Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

272 BANC DU

CYFEIRNOD GRID: SN056317
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 217.4

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro a leolir ar lethrau gorllewinol Mynydd Preseli, o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Daethpwyd Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydamserol Chantref Cemaes a grwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar 1922. Yn ystod y cyfnod canoloesol, rhoddodd Nicholas Fitzmartin mewn siarter yn dyddio o ganol y 13eg ganrif hanner gogleddol yr ardal gymeriad hon i rydd-ddeiliaid Cemaes fel rhan o gomin mawr Preseli lle'r oedd ganddynt yr hawl i bori anifeiliaid a thorri mawn. Cyfatebai hyn i'r hanner hwnnw o'r ardal a orweddai i'r gogledd o glawdd sylweddol a redai o'r dwyrain i'r gorllewin, sef y 'palis'. Er y defnyddid y clawdd hwn fel ffin i wahanu'r tir comin a'r tir i'r de, mae'n rhagflaenu siarter Fitzmartin, ac erbyn dyddiad y siarter roedd eisoes yn cael ei adnabod fel y 'Via Fandrensica' neu Ffordd y Fflemiaid. Dyna'r enw a roddwyd iddo yn y ddogfen hon ac mewn dogfennau canlynol. Ystyrid hefyd ei fod yn llwybr cynhanesyddol. Mae'n bosibl bod rhan ddeheuol ardal gymeriad Banc Du yn rhan o gyn-faenor Redwalls, y lleolir ei chraidd yn y Fagwyr Goch ychydig i'r de-orllewin o'r ardal gymeriad hon. Ceir sn amdani yn gyntaf ym 1293 pan roddodd y Brenin Edward I i Robert de Vale, sef Arglwydd Dale yn Sir Benfro, farchnad wythnosol a ffair flynyddol yn para tri diwrnod 'ar gyfer ei faenor Redwalls'.Roedd y faenor wedi'i throsglwyddo i'r teulu Vales o Farwniaeth Cemaes yn ystod y 13eg ganrif. Ni wyddom pryd na sut y daeth i feddiant y teulu ond mae ei lleoliad, a'r ffaith nad aseswyd y faenor erioed o ran ffoedd marchog, yn awgrymu ei bod wedi'i chreu'n ddiweddar - assart sylweddol ar dir cymharol wael yn dyddio o'r 13eg ganrif. Yn ystod yr 16eg ganrif delid y faenor yn l systemau tirddaliadaeth 'Seisnig' a 'Chymreig' fel y cofnodwyd mewn Extent o'r Farwniaeth a luniwyd ym 1594. Fodd bynnag, ymddengys hefyd bod y faenor yn dirywio; ni chofnodwyd ond cyfanswm o bedwar daliad o ddemn - a allai fod wedi wedi'u lleoli yn ardal gymeriad Mynydd-du - ynghyd thenantiaid a hawliau pori gwartheg ar y llain-gaeau. Fodd bynnag mae'n bosibl bod rhan ddeheuol ardal gymeriad Banc Du yn cynrychioli ardal o dir comin a berthynai i'r faenor. Neu mae'n bosibl ei bod wedi''i chynnwys o fewn Morfil a ffiniai hi yr aseswyd ei bod yn werth 2 garaciwt o dir r a ddelid yn uniongyrchol o'r farwniaeth trwy ddeiliadaeth 'ganolig' neu ddeiliadaeth faenoraidd gyfyngedig. Sut bynnag, parhaodd y dwy ran o'r ardal gymeriad i fod yn rhostir agored tan gyfnod diweddar, ac mae patrwm y caeau mawr rheolaidd eu sip yn nodweddiadol o'r patrwm amgu ar ddiwedd y 18fed ganrif. Roedd y broses hon wedi'i chwblhau erbyn arolwg degwm 1839. Ni ddangosir unrhyw aneddiadau ar y map degwm. Ni newidiodd y sefyllfa fawr ddim dros y 160 o flynyddoedd diwethaf, ond plannwyd coedwig o goed coniffer ym mhen gogleddol yr ardal yn ail hanner yr 20fed ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Banc Du yn cynnwys stribyn o dir lled-amgaedig ar ochrau de-orllewinol Mynydd Preseli yn gorwedd rhwng 250m a 360m o uchder. Mae'r rhan fwyaf o'r dirwedd hon yn cynnwys llethrau llyfn, er y ceir brigiadau creigiog o bryd i'w gilydd. Ar wahn i ddwy blanhigfa fach o goed coniffer yn dyddio o'r 20fed ganrif, tirwedd foel ydyw. Tir pori wedi'i wella yw'r defnydd a wneir o'r tir yn bennaf a cheir darnau o dir pori garw a thir gwlypach brwynog mewn pantiau. Caiff y caeau mawr amgaedig eu ffurfio o gloddiau cerrig neu ddaear a cloddiau cerrig. Ni cheir unrhyw wrychoedd ar y cloddiau. Mae'r ffensys gwifrau sy'n rhedeg ar hyd copa'r cloddiau yn darparu ffiniau atal-stoc. Nid oes unrhyw lonydd na llwybrau. Ar wahn i bont l-ganoloesol, nid oes unrhyw strwythurau/adeiladau o fewn yr ardal gymeriad hon.

Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i'r llwybr cynhanesyddol/clawdd terfyn canoloesol, a dau glawdd arall o ddyddiad a swyddogaeth anhysbys, y mae un ohonynt yn amgylchynnu pwynt uchaf Banc Du. Mae hefyd yr hyn a all fod yn safle adeiladu l-ganoloesol a/neu grug crwn yn dyddio o'r oes efydd.

Mae i'r ardal hon ffiniau eithaf pendant. Mae'n gorwedd rhwng rhostir agored uwch Mynydd Preseli i'r dwyrain a thir ffermio amgaedig i'r gogledd, i'r gorllewin ac i'r de lle y ceir aneddiadau.

Ffynonellau: Cal. Charter Rolls 2; Charles 1992; Howells 1997; Lewis 1972; Map a rhaniad degwm Morfil, 1839; Owen 1892; Owen 1897; Rees 1932

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]