Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

280 EGLWYSWRW

CYFEIRNOD GRID: SN112360
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 822.2

Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr o fewn ffiniau modern Sir Benfro i'r gogledd o Fynydd Preseli a orweddai o fewn Cantref Cemaes, yng Nghwmwd Uwch Clydach, yn ystod yr oesoedd canol. Daethpwyd â Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd i'r Farwniaeth yr un ffiniau â Chantref Cemaes a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar â 1922. Mae'r ardal gymeriad hon yn gorwedd o fewn plwyfi Nanhyfer, Meline, Eglwyswrw, Eglwyswen (Whitchurch) a Llanfair Nant Gwyn. Roedd plwyf Nanhyfer yn un o fwrdeistrefi'r farwniaeth, tre delid Meline ac Eglwyswen - lle y lleolid Llanfair Nant Gwyn gynt - yn uniongyrchol o Arglwyddi Cemaes. Delid Eglwyswrw, o'r 13eg ganrif ymlaen, fel un o faenorau demên neu isarglwyddiaethau Arglwyddiaeth Cemaes, ac roedd ganddi ei llys maenoraidd ei hun. Mae'n cynnwys tri chastell cynnar o wrthgloddiau. Yn yr 16eg ganrif, ymgynullai milisiâu Cemaes a Chilgerran ar safle adeilad yn y pentref, a adwaenir o hyd fel yr 'Arfdy'. Fodd bynnag, ymddengys i'r anheddiad gael ei sefydlu yn gynnar. Mae'n bosibl bod yr eglwys yn sefyll ar safle yn dyddio o gyfnod cyn y Goncwest, tra bod astudiaeth gan Sambrook o safleoedd aneddiadau gwledig anghyfannedd wedi nodi ffoci saith anheddiad posibl o fewn isarglwyddiaeth Eglwyswrw sydd, o bosibl, yn cyfateb i fodel Jones o 'ystad luosog' gynnar. Ymddengys i systemau Cymreig o dirddaliadaeth barhau trwy'r ardal gyfan, gyda'r canlyniad bod nifer o dirddaliadau bach wedi datblygu. Roedd pob un o'r rhain yn gysylltiedig â phlasty o amrywiol statws, ond erbyn yr 16eg ganrif roedd y tirddaliadau at ei gilydd wedi'u cyfuno o dan y teulu Owen o Henllys. Ymhlith y pwysicaf oedd Glanduad y gallai pobl fod wedi bod yn byw ynddo ers dechrau'r 14eg ganrif. Cyfeirir at Hendre mewn gweithred o 1407, tra cofnodir preswylfa, 14 erw, melin a dôl yng Nghlyn Meredith ym 1418. Roedd yr adeiladau gwreiddiol ym Mhenybenglog yn adfeilion erbyn dechrau'r 17eg ganrif pan ychwanegodd y perchennog at y ddemên, tra disgrifir Argoed gan George Owen o Henllys fel 'ty â pharhâd hir' ym 1603, pan ddisgrifir Henllan Owen hefyd fel 'plasty'. Darperir tystiolaeth am dai'r bobl dlawd a oedd yn byw yng nghefn gwlad gan ddisgrifiad o bentref Felindre Farchog a nodai ei fod yn cynnwys bythynnod wedi'u hadeiladu o bridd. Mae rhywfaint o dir comin, ond mae'n gysylltiedig â hawliau'r pentref, fel yn Eglwyswrw, yn hytrach nag â hawliau creiriol. Mae'n amlwg bod yr ardal gyfan wedi'i hanheddu, a'i bod wedi'i hamgáu â'r system bresennol o gaeau rheolaidd eu siâp, erbyn dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol. Bu'r prif lwybr o Hwlffordd i Abergwaun yn croesi'r ardal gymeriad hon ers y cyfnod canoloesol; yn ddiweddarach trowyd y llwybr hwn yn ffordd dyrpeg ac erbyn hyn ffordd y B4329 ydyw. Bu tafarn cerbydau - The Sarjeants Arms - yn sefyll yn Eglwyswrw ers canol y 18fed ganrif. Yn y fan hon, yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, y cynhelid Sesiwn Fach Cemaes. Mae'r llwybr o Abergwaun i Aberteifi (A487) tua'r un oed â'r B4329 a chyfrannodd at ddatblygiad Felindre Farchog, a feddai ar felin wlân a thanerdy, ac a ailadeiladwyd i raddau helaeth yn yr arddull 'ystadaidd' yn y 19eg ganrif. Er na fu diwydiant yn ffactor bwysig erioed yn natblygiad y dirwedd hon, bu peth cynhyrchu calch ar raddfa fach tra bod yr ardal yn o un o brif ganolfannau ar gyfer cynhyrchu gwlân yn Sir Benfro, lle y mae o leiaf 6 safle melinau pannu y gellir eu hadnabod yn dyddio o'r 16eg ganrif, a nifer o ffatrïoedd a barhaodd i gynhyrchu gwlân i mewn i'r 20fed ganrif gan gynnwys Pontyglasier. Fodd bynnag, ymddengys na chafodd y rhain fawr ddim effaith ar y patrwm anheddu a barhaodd i fod yn un o aneddiadau gwasgaredig yn bennaf.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Eglwyswrw yn cynnwys tir bryniog tonnog a leolir fwy neu lai rhwng 20m a 180m o uchder ar ochr ogleddol Mynydd Preseli. Mae'r ardal yn codi o'r gorllewin i'r dwyrain, ac nid yw'r pen gorllewinol ond ychydig gilomedrau o Fae Trefdraeth. Ac eithrio ar ddyffrynnoedd serth ac ar y tir comin bach yn Eglwyswrw, mae'r holl dir wedi'i rannu'n gaeau o faint canolig. Mae siâp y caeau hyn yn amrywio o gaeau afreolaidd eu siâp i gaeau unionlin cryf megis y rhai a welir i'r de o Gapel Penygroes. Mae'n debyg bod y gwahaniaethau hyn yn cynrychioli gwahanol gyfnodau o amgáu tir, neu dir a amgaewyd gan unigolion yn hytrach na chan ystadau, ond nid ydynt yn peryglu cyfanrwydd yr ardal o gwbl. Mae cloddiau terfyn wedi'u gwneud o bridd neu o gerrig a phridd, a cheir rhai cloddiau ac iddynt wynebau o gerrig hefyd. Mae gwrychoedd ar y mwyafrif o'r cloddiau. At ei gilydd mae'r gwrychoedd hyn mewn cyflwr da, ond mewn rhai lleoliadau maent yn dechrau mynd yn anniben a thyfu'n wyllt. Ceir coetir collddail yn gorchuddio rhai o lethrau mwy serth y dyffrynnoedd ac mewn prysglwyni bach sydd wedi'u gwasgaru'n afreolaidd ar draws yr ardal. Mae coed yn y gwrychoedd hefyd yn ychwanegu at yr agwedd coediog o'r ardal hon. Fodd bynnag, nid yw coetir mor amlwg ag mewn rhai ardaloedd cyfagos, ac nid yw'n nodwedd ddiffiniol o'r dirwedd hanesyddol. Tir pori yw'r tir amaeth yn bennaf, y mae'r rhan fwyaf ohono'n dir pori wedi'i wella, a cheir darnau bach o dir brwynog mwy garw. Mae tua 10% o'r tir yn dir âr. Ar wahân i ddau bentref Eglwyswrw a Felindre Farchog a phentrefannau Ffynnongroes a Phontyglasier sy'n llai o faint, nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd, tai a bythynnod gwasgaredig. Mae'r anheddau hyn mewn amrywiaeth o arddulliau ac yn dyddio o wahanol gyfnodau, ond mae'r prif fath o annedd yn dyddio o'r 19eg ganrif, mae wedi'i hadeiladu o gerrig (wedi'u rendro â sment a cherrig moel), mae iddi do llechi, dau lawr, a thri bae, a cheir enghreifftiau yn y traddodiad brodorol ac yn y traddodiad Sioraidd mwy boneddigaidd. Mae anheddau eraill o'r 19eg ganrif yn cynnwys bythynnod a thai wedi'u hadeiladu o gerrig yn y traddodiad brodorol ac iddynt un llawr a llawr a hanner, tai sylweddol wedi'u hadeiladu o gerrig yn dyddio o bosibl o'r 18fed ganrif, ac ystod lawn o anheddau o'r 20fed ganrif yn amrywio o dai wedi'u hadeiladu o friciau i fyngalos wedi'u hadeiladu o goncrid. Mae 38 o adeiladau rhestredig o fewn yr ardal gymeriad, y mae pedwar ohonynt yn eglwysi canoloesol a ailadeiladwyd. Mae saith, gan gynnwys yr 'Arfdy' a'r Sarjeants Inn, ym mhentref Eglwyswrw, ac maent yn rhestredig Gradd II ar wahân i'r eglwys sy'n rhestredig Gradd. Mae wyth adeilad rhestredig (Gradd II hefyd) yn Felindre Farchog. Lleolir y gweddill yn naliadau Llwyngwair (pum adeilad rhestredig), Pentre Ifan (tri adeilad rhestredig) a Threwern (pedwar adeilad rhestredig). Mae tai eraill yn cynnwys Glanduad, 'hen blasty Cymreig nodweddiadol ac ynddo simne fawr (simne o gerrig), a Penybenglog House o'r 18fed ganrif. Mae capeli ym Mhenygroes a Phontyglasier. Cyfeiriwyd at Bont Gynon gan George Owen c.1600. Mae tai allan ffermydd hþn yn cynnwys un neu ddwy res o strwythurau wedi'u hadeiladau o gerrig, ac, ar adegau strwythurau wedi'u hadeiladu o frics. Yn aml mae'r tai hyn wedi'u trefnu'n lled-ffurfiol mewn perthynas â'r ffermdy. Mae adeiladau amaethyddol mwy diweddar yn cynnwys ysguboriau ac adeiladau eraill o haearn rhychog yn dyddio o'r 20fed ganrif, a strwythurau o ddur, concrid ac asbestos yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif. Ar y ffermydd mwy o faint gall y math olaf o adeilad fod yn sylweddol. Datblygodd Eglwyswrw, sef prif bentref yr ardal, o amgylch safle'r eglwys ganoloesol, ac mae'n cynnwys, yn ogystal ag anheddau, ysgol a thafarndai. O amgylch capel y datblygodd Felindre Farchog a Phontyglasier. Ni ddenodd adeiladau crefyddol eraill megis yr eglwysi ym Meline a Llanfair Nant Gwyn a'r capel ym Mhenygroes aneddiadau. Y prif elfen yn y dirwedd yn ymwneud â thrafnidiaeth yw'r A487(T) sy'n rhedeg o'r gorllewin i'r dwyrain trwy'r ardal. Ar hyd y ffordd hon y lleolir pentrefi Felindre Farchog ac Eglwyswrw. Mae isffyrdd - sef y B4332 a'r B4329 - yn fforchio o'r ffordd ddosbarth A hon. Mae'r lonydd a'r llwybrau yn gul ac yn droellog ac fe'u defnyddir gan drigolion yr ardal yn unig. O bob tu i bob ffordd, lôn a llwybr ceir cloddiau terfyn.

Mae archeoleg a gofnodwyd mewn ardal mor fawr yn gyfoethog ac yn amrywiol. Mae safleoedd cynhanesyddol yn cynnwys dau fan darganfod neolithig, strwythur megalithig yn dyddio o'r oes neolithig neu'r oes efydd, tri man darganfod o'r oes efydd, un maen hir pendant a thri maen hir posibl o'r oes efydd a dau grug crwn posibl, bryngaer fawr, gofrestredig o'r oes haearn a phedair bryngaer bosibl, y gall un ohonynt fod yn fwnt canoloesol. Mae safle llys posibl o'r oesoedd tywyll. O'r cyfnod canoloesol mae tri chastell cofrestredig o wrthgloddiau, gan gynnwys Eglwyswrw, y pedair eglwys ganoloesol, safleoedd dau gapel canoloesol, nifer o ffynhonnau sanctaidd a safle mynwent bosibl. Mae nifer o safleoedd melinau canoloesol ac ôl-ganoloesol. Gall Pont Baldwyn ar yr A487 ddyddio o'r cyfnod canoloesol, a chyfeiriwyd at Bont Clydach hefyd gan George Owen c.1600. Cynrychiolir safleoedd ôl-ganoloesol eraill gan chwareli, odyn galch a chaer ddanddaearol o'r ail ryfel byd.

Mae gan yr ardal hon ffiniau pendant i'r de ac i'r de-orllewin lle y mae'n cyffinio ag ardaloedd sy'n cynnwys ffermydd llai o faint a systemau o gaeau mwy afreolaidd eu siâp. I'r gogledd ac i'r dwyrain ni ddiffiniwyd unrhyw ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol eto, ond at ei gilydd mae'r dirwedd yn y fan hon yn cynnwys caeau mwy o faint, mwy rheolaidd eu siâp a ffermydd mwy o faint, ac mae iddi olwg mwy agored.

Ffynonellau: Achifdy Sir Benfro HDX/760/3; Charles 1948; Charles 1992; Howells 1977; Jones 1996; Lewis 1972; Ludlow 1998b; Map degwm a rhaniad Eglwyswen, 1841; Map degwm a rhaniad Eglwyswrw, 1841; Map degwm a rhaniad Meline, 1841; Map degwm a rhaniad Nanhyfer, 1843; Rees 1932; Sambrook 1997; Sambrook 2000.