|
279 BRYNBERIAN - MIRIANOG
CYFEIRNOD GRID: SN112360
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 822.2
Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy'n ffurfio stribyn yn ymestyn
o'r dwyrain i'r gorllewin ar hyd cwr gogleddol Mynydd Preseli, a orweddai
yn ystod yr oesedd canol o fewn Cantref Cemaes, yng nghwmwd Uwch Clydach.
Daethpwyd â Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin
c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan
1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd i'r Farwniaeth yr
un ffiniau â Chantref Cemaes a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd
llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar
â 1922. Mae'r ardal gymeriad hon yn gorwedd o fewn plwyfi Nanhyfer, Meline,
Eglwyswen a Llanfair Nant Gwyn. Roedd plwyf Nanhyfer yn un o fwrdeistrefi'r
farwniaeth, tra delid Meline ac Eglwyswen (Whitchurch) - lle y lleolid
Llanfair Nant Gwyn gynt - yn uniongyrchol o Arglwyddi Cemaes. Mae'r ardal
gymeriad yn ffurfio cwr gogleddol comin mawr Mynydd Preseli a orchuddir
gan rostir. Redd gan rydd-ddeiliaid Cemaes yr hawl i bori anifeiliaid
a thorri mawn ar y tir comin hwn o ddiwedd y 13eg ganrif. Bu pobl yn byw
yn yr ardal ers canol y 14eg ganrif o leiaf, pan gyfeiriwyd at dreflannau
neu ffermydd 'Melinay' (ar ymyl Preseli), Rhosyfarced a Rhosdwarch. Mae'r
ardal gyfan yn cynnwys caeau hirsgwar bach afreolaidd eu siâp sy'n awgrymu
- ac eithrio Brynberian - fod y cyfan wedi'i amgáu'n systematig yn ystod
y cyfnod hwn, yn hytrach nag o ganlyniad i bobl yn tresmasu fesul tipyn
ar y tir comin. Fodd bynnag, mae mapiau degwm 1841-3 yn labelu rhai caeau
ac aneddiadau, ar hyd ymyl y comin fel 'tresmasiadau', sy'n dangos bod
y caeau a'r aneddiadau hyn newydd eu sefydlu. Dangosir ffin y rhostir
hefyd i fod yn fwy afreolaidd na heddiw. Naill ai ymgorfforwyd y nifer
fawr o gaeau ar wahân a ddangosir ychydig y tu allan i'r tir amgaeëdig
ar y mapiau degwm o fewn y tir amgaeëdig neu cefnwyd arnynt. O'r ffermydd
pwysig eraill, mae i Mirianog hefyd ddyddiad cynnar a chyfeirir ati yn
gyntaf ym 1412 pan roddwyd 'preswylfa Breuanog-fawr' i Owain ap Gwilym
Ddu o Henllys; cynhwysai ddwy breswylfa ym 1786, a 4 ym 1950. Bodolai
Helygnant erbyn 1515, a chynhwysai 2 neu 3 daliad o tua 15 erw yr un a
oedd yn perthyn ym 1597, fel 'Lygnant' neu 'Plas Helignant', i Thomas
Griffith ap Ieuan Jenkin o Fynachlog-ddu, iwmon, ac erbyn y 18fed ganrif
roedd wedi dod i feddiant y teulu Warren o Drewern. Sefydlwyd gweddill
y ffermydd yn y 18fed ganrif ac ar ddechrau'r 19eg ganrif. Bu'r prif lwybr
o Hwlffordd i Abergwaun yn croesi'r ardal gymeriad hon ers y cyfnod canoloesol,
dros bont Brynberian y cyfeiriwyd ati, fel 'Pont llin birian', c.1600.
Trowyd y ffordd yn ffordd dyrpeg yn ddiweddarach ac erbyn hyn ffordd y
B4329 ydyw. Datblygodd yr anheddiad ym Mrynberian o amgylch darn o dir
comin agored, ac ymddengys i hyn ddechrau ar ôl sefydlu Capel yr Annibynwyr
ym 1690. Er nad yw'r pentref yn fawr iawn erbyn hyn Brynberian yw'r pentref
mwyaf o fewn yr ardal gymeriad hon, ar ôl cael ei hyrwyddo gan ffatri
wlân fach a fu'n weithredol yn y fan hon yn ystod y 19eg ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Brynberian - Mirianog yn stribyn
llydan o dir ffermio amgaeëdig sy'n cyffinio ag ochr ogleddol Mynydd Preseli.
At ei gilydd mae'r tir yn tueddu i ddisgyn o'r gogledd i'r de, o dros
200m i lawr at ryw 120m o uchder, ond yn gynwysedig yn yr ardal hon mae
dyffryn cul Afon Nanhyfer ac Afon Brynberian sy'n debyg i geunant ac ysgafell
o dir i'r gorllewin sy'n wynebu'r dwyrain. Mae'r caeau yn fach ac yn afreolaidd
eu siâp. Mae cymysgedd o fathau o ffiniau. Maent i gyd yn cynnwys cyfran
o gerrig; maent yn amrywio o welydd o gerrig sych ar ochr ddwyreiniol
dyffryn Nanhyfer/Brynberian, i gloddiau ac iddynt wynebau o gerrig, cloddiau
caregog a chloddiau o bridd a cherrig. Mae cerrig sylfaen rhai o'r cloddiau
yn enfawr a gellid eu galw yn fonolithau. Mae gwrychoedd ar ben y mwyafrif
o'r cloddiau, ond ar wahân i'r rhai sy'n rhedeg ar hyd ffrydd a llwybrau
a rhai gwrychoedd mewn rhai o'r ardaloedd is, nid ydynt mewn cyflwr da.
Ar y lefelau uchaf nid oes unrhyw wrychoedd o gwbl; naill ai maent wedi
tyfu'n wyllt neu'r cyfan sydd ar ôl yw rhesi ar chwâl o lwyni a choed
bach. Mae coetir collddail ar ochrau serth y dyffryn a chlystyrau bach
o goetir prysglog ynghyd â'r gwrychoedd sydd wedi tyfu'n wyllt yn rhoi
golwg goediog i rannau o'r dirwedd, yn arbennig dyffryn Nanhyfer/Brynberian.
Tir pori yw'r tir amaeth i gyd bron, y mae'r rhan fwyaf ohono wedi'i wella,
ond ceir tir pori heb ei wella yn ogystal â thafodau o dir gwlyb brwynog
yn ymestyn o Fynydd Preseli. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd,
bythynnod a thai gwasgaredig, a cheir clwstwr bach llac o anheddau ym
Mrynberian. Mae'r mwyafrif o'r anheddau yn dyddio o'r 19eg ganrif ac mae
ganddynt un llawr, llawr a hanner a dau lawr. Maent wedi'u hadeiladu o
gerrig (wedi'u rendro a cherrig moel) ac mae ganddynt doeau llechi a thri
bae. Mae mathau prinnach o dai yn cynnwys annedd ddeulawr a adeiladwyd
o gerrig yn yr arddull Sioraidd boneddigaidd. Hefyd ceir rhai tai a adeiladwyd
o friciau rhwng canol a diwedd yr 20fed ganrif yn ogystal â thai eraill
o ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae'r adeiladau fferm, lle y maent yn bresennol,
yn eithaf bach hefyd. Fel arfer mae un rhes wedi'i hadeiladu o gerrig
yn dyddio o'r 19eg ganrif, weithiau ynghyd â strwythur o haearn rhychog
o ganol yr 20fed ganrif a/neu adeiladau bach o ddur, asbestos a choncrid
o ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae gan rai o'r ffermydd mwy o faint gasgliad
o adeiladau amaethyddol mwy o faint yn dyddio o'r 20fed ganrif. Mae nifer
o ffermydd a bythynnod anghyfannedd, yn arbennig ar gyrion Mynydd Preseli.
Hefyd yn yr ardal hon mae tþ ac adeiladau allan Rhostwarch, sy'n dyddio
o'r 18fed ganrif yn ôl pob tebyg ac sy'n rhestredig Gradd II, twlc mochyn
yn dyddio o'r 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif ym Maenoffeiriad
sydd hefyd yn rhestredig Gradd II, Capel yr Annibynwyr/ Annibynnol Brynberian,
a sefydlwyd ym 1690, a ailadeiladwyd ym 1808 ac ym 1843, ac a adferwyd
ym 1882, sydd hefyd yn rhestredig Gradd II, a ffatri wlân Brynberian sydd
wedi cae ond mae'r felin yn rhestredig Gradd II. Sefydlasid pont Brynberian
erbyn 1600 pan gyfeiriwyd ati gan George Owen. Ar wahân i'r B4329 sy'n
croesi pen dwyreiniol y dirwedd hon, mae elfennau eraill yn ymwneud â
thrafnidiaeth yn cynnwys lonydd a llwybrau troellog sydd â chloddiau uchel
o bob tu iddynt.
Mae archeoleg a gofnodwyd yn eithaf amrywiol. Mae'n cynnwys
beddrod siambrog bosibl o'r cyfnod neolithig a grðp o fannau darganfod
o'r oes neolithig a'r oes efydd, maen hir posibl, crug crwn, a man darganfod
arall o'r oes efydd. Mae dwy fryngaer gofrestredig yn dyddio o'r oes haearn,
y mae man darganfod yn gysylltiedig ag un ohonynt. Mae carreg arysgrifedig
o'r oesoedd tywyll, a chlostir posibl? (enw lle yn cynnwys 'bangor').
Lleolid anheddiad canoloesol 'Melinay' ar gwr Mynydd Preseli, ychydig
o gilomedrau i'r de o eglwys y plwyf sy'n dwyn enw'r anheddiad, ac felly
gall fod ei enw yn tarddu o felinau gwynt canoloesol. Ym Mirianog gerllaw
mae'r hyn a all fod yn odyn sychu þd yn dyddio o'r cyfnod canoloesol.
Mae nodweddion ôl-ganoloesol yn cynnwys nodweddion chwareli, melinau,
ffynhonnau a phontydd.
Mae i'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon ffiniau pendant
iawn. Yn cyffinio â hi i'r de mae rhostir agored Mynydd Preseli, ac i'r
gorllewin, i'r dwyrain ac i'r gogledd mae tir ffermio brasach is Eglwyswrw.
Ffynonellau: Charles 1992; Jones 1996; Lewis 1972; Map
degwm a rhaniad Eglwyswen, 1841; Map degwm a rhaniad Meline, 1841; Map
degwm a rhaniad Nanhyfer, 1843; Rees 1932; Sambrook 1997 .
|