|
289 TRELEDDYN - TREGINNIS
CYFEIRNOD GRID: SM730248
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 454.4
Cefndir hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro ym mhen de-orllewinol Penrhyn
Tyddewi. Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai o fewn Cantref Pebidiog,
neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n
graidd i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef
brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. Lleolir yr ardal gymeriad
o fewn plwyf Tyddewi, lle'r oedd nifer o isgapeli, a hyd yn oed heddiw
mae iddi dopograffi eglwysig go arbennig. Fodd bynnag, mae tystiolaeth
bod topograffi presennol yr ardal yn cuddio tirwedd gynharach ar ben de-orllewinol
y penrhyn lle y mae carnedd glirio a'r hyn y tybir ei fod yn system gaeau,
efallai o'r oes efydd. Mae'r archeoleg yn cadarnhau pa mor bwysig oedd
yr ardal ar ddechrau'r cyfnod canoloesol; yng Nghapel Sant Justinian's
sy'n perthyn i ddiwedd yr Oesoedd Canol cafwyd tystiolaeth o'r hyn sydd
yn ôl pob tebyg yn fynwent yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol, mae
safle llys posibl yn Henllys, tra ymddengys fod Clegyr-Boia wedi'i enwi
ar ôl pennaeth o'r 6ed ganrif. Mae'n bosibl bod capel ym Mhorthlysgi hefyd
yn ystod yr Oesoedd Canol. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob
ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal
a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol â Chantref Pebidiog
a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536. Fodd bynnag, ymddengys fod systemau
tirddaliadaeth Cymreig wedi goroesi, er iddynt gael eu haddasu mewn ffyrdd
gwahanol, tra parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal hyd
ddechrau'r 20fed ganrif. Roedd Pebidiog yn enwog am ei dir âr ffrwythlon
ac yn arbennig cynhyrchai lawer o haidd, ac roedd dwysedd ei boblogaeth
yn uchel. Mae Llyfr Du Tyddewi, dyddiedig 1326, yn rhestru ymhlith treflannau
'maenor' Cantref Cymreig, Dreleddyn (a 'Threfuergu' gerllaw) ac, o fewn
'maenor' Crugheli, y dreflan yng Nghastell Heinif. Ni cheir sôn am Dreginnis,
a gofnodwyd yn gyntaf ym 1335, Clegyr-Boia a gofnodwyd yn gyntaf ym 1472
a Rhosson, a gofnodwyd yn gyntaf ym 1490 - roedd y ddwy olaf yn gysylltiedig
â thai isganoloesol - a Phencarn a gofnodwyd yn gyntaf ym 1602. Roedd
pob un yn lled-faenoraidd, ac fe'u delid yn ôl fersiwn o arfer Cymreig
lle yr arferid system o dir âr a thir allan. Yn ôl y system hon delid
y tir nid gan berchennog unigol, ond gan ddau berson a'u cydberchenogion.
Mewn gwirionedd newydd ei ddiddymu yr oedd system 'gafael cenedl' ym Mhebidiog
pan ysgrifennodd Owen c.1600, fod y tir dal yn agored 'ac yn nannedd tymhestloedd'.
Dengys mapiau o'r 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif fod llawer o'r
tir yn dal i fod yn agored. O'r system dirddaliadaeth hon yr oedd prif
batrwm anheddu'r ardal wedi deillio, patrwm a gynrychiolir gan y dwysedd
uchel o bentrefannau bach. Mae enwau'r mwyafrif o'r pentrefannau hyn yn
cynnwys yr elfen Tre- ac maent yn seiliedig i raddau helaeth ar y treflannau
canoloesol. Erbyn hyn ar bob pentrefan ceir grðp o adeiladau fferm ôl-ganoloesol.
Ymddengys fod pob un yn arfer bod yn gysylltiedig â dwy ardal fach ar
wahân o dir comin. Gelwid y naill ardal yn 'gomin' a'r llall yn waun,
ac roedd yr olaf yn dir diffaith. Mae'n bosibl bod y system hon yn mynd
yn ôl i'r cyfnod canoloesol ond mae'n ddiddorol nodi bod Trefeiddan (ardal
gymeriad Pwll Trefaiddan), nas cofnodwyd tan 1614, yn dangos yr un cysylltiad
dwbl â thir comin ac felly gallai'r system ddyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol.
Mae tir comin yn St Justinian's hefyd. Mae Treleddyn, Pencarnan a Threfeiddan
ymhlith y pentrefannau a ddangosir fel aneddiadau cnewyllol ar ddau fap
ystad yn dyddio o 1762 a 1811, wedi'u hamgylchynu gan ardaloedd helaeth
lle y ceir systemau o gaeau agored, a ddelid yn ôl pob tebyg fel 'cyfrannau'
mewn system a oedd wedi goroesi o system Gymreig o dirddaliadaeth. Mae'r
system o gaeau agored yn amlwg iawn ar y map a dynnwyd ym 1762, ond erbyn
1811 roedd wedi'i hamgáu yn rhannol a'u troi yn system o gaeau hirsgwar,
afreolaidd. Roedd y broses wedi'i chwblhau erbyn arolwg degwm 1840. Fodd
bynnag, dengys y map degwm yr ychydig olion sydd ar ôl o system o lain-gaeau
isrannedig yng Nghlegyr-Boia, fel nifer fach o leiniau yn bresennol mewn
caeau mawr, ond ym mhob man arall roedd patrwm presennol y caeau eisoes
yn ei le. Mae economi'r ardal wedi aros yn un amaethyddol i raddau helaeth
iawn ac ers canol yr 20fed ganrif fe'i nodweddwyd gan dyfu tatws cynnar,
ond mae ffald anifeiliaid yn perthyn i'r cyfnod ôl-ganoloesol yn Nhrefeiddan.
At hynny, sefydlwyd llawer o chwareli ar hyd yr arfordir yn ystod y cyfnod
ôl-ganoloesol, yn ogystal ag o leiaf un mwynglawdd copr a oedd yn gweithio
yn ystod degawdau cyntaf y 19eg ganrif. Sefydlwyd gorsaf bad achub yn
St Justinian's ar ddiwedd y 19eg ganrif, ac adeiladwyd tðr gwylio - gan
fenter breifat yn ôl pob golwg - gerllaw. Yn fwy diweddar bu pwyslais
ar dwristiaeth a hamdden a darparwyd parc carafanau ym Mhencarnan.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd Lleolir ardal gymeriad
tirwedd hanesyddol Treleddyn - Treginnis ym mhwynt mwyaf de-orllewinol
penrhyn Tyddewi. Mae clogwyni yn ffinio â'r ardal i'r gorllewin ac i'r
de. Mae'r rhain yn codi i uchder o 30m fwy neu lai, yna mae'r tir yn gwastatáu
yn llwyfandir o fryniau isel sy'n gorwedd rhwng 30m a 50m. Mae cerrig
brig tebyg i foelydd - monadnocau - sy'n codi 10m i 20m allan o'r llwyfandir
yn un o nodweddion amlwg y dirwedd naturiol. Nodweddir y dirwedd hanesyddol
gan ffermydd a chaeau gwasgaredig. Mae patrwm y caeau yn un o glostiroedd
bach afreolaidd eu siâp. At ei gilydd rhennir y caeau gan gloddiau o gerrig
llanw, waliau o gerrig sych, a chloddiau o bridd a cherrig. Nid oes unrhyw
wrychoedd ar y cloddiau sy'n agos at ymyl agored yr arfordir, a lle y
ceir gwrychoedd ymhellach i'r tir maent yn cynnwys rhesi di-drefn isel
o lwyni ac eithin digysgod. Nid oes unrhyw goed i'w gweld yn y dirwedd.
Tir pori wedi'i wella yw'r prif ddefnydd a wneir o'r tir, a cheir rhywfaint
o dir âr. At ei gilydd cyfyngir porfa arw a thir prysgog i'r moelydd caregog
a'r llain gul sy'n gorwedd ar hyd yr arfordir rhwng terfyn y tir amgaeëdig
a phen y clogwyni. Agwedd anarferol a nodedig ar y patrwm anheddu yw lleoliad
ffermydd yng nghysgod y moelydd caregog, sy'n eu cysgodi rywfaint rhag
y gwyntoedd mynychaf o'r de-orllewin. Yn aml rhennir y lleoliadau clyd
hyn gan fwy nag un fferm, fel yn Rhosson a Chlegyr-Boia, ac mae hyn yn
rhoi'r argraff eu bod yn bentrefannau amaethyddol bach, yn hytrach na
ffermydd gwasgaredig, unig, er nad yw'r patrwm hwn mor amlwg â'r patrwm
a geir yn ardal gymeriad hanesyddol Treleddyd - Tretïo - Caerfarchell
i'r gogledd ac i'r dwyrain. Er mai ardal gymeriad tirwedd hanesyddol eithaf
bach ydyw, mae llawer o amrywiaeth o ran y math a ffermdai a geir ynddi,
o dþ isganoloesol ynghyd â simnai 'Fflemaidd' gron yn Rhosson i dþ bonedd
deulawr o'r 18fed ganrif yn Nhreleddyn. Mae'r mwyafrif o'r tai, fodd bynnag,
yn dyddio o'r 19eg ganrif, maent yn eithaf bach ac iddynt ddau lawr a
thri bae, ac yn gyffredinol maent wedi'u hadeiladu yn y traddodiad brodorol,
er bod enghreifftiau o dai yn yr arddull Sioraidd mwy bonheddig. Ceir
ffermdai ac anheddau eraill o'r 20fed ganrif mewn gwahanol arddulliau
a deunyddiau, ond, ac eithrio ar hyd rhai rhannau o'r arfordir, nid ydynt
yn elfen gryf o'r dirwedd. Mae'r hen adeiladau fferm wedi'u hadeiladu
o gerrig ac maent yn dyddio o'r 19eg ganrif. Mae'r mwyafrif yn cynnwys
un rhes fach yn unig, er bod yna gasgliad mwy o faint yn Rhosson a Threginnis
Isaf. Ar yr ail safle mae'r adeiladau wedi'u haddasu'n llety. Mae adeiladau
amaethyddol modern o ddur, concrid a dalennau asbestos yn eithaf bach
o ran maint ac anaml y maent yn bwrw'r adeiladau hyn i'r cysgod. Mae casgliad
bach o adeiladau yn St Justinian's, gan gynnwys y capel canoloesol adfeiliedig,
y gorsafoedd bad achub ac adeiladau modern, yn atyniad i dwristiaid. Mae
nifer o feysydd gwersylla a pharciau carafanau, y mae'r mwyafrif ohonynt
wedi'u lleoli yn agos at yr arfordir. Mae'r ffyrdd a'r lonydd a ddefnyddir
gan y bobl leol yn gul ac yn droellog a cheir cloddiau uchel o bobtu iddynt.
Mae 32 o adeiladau rhestredig yn yr ardal. Mae fferm Rhosson
Uchaf, enghraifft glasurol o dþ isganoloesol o Ogledd Sir Benfro a chanddo
simnai gron a rhan ochrol, yn rhestredig Gradd II*. Mae ffermdai Clegyr-Boia
a Threfeiddan hefyd yn enghreifftiau tebyg o'r tþ isganoloesol yng Ngogledd
Sir Benfro. Mae'r pen ffynnon yn Rhosson Uchaf, a bwthyn Waun Rhosson,
hefyd yn rhestredig Gradd II, yn ogystal â Rhosson-ganol a thþ allan,
ac Ysgol Sul Rhosson, a adeiladwyd ym 1864. Mae'r mwyafrif o'r adeiladau
rhestredig eraill yn dyddio o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Mae ffermdy
Treginnis Uchaf, sydd â simnai gron, a'i res o dai allan, yn rhestredig
Gradd II. Mae wyth adeilad yng Nghroeswdig, gan gynnwys y ffermdy a'r
tair rhes o dai allan, i gyd yn rhestredig Gradd II, yn ogystal â ffermdy
Treleddyn Isaf a dwy res o dai allan. Mae wal yr ardd sydd â phen croes
wedi'i adeiladu i mewn iddi yn Nhreleddyn Uchaf yn rhestredig Gradd II*,
tra bod un o dai allan y fferm yn rhestredig Gradd II. Mae chwe adeilad
yn Nhreginnis Isaf yn cynnwys y ffermdy, pedair rhes o dai allan a'r colomendy,
yn rhestredig Gradd II. Mae Plyg-y-tywyn ar ymyl ogleddol yr ardal, ar
The Burrows, yn fwthyn o ddechrau'r 19eg ganrif sy'n rhestredig Gradd
II. Mae'r gorsafoedd bad achub yn St Justinian's, y naill o 1885 a'r llall
o 1911, yn rhestredig Gradd II, yn ogystal â'r twr gwylio sy'n dyddio
o ddechrau'r 20fed ganrif.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn eithaf amrywiol. Bu darganfyddiadau
mesolithig yn St Justinian's a llawr gweithio fflint ym Mhorthlysgi, tra
bod siambr gladdu neolithig gofrestredig, ac anheddiad neolithig yng Nghlegyr-Boia
o dan y fryngaer ddiweddarach sy'n perthyn i'r oes haearn, sydd hefyd
yn gofrestredig. O'r oes efydd mae man darganfod, carneddau clirio a'r
hyn a all fod yn system o gaeau, dau faen hir posibl a chrug crwn posibl.
Mae bryngaer gofrestredig arall o'r oes haearn, a darganfyddiadau Rhufeinig
eraill ar ymyl y traeth. Mae'n bosibl bod enw lle yn cofnodi safle llys,
tra bod y capel yn St Justinian's sy'n perthyn i ddiwedd y cyfnod canoloesol
ac sy'n gofrestredig ac yn rhestredig Gradd I yn gysylltiedig â mannau
darganfod o ddechrau'r cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol, mynwent
o ddechrau'r Oesoedd Canol, a ffynnon sanctaidd sy'n gofrestredig ac yn
rhestredig Gradd II. Mae ffynnon sanctaidd arall yng Nghlegyr-Boia a chapel
canoloesol posibl ym Mhorthlysgi. Ceir corlan ôl-ganoloesol yn Nhrefeiddan,
llwyfannau adeiladu ym Mhorthlysgi, a chwareli ôl-ganoloesol, mwynglawdd
copr, a nodwedd sydd o bosibl yn gysylltiedig â'r diwydiant mwyngloddio
ar yr arfordir.
Diffinnir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Treleddyn -
Treginnis i'r gorllewin ac i'r de gan glogwyni. I'r gogledd mae ffin bendant
yn erbyn ardal o dywod chwyth a fu gynt yn agored. Dim ond i'r dwyrain
y ceir diffyg ffin bendant gwelir yn hytrach ardal gyfnewid. Yn y fan
hon mae'r ardaloedd cyfagos yn rhannu llawer o nodweddion tebyg, ond mae
digon o wahaniaethau i gyfiawnhau eu rhannu'n ardaloedd cymeriad tirwedd
hanesyddol ar wahân.
Ffynonellau: Charles 1992; Dicks 1968; Fenton 1811; Fox
1937; Howell 1993; Howells 1971; Howells 1987; James 1981; James 1993;
Llyfrgell Genedlaethol Cymru Map 7574; Archifdy Sir Benfro HDX/1006; Romilly
Allen 1902; Map degwm a rhaniad Tyddewi, 1840-41; Williams 1953; Willis-Bund
1902
|