Cartref > Tirweddau Hanesyddol >Tyddewi >

 

292 ST NONS - LLANDRIDIAN

CYFEIRNOD GRID: SM769255
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 784.2

Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr o fewn ffiniau modern Sir Benfro ar ochr ddeheuol Penrhyn Tyddewi. Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai o fewn Cantref Pebidiog, neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. Lleolir yr ardal gymeriad o fewn plwyf hanesyddol Tyddewi, lle'r oedd nifer o isgapeli, a hyd yn oed heddiw mae iddi dopograffi eglwysig go arbennig. Ni ddaeth Tre-groes, i'r dwyrain o'r ardal, yn blwyf tan y cyfnod ôl-ganoloesol, ac yn wreiddiol un o gapelyddiaethau Tyddewi ydoedd. Cadarnheir bodolaeth traddodiad eglwysig cryf cyn y Goresgyniad gan archeoleg yr ardal ac mae mynwent bosibl o gistiau hir yn St Non's, lle y mae capel o ddiwedd y cyfnod canoloesol hefyd yn cynnwys Heneb Gristnogol Gynnar. Dyma o bosib safle'r capel a gysylltir â mam Dewi Sant, y cyfeiriwyd ato gan Gerallt Gymro yn y 12fed ganrif. At hynny, mae nifer o enwau lleoedd yn cynnwys yr elfen llan. Er bod llawer o'r rhain yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol, maent yn nodi lleoliadau capeli cynharach, safleoedd defodol yn ôl pob tebyg yn hytrach na chapeli anwes ffurfiol, tra bod yr enw Llysgenydd yn cadw'r elfen llys. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol â Chantref Pebidiog a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536. Roedd y rhan fwyaf o'r ardal gymeriad wedi'i rhannu rhwng 'maenorau' Cantref Cymreig a Thydwaldy, Crugheli a Breudeth. Fodd bynnag, ymddengys i'r systemau tirddaliadaeth Cymreig oroesi, er iddynt gael eu haddasu mewn amrywiol ffyrdd, a pharhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal tan ddechrau'r 20fed ganrif hyd yn oed. Roedd Pebidiog yn enwog am ei dir âr ffrwythlon. Yn ôl y cyfrifiad yn Taylors Cussion gan George Owen, roedd yn un o'r ardaloedd mwyaf trwchus ei phoblogaeth yn Sir Benfro yn yr 16eg ganrif, lle y cofnodwyd y nifer fwyaf o barau gwedd, ac a gynhyrchai lawer iawn o haidd. Ychydig iawn o laethdai a gofnodwyd. Mae Llyfr Du Tyddewi dyddiedig 1326 yn rhoi rhyw syniad o ddwysedd y boblogaeth yn ystod cyfnod cynharach, ac mae'n rhestru, ymhlith eraill, dreflannau Clegyr, Harngleu, Llanungar, Porthlysgi, Trelerw, Trecenny a Vachelich; mae'n bosibl bod Llandridian yn dyddio o'r 15fed ganrif. Roedd pob un yn lled-faenoraidd, ac fe'u delid yn ôl fersiwn o arfer Cymreig lle yr arferid system o dir âr a thir allan. Yn ôl y system hon delid y tir nid gan berchennog unigol, ond gan ddau berson a'u cydberchenogion. Mae olion system o ffermio caeau agored wedi goroesi gerllaw Trelerw fel cyfres o rynnau isel. Mewn gwirionedd newydd ei ddiddymu yr oedd system 'gafael cenedl' ym Mhebidiog pan ysgrifennodd Owen oddeutu 1600, fod y tir yn dal yn agored 'ac yn nannedd tymhestloedd'. Dengys mapiau o'r 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif hefyd fod llawer o'r tir yn agored, ond erbyn 1840, a'r arolwg degwm, roedd y patrwm o gaeau a welir heddiw wedi'i sefydlu. O'r system dirddaliadaeth hon yr oedd prif batrwm anheddu'r ardal wedi deillio, patrwm a gynrychiolir gan y dwysedd uchel o bentrefannau bach. Mae enwau'r pentrefannau hyn yn cynnwys yr elfennau Llan- a Tre- yn bennaf ac maent yn seiliedig i raddau helaeth ar y treflannau canoloesol. Roedd Vachelich a threflan ddiweddarach Llandridian yn gysylltiedig ag ardal gyfansawdd fawr o dir comin i'r gogledd. Lleolir yr hyn sy'n weddill o'r ardal hon o dir comin o fewn ardal gymeriad Waun Caerfarchell. Erbyn hyn saif grðp o adeiladau fferm ôl-ganoloesol ar bob pentrefan. Mae economi'r ardal wedi aros yn un amaethyddol i raddau helaeth iawn ac ers canol yr 20fed ganrif fe'i nodweddwyd gan dyfu tatws cynnar. Serch hynny buwyd yn cloddio ar hyd yr arfordir ers y cyfnod canoloesol pan ddefnyddiwyd tywodfaen porffor Caer Bwdi a oedd â graen main ar gyfer Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Phalas yr Esgob. Sefydlwyd llawer o chwareli eraill ar hyd yr arfordir yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, yn ogystal ag o leiaf un odyn galch. Ar gyrion yr ardal lleolir Maes Awyr Tyddewi, a adeiladwyd yn ystod yr ail ryfel byd. Ar yr un pryd adeiladwyd gwersyll milwrol yng Nghaer Bwdi hefyd, a gwersyll i garcharorion rhyfel yn Llandridian.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol St Nons - Llandridian i'r de o Ddinas Tyddewi bron mor bell i'r dwyrain â Solfach, ac mae'n cynnwys ardal anghysbell fach i'r gorllewin o borthladd Porth Clais. Mae'n cynnwys darn hir o glogwyni uchel ac o bryd i'w gilydd gildraethau bach. Mae'r clogwyni'n codi yn unionsyth i ryw 30m o uchder lle y mae'r tir yn gwastatáu yn llwyfandir o fryniau isel rhwng 30m a 50m o uchder a ddyrennir gan ddyffrynnoedd bas yn rhedeg o'r gogledd i'r de. Ac eithrio coetir prysglog sy'n tyfu yn y cysgod a roddir gan y dyffrynnoedd ac ychydig o goed yn agos at anheddau, tirwedd foel ydyw. Tir pori wedi'i wella ac ychydig o dir âr yw'r tir amaeth. Yn agos at yr arfordir mae'r tir pori fel arfer yn fwy garw a heb ei wella i'r un graddau, ac mae'r llain arfordirol y tu allan i'r terfynau amaethu yn dir garw ac nis porir. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg ar hyd y llain hon. Yn gyffredinol nodweddir yr ardal gan ffermydd gwasgaredig a systemau o gaeau bach afreolaidd eu siâp. Rhennir bron yr holl gaeau gan gloddiau o bridd a cherrig, neu gan gloddiau pridd. Mae rhai enghreifftiau yn eithaf sylweddol. I ganol y tir ceir gwrychoedd digysgod, di-drefn, isel ar ben rhai cloddiau, ond mewn lleoliadau mwy agored yn agos at yr arfordir ni cheir unrhyw wrychoedd. Mae ffensys gwifrau wedi'u hychwanegu at y mwyafrif o'r cloddiau terfyn. Anheddau deulawr yn dyddio o'r 19eg ganrif wedi'u hadeiladu o gerrig ac iddynt doeau llechi a thri bae yw'r prif fath o dai a geir yn yr ardal a cheir enghreifftiau ohonynt yn y traddodiad brodorol a'r arddull Sioraidd bonheddig. Mae cerrig rhai o'r tai hyn yn y golwg, yn achos tai eraill mae'r cerrig wedi'u rendro â sment. Yn y lleoliadau mwy agored, ar rai toeau mae sgim o sment dros y llechi. Yn ogystal â'r ffermydd gwasgaredig, ceir clystyrau bach o anheddau, y mae'r mwyafrif ohonynt yn perthyn i'r 19eg ganrif, yn Nhrelerw a Llandridian, a chlwstwr mwy llac o dai a byngalos yn dyddio o'r 20fed ganrif yn Nhre-groes. Mae anheddau eraill o'r 20fed ganrif mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau wedi'u gwasgaru ar draws yr ardal, ond nid ydynt yn elfen bwysig o'r patrwm anheddu. Mae hen adeiladau fferm at ei gilydd yn fach, a chanddynt un neu ddwy res o adeiladau allan, ac maent wedi'u hadeiladu o gerrig ac arnynt doeau llechi, er bod un neu ddwy enghraifft o gasgliadau mwy sylweddol o adeiladau wedi'u gosod o amgylch iard. Yn yr un modd mae adeiladau amaethyddol modern o ddur, concrid ac asbestos yn tueddu i fod yn gymharol fach, er unwaith eto y ceir ambell gofadail mwy o faint. O fewn yr ardal hon mae set fawr o adeiladau modern y bwriedir iddynt wasanaethu'r diwydiant tatws. Mae llawer o feysydd gwersylla a pharciau carafan wedi'u gwasgaru ar draws yr ardal. Mae nifer o hen adeiladau fferm wedi'u haddasu i wasanaethu'r rhain, ac mae rhai eraill wedi'u haddasu'n llety gwyliau. Lleolir nifer o hen chwareli ar hyd yr arfordir, yn arbennig ym Mae Caerfai a Bae Caer Bwdi, ac mae'r mwyafrif o'r dyffrynnoedd bach ar hyd yr arfordir yn cynnwys olion melinau dðr ac odynau calch. Fodd bynnag, nid tirwedd ddiwydiannol mohoni. Lleolir yr hyn sy'n weddill o'r gwersyll i garcharorion rhyfel a godwyd yn ystod yr ail ryfel byd tua ffin orllewinol yr ardal hon. Mae'r cysylltiadau ar gyfer trafnidiaeth yn cynnwys ffordd yr A487 sy'n crymu o Hwlffordd i Dyddewi i Abergwaun; hen ffordd dyrpeg. Defnyddir ffyrdd a lonydd eraill gan y bobl leol; maent yn droellog ac o bobtu iddynt ceir cloddiau uchel.

Mae 12 o adeiladau rhestredig yn yr ardal, gan gynnwys Capel Santes Non sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol ac sy'n rhestredig Gradd II, a Ffynnon Santes Non, sy'n rhestredig Gradd II*. Mae annedd isganoloesol adfeiliedig yn Croftufty, sydd â simnai gron, yn rhestredig Gradd II ac fe'i cloddiwyd yn rhannol. Mae'r ffermdai yng Nghlegyr Uchaf, Harglodd Isaf, Penberi, Penporthclais a'r Bwthyn, i gyd yn rhestredig Gradd II ynghyd â'r ty yn Rhos-y-cribed sy'n dyddio o'r 18fed ganrif i'r 19eg ganrif, ac adeilad allan. Mae odyn galch i'r de-orllewin o adfeilion Melin Caer Bwdi yn rhestredig Gradd II hefyd. Ystyrir bod y ty pwmpio a adeiladwyd yn y 19eg ganrif ar gyfer Warpool Court, sydd erbyn hyn yn westy yn ardal gymeriad Warpool, yn ffugadeilad ac mae'n rhestredig Gradd II, ynghyd â'r ardd addurniadol gyfoes. Mae'n bosibl bod Pont Clegyr (A487) yn gynnar iawn.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn amrywiol iawn, a cheir canran uchel o safleoedd cynhanesyddol gan gynnwys 9 man darganfod, y mae 6 ohonynt yn perthyn i'r cyfnod mesolithig, un i'r cyfnod neolithig, a 2 i'r oes haearn. Mae cylch cerrig posibl o'r cyfnod neolithig a siambr gladdu bosibl, a siambr gladdu neu faen hir. Mae un maen hir o'r oes efydd yn gofrestredig, ac mae 5 maen hir posibl arall, a 4 crug crwn posibl. Gall clostir, system gaeau, a charnedd glirio ddyddio o'r cyfnod cynhanesyddol ond mae eu dyddiad yn anhysbys. Mae 2 gaer bentir gofrestredig o'r oes haearn a chloddiwyd un ohonynt, sef Porth-y-rhaw, yn ddiweddar. Disgrifiwyd Ffynnon Santes Non a Chapel Santes Non a'i garreg arysgrifedig sy'n perthyn i'r cyfnod canoloesol, ac mae nifer o safleoedd capeli a ffynhonnau sanctaidd eraill, safle ysbyty a'r hyn a all fod yn safle croes. Mae safleoedd ôl-ganoloesol yn cynnwys yr hyn sy'n weddill o gloddweithiau'r felin a'r pyllau ôl-ganoloesol ym Mhorth-y-rhaw, Melin Caer Bwdi a'r ardal gofrestredig lle y buwyd yn cloddio, llawer o chwareli eraill, bythynnod a llwyfan bwthyn, corlan, a sylfeini saith cwt yn y gwersyll a godwyd yng Nghaer Bwdi yn ystod yr ail ryfel byd.

Mae gan ardal gymeriad tirwedd hanesyddol St Non's - Llandridian ffiniau eithaf pendant. I'r de mae'r môr. Ffurfir rhan o'r ffin ogleddol gan Ddinas Tyddewi a'i system flaenorol o gaeau agored, er nad yw'r ffin â'r olaf yn bendant ond yn hytrach mae'n ardal gyfnewid. Mae ffiniau eraill i'r gogledd, yn erbyn tir comin agored ac yn erbyn cyn-faes awyr, yn sefydlog iawn, ond mewn mannau eraill lle y mae'r ardal hon yn cyffinio â thirweddau o gaeau a ffermydd ceir ardal gyfnewid ac nid ffin bendant.

Ffynonellau: Charles 1992; Crane 1993; Crane ar fin ymddangos; Dicks 1968; Evans 1991; Fenton 1811; Fox 1937; Howell 1993; Howells 1971; Howells 1987; James 1981; James 1993; Jenkins d.d.; Lewis 1833; Archifdy Sir Benfro D/RTP/J H Harries 11/3; Archifdy Sir Benfro D/RTP/J H Harries 6/67a; Archifdy Sir Benfro D/RTP/J H Harries 6/68; Archifdy Sir Benfro D/RTP/J H Harries 6/71; Archifdy Sir Benfro D/RTP/Sto/183; Llyfrgell Genedlaethol Cymru 14229/6 Mapiau 76, 78, 80, 81, 92; Rees 1932; Romilly Allen 1902; Map a rhaniad degwm Tyddewi, 1840-41; Map a rhaniad degwm Tre-groes (Tyddewi), 1840-41; Willis-Bund 1902