Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

277 TREHAIDD

CYFEIRNOD GRID: SN092346
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 247.6

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar gwr gogleddol pellaf Mynydd Preseli, o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Daethpwyd â Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydamserol â Chantref Cemaes a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar â 1922. Mae'r ardal gymeriad hon yn gorwedd o fewn plwyf Nanhyfer, a fu'n un o fwrdeistrefi'r farwniaeth yn ystod y cyfnod canoloesol. Fe'i lleolir ar gwr gogleddol comin mawr Mynydd Preseli, y rhoddasid yr hawl i bori anifeiliaid a thorri mawn arno i rydd-ddeiliaid Cemaes gan siarter a wnaed gan Nicholas Fitzmartin ar ddiwedd y 13eg ganrif. Fel mae'n digwydd enwyd Trehaidd fel un o ffiniau'r tir comin yn y siarter, pan ymddengys ei fod yn dirddaliad pwysig. Er bod yna gyfeiriad ar wahân at Glyn-yr-wyn mewn dogfen o 1343, ni restrwyd yr un o'r daliadau eraill yn yr ardal gymeriad hon yn Extent Cemaes yn dyddio o 1577 sy'n awgrymu bod daliad Trehaidd yn cynnwys yr ardal gyfan. Mae'n bosibl bod rhai o'r caeau hir, cul o fewn yr ardal hon, yr ymddengys o ran eu ffurf eu bod yn cynrychioli'r math o gae sy'n berthyn i'r cyfnod ôl-ganoloesol - wedi'r cyfan nodir yr ardal fel 'Fforest' ar fap Rees - mewn gwirionedd wedi'u creu trwy amgáu cyn-lain-gaeau. Mae'n bosibl bod y ffermydd yn Nhrebwlch, y ceir sôn amdano yn gyntaf ym 1671, a Phen-y-lan fach, y ceir sôn amdano ym 1715, wedi'u sefydlu o ganlyniad i isrannu'r daliad Trehaidd oedd yn fwy o faint yn ystod cyfnod diweddarach. Mae'r prif lwybr o Hwlffordd i Abergwaun wedi croesi'r ardal hon ers y cyfnod canoloesol, ac ar y ffin rhyngddi a'r tir comin saif Tafarn-y-bwlch, y mae'n rhaid ei fod yn dafarn eisoes ym 1729 pan gafodd ei nodi, a'i labelu, ar fap Emanuel Bowen. Cafodd y ffordd ei throi'n ffordd dyrpeg yn ddiweddarach ac erbyn hyn ffordd y B4329 ydyw. Sefydlwyd gweddill y ffermydd yn y 18fed ganrif ac ar ddechrau'r 19eg ganrif, ac erbyn arolwg degwm 1843 roedd yr ardal wedi cymryd ei ffurf bresennol.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Trehaidd yn gorwedd ar lethrau sy'n wynebu'r dwyrain ac sy'n graddol ddisgyn rhwng 160m a 280m o uchder ar ochr ogleddol Mynydd Preseli. Fe'i nodweddir gan aneddiadau gwasgaredig a chan gaeau sydd â thuedd bendant i ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin. Mae'r caeau hyn o faint bach i ganolig ac at ei gilydd mae iddynt siâp hirsgwar fwy neu lai. Rhennir y caeau gan gloddiau a rhai cloddiau o bridd a cherrig. Ar y cloddiau ceir gwrychoedd, ond ac eithrio'r rhai sy'n rhedeg ar hyd ffyrdd a llwybrau a rhai mewn ambell leoliad ar lefelau is nid yw'r gwrychoedd hyn mewn cyflwr da ac naill ai maent wedi tyfu'n wyllt neu nid ydynt yn ddim mwy na rhesi ar chwâl o lwyni a choed bach. Mae'r coed hyn ynghyd ag ychydig o goetir prysglog, yn arbennig ar lefelau is, yn rhoi golwg goediog i rannau o'r dirwedd. Fodd bynnag nid yw coetir yn nodwedd ddiffiniol. Ffensys gwifrau yn bennaf a ddefnyddir i ddal gwartheg. Tir pori yw'r defnydd a wneir o'r tir bron yn gyfan gwbl a cheir ychydig o dir âr. Mae'r tir pori yn gymysgedd o dir pori wedi'i wella, tir pori heb ei wella a thir brwynog, mwy garw. Mae'r aneddiadau gwasgaredig yn cynnwys ffermydd a bythynnod. At ei gilydd mae'r anheddau yn dyddio o'r 19eg ganrif ac maent yn yr arddull brodorol. Ceir adeiladau ag un llawr, llawr a hanner a dau lawr. Maent wedi'u hadeiladu o gerrig (wedi'u rendro a cherrig moel), ac iddynt doeau llechi a thri bae. Mae tai gwasgaredig yn dyddio o'r 20fed ganrif mewn amrywiaeth o arddulliau a defnyddiau, o ddechrau'r ganrif ddiwethaf ac o gyfnodau diweddarach yn ystod y ganrif, yn nodwedd o adeiladau'r ardal hon. Mae'r adeiladau fferm lle y maent yn bresennol hefyd yn eithaf bach. Fel arfer mae un rhes wedi'i hadeiladu o gerrig yn dyddio o'r 19eg ganrif, weithiau ynghyd â strwythur o haearn rhychog o ganol yr 20fed ganrif a/neu adeiladau bach o ddur, asbestos a choncrid o ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae gan rai o'r ffermydd mwy o faint gasgliad o adeiladau amaethyddol mwy o faint yn dyddio o'r 20fed ganrif. Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig o fewn yr ardal gymeriad hon. Cyfyngir elfennau trafnidiaeth i'r B4239 a lonydd a llwybrau a ddefnyddir gan y trigolion lleol. Maent i gyd yn gul ac yn droellog a chanddynt gloddiau o bob tu iddynt.

Mae archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys mannau darganfod neolithig neu o'r oes efydd, pâr o gerrig cofrestredig o'r oes efydd, a maen hir cofrestredig. Hefyd mae carreg arysgrifedig o ddechrau'r cyfnod Cristnogol, a safle ffynnon sanctaidd.

Mae Trehaidd yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol nodedig ac iddi ffiniau pendant. Yn cyffinio â hi i'r gorllewin, i'r de ac i'r dwyrain mae rhostir agored Mynydd Preseli. I'r gogledd-orllewin ac i'r gogledd-ddwyrain mae ardaloedd cymeriad nodedig Cilgwyn a Brynberian-Miraniog, ac i'r gogledd tir agored Carnedd Meibion Owen.

Ffynonellau: Bowen 1729; Charles 1992; Howells 1977; Map degwm a rhaniad Nanhyfer, 1843; Rees 1932; Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1997