Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

282 WAUN CLYN COCH

CYFEIRNOD GRID: SN105315
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 131.8

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar lethrau deheuol Mynydd Preseli, a orweddai yn ystod yr oesoedd canol o fewn Cantref Cemaes. Daethpwyd Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd i'r Farwniaeth yr un ffiniau Chantref Cemaes a grwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar 1922. Perthynai'r ardal gymeriad i raddau helaeth i faenor Nigra Grangia (Mynachlog-ddu) a roddwyd, ym 1118, i Dironiaid Abaty Llandudoch. Roedd y faenor yn un sylweddol, a chynhwysai 5 gweddgyfair a oedd yn werth 8 15s 6d ym 1535. Fodd bynnag, mae'r ffaith mai dim ond hanner ffi marchog oedd yr asesiad o'i gwerth yn awgrymu bod llawer o'r faenor, gan gynnwys ardal gymeriad Waun Clyn Coch, yn rhostir pori agored yn ystod y cyfnod canoloesol. Parhawyd i ddal yr ardal, fel y rhan fwyaf o ran dde-ddwyreiniol Barwniaeth Cemaes, o dan systemau Cymreig o dirddaliadaeth. Ymddengys i'r ardal hon barhau yn rhostir agored, a heb ei anheddu gan mwyaf, tan y 19eg ganrif. Roedd yn dal i fod yn agored pan gynhaliwyd arolygon degwm 1841 a 1846, ond ymddengys i gaeau a dwy fferm gael eu sefydlu yn fuan ar l hynny. Roedd y ffermydd wedi'u gadael yn wag erbyn canol yr 20fed ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Waun Clyn Coch rhwng 280m a 400m o uchder fwy neu lai mewn basn agored cysgodol sy'n wynebu'r de a'r de-ddwyrain. Rhennir yr ardal yn nifer o gaeau mawr a cheir caeau llai o faint o amgylch ffermydd anghyfannedd. Rhennir y caeau gan gloddiau o gerrig a phridd neu gloddiau ac iddynt wynebau o gerrig. Nid oes unrhyw wrychoedd, ond o bryd i'w gilydd, mae llwyni unig yn tystio i'r ffaith eu bod wedi bodoli ar un adeg. Tirwedd foel ydyw, ar wahn i glystyrau bach gerllaw fferm anghyfannedd. Tir pori wedi'i wella yw'r defnydd a wneir o'r tir a cheir tir gwlyb, brwynog a chorslyd mewn pantiau ac yn agos at nentydd. Cyfyngir cyn-adeiladau i ddwy fferm anghyfannedd yn dyddio o ganol o'r 19eg ganrif.

Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i'r hyn a all fod yn feddrod siambrog neolithig, dwy garnedd neu ddau grug posibl a chlostir amgaedig cofrestredig o'r oes haearn.

I'r gogledd, i'r gorllewin ac i'r de mae'r ardal hon yn cyffinio rhostir agored Mynydd Preseli ac mae iddi ffiniau pendant iawn. I'r dwyrain, mae'r ffin yn llai pendant, am fod yr ardal hon yn ymdoddi i dir ffermio is Mynachlog-ddu lle y mae pobl wedi ymsefydlu.

Ffynonellau: Howells 1987; Lewis 1969; Map degwm a rhaniad Llangolman, 1841; Map degwm a rhaniad Monachlogddu, 1846; Rees 1932; Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1997.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]