Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

283 RHOSBWLCH

CYFEIRNOD GRID: SN077298
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 42.3

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar gwr deheuol Mynydd Preseli, a orweddai yn ystod yr oesoedd canol o fewn Cantref Cemaes. Daethpwyd Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd i'r Farwniaeth yr un ffiniau Chantref Cemaes a grwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar 1922. Perthynai ardal gymeriad Rhosbwlch i arglwyddiaeth (neu faenor) demn Maenclochog, a ddelid o Farwniaeth Cemaes gan arglwyddi Roche Llangwm yn y 13eg ganrif a'r 14 ganrif, pan aseswyd ei fod yn werth un ffi marchog. Fodd bynnag, fel y rhan fwyaf o ran dde-ddwyreiniol y Farwniaeth o fewn Mynydd Preseli, parhawyd i ddal yr ardal hon o dan systemau Cymreig o dirddaliadaeth. Ymddengys fod yr ardal gyfan yn rhostir pori agored, a allai fod wedi'i gynnwys yn yr hawl i bori ceffylau, a roddwyd gan David de la Roche, sef Arglwydd Llangwm a Maenclochog, i Abaty Hendy-gwyn-ar-Daf ym 1301. Atgynhyrchir cofnod Charles Hassal, ym 1794, o'r 'tir diffaith helaeth' a fodolai o hyd ym Maenclochog yn Hanes y Sir, ac nid amgaewyd yr ardal gymeriad tan 1815 pan fu'n destun dyfarniad Amgu Seneddol, y mae'r system bresennol o gaeu mawr rheolaidd eu sip ac iddynt ffiniau syth yn nodweddiadol ohono. Newidiwyd yr ardal ar l hynny - yn ddramatig - gan chwareli llechi Rhosbwlch a Bellstone. Chwarel Rhosbwlch oedd yr unig wir weithrediad ar raddfa fawr yn yr ardal. Dechreuodd y ddwy chwarel c.1830 ac fe'i gwasanaethid gan lwybr a fodolai eisoes, sef ffordd bresennol y B4313, a all ddyddio o'r cyfnod canoloesol. O c.1870 ymlaen ehangodd chwarel Rhosbwlch nes ei bod yn cyflogi dros 100 o bobl, ac yn cynhyrchu 5000 o dunelli, a datblygodd pentref - gyda chapel a gwesty - yn Rhosbwlch. Adeiladwyd Rheilffordd Maenclochog i wasanaethu'r chwareli. Agorodd y rheilffordd ym 1876 ac fe'i hestynnwyd yn ddiweddarach i Abergwaun. Fodd bynnag, aflwyddiannus fu ymdrechion i sefydlu Rhosbwlch fel canolfan dwristiaeth, ac ar l i'r chwarel gau ym 1908 ni thyfodd erioed y tu hwnt i bentrefan gwledig. Caeodd y rheilffordd ym 1949

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae chwareli mawr a adawyd yn wag ac elfennau a strwythurau sy'n gysylltiedig hwy yn nodweddion sy'n diffinio ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Rhosbwlch. Mae rhannau o'r seilwaith a sefydlwyd i wasanaethu'r chwareli hyn wedi goroesi ac yn eu plith ceir: rheilffordd (nas defnyddir bellach), gwesty rheilffordd (Precelly Hotel), tai teras a thai eraill a adeiladwyd ar gyfer y gweithwyr. Mae'r teras o dai deulawr a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif ar gyfer gweithwyr yn y chwareli yn nodwedd anarferol o dirwedd Mynydd Preseli. Nodwedd anarferol arall yw Hotel Precelly gerllaw - adeilad deulawr ac iddo ffrm pren a adeiladwyd o haearn rhychog ym 1876-80. Tafarn yw'r gwesty erbyn hyn a gelwir Y Tafarn Sinc arno. Mae'r tai eraill yn Rhosbwlch wedi'u clystyru'n llac ac maent yn cynnwys tai unllawr a deulawr a adeiladawyd o gerrig, yn yr arddull frodorol gan amlaf ac wedi'u cymysgu 'r tai hynny ceir tai a byngalos o ddiwedd yr 20fed ganrif mewn amrywiaeth o arddulliau a defnyddiau. Capel o eiddo'r Methodistiaid yw Capel Horeb sy'n dyddio o'r 19ef ganrif. Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig. Lleolir safle carafanau/gwersyll bach yn agos at lyn bach a pharcdir. Ar wahn i'r rheilffordd nas defnyddir bellach a grybwyllwyd uchod a'r B4313 sy'n croesi rhan orllewinol yr ardal hon, lonydd a llwybrau yw'r unig gysylltiadau sydd ar gyfer trafnidiaeth.

Cyfyngir yr archeoleg a gofnodwyd i nodweddion chwareli, gan gynnwys adeiladau adfeiliedig, tomenni rwbel, pyllau ac incleins.

Mae Rhosbwlch yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol nodedig. Tirwedd ddiwydiannol ydyw sydd wedi'i gosod yng nghanol tir ffermio a choedwigoedd o goed coniffer a blannwyd.

Ffynonellau: Archifdy Sir Benfro MF 207; Gale 1992; Howells 1987; Hunter 1852; Map degwm a rhaniad Maenclochog, 1841; Rees 1932; Richards 1998; Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1997

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]