar draws dyffryn uchaf Afon Syfni a'i hisafonydd, ar lethrau deheuol Mynydd Preseli rhwng 240m a 370m o uchder. Cyfyngir ffermydd a chaeau bach, afreolaidd eu sip yn bennaf i'r llethrau is cysgodol. Ar y llethrau uwch yn lle'r caeau bach hyn ceir caeau mwy o faint, mwy rheolaidd eu sip. Rhennir y caeau gan gloddiau a chloddiau o bridd a cherrig. Ac eithrio'r gwrychoedd ar y lefelau isaf i'r de o'r ardal a'r rhai sy'n rhedeg ar hyd ffyrdd, ychydig o lwyni yw'r cyfan sydd ar l o'r gwrychoedd ar y cloddiau hyn neu mae'r gwrychoedd wedi diflannu'n gyfan gwbl. Defnyddir ffensys gwifrau ar y cloddiau i ddal gwartheg. Tir pori wedi'i wella yw'r prif fath o ddefnydd a wneir o'r tir ynghyd ag ychydig o dir pori garw, ond ar loriau'r dyffrynnoedd ceir ardaloedd helaeth o dir gwlyb, brwynog a dyddodion mawn. Hefyd yn yr ardal hon ceir coedwig fach o goed coniffer a blannwyd. Mae ffermydd a bythynnod anghyfannedd a nodir gan glystyrau bach o goed yn un o nodweddion y dirwedd hon. Mae coed yn cysgodi'r ffermydd sydd wedi goroesi. Ar wahn i'r coed hyn a'r planhigion conifferaidd, nid nodweddion coetir sydd gan yr ardal hon. Yn ei hanfod tirwedd foel ydyw, ac am nad oes unrhyw wrychoedd mae golwg agored yn perthyn i'r ardal. Adeiladwyd y mwyafrif o'r ffermdai o gerrig yn y tradoddiad brodorol yn ystod yn 19eg ganrif ac mae ganddynt ddau lawr, tri bae a thoeau llechi. Mae tai allan yn dyddio o'r 19eg ganrif wedi'u hadeiladu o gerrig, a cheir un neu dwy res. Mae gan y mwyafrif o'r ffermydd hefyd adeiladau o haearn rhychog yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif a rhesi bach o strwythurau dur a choncrid yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif. Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig yn yr ardal hon. Mae elfennau trafnidiaeth y dirwedd yn cynnwys rheilffordd nas defnyddir bellach a ffordd y B4329.

Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i safle melin o'r cyfnod l-ganoloesol a'r rheilffordd.

Yn cyffinio ag ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Mynydd-du i'r dwyrain mae coedwig a blannwyd ac felly mae iddi ffin bendant. I'r gogledd ac i'r gorllewin mae tir agored Mynydd Preseli a thir lled-agored Banc Du yn darparu ffiniau pendant hefyd. Dim ond i'r de lle y mae'r ardal hon yn cyffinio thir ffermio amgaedig ni cheir unrhyw ffin bendant, ond yn hytrach ceir ardal gyfnewid.

Ffynonellau: Archifdy Sir Benfro D/RKL/932; Cal. Charter Rolls 2; Charles 1992; Howells 1977; Map a rhaniad degwm Castell Henri, 1840; Map a rhaniad degwm Morfil, 1839; Owen 1892; Owen 1897; Rees 1932

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]