258 Mynachlog-ddu
Lleolir yr ardal gymeriad hon ar ochr dde-ddwyreiniol Mynydd
Preseli ac mae'n cynnwys ffermydd gwasgaredig wedi'u gosod mewn
tirwedd o gaeau bach afreolaidd eu siâp. Canolbwynt yr ardal yw'r
cydgasgliad llac o dai sy'n ffurfio pentrefan Mynachlog-ddu. Carreg
yw'r prif ddefnydd adeiladu, er bod adeiladau o friciau, concrid
a haearn rhychog yn bresennol hefyd. Rhennir y caeau gan gloddiau
neu gloddiau o bridd a cherrig ac arnynt wrychoedd. Tir pori wedi'i
wella yw'r defnydd a wneir o'r tir yn bennaf a cheir pocedi o dir
mwy garw. |
|
259 Gors
Fawr - Waun Cleddau Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
hon yn cynnwys tir agored o ansawdd gwael ar lawr dyffryn y rhan
uchaf o Afon Cleddau Ddu a'i hisafonydd, wrth droed Mynydd Preseli.
Mae bron y cyfan o'r ardal yn dir pori garw, ac mae'n cynnwys pantiau
mawnaidd a chorslyd. Lleolir cylch cerrig Gors Fawr yn yr ardal
hon. |
|
260 Foel
Dyrch Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn un o fryniau
anghysbell Mynydd Preseli. Tir agored ydyw a orchuddir yn gyfan
gwbl â phorfa arw. Nid oes unrhyw aneddiadau cyfannedd, er bod ffermydd
anghyfannedd yn un o nodweddion y dirwedd. Mae chwarel nas gweithir
bellach yn elfen amlwg yn y dirwedd. |
|
261 Llethr
Mae'r ardal gymeriad hanesyddol hon yn cynnwys caeau a ffermydd
ar lethrau de-ddwyreiniol Mynydd Preseli. At ei gilydd mae'r tai
allan wedi'u hadeiladu o gerrig ac maent yn dyddio o'r 19eg ganrif.
Un o nodweddion y dirwedd yw'r defnydd a wneir o welydd o gerrig
sych fel ffiniau caeau. Yn yr 20fed ganrif plannwyd coedwigoedd
o goed coniffer ar draws caeau a ffermydd gwag ar y llethrau uchaf.
|
|
262
Pentre Galar Roedd yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon
yn dir comin agored nes iddo gael ei amgáu trwy Ddeddf Seneddol
ym 1812. Mae'r system o gaeau rheolaidd eu siâp, y ffermydd gwasgaredig
a'r ffyrdd i gyd yn dyddio o'r cyfnod hwn. Carreg yw'r prif ddefnydd
adeiladu. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Tir
pori wedi'i wella a lleiniau o dir mwy garw yw'r defnydd a wneir
o'r tir. |
|
263
Carn Wen Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys
bryn bach agored o dir prysglog. Mae olion chwarel a adawyd ar ddiwedd
yr 20fed ganrif yn elfen amlwg yn y dirwedd. Nid oes unrhyw aneddiadau,
coed na ffyrdd yn yr ardal hon. |
|
264
Crugiau Dwy Lleolir yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon
ar hyd crib esgair ar ochr dde-ddwyreiniol Mynydd Preseli. Fe'i
rhennir yn gaeau mawr gan ffensys gwifrau, ond ar wahân i dir pori
wedi'i wella yn y pen gogleddol, tir pori garw yw'r defnydd a wneir
o'r tir yn bennaf. Nid oes unrhyw aneddiadau na ffyrdd, ac, ar wahân
i blanhigfa fach o goed coniffer, tirwedd foel ydyw i bob pwrpas.
|
|
265 Glandy Cross Ffordd yr A478 yw canolbwynt yr ardal
gymeriad tirwedd hanesyddol hon. Lleolir system o gaeau eithaf rheolaidd
eu siâp a ffermydd a bythynnod gwasgaredig o bob tu i'r ffordd hon.
Datblygodd tai hirgul ac adeiladau eraill yn dyddio o ddiwedd yr
20fed ganrif yn Glandy Cross ac Efailwen. Mae henebion defodol ac
angladdol, gan gynnwys cylch cerrig Meini Gwyr, yn un o nodweddion
yr ardal hon. |
|
266
Llangolman Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys
caeau afreolaidd eu siâp, ffermydd a bythynnod gwasgaredig, lonydd
cul a choetir ar ochrau serth dyffrynnoedd. Ceir nifer o wahanol
fathau o adeiladau yn amrywio o ffermdai mawr i fythynnod unllawr.
Carreg yw'r defnydd adeiladu traddodiadol. Rhennir y caeau gan gloddiau
neu gloddiau o bridd a cherrig, ac arnynt ceir gwrychoedd. Tir pori
yw'r tir amaeth gan mwyaf. |
|
267
Rhosfach Lleolir yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon ar
lethrau deheuol Mynydd Presesli. Mae'n cynnwys caeau bach o dir
pori a thir pori garw, a phocedi bach o dir comin. Nodweddir y patrwm
anheddu gan ffermydd a bythynnod gwasgaredig. Mae bythynnod unllawr
a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif yn nodweddiadol o'r ardal
hon. Nid oes fawr ddim coed, ar wahân i'r rhai mewn gwrychoedd sydd
wedi tyfu'n wyllt ar y cloddiau o bridd neu gerrig. |
|
268
Maenclochog Pentref Maenclochog yw canolbwynt yr ardal gymeriad
tirwedd hanesyddol hon. Cynlluniwyd y pentref hwn ac mae'r tai,
y ffermydd, y siopau, y tafarndai a'r capeli wedi'u gosod o amgylch
lawnt bentref hirsgwar lle y saif yr eglwys. Mae'r mwyafrif o'r
adeiladau yn dyddio o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Carreg yw'r
defnydd adeiladu traddodiadol. O bob tu i'r pentref ceir caeau cul
hir sy'n perthyn i system o lain-gaeau amgaeëdig. Tir pori yw'r
tir amaeth gan mwyaf. |
|
269 Mynydd Bach Amgaewyd yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
hon trwy Ddeddf Seneddol ym 1815. Sefydlwyd system o gaeau rheolaidd
eu siâp, anheddau a ffyrdd yn y flwyddyn honno ar dir a fuasai'n
dir comin gynt. Ffermydd a bythynnod gwasgaredig o gerrig yw'r prif
fathau o aneddiadau. Ar wahân i blanhigfeydd o goed coniffer yn
dyddio o'r 20fed ganrif, tir pori a lleiniau o dir garw yw'r prif
ddefnydd a wneir o'r tir. Mae ffyrdd syth llydan yn nodweddiadol
o'r ardal hon. |
|
270 Pant Maenog Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
hon yn un blanhigfa fawr o goed coniffer yn dyddio o'r 20fed ganrif.
Sefydlwyd y blanhigfa hon yn rhannol dros gaeau a ffermydd a adawyd
yn wag o ganlyniad i Ddeddf Seneddol a basiwyd ym 1815 ac yn rhannol
dros dir agored Mynydd Preseli. |
|
271 Mynydd-du Lleolir yr ardal gymeriad tirwedd
hanesyddol hon mewn dyffryn cysgodol ar lethrau de-orllewinol Mynydd
Preseli. Mae'n cynnwys ffermydd gwasgaredig wedi'u hamgylchynnu
gan gaeau bach, a chaeau mwy o faint ar lethrau uwch. Carreg yw'r
defnydd adeiladu traddodiadol. Mae'r gwrychoedd ar y cloddiau a'r
cloddiau o bridd a cherrig erbyn hyn wedi diflannu, ac mae i'r dirwedd
olwg agored iawn, am nad oes fawr ddim coed. Tir pori wedi'i wella
a lleiniau o dir gwlyb garw yw'r defnydd a wneir o'r tir yn bennaf.
|
|
272 Banc Du Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn
cynnwys tir pori wedi'i wella sy'n lled-amgaeëdig ar lethrau de-orllewinol
Mynydd Preseli. Diflannodd y gwrychoedd ar y cloddiau terfyn amser
maith yn ôl ac oherwydd nad oes unrhyw goed mae i'r dirwedd olwg
agored. Nid oes unrhyw anheddau cyfannedd.. |
|
273 Tregynon Lleolir yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
hon ar lethrau gogledd-orllewinol Mynydd Preseli ac fe'i nodweddir
gan gaeau o faint bach i ganolig a ffermydd gwasgaredig. Carreg
yw'r defnydd adeiladu traddodiadol. Ar wahân i'r rhai sy'n rhedeg
ar hyd lonydd a llwybrau, nid oes unrhyw wrychoedd ar y cloddiau.
Tirwedd foel ydyw i bob pwrpas. Tir pori wedi'i wella yw'r tir amaeth
yn bennaf. |
|
274 Gellifawr Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesdyddol
hon yn gorwedd ar draws dyffryn bas ar lethrau gogledd-orllewinol
Mynydd Preseli. Mae'n cynnwys caeau bach afreolaidd eu siâp sydd
â chloddiau a chloddiau o gerrig ac arnynt wrychoedd o bob tu iddynt,
a ffermydd gwasgaredig. Mae yno ddwy fferm weddol fawr. Carreg yw'r
defnydd adeiladu traddodiadol. Cymysgedd o dir pori wedi'i wella,
tir âr a thir pori garw yw'r tir amaeth. |
|
275
Cilgwyn Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn gorwedd
mewn pant tonnog ar ochr ogleddol Mynydd Preseli ac mae'n cynnwys
caeau bach afreolaidd eu siâp, ffermydd bach, bythynnod, adeiladau
crefyddol, lonydd troellog a choedwigoedd bach. Mae gwrychoedd sydd
wedi tyfu'n wyllt ar gloddiau caregog yn rhoi golwg dra choediog
i'r dirwedd. Carreg yw'r defnydd adeiladu traddodiadol. Tir pori
wedi'i wella a rhywfaint o dir mwy garw yw'r tir amaeth. |
|
276 Gochel Sythi Lleolir yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
hon ar ochr ddeheuol Mynydd Carn Ingli ac mae'n cynnwys caeau bach
afreolaidd eu siâp a ffermydd anghyfannedd. Mae'n debyg bod y ffermydd
a'r caeau yn dyddio o'r 18fed neu'r 19eg ganrif. Ar lefelau uwch
mae'r caeau yn newid yn rhostir, ond mae tir pori gwell i'w weld
ar lefelau is. |
|
277
Trehaidd Mae ardal gymeriad tirlun hanesyddol yn cynnwys caeau
gyda siâp eithaf rheolaidd a ffermydd, bythynnod a thai gwasgaredig.
Mae'r aneddiadau yn amrywio mewn arddull, deunydd adeiladu a'r dyddiad,
ond yn gyffredinol maent yn perthyn i'r 19eg a'r 20fed ganrif. Nid
yw'r gwrychoedd ar y cloddiau terfyn sydd wedi'u gwneud o bridd
neu o bridd a cherrig mewn cyflwr da. Tir pori wedi'i wella yw'r
prif ddefnydd a wneir o'r tir, a cheir rhywfaint o dir mwy garw
ac ychydig o dir âr. |
|
278
Carnedd Meibion-Owen Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
hon yn cynnwys rhostir agored a thir wedi'i wella ar ei hochr dde-ddwyreiniol.
Nid oes unrhyw dai cyfannedd. |
|
279
Brynberian - Mirianog Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
hon yn gorwedd ar hyd cwr gogleddol Mynydd Preseli ac mae'n cynnwys
caeau bach afreolaidd eu siâp, ffermydd a bythynnod gwasgaredig
a lonydd troellog. Carreg yw'r defnydd adeiladu traddodiadol. Mae'r
cloddiau yn garegog ac arnynt ceir gwrychoedd. Tir pori wedi'i wella
yw'r defnydd a wneir o'r tir, ond ceir darnau o dir gwlyb, garw.
|
|
280
Eglwyswrw Lleolir yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon ar
draws tirwedd fryniog donnog i'r gogledd o Fynydd Preseli ac mae'n
cynnwys tir pori bras wedi'i isrannu'n gaeau o faint canolig, anheddau
gwasgaredig, adeiladau crefyddol a phentrefi bach. Carreg yw'r defnydd
adeiladu traddodiadol, ond mae defnyddiau modern wedi'u defnyddio
hefyd. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Lleolir
y ddau bentref Felindre Farchog ac Eglwyswrw ar hyd priffordd yr
A487(T) sy'n croesi'r ardal hon. |
|
281
Mynydd Preseli Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn
cynnwys llain fawr o rostir agored. Er nad oes unrhyw anheddau cyfannedd
yn yr ardal, mae llawer o safleoedd o weithgarwch dynol yn y gorffennol
ac maent yn amrywio o henebion defodol ac angladdol cynhanesyddol,
bryngaerydd - yn arbennig Y Foel Drygarn - i aneddiadau anghyfannedd
yn dyddio o'r cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol. |
|
282
Hafod Tydfil Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn
cynnwys ynys fach o dir pori amgaeëdig ar Fynydd Preseli. Mae'r
fferm wedi'i dymchwel ac mae'r gwrychoedd ar y cloddiau terfyn yn
dechrau tyfu'n wyllt. |
|
283
Waun Clyn Coch Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn
cynnwys caeau a ffermydd anghyfannedd sy'n gorwedd mewn pant cysgodol
ar lethrau deheuol Mynydd Preseli. Ni sefydlwyd y ffermydd a'r caeau
tan ar ôl 1840. Nid oes unrhyw wrychoedd erbyn hyn ar y cloddiau
terfyn, ac mae i'r ardal gyfan olwg agored. Tir pori wedi'i wella
yw'r defnydd a wneir o'r tir gan mwyaf, a cheir darnau/pocedi o
dir gwlyb, garw. |
|
284
Rosebush Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn dirwedd
ddiwydiannol a nodweddir gan lefelydd chwareli, tai gweithwyr ac
elfennau o'r hen sailwaith megis rheilffordd nas defnyddir bellach.
|
|