Cartref > Tirweddau Hanesyddol >Tyddewi >

293 COMIN: DOWROG - TRELEDDYD - TRETO

CYFEIRNOD GRID: SM771273
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 218.7

Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro a leolir yng nghanol Penrhyn Tyddewi. Ymddengys mai tir comin gwlyb, agored fu'r ardal hon erioed. Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai o fewn Cantref Pebidiog, neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol Chantref Pebidiog a grwyd yn ddiweddarach ym 1536. Fodd bynnag, ymddengys i'r systemau tirddaliadaeth Cymreig oroesi, er iddynt gael eu haddasu mewn amrywiol ffyrdd, a pharhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal tan ddechrau'r 20fed ganrif hyd yn oed. Mae'r ardal yn cynnwys nifer o leiniau mawr o dir agored, sy'n wahanol ond sy'n unedig. O'r rhain y mwyaf o bell ffordd yw'r 'Dowrog', y mae ei enw yn deillio o dwfr, a'r l-ddodiad -og sy'n golygu 'lle dyfrllyd neu gors'. Ceir sn amdano yn gyntaf ym 1670, ac nid ymddengys y Dowrog yn Llyfr Du Tyddewi dyddiedig 1326. Felly mae'n debyg na chafodd ei weinyddu'n ffurfiol fel tir comin maenoraidd, ac iddo gael ei drin fel tir diffaith anffurfiol. Fodd bynnag, mewn ardal fach i'r gogledd-orllewin roedd tir diffaith neu 'ros' a oedd yn eiddo i dreflan ganoloesol Treleddyd, tra ymestynnai Tir Comin ffurfiol Treto dros ardal fwy o faint i'r gogledd-ddwyrain. Yn y fan hon, ymddengys fod enghreifftiau pendant o feddiannaeth yn 'ddrylliau' o gaeau agored yn hytrach na meddiannaeth gan sgwatwyr, ac mae'n bosibl eu bod yn cynrychioli meddiannaeth o dreflan Treto yn ystod y 13eg ganrif neu'r 14eg ganrif. Yn gyffredinol, rhwystrodd natur wlyb iawn yr ardal bobl rhag ymdrechu ar y cyd i feddiannu'r tir comin. Erbyn hyn rheolir rhan o'r ardal gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r holl ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys tir comin agored. Mae'n ymestyn dros nifer o dafodau cydgysylltiedig o dir sy'n gorwedd ar waelod pantiau a dyffrynnoedd agored yng nghanol plwyf Tyddewi, rhwng 45m a 55m o uchder. Mae'n ardal wlyb, corslyd a mawnaidd, gydag ambell haen o ddr agored. Ychydig iawn o anifeiliaid sy'n pori ar y comin erbyn hyn, ac ar y nifer fach o ardaloedd sychach mae coetir prysglog yn dechrau datblygu. Torrid mawn ar y comin gynt. Nid oes unrhyw aneddiadau nac adeiladau o fewn yr ardal.

Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i faen hir o'r oes efydd a chrug crwn posibl, man darganfod Rhufeinig, toriadau mawn a grobwll l-ganoloesol.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol dra phendant ydyw. Fe'i hamgylchynir gan dirwedd o gaeau a ffermydd.

Ffynonellau: Charles 1992; James 1981; Lewis 1833; Map a rhaniad degwm Tyddewi, 1840-41; Willis-Bund 1902

 

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]