Cartref > Tirweddau Hanesyddol >Tyddewi >

286 PORTHMAWR

CYFEIRNOD GRID: SM741279
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 113.5

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ychydig i'r de o Benmaendewi ei hun. Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai o fewn Cantref Pebidiog, neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. Lleolir yr ardal gymeriad o fewn plwyf Tyddewi, lle'r oedd nifer o isgapeli, a hyd yn oed heddiw mae iddi dopograffi eglwysig go arbennig, yn ogystal ag arwyddnod pensaernol ar wahn ar ffurf ei bythynnod isganoloesol. Mae i'r dirwedd ddefodol darddiad cynnar. Cofnodwyd siambrau claddu cist yn Nh Gwyn, safle y mae Baring Gould a Fisher yn awgrymu y safai mynachlog gynnar 'Rosnat' - sef rhagflaenydd Tyddewi ei hun - arno tra enwir Ffynnon Faiddog ar l y Sant Gwyddelig Aedan, un o ddilynwyr Dewi Sant. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol Chantref Pebidiog a grwyd yn ddiweddarach ym 1536. Fodd bynnag, ymddengys fod systemau tirddaliadaeth Cymreig wedi goroesi, er iddynt gael eu haddasu mewn ffyrdd gwahanol, tra parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal hyd ddechrau'r 20fed ganrif. Aseswyd yr ardal gymeriad o fewn maenorau Cantref Cymreig a Chrugheli yn Llyfr Du Tyddewi dyddiedig 1326, a restrodd ddaliad Porthmawr a'i d isganoloesol, diweddarach, a Llaethdy, lle'r oedd ty tebyg, fel 2 erw a ddelid gan Philip ap Jevan trwy weithred, a oedd yn werth 4s y flwyddyn, a 4 bufedd a ddelid gan gyd-dentantiaid ac a oedd yn werth 13s y flwyddyn. Ni chofnodwyd y drydedd dirddaliadaeth o bwys yn yr ardal, sef Trefelly, cyn 1544. Mae'r patrwm presennol o gaeau bach, cul, eithaf afreolaidd eu sip yn nodweddiadol o batrymau amgu cynnar ond yma ymddengys ei fod yn perthyn i'r cyfnod l-ganoloesol, am fod hen ffiniau gerllaw Fferm Porthmawr yn amlwg yn cynrychioli llain-gaeau canoloesol amgaedig, sy'n cadarnhau'r gyfundrefn r a awgrymir yn y Llyfr Du. Yn ddiau roedd y patrwm presennol o gaeau wedi'i sefydlu erbyn arolwg degwm 1840; erbyn hyn roedd y cyn-leiniau wedi'u hamgu, ond nid oeddynt i gyd wedi'u llwyrfeddiannu, h.y. roeddynt yn dal yn eiddo i nifer o berchenogion. Ni chi'r ardal gyfan ei ffermio ac roedd dwy ardal o dir comin wedi'u cofnodi yng Ngharnedd Lleithr a Waun Llaethdy.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Porthmawr yn gorwedd ar lethrau Carn Llidi sy'n wynebu'r de rhwng lefel y mr yn y Porth Mawr ac uchafswm uchder o ryw 80m. Mae tir amgaedig yr ardal hon yn ymdoddi i weundir agored ar Garn Llidi wrth i'r llethr fynd yn fwy serth ac yn fwy creigiog. Mae'r caeau bach afreolaidd eu sip ym mhen gorllewinol yr ardal yn agos at y mr yn graddol fynd yn fwy o faint ac yn fwy rheolaidd tua'r dwyrain. Mae rhai o'r caeau hyn yn edrych fel llain-gaeau amgaedig. Mewn cyfrwy rhwng Carn Llidi a Charn Llethr mae caeau hirsgwar yn tueddu ymestyn o'r gogledd i'r de, ac maent yn cadw cyfluniad y caeau cynhanesyddol yn ardal gymeriad Penmaendewi gerllaw. Ceir sawl math o ffin, a waliau sych yw'r math mwyaf cyffredin. Ceir hefyd cloddiau caregog, cloddiau cerrig a phridd, a chloddiau pridd. Mae rhai cloddiau yn rhedeg ar hyd cribau balciau. Nid yw gwrychoedd yn gyffredin, a lle y ceir gwrychoedd maent yn cynnwys rhesi gwasgarog isel a digysgod o lwyni. Mae ffensys gwifrau wedi'u hychwanegu at y mwyafrif o ffiniau hanesyddol. Tirwedd foel ydyw heb unrhyw goed. Porfa wedi'i gwella a rhywfaint o dir r yw'r rhan fwyaf o'r tir amaeth. Nid oes fawr ddim tir pori garw. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig, ac mae ffermydd pr yn nodwedd o'r dirwedd. Lleolir y mwyafrif o'r ffermydd ar hyd y cyfuchlin 50m ar y llethrau sy'n wynebu'r de, ac mae ganddynt lonydd llydan waliau cerrig sych o bobtu iddynt sy'n arwain oddi wrthynt i dir comin sy'n gorwedd i'r gogledd. Mae i'r ffermdai amrywiaeth o ffurfiau, ond mae'r mwyafrif ohonynt yn gymharol fach ac yn dyddio o'r 19eg ganrif, maent wedi'u gwneud o gerrig ac iddynt ddeulawr a thri bae, a cheir enghreifftiau yn yr arddull Sioraidd 'bonheddig' a'r traddodiad brodorol. Ceir strwythurau cynharach, megis y tai ym Mhorthfawr a Llaethdy; mae'r ddau yn enghreifftiau clasurol o d o Ogledd Sir Benfro yn perthyn i'r cyfnod isganoloesol, ac mae gan y ddwy simnai gron a rhan ochrol ac mae cilfachau ystlysog mewnol yn yr ail. Nid yw'r naill na'r llall yn rhestredig. Ffynnon Faiddog yw'r unig adeilad rhestredig, t o ansawdd da sy'n dyddio o ganol y 19eg ganrif. Ceir rhai adeiladau sy'n perthyn i'r 20fed ganrif yn yr ardal hefyd. Mae hen adeiladau fferm wedi'u hadeiladu o gerrig ac maent yn gymharol fach, ac yn gyffredinol maent yn cynnwys un neu ddwy res. Mae gan rai o'r toeau llechi sgim o sment, rhywbeth sy'n nodweddiadol o gwr arfordir gorllewinol gogledd Sir Benfro. Mae adeiladau fferm modern hefyd yn gymharol fach, ac maent wedi'u hadeiladu o amrywiaeth o ddeunyddiau. Lleolir nifer o feysydd gwersylla a safleoedd carafanau o fewn yr ardal hon, ac mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg ar hyd pen y clogwyni.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn weddol amrywiol o fewn ardal mor fach ac mae'n cynnwys nifer o safleoedd posibl o ddechrau'r cyfnod canoloesol. Mae safleoedd cynhanesyddol yn cynnwys tri man darganfod gan gynnwys darganfyddiadau neolithig ar y blaen draeth, Maen Sigl, sy'n gofrestredig, siambr gladdu neolithig a chlostir wedi'i amddiffyn sy'n dyddio o'r oes haearn. Cysylltir mynwent o gistiau o'r Oes Efydd, a rhai cistiau o ddechrau'r cyfnod canoloesol, charreg arysgrifedig Gristnogol gynnar a safle posibl mynachlog ganoloesol Ty Gwyn, a cheir ffynnon sanctaidd yn Ffynnon Faiddog hefyd. Mae nodweddion tirwedd yn cynnwys system ganoloesol o lain-gaeau, dwy ardal o dir comin wedi'i gofnodi yng Ngharnedd Lleithr a Waun Llaethdy, a chwarel l-ganoloesol.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Porthmawr yn gorwedd rhwng y gweundir agored i'r gogledd a'r tywod digysgod i'r de ac mae ar wahn iddynt. I'r gorllewin mae'r mr. Dim ond i'r dwyrain y mae ffin yr ardal hon a'i chymydog yn anodd ei diffinio, am fod gan y ddwy lawer o nodweddion tebyg, er bod y waliau cerrig sych a diffyg cyffredinol adeiladau modern yn diffinio Porthmawr ac yn ei gosod ar wahn i ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Treleddyd-Treto-Caerfarchell.

Ffynonellau: Charles 1992; Fenton 1811; Fox 1937; Howell 1993; Howells 1987; James 1981; James 1993; Jones a Freeman 1856; Lewis 1833; Manby 1801; Rees 1932; Romilly Allen 1902; Map degwm a rhaniad Tyddewi 1840; Willis-Bund 1902

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]