Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

273 TREGYNON

CYFEIRNOD GRID: SN049340
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 511.0

Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar lethrau gorllewinol Mynydd Preseli, o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Daethpwyd Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydamserol Chantref Cemaes a grwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar 1922. Mae ardal gymeriad Tregynon yn gorwedd yn bennaf o fewn pentrefan Cilgwyn, ym mhlwyf Nanhyfer, a fu'n un o fwrdeistrefi'r farwniaeth yn ystod y cyfnod canoloesol. Dengys Extent of Cemaes, a luniwyd ym 1577, fod y mwyafrif o'r daliadau o fewn yr ardal gymeriad bresennol wedi'u sefydlu eisoes. Y prif ddaliad yn eu plith oedd Tregynon 'a'i barseli', y ceir sn amdanynt yn gyntaf ym 1315, a dalai gyda'i gilydd 2s 3d yn flynyddol i Farwniaeth Cemaes. Talai Penrallt(ddu), a ddelid bryd hynny gan James Perrott, 3d. Penrallt(ddu) oedd un o blastai llai pwysig y teulu Vaughan, a fyddai'n berchen ar lawer o dir yn yr ardal erbyn dechrau'r 17eg ganrif. Lleolir 'Kilykenawon', yr aseswyd ei rent i fod yn 8d ac a oedd yn safle capel canoloesol, ar fap Rees o fewn yr ardal gymeriad hon. Mae'n bosibl bod 'tir David Lloid yng Nghilgwyn', a oedd yn werth rhent o 6d, yn cyfateb i'r plasty yn Nhrefach, a fu'n gartref i'r teulu Lloyd yn yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif ac yr aseswyd bod 5 aelwyd ynddo ym 1670. Gall y daliadau hyn ddyddio o'r 16eg ganrif; mae'r patrwm o gaeau afreolaidd eu sip o faint canolig yn nodweddiadol o ddull amgu'r cyfnod hwnnw a ddefnyddiwyd yn yr achos hwn i amgu tir a fuasai o bosibl yn dir pori agored gynt. Fodd bynnag, gall rhai caeau culach tua'r de gadw patrwm o lain-gaeau cynharach. Dengys map degwm 1843 sefyllfa debyg i'r un sy'n bodoli heddiw. Tir pori yw'r defnydd a wneir o'r tir yn bennaf, a cheir trochfa defaid yn Nhrefach.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Tregynon yn ymestyn dros ysgafell o dir, sy'n wynebu'r gorllewin a'r gogledd-gorllewin ac sy'n graddol ddisgyn, ar uchder o 170m a 320m rhwng rhostir agored Mynydd Preseli ac ochrau serth Afon Gwaun sydd wedi'u gorchuddio choed trwchus. Rhennir y dirwedd yn gaeau o faint bach i ganolig. Fel arfer lleolir y caeau llai o faint yn agos at ffermydd. Nodweddir ffiniau caeau gan gloddiau enfawr yn rhan orllewinol yr ardal a chloddiau llai sylweddol o bridd a cherrig yn y pen dwyreiniol ac ar dir uwch ar ymylon Mynydd Preseli. Ac eithrio'r rhai sy'n rhedeg ar hyd lonydd ac yn y pen dwyreiniol nid oes unrhyw wrychoedd ar y cloddiau, ac nid yw'r gwrychoedd lle y maent wedi goroesi at ei gilydd mewn cyflwr da. I bob diben tirwedd foel ydyw. Tir pori wedi'i wella yw'r defnydd a wneir o'r tir a cheir darnau o dir pori mwy garw, yn enwedig mewn pantiau gwlyb. Ar lefelau uwch mae rhai caeau yn dechrau troi'n rhostir unwaith eto. Mae'r ffermydd wedi'u gwasgaru'n eang ar draws y dirwedd. Ar lefelau uwch mae nifer ohonynt yn anghyfannedd. Mae'r ffermdai mewn amrywiaeth o arddulliau. Mae'r prif fath yn cynnwys annedd o gerrig a adeiladwyd yn y 19eg ganrif yn yr arddull frodorol a chanddo ddau lawr, tri bae a tho llechi. Mae aneddiadau un llawr o'r 19eg ganrif mewn arddull frodorol hefyd i'w gweld, yn ogystal rhai ffermdai o'r 20fed ganrif. Mae gan y mwyafrif o'r ffermydd un rhes o adeiladau fferm a adeiladwyd yn y 19eg ganrif, ac ysgubor a strwythurau eraill o haearn rhychog yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif a nifer o strwythurau bach a adeiladwyd o ddur, concrid ac asbestos ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae gan y ffermydd mwy o faint nifer o adeiladau amaethyddol mawr yn dyddio o'r 20fed ganrif. Mae Trefach House a melin Trefach yn rhestredig Gradd II. Erbyn hyn mae Tregynon House yn westy a bwyty gwlad. Mae elfennau trafnidiaeth y dirwedd yn cynnwys lonydd a llwybrau a ddefnyddir gan drigolion yr ardal.

Mae archeoleg a gofnodwyd yn weddol gyfoethog ar gyfer ardal mor fach, ac mae'n cynnwys dau faen hir cofrestredig o'r oes efydd (y gall un ohonynt fod wedi dod o feddrod siambrog neolithig), a bryngaer gofrestredig Castell Tregynon yn dyddio o'r oes haearn. Mae carreg arysgrifedig bosibl yn dyddio o ddechrau'r cyfnod Cristnogol, a 'Kilykenawon' lle y safai Capel Cynon yn yr oesoedd canol. Mae nodweddion l-ganoloesol yn cynnwys ffynnon, anheddiad gwledig anghyfannedd a throchfa defaid. Mae gwrthglawdd arall nad yw ei natur yn hysbys.

Mae Tregynon yn ardal tirwedd hanesyddol nodedig a chanddi ffiniau pendant at ei gilydd. Mae tirwedd is Cilgwyn a orchuddir choed trwchus yn gorwedd i'r gogledd, llethrau Cwm Gwaun a orchuddir choed trwchus i'r gogledd-orllewin ac i'r dwyrain mae rhostir agored Mynydd Preseli. Mae ffin lai pendant rhwng yr ardal hon a'r tir i'r gorllewin, a rhwng yr ardal hon a Gellifawr, a amgylchynnir ganddi i bob pwrpas.

Ffynonellau: Charles 1992; Howells 1977; Jones 1996; Map a rhaniad degwm Nanhyfer, 1843; Owen 1897; Rees 1932

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]