Cartref > Tirweddau Hanesyddol >Tyddewi >

287 TYWYN

CYFEIRNOD GRID: SM738268
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 66.8

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ychydig i'r de o Benmaendewi, ac yn cyffinio ag ardal o dywod chwyth, sef 'The Burrows', a ddatblygodd yn ystod y cyfnod hanesyddol ac sydd erbyn hyn wedi'i gorchuddio phorfa. Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai'r ardal o fewn Cantref Pebidiog, neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. Lleolir yr ardal gymeriad o fewn plwyf mawr Tyddewi, lle'r oedd nifer o isgapeli, a hyd yn oed heddiw mae iddi dopograffi eglwysig go arbennig. Yn ardal gymeriad Tywyn gall rhai o'r elfennau eglwysig fod yn gynnar. Honnodd Richard Fenton fod adeilad - sef eglwys wreiddiol Dewi Sant - yn gorwedd o dan y twyni tywod, sy'n amheus, yn ogystal Menapia, sef y'safle' Rhufeinig hollol ffug a grwyd ganddo. Fodd bynnag, cofnodwyd yr enw lle 'yr hen eglwys' tua'r dwyrain o'r ardal, sy'n cyfeirio o bosibl at gapelyddiaeth ddiweddarach, ac mae beddrodau cist wedi'u darganfod yn y capel sydd wedi'i gysegru i Badrig Sant ym mae Porthmawr, a leolir mewn man lle efallai yr esgynnai pererinion ar longau ar ddechrau'r Oesoedd Canol. Ymddengys nad oedd unrhyw dywod yn yr ardal gymeriad yn ystod y cyfnod canoloesol ar l y goresgyniad Eingl-Normanaidd pan gofnodwyd bod 2 fufedd o dir yn Nhrewilym, gwerth 20c y flwyddyn, yn Llyfr Du Tyddewi, dyddiedig 1326, yn eiddo i faenor Cantref Cymreig. Erbyn hyn mae'r tir r hwn yn gorwedd o dan y twyni tywod, a oedd wedi ffurfio oddeutu 1800 pan gawsant eu disgrifio gan Fenton, a phan oeddynt wedi'u gorchuddio phorfa agored. Dangosir hyn fel tir comin heb aneddiadau ar fap degwm 1840 yn ymestyn ychydig i'r dwyrain o'r terfyn presennol. Fe'u hamgaewyd gan Ddeddf Seneddol ym 1869, ond ymddengys na chafodd hyn fawr ddim effaith ar y dirwedd ac nid arweiniodd at fawr ddim caeau newydd a dim aneddiadau newydd. Symudwyd llwythi o dywod yn ystod yr ail ryfel byd er mwyn adeiladu meysydd awyr Tyddewi a Breudeth. Cyfyngir datblygiad diweddar i gwrs golff, gwesty a thai gwasgaredig.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Porth Mawr yw ffin orllewinol ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Tywyn. O'r traeth mae'r tir yn codi'n gyflym i'r dwyrain i uchder o 25m, yna yn fwy graddol i uchafswm uchder o 60m fwy neu lai. Gorchuddir bron yr ardal gyfan thywod chwyth, sy'n ffurfio system o dwyni tywod ar hyd yr arfordir gyda thir pori sefydlog dros y tywod i ganol y tir. Er iddi gael ei hamgu gan y Senedd yn y 19eg ganrif, ni newidiodd cymeriad hanesyddol yr ardal hon fawr ddim dros y canrifoedd, tan ganol yr 20fed ganrif, pan sefydlwyd cwrs golff a chlwb, a phan adeiladwyd gwesty a nifer o anheddau. At hynny, lleolir maes parcio mawr ac arno darmac a thoiledau, caffi a chyfleusterau eraill ym Mhorth Mawr i wasanaethu'r nifer fawr o dwristiaid sy'n ymweld 'r rhan hon o'r arfordir. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg ar hyd cwr gorllewinol yr ardal. Gerllaw'r maes parcio, wedi'u diogelu gan amddiffynfeydd arfordirol, mae olion capel l-ganoloesol Padrig Sant yn gorwedd o dan dwmpath glaswelltog. At ei gilydd mae'r adeiladau wedi'u hadeiladu o goncrid a briciau. Mae defnydd a wneir o'r tir yn cynnwys tywod chwyth yn agos at yr arfordir, y cwrs golff, a phorfa heb ei gwella yng nghyrion deheuol yr ardal. Er gwaethaf yr adeiladau a'r cwrs golff sy'n perthyn i'r 20fed ganrif, mae i'r ardal hon olwg agored o hyd, er i glawdd 'yn null Sir Benfro' gael ei adeiladu yn ddiweddar ar draws rhan o'r system o dwyni tywod. Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig yn yr ardal hon.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys coedwig foddedig a darganfyddiadau mesolithig ar y blaen draeth, lle y mae pedwar man darganfod cynhanesyddol arall yn cynnwys tri o'r oes efydd. Mae yna siambr gladdu neolithig bosibl. Cysylltir Capel Padrig Sant, sy'n gofrestredig, beddrodau cist ac efallai ei fod yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol. Nid oes unrhyw dystiolaeth faes o Menapia, tra bod yr enw lle 'yr hen eglwys' ac anheddiad canoloesol Trewilym yn gorwedd o dan y twyni tywod. Ceir hefyd chwarel l-ganoloesol.

Mae golwg agored a thywod chwyth yr ardal hon yn ei gosod ar wahn i ardaloedd cymeriad y dirwedd hanesyddol cyfagos lle y ceir ffermydd a chaeau gwasgaredig.

Ffynonellau: Charles 1992; Fenton 1811; Howell 1993; Howells 1987; James 1981; James 1993; Jones a Freeman 1856; Lewis 1833; Manby 1801; Archifdy Sir Benfro QRE/10; Rees 1932; Map degwm a rhaniad Tyddewi 1840; Willis-Bund 1902

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]