|
291 DYFFRYN ALUN
CYFEIRNOD GRID: SM744248
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 30.4
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro ar ochr ddeheuol Penrhyn
Tyddewi. Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai o fewn Cantref Pebidiog,
neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n
graidd i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef
brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. Lleolir yr ardal gymeriad
o fewn plwyf Tyddewi. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob ar
Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth
eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol â Chantref Pebidiog a grëwyd
yn ddiweddarach ym 1536. Fodd bynnag, ymddengys fod systemau tirddaliadaeth
Cymreig wedi goroesi, er iddynt gael eu haddasu mewn ffyrdd gwahanol,
tra parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal hyd ddechrau'r
20fed ganrif. Mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys dyffryn Afon Alun, yn
union i'r de-orllewin o Glos Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ers dechrau'r 17eg
ganrif mae wedi'i hadnabod fel 'Merryvale' - cyfieithiad Saesneg o Hoddnant,
sef enw'r dyffryn lle y sefydlodd Dewi Sant ei eglwys, ac a adwaenid fel
glyn rhosyn hefyd ('Rosinam Vallem' c.1200). Adeiladwyd castell yn cynnwys
amddiffynfa gylch a beili ('Parc-y-castell') ar ochr orllewinol y dyffryn,
naill ai gan y Brenin Normanaidd William I pan ymwelodd â'r castell ym
1081, neu gan yr Esgob Bernard (neu un o'i olynwyr agosaf). Ymddengys
mai'r castell oedd canolfan weinyddol gynnar Pebidiog ac esgobaeth y diriogaeth,
nes i Balas yr Esgob gael ei adeiladu yn Nhyddewi ar ddiwedd y 12fed ganrif,
pan adawyd y castell yn wag yn ôl pob tebyg. Mae'n bosibl bod y bathdy
a fu'n gweithredu yn Nhyddewi yn ystod y 1090au, ar ran y Goron, wedi'i
leoli o fewn y castell, sy'n awgrymu iddo gael ei adeiladu cyn yr adeg
honno yn hytrach nag ar ei hôl. Mae ffrwd melin wedi'i thynnu o Afon Alun
yn rhedeg drwy'r ardal sy'n cyflenwi Melin Dewiston lle y safai o bosibl
y felin y sonnir amdani yn aml yn Llyfr Du Tyddewi dyddiedig 1326, sy'n
perthyn o bosibl i'r 13eg ganrif. Parhaodd i weithio tan ganol yr 20fed
ganrif. Delid gweddill yr ardal fel tir comin. Roedd rhan ohono'n gysylltiedig
â threflan ganoloesol a diweddarach Clegyr-Boia, ac roedd y gweddill yn
gysylltiedig â bwrdeistref Tyddewi y gorweddai glan ddwyreiniol afon Alun
y tu mewn iddi. Dangosir y tir comin ar fap degwm 1840 lle y mae'n gorchuddio'r
un ardal â heddiw fwy neu lai, a all ddangos ei ffiniau gwreiddiol.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Dyffryn Alun yn cynnwys y rhan
honno o ddyffryn Alun sy'n gorwedd i lawr yr afon o ddinas Tyddewi ac
i fyny'r afon o Borth Clais. Mae'r gorlifdir cul yn gorwedd ar uchder
o 5m - 10m fwy neu lai. Mae ochrau'r dyffryn wedi'u gorchuddio ag eithin
trwchus a llwyni eraill, ac maent yn codi yn serth i ryw 30m o uchder.
Gerllaw'r ddinas tir pori heb ei wella a geir yn y caeau bach, afreolaidd
eu siâp. Erbyn hyn tynnwyd y gwrychoedd i raddau helaeth oddi ar y ffiniau
a adeiladwyd o bridd ac o bridd a cherrig a defnyddir ffensys gwifrau
i ddal yr anifeiliaid. Ymhellach i lawr y dyffryn mae'r tir yn wlyb ac
yn gorslyd, ac mae'r caeau'n wag ac nis defnyddir at ddibenion amaethyddol.
Saif Melin Dewiston ar lawr y dyffryn, a chloddweithiau castell canoloesol
ar ochr y dyffryn. Adeiladwyd gwaith trin carthion modern ym mhen isaf
llawr y dyffryn. Mae Melin Dewiston (Felin Isaf) a'i adeilad allan yn
rhestredig Gradd II.
Mae archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys darganfyddiadau neolithig
a Rhufeinig gerllaw Parc-y-castell, yr amddiffynfa gylch a beili cofrestredig,
gyda lleoliad posibl y bathdy, ac mae man darganfod gerllaw Porth Clais
hefyd. Mae'r colomendy canoloesol i'r gogledd o'r ardal, a'r ffrwd melin
ganoloesol, hefyd yn gofrestredig.
Mae llystyfiant corslyd a/neu brysglog yr ardal gymeriad
tirwedd hanesyddol hon sydd i raddau helaeth yn agored yn gwrthgyferbynnu'n
gryf â'r ardaloedd oddi amgylch lle y ceir ffermydd a chaeau. Ardal tirwedd
hanesyddol ar wahân ydyw.
Ffynonellau: Boon 1986; Charles 1992; James 1981; Soulsby
1983; Map a rhaniad degwm Tyddewi, 1840-41; Willis-Bund 1902
|