Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

275 CILGWYN

CYFEIRNOD GRID: SN080370
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 630.1

Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar ochr ogleddol Mynydd Preseli, o fewn Cantref canoloesol Cemaes y daethpwyd ag ef o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydamserol Chantref Cemaes a grwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar 1922. Mae'r ardal gymeriad hon yn gorwedd yn bennaf o fewn pentrefan Cilgwyn, ym mhlwyf Nanhyfer, a fu'n un o fwrdeistrefi'r farwniaeth yn ystod y cyfnod canoloesol. Ardal o goetir ydoedd yn bennaf yn ystod y cyfnod canoloesol ac mae coed trwchus yn dal i'w gorchuddio heddiw. Mae'n debyg bod y patrwm presennol o gaeau bach afreolaidd eu sip yn ymwneud phroses o amgu coetir fesul tipyn ar ddiwedd y cyfnod canoloesol a dechrau'r cyfnod l-ganoloesol. Mae natur wasgaredig aneddiadau yn yr ardal hon yn deillio o'r systemau Cymreig o dirddalidaeth y delid tir o danynt. Heddiw, mae'r coetir sydd wedi goroesi ym Mhentre Ifan yn cynrychioli'r hyn sy'n weddill o Goed Cilruth a fu'n fwy o faint ar un adeg ac a fu dan awdurdod coedwig y Farwniaeth ers y 12fed ganrif pan ddywedwyd ei fod yn ymestyn i'r gorllewin i Drewern ac a ddisgrifiwyd fel 'rhyfeddod. i weld y cyfryw bren teg' ym 1603. Roedd coedwigoedd Wenallt a Brithdir i'r gogledd yn 'goedwigoedd llai pwysig' yn yr 16eg ganrif. Roedd y gwaith o glirio'r coetir hwn a'i amgu wedi dechrau erbyn y 13eg ganrif pan oedd Eglwys y Santes Fair Cilgwyn yn gapel anwes i Nanhyfer. Cofnodwyd anheddiad yn Nolrannog c.1280, tra cyfeiriwyd at Fachongle mewn dogfen o 1343, ynghyd Phentre Ifan a ailadeiladwyd ar ei safle presennol ar ddiwedd y 15fed ganrif ar gyfer Syr James ab Owen fel gwobr am ei wasanaeth i Harri Tudur. Yn l traddodiad torrwyd daliadau a sefydlwyd yn ddiweddarach allan o goetir. Mae Extent Cemaes o 1577 yn rhestru llawer o'r ffermydd a'r daliadau presennol o fewn yr ardal gymeriad hon ac yn agos ati. Roedd yn rhaid i 'blasty' Trewern dalu 6d o rent i'r Farwniaeth, aseswyd Dolrannog a chafwyd bod yn rhaid i Thomas Lloid dalu rhent o 6d, tra oedd yn rhaid i'r teulu Warren dalu 3s 4d am y 5 daliad a ffurfiai Fachongle, y cynrychiolir 3 ohonynt gan Fachongle-uchaf, -ganol ac -isaf. Efallai y cynrychiolir anheddu diweddarach gan Gilgwyn a Chilgwyn Mawr sydd yn l pob tebyg yn ffermydd yn dyddio o'r 17eg ganrif - roedd yr olaf hefyd yn un o ddaliadau Warren erbyn 1734. Ar ben hynny mae'n bosibl bod rhai o'r caeau afreolaidd eu sip i'r de, ar gwr Mynydd Preseli, yr ymddengys eu bod yn assarts i mewn i goetir, mewn gwirionedd yn perthyn i gyfnod diweddarach hefyd, a'u bod yn cynrychioli anheddu gan sgatwyr yn y 18fed ganrif ac ar ddechrau'r 19eg ganrif ar dir a fu gynt yn dir comin, y mae darn ohono sydd wedi goroesi yn ymestyn i'r ardal hon fel ardal gymeriad Carnedd Meibion. Mae'r enw 'Constantinople' yng nghanol yr ardal hefyd yn perthyn i gyfnod diweddarach. Er mwyn darparu ar gyfer y boblogaeth a oedd yn tyfu, adeiladwyd ystafell ysgol yn rhan o Eglwys y Santes Fair Cilgwyn, a sefydlwyd Capel Caersalem ym 1820. Roedd y patrwm presennol yn ei le yn llawn erbyn arolwg degwm 1843. Ers canol y 19eg ganrif gadawyd rhai ffermydd ac aildyfwyd coetir dros eu caeau. Bu rhywfaint o gloddio i'r de, a rheolir llawer o'r coetir sydd ar l gan Forest Enterprise neu Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Arweiniodd y gwaith rheoli'r coetir at adeiladu rheilffordd ysgafn ym Mhentre Ifan ar ddechrau'r 20fed ganrif. Mae'r sefyllfa bresennol yn un dra gwledig, ond mae rhywfaint o ddiboblogi wedi bod - mae gan Gaersalem gynulleidfa fawr o hyd ond caeodd Eglwys y Santes Fair Cilgwyn yn ddiweddar.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Cilgwyn yn gorwedd ar draws dyffrynnoedd y rhan uchaf o Afon Gwaun ac Afon Clydach. Yn y fan hon mae ochrau'r dyffrynnodd yn serth, sy'n creu tirwedd donnog yn codi o 20m lle y mae ar ei isaf hyd at dros 250m o uchder. Rhennir y dirwedd yn gaeau bach afreolaidd eu sip. Rhennir y caeau hyn gan nifer o fathau o ffiniau, yn amrywio o gloddiau ac iddynt wynebau o gerrig, welydd o gerrig sych i gloddiau. Cerrig yw'r ffactor cyffredin yn y ffiniau hyn, ac, mewn llawer o achosion ceir cerrig sylfaen monolithig. Ceir gwrychoedd ar y mwyafrif o'r ffiniau, ond mae'r rhain fel arfer wedi'u hesgeuluso ac maent wedi tyfu'n wyllt iawn ac mae coed bach yn egino allan ohonynt. Nodweddir yr ardal hon gan goetir collddail. Mae'r coedwigoedd mwy sylweddol yn Nh Canol a Phentre Ifan wedi ymestyn dros gyn-gaeau. Mae'r coetir ar ochrau serth y dyffrynnoedd yn fwy hynafol. At ei gilydd, mae'r coetir helaeth a'r coed ar y cloddiau sydd wedi tyfu'n wyllt yn rhoi golwg dra choediog i Gilgwyn. Tir pori yw'r tir amaeth i gyd bron. Tir pori wedi'i wella a geir yn bennaf ar warrau llai coediog y dyffrynnoedd, ond ar ochrau a lloriau'r dyffrynnoedd mae tir mwy garw, heb ei wella yn fwy cyffredin. Mae ychydig o'r tir mwy diffaith yn troi'n brysgwydd unwaith eto. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd a bythynnod gwasgaredig. At ei gilydd mae'r aneddiadau yn yr arddull brodorol ac yn dyddio o'r 19eg ganrif. Ceir adeiladau ag un llawr, llawr a hanner a dau lawr. Maent wedi'u hadeiladau o gerrig (wedi'u rendro a cherrig moel), ac iddynt doeau llechi a thri bae. Mae'r tai allan lle y maent yn bresennol hefyd yn eithaf bach. Fel arfer mae un rhes wedi'i hadeiladu o gerrig yn dyddio o'r 19eg ganrif, weithiau ynghyd strwythur o haearn rhychog o ganol yr 20fed ganrif a/neu adeiladau bach o ddur, asbestos a choncrid o ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae nifer fawr o ffermydd a bythynnod anghyfannedd, yn arbennig ar hyd dyffryn Clydach. Lleolir Eglwys y Santes Fair Cilgwyn ar ochr dyffryn a orchuddir thrwch o goed a lleolir adeilad urddasol Capel Caersalem, a thanc bedyddio allanol, ar dir gwastad, mwy agored. Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig yn yr ardal. Yr unig elfennau yn y dirwedd hon sy'n gysylltiedig thrafnidiaeth yw lonydd a llwybrau troellog cul sydd chloddiau o bob tu iddynt.

Mae archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys siambr gladdu neolithig enwog Pentre Ifan sy'n gofrestredig, man darganfod neolithig, a'r hyn a all fod yn feddrod siambrog/cyfadail o feini hir. Mae hefyd crug crwn o'r oes efydd, a charnedd glirio o ddyddiad anhysbys. O'r oes haearn mae bryngaer gofrestredig, bryngaer arall a safle anheddiad. Mae safleoedd aneddiadau canoloesol a'r hyn a all fod yn system gaeau ganoloesol, a safleoedd melinau l-ganoloesol a chwarel. Yng nghoetir Pentre Ifan, ceir nodweddion yn gysylltiedig 'r gwaith o reoli'r coetir megis cloddiau terfyn, cloddfeydd clai, bythynnod, pyllau llifio a rheilffordd ysgafn yn dyddio o ddechrau'r 20fd ganrif.

Mae'r coetir sy'n elfen mor fawr o'r dirwedd a'r caeau bach afreolaidd eu sip yn rhoi cymeriad tirwedd hanesyddol nodedig i Gilgwyn. Mae'n gwrthgyferbynnu'n gryf 'r ardaloedd o gaeau mwy o faint heb fawr ddim coetri sy'n cyffinio hi ar bron bob ochr ac rhostir agored Carnedd Meibion-Owen i'r de-ddwyrain.

Ffynonellau: Charles 1992; Howells 1977; Jones 1996; Lewis 1972; Map a rhaniad degwm Nanhyfer, 1843; Nash 1989; Rees 1932; Trethowan 1998; Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1997 .

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]