Cartref > Tirweddau Hanesyddol >Tyddewi >

 

288 TRELEDDYD - TRETO - CAERFARCHELLTYWYN

CYFEIRNOD GRID: SM763280
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1911

Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr o fewn ffiniau modern Sir Benfro. Fe'i lleolir ar Benrhyn Tyddewi ac mae ei thirwedd hanesyddol o ddiddordeb mawr. Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai o fewn Cantref Pebidiog, neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. Lleolir yr ardal gymeriad o fewn plwyf Tyddewi, lle'r oedd nifer o isgapeli, a hyd yn oed heddiw mae iddi dopograffi eglwysig go arbennig. Yn rhedeg ar draws yr ardal mae Ffos-y-mynach, sef cloddwaith y credid yn draddodiadol ei fod yn ffin ar ddechrau'r cyfnod canoloesol, cred sydd o bosibl yn seiliedig ar ffaith am nad yw'n cynrychioli ffin plwyf Tyddewi ac am y gall gynrychioli rhaniad cynharach. Mae archeoleg yr ardal hon yn cadarnhau traddodiad eglwysig cryf yn dyddio o'r cyfnod cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd. Mae tri chrynodiad o Henebion Cristnogol Cynnar a safleoedd tair cistfynwent sy'n perthyn i'r Oesoedd Tywyll. At hynny, mae nifer o enwau lleoedd yn cynnwys yr elfen llan sydd efallai yn cynrychioli capeli diflanedig. Gallai fod llawer ohonynt yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol, fel capeli defodol yn hytrach nag fel capeli anwes ffurfiol. Fodd bynnag, mae enwau llawer o'r capeli hyn yn cynnwys yr elfen 'hen' ac mae'n bosibl eu bod yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol Chantref Pebidiog a grwyd yn ddiweddarach ym 1536. Mae rhan fach o'r ardal i'r dwyrain yn gorwedd o fewn plwyf Llanhywel, rhaniad canoloesol o Bebidiog, a gadwyd gan y Goron tan 1302 pan drosglwyddwyd y fywoliaeth i Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ni ddaeth Tre-groes, a orweddai i'r dwyrain hefyd, yn blwyf tan y cyfnod l-ganoloesol, ac yn wreiddiol un o gapelyddiaethau plwyf Tyddewi ydoedd. Roedd y rhan fwyaf o'r ardal gymeriad wedi'i rhannu rhwng 'maenorau' Cantref Cymreig a Thydwaldy. Fodd bynnag, ymddengys i'r systemau tirddaliadaeth Cymreig oroesi, er iddynt gael eu haddasu mewn amrywiol ffyrdd, a pharhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal tan ddechrau'r 20fed ganrif hyd yn oed. Roedd Pebidiog yn enwog am ei dir r ffrwythlon. Yn l y cyfrifiad yn Taylors Cussion gan George Owen, roedd yn un o'r ardaloedd mwyaf trwchus ei phoblogaeth yn Sir Benfro yn yr 16eg ganrif, a chanddi'r nifer fwyaf o barau gwedd, ac a gynhyrchai lawer iawn o haidd. Ychydig iawn o laethdai a gofnodwyd. Mae Llyfr Du Tyddewi dyddiedig 1326 yn rhoi rhyw syniad o ddwysedd y boblogaeth yn ystod cyfnod cynharach, ac o fewn Cantref Cymreig mae'n rhestru, ymhlith eraill, dreflannau Carnhedryn, Lleithyr, Treleddyd, Trelewyd, Treleidr, Tremynydd, Treliwyd, a Phenarthur, ac yn Nhydwaldy, dreflannau Penberi, Tre-hysbys, Treiago, Tremynydd (eto), a Thretio. Roedd pob un yn lled-faenoraidd, ac fe'u delid yn l fersiwn o arfer Cymreig lle yr arferid system o dir r a thir allan. Yn l y system hon delid y tir nid gan berchennog unigol, ond gan ddau berson a'u cydberchenogion. Mewn gwirionedd newydd ei ddiddymu yr oedd system 'gafael cenedl' ym Mhebidiog pan ysgrifennodd Owen c.1600, fod y tir yn dal yn agored 'ac yn nannedd tymhestloedd'. Mae mapiau sy'n dyddio o'r 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif hefyd yn dangos bod cryn dipyn o'r tir yn dir agored nas amgaewyd. O'r system dirddaliadaeth hon yr oedd prif batrwm anheddu'r ardal wedi deillio, patrwm a gynrychiolir gan y dwysedd uchel o bentrefannau bach. Mae enwau llawer o'r rhain yn cynnwys yr elfen Tre- ac maent yn seiliedig i raddau helaeth ar y treflannau canoloesol. Mae Treto, Treleidr a Threleddyd ymhlith y pentrefannau a ddangosir fel aneddiadau cnewyllol bach ar fapiau ystad o ddiwedd y 18fed ganrif. Dangosir rhai o'r aneddiadau hyn wedi'u hamgylchynu gan system o gaeau isrannedig, a cheir yr enghreifftiau gorau o hyn yn Nhreleddyd a Gwrhyd-Mawr. Nid y lleiniau crwm, cul, hir sy'n nodweddiadol o system 'Seisnig' o gaeau agored mo'r israniadau neu'r lleiniau yn y systemau hyn, ond yn hytrach 'cyfrannau' hirsgwar wedi'u gwasgaru ar draws ardal eang. Goroesodd y systemau hyn o systemau tirddaliadaeth Cymreig. Roedd gan bob pentrefan neu drefgordd ei system ei hun ond roedd y mwyafrif o bentrefannau - ac yn l pob tebyg y treflannau canoloesol - yn gysylltiedig dwy ardal ar wahn o dir comin. Gelwid y naill ardal yn 'gomin' a'r llall yn waun, ac roedd yr olaf yn dir diffaith. Erbyn hyn ceir grp o adeiladau fferm l-ganoloesol ym mhob pentrefan. Mae'r rhain weithiau'n cynnwys capel ac er eu bod fel arfer yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu'r 19eg ganrif ac yn cynrychioli amrywiaeth o enwadau, ymddengys mewn rhai achosion eu bod yn sefyll ar safle crefyddol cynharach. Er enghraifft yng Ngharnhedryn mae Heneb Gristnogol Gynnar gerllaw, mae gan Gaerfarchell safle mynwent gerllaw ac mae gan Landidgige gapel canoloesol sydd wedi'i gofnodi mewn dogfennau. Roedd y system dirddaliadaeth hon wedi darfod yn llwyr erbyn diwedd y 18fed ganrif. Dengys map o Dreleddyd o 1786 leiniau gwasgaredig, agored, ond erbyn 1821 roedd y patrwm hwn wedi'i amgu ac roedd llawer o'r lleiniau wedi'u troi'n gaeau hirsgwar. Safleoedd hen bentrefannau yw'r daliadau mawr megis Pwllcaerog, pentrefannau a drodd yn raddol yn ffermydd unigol neu br. Mae ffermydd pr yn nodwedd o'r dirwedd hon. Ymddengys fod ffermydd unig llai o faint, megis Penlan, yn eithaf diweddar, ac mae'n debyg iddynt gael eu sefydlu ar gyn-gaeau agored y treflannau neu Dyddewi yn ystod yr 16eg ganrif neu'r 17eg ganrif, tra ymddengys fod yr anheddiad cnewyllol yn Nhre-groes yn hollol fodern. At hynny, mae safle Anheddiad Gwledig Anghyfannedd gerllaw Hendre. Fel y mwyafrif o'r safleoedd sy'n gyfoes ag ef, mae'r safle hwn yn cynrychioli anheddiad sgwatwyr o'r 18fed ganrif ar gyrion Comin Dowrog. Mae economi'r ardal wedi aros yn un amaethyddol i raddau helaeth iawn ac ers canol yr 20fed ganrif fe'i nodweddwyd gan dyfu tatws cynnar. Serch hynny sefydlwyd llawer o chwareli ar hyd yr arfordir yn ystod y cyfnod l-ganoloesol, yn ogystal ag o leiaf un odyn galch.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fawr a chymhleth ydyw sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o ran ogleddol Penrhyn Tyddewi. At ei gilydd mae'r tir yn wastad neu'n graddol ddisgyn. Mae'r mwyafrif o'r llethrau'n wynebu'r de ac maent wedi'u lleoli rhwng 50m ac 80m. Mae rhan o'r ardal ogleddol yn cynnwys clogwyni uchel, ac mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg ar hyd pen y clogwyni hyn. Mae'n dirwedd amaethyddol, ac mae'r ardal gyfan wedi'i rhannu'n gaeau bach i ganolig eu maint. Mae gan y caeau amrywiaeth o siapiau, ac er bod y mwyafrif yn afreolaidd eu sip neu'n tueddu at fod yn hirsgwar, ceir is-systemau bach o gaeau byr a chanddynt sip llain, megis y caeau hynny yn agos at Dreleidr, Treleddyd a Gwrhyd-Mawr, y mae'n amlwg eu bod wedi datblygu o system o gaeau isrannedig, agored. Ar draws ardal mor helaeth o dirwedd mae'n amlwg bod ffiniau'r caeau yn amrywio, ond mae'r mwyafrif yn cynnwys cloddiau pridd neu gloddiau pridd a cherrig, a cheir rhai cloddiau o gerrig llanw a waliau sych. Lle y ceir gwrychoedd maent yn isel ac yn ddigysgod, ac yn aml iawn nid ydynt yn ddim mwy na rhesi di-drefn o lwyni ac eithin. Mae ffensys gwifrau wedi'u hychwanegu at y mwyafrif o'r ffiniau hanesyddol. Un nodwedd arbennig o rannau o'r dirwedd yw'r defnydd a wneir o bileri neu feini hirion wedi'u plastro morter ar gyfer pyst gatiau. Ar wahn i ambell blanhigfa fach iawn o goed coniffer, mae'r dirwedd yn y bn yn foel. Tir pori wedi'i wella yw'r tir amaeth ond mae cyfran fach ond sylweddol ohono yn dir r. Ceir ychydig o dir garw, brwynog a phorfa heb ei gwella hefyd. Mae nifer o gronfeydd dyfrhau bach yn perthyn i'r 20fed ganrif yn cyfrannu at gymeriad yr ardal hefyd. Mae'r patrwm anheddu yn un cymhleth. Yr elfennau mwyaf amlwg yw nifer o bentrefannau amaethyddol gwasgaredig bach - sef Treto, Caerfarchell, Rhodiad, Carnhedryn, Gwrhyd-Mawr, Treleidr a Threleddyd. Mae'r rhain yn cynnwys grwpiau tyn iawn o ffermdai, bythynnod, tai allan ffermydd ac mewn rhai achosion capeli. Mae'r adeiladau, gan gynnwys y capeli, at ei gilydd yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu'r 19eg ganrif. Maent wedi'u hadeiladu o gerrig, sy'n foel neu wedi'u rendro sment, ac mae ganddynt doeau llechi y mae rhai ohonynt wedi'u gorchuddio sgim o sment. Fel arfer mae gan bob pentrefan brif fferm sy'n cynnwys adeilad deulawr wedi'i adeiladu yn yr arddull Sioraidd bonheddig, rhes fawr o dai allan wedi'u hadeiladu o gerrig a strwythurau amaethyddol modern helaeth o ddur, concrid neu asbestos. Yn agos at y brif fferm efallai y ceir ail fferm, yn yr arddull Sioraidd neu yn yr arddull brodorol, a nifer o fythynnod unllawr, llawr a hanner, a deulawr yn yr arddull brodorol. Mewn rhai achosion ceir enghreifftiau o aneddiadau isganoloesol. Yng Ngharnhedryn mae anheddau modern mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau yn ychwanegu at gymeriad yr anheddiad, ond yn y mwyafrif o'r pentrefannau mae datblygiad diweddar yn gyfyngedig iawn neu nid yw'n bod ac mae cymeriad amaethyddol yr aneddiadau hyn sy'n perthyn i'r 18fed ganrif a'r 19fed ganrif yn amlwg o hyd. Mewn sawl achos mae'r pentrefannau wedi'u hamgylchynu gan batrwm o lain-gaeau amgaedig, sydd wedi dirywio gryn dipyn erbyn hyn. Y llain-gaeau hyn yw'r hyn sydd wedi goroesi o gaeau agored neu isrannedig canoloesol yr anheddiad. Mae ffermydd pr a/neu ffermydd mawr iawn, megis Pwllcaerog, yn un o elfennau eraill y patrwm anheddu. Mae'r mathau o adeiladau yn debyg i'r rhai yn y pentrefannau, ac mae tai allan amaethyddol mawr modern yn elfen gref yn y dirwedd. Mae ffermydd gwasgaredig llai o faint wedi'u hadeiladu mewn sawl arddull: adeiladau brodorol o gerrig wedi'u rendro sment yn dyddio o'r 19eg ganrif a chanddynt res fach o dai allan o gerrig; tai o gerrig nadd patrymog a godwyd ar ddechrau'r 19eg ganrif ar gyfer mn foneddigion lle y ceir rhesi helaeth o adeiladau allan modern; a ffermdai a godwyd o friciau neu goncrid gydag adeiladau allan modern yn dyddio o'r 20fed ganrif. Yn ogystal 'r anheddau amaethyddol, mae ychydig o dai modern ar draws yr ardal mewn gwahanol arddulliau a deunyddiau, ond nid yw'r rhain yn elfennau cyffredin o'r patrwm anheddu. Mae 36 o adeiladau rhestredig yn yr ardal - dwysedd uchel iawn ar gyfer ardal wledig lle y mae'r aneddiadau yn wasgaredig. Mae eglwys Llanhywel yn rhestredig Gradd II* tra bod yr eglwys yn Nhre-groes yn rhestredig Gradd II. Ymhlith y ffermdai sy'n rhestredig Gradd II* mae Hendre, Lleithyr, a Phenberi. Mae deg adeilad rhestredig yng Nghaerfarchell gan gynnwys y ffermdy a'r tai allan, y Mans, tai allan a thwlc mochyn, T Hamilton a'i adeiladau allan a'r hen swyddfa bost, sydd i gyd yn rhestredig Gradd II, a'r capel sy'n rhestredig Gradd II*. Mae'r 8 adeilad rhestredig yn Rhodiad-y-Brenin yn cynnwys ffermdy Gwrhyd Bach - enghraifft glasurol o d isganoloesol o Ogledd Sir Benfro, sydd simnai gron a rhan ochrol - a ffermdy Gwrhyd Canol, y capel, y bont a phwmp yr hen lan, sydd i gyd yn rhestredig Gradd II. Mae Ffermdy Penlan, ei dai allan a'i ffynnon amgaedig i gyd yn rhestredig Gradd II, a hefyd Treleddyd Fawr, T-canol, lle y mae tyllau gwenyn yn y waliau, a ffermdy Tremynydd Fawr, y t ceirt a 2 res o dai allan. Mae hen ffermdy Cerbyd a'i dai allan yn rhestredig Gradd II. Mae'r ficerdy yn Nhre-groes a'i adeiladau allan yn rhestredig Gradd II. Mae pontydd Pont-y-Cerbyd a Phont Penarthur hefyd yn rhestredig Gradd II. Roedd Hendre Eynon a Phwllcaerog hefyd yn ffermdai isganoloesol yng Ngogledd Sir Benfro. Ceir hefyd yn rhai o'r pentrefannau gapeli l-ganoloesol - yng Ngharnhedryn a Thretio er enghraifft. Mae sawl maes gwersylla a pharc carafanau yn yr ardal, a rhai adeiladau fferm a addaswyd er mwyn darparu cyfleusterau a llety i dwristiaid. Lleolir safle gwaredu gwastraff o eiddo'r cyngor ar gyrion mwyaf deheuol yr ardal hon. Y prif gysylltiad ar gyfer trafnidiaeth yn yr ardal hon yw ffordd yr A487 o Dyddewi i Abergwaun, a fu gynt yn ffordd dyrpeg, ac mae'r B4583 i'r gogledd yn ffordd eilradd. Mae'r ffyrdd eraill yn gul ac yn droellog ac o bobtu iddynt ceir cloddiau uchel.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfoethog ac yn amrywiol, gydag elfennau arwyddocol yn dyddio o ddechrau'r Oesoedd Canol. Mae'n cynnwys siambr gladdu neolithig gofrestredig yn Lecha, tair siambr gladdu bosibl a chylch cerrig posibl, pedwar crug crwn posibl o'r oes efydd a thri maen hir posibl. Mae dwy fryngaer gofrestredig o'r oes haearn, a man darganfod o'r oes haearn neu'r cyfnod Rhufeinig. Cofnodwyd beddrodau o ddechrau'r Oesoedd Canol yng Nghaerfarchell, Tremynydd a Waun-y-Beddau. Ceir Henebion Cristnogol Cynnar yng Ngharnhedryn, Penwaun, Penarthur - sydd bellach wedi'u symud i Eglwys Gadeiriol Tyddewi - a Thre-groes tra gall cloddwaith Ffos-y-mynach berthyn i ddechrau'r cyfnod canoloesol. Mae safleoedd capeli canoloesol, a safleoedd posibl, ar safleoedd capeli Llandigige, Penberi, a Threleidr, tra bod Gwrhyd yn dal i sefyll yn ystod y 18fed ganrif. Sair yr hyn a all fod yn fwnt gerllaw Treiago. At hynny mae'r anheddiad canoloesol ym Mhwllcaerog, lle y mae melin ddr, melinau a phontydd l-ganoloesol eraill, anheddiad gwledig anghyfannedd o'r cyfnod l-ganoloesol, grobwll, llawer o chwareli ac odyn galch, a chlostiroedd eraill o gymeriad anhysbys.

Mae'r patrwm o bentrefannau a chyn-gaeau isrannedig yn nodweddu'r ardal hon ac yn gwahaniaethu rhyngddi a'r ardaloedd tirwedd hanesyddol yn cynnwys ffermydd a chaeau gwasgaredig sy'n gorwedd i'r gorllewin, ac i'r de, er nad yw'n bosibl diffinio ffin bendant rhyngddynt; yn hytrach ceir ardal gyfnewid. Ar yr ochr ogleddol mae i'r ardal hon ffin bendant iawn am ei bod yn cyffinio naill ai gweundir agored neu'r mr. Ni ddiffiniwyd yr ardaloedd cymeriad i'r dwyrain eto, ond yn y fan hon mae'r dirwedd yn cynnwys ffermydd gwasgaredig a systemau o gaeau mawr eithaf rheolaidd eu sip.

Ffynonellau: Charles 1992; Cooper 2001; Dicks 1968; Fenton 1811; Fox 1937; Howell 1993; Howells 1971; Howells 1987; James 1981; James 1993; Jenkins d.d.; Lewis 1833; Map degwm a rhaniad Llanhywel, 1842; Ludlow 1998; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Picton Castle 1; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Casg RKL (496) Llanhowell Rhif 5; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Casg RKL Rhif 39: Llyfrgell Genedlaethol Cymru Casg Rhif 39: Llyfrgell Genedlaethol Cymru Casg RKL Rhif 42; Llyfrgell Genedlaethol Cymru 142296 Rhif 77; Archifdy Sir Benfro D/RTP/HIG/11; Archifdy Sir Benfro hdx/538/1; Archifdy Sir Benfro D/RTP/HIG/130; Archifdy Sir Benfro D/RTP/HIG/J H Harries 6/7; Archifdy Sir Benfro D/RTP/HIG/J H Harries 6/72; Archifdy Sir Benfro D/RTP/HIG/J H Harries 6/73; Archifdy Sir Benfro D/RTP/HIG/13; Pritchard 1906; Rees 1932; Romilly Allen 1902; Map degwm a rhaniad Tyddewi, 1840-41; Map degwm a rhaniad Tre-groes (Tyddewi), 1840-41; Willis-Bund 1902

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]