Cartref > Tirweddau Hanesyddol >Tyddewi >

295 WARPOOL

CYFEIRNOD GRID: SM758254
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 151.5

Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro o fewn Penrhyn Tyddewi, o amgylch bwrdeistref (dinas yn ddiweddarach) Tyddewi. Fe'i lleolir o fewn plwyf Tyddewi, yng nghantref canoloesol Pebidiog, neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol Chantref Pebidiog a grwyd yn ddiweddarach ym 1536. Roedd Pebidiog yn enwog am ei dir r ffrwythlon ac yn l y cyfrifiad yn Taylors Cussion gan George Owen, roedd yn un o'r ardaloedd mwyaf trwchus ei phoblogaeth yn Sir Benfro yn yr 16eg ganrif, lle y cofnodwyd y nifer fwyaf o barau gwedd, ac a gynhyrchai lawer iawn o haidd. Mae ardal gymeriad Warpool yn cynnwys caeau tref Tyddewi. Ffermid y llain-gaeau agored o dir r gan fwrdeisiaid y ddinas ac - yn wahanol i'r mwyafrif o'r systemau caeau o fewn plwyf Tyddewi - fe'u delid o dan dirddaliadaeth Eingl-Normanaidd. O ganlyniad y caeau hyn yw'r math o gaeau hir crwm a gysylltir systemau canoloesol 'nodweddiadol' o gaeau agored, yn hytrach na'r lleiniau (neu gyfrannau) a welir mewn mannau eraill ar y penrhyn. Mae melin wynt a ddefnyddid i falu d, y cyfeiriwyd ati yn gyntaf ym 1509, yn arwydd o'r gyfundrefn r. Fe'i lleolid yng ngorllewin yr ardal gerllaw ffordd Porthclais ac fe'i dymchwelwyd ym 1809 pan adeiladwyd y strwythur presennol yn ei lle i'r de-ddwyrain o'r dref. Mae'r ardal gymeriad hefyd yn cynnwys pedair ardal fach o dir comin sy'n gysylltiedig 'r fwrdeistref. Dangosir y lleiniau o gaeau r agored ar fapiau ystad o ddiwedd y 18fed ganrif, yn rhedeg i lawr i'r arfordir i'r de o'r ddinas ac ymlaen i'r dwyrain ac i'r gorllewin. Nid yw'n glir o'r mapiau ystad p'un a oedd y lleiniau wedi'u hamgu ai peidio. Erbyn yr arolwg degwm mae'n amlwg bod y lleiniau wedi'u hamgu, ac yn agos at yr arfordir roeddynt wedi'u troi'n gaeau hirsgwar. Mae enw blaenorol ln o'r enw Meidir-y-saint am geuffordd ddwfn a arweiniai tua'r gogledd allan o'r ddinas, gan ddisgyn i Afon Alun lle y mae'n ei chroesi dros bont hynafol a elwir yn Pont-y-penyd, yn nodweddiadol o dirwedd eglwysig yr ardal. Adeiladwyd Warpool Court i'r de o'r ardal o'r newydd gan glerigwr oddeutu 1865. Gerllaw mae safle gwn peiriant o'r ail ryfel byd, sydd bellach yn adfeiliedig.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Warpool yn cynnwys stribyn llydan o dir sy'n gorwedd i'r de, i'r dwyrain ac i'r gogledd o ardal tirwedd hanesyddol Tyddewi (Dinas Tyddewi). Yma ceir bryniau isel rhwng rhyw 35m a 75m o uchder. Er bod yr ardal hon yn cynnwys system o lain-gaeau amgaedig yn bennaf - mae'r hen gaeau agored a fu'n gysylltiedig datblygiad Tyddewi yn y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif a'r broses o gyfuno rhai lleiniau yn gaeau hirsgwar wedi lleihau maint yr ardal o'r hyn a fu ar un adeg yn stribyn eithaf llydan o dir, ac mae wedi effeithio ar ei chymeriad. Mae ystadau tai, datblygiadau tai tameidiog, ysgolion a mynwent ar gyrion y ddinas erbyn hyn yn gorchuddio rhannau o'r hen ardal hon (ymgorfforwyd y rhain yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Tyddewi). Serch hynny, nodweddir yr ardal hon gan lain-gaeau amgaedig. Diffinnir y rhain gan gloddiau pridd neu gloddiau o bridd a cherrig ac arnynt wrychoedd. Mae'r gwrychoedd hyn yn isel ac yn ddigysgod. Mae llawer ohonynt wedi'u hesgeuluso ac ychwanegwyd gwifrau atynt, ond maent yn elfen nodweddiadol o'r dirwedd. Rhennir rhai caeau gan waliau sych hefyd. Tir pori wedi'i wella ac ychydig o dir r yw'r tir amaeth. Sefydlwyd dau adeilad mawr, sydd bellach yn westai - sef Warpool Court Hotel a Thr-y-felin - ar yr hen gaeau amgaedig yn y 19eg ganrif. Mae Warpool Court yn rhestredig Gradd II, a datblygodd o d sylweddol a adeiladwyd fel t newydd oddeutu 1865 ond a ailwampiwyd gryn dipyn yn yr 20fed ganrif. Mae teras yr ardd, yr hanergylch a'r bwa, sydd i gyd yn dyddio o'r cyfnod oddeutu 1870, yn rhestredig Gradd II. Addaswyd y felin wynt yn Nhr-y-felin sy'n dyddio o 1809, yn annedd, sydd bellach yn westy, ac mae'n rhestredig Gradd II. Ar wahn i'r coed gerllaw'r ddau westy hyn, tirwedd foel ydyw. Ychydig o aneddiadau eraill sydd, ond dylid nodi 'fila' a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif yn yr arddull Sioraidd bonheddig. Hefyd yn yr ardal mae safle gwn peiriant AA chweonglog, a adeiladwyd o friciau yn ystod yr ail ryfel byd, sydd bellach yn adfeiliedig. Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys ystad ddiwydiannol o'r 1990au.

Cyfyngir yr archeoleg a gofnodwyd i faen hir a chrug crwn posibl o'r oes efydd, a chwarel l-ganoloesol.

Mae'r ardal hon o lain-gaeau amgaedig a fu'n ardal helaeth gynt erbyn hyn yn llawer llai o faint ond mae wedi cadw ei chymeriad. Mae'n amlwg ei bod ar wahn i ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Tyddewi, sydd yn ei hanfod yn ardal drefol ac a amgaeir ganddi yn rhannol. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ffin bendant, eithr ardal gyfnewid, rhwng yr ardal hon a'r ardaloedd cymeriad i'r gogledd, i'r dwyrain, i'r de ac i'r gorllewin.

Ffynonellau: Charles 1992; Dicks 1968; Fenton 1811; James 1981; James 1993; Nash 1986; Archifdy Sir Benfro D/RTP/J H Harries 6/67a; Archifdy Sir Benfro D/RTP/HIG/13; Archifdy Sir Benfro D/RTP/Sto/ 183; Map a rhaniad degwm Tyddewi, 1840-41; Willis-Bund 1902

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]