|
296 MAES AWYR TYDDEWI
CYFEIRNOD GRID: SM789257
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 161.1
Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro, lle y bu hyd yn ddiweddar
faes awyr, ar ochr ddeheuol Penrhyn Tyddewi. Yn ystod yr Oesoedd Canol
gorweddai o fewn Cantref Pebidiog, neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol
gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd
ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob
Sulien. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd
systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig
i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol â Chantref Pebidiog a grëwyd yn ddiweddarach
ym 1536. Perthynai'r ardal gymeriad hon i 'faenor' Crugheli, ond ymddengys
i'r systemau tirddaliadaeth Cymreig oroesi, er iddynt gael eu haddasu
mewn amrywiol ffyrdd, a pharhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal
tan ddechrau'r 20fed ganrif hyd yn oed. Cynhwysai'r ardal gymeriad dreflannau,
ac yn ddiweddarach ffermydd Llechell a Threflodan ond hefyd cynhwysai,
tan 1943, ran o'r llain fawr agored o dir diffaith anffurfiol neu 'waun'
sydd erbyn hyn yn ffurfio ardal gymeriad Waun Caerfarchell ac a oedd wedi'i
rhannu rhwng o leiaf bum treflan ganoloesol/ôl-ganoloesol, yr oedd gan
bob un ohonynt hawliau i ran ohoni. Erbyn hyn ni ellir nodi unrhyw wahaniaeth
ffisegol rhwng y treflannau hyn, ond mae'r priodoliad wedi goroesi yn
eu henwau, sef Waun Fachelych, Waun Llandridian, Waun Llechell, Waun Treflodan
a Waun Caerfarchell. Ymddengys treflan Fachelych yn Llyfr Du Tyddewi dyddiedig
1326, ond nid ymddengys Caerfarchell, Llandridian na Threflodan ac efallai
eu bod yn perthyn i'r 14eg ganrif neu'r 15fed ganrif, tra ni cheir sôn
am Lechell tan ganol yr 16eg ganrif, sy'n awgrymu o bosibl ei bod yn dyddio
o'r cyfnod ôl-ganoloesol, neu o leiaf o'r adeg pan rannwyd y tir comin.
Sefydlwyd y maes awyr dros yr ardal ym 1943 ar gyfer Uned Reolaeth y Glannau'r
Awyrlu Brenhinol ac roedd yn dal i fod yn weithredol barod, er nad oedd
yn cael ei ddefnyddio, ym 1993.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r ardal tirwedd hanesyddol gymharol fach hon yn gorwedd ar lwyfandir
ar 70m i 75m o uchder fwy neu lai. Sefydlwyd maes awyr yma yn ystod yr
ail ryfel byd. Erbyn hyn dymchwelwyd pob un o adeiladau'r maes awyr a
defnyddir llawer o'r tir i bori anifeiliaid unwaith eto, ond mae darnau
o'r llwybrau glanio a'r ffyrdd gwasanaethu concrid wedi goroesi. Ni wnaed
unrhyw ymdrech i adfer patrwm y caeau a fodolai cyn y maes awyr. Mae nifer
o gloddiau caeau hir a adeiladwyd o rwbel gan ddefnyddio tarw dur yn rhedeg
ar draws yr ardal, ac mae twmpathau o rwbel o adeiladau a ddymchwelwyd.
Fodd bynnag, tirwedd agored ydyw yn cynnwys tir pori wedi'i adfer a rennir
gan ffensys gwifrau. Mae ambell adeilad yn dyddio o'r ail ryfel byd wedi
goroesi y tu allan i derfynau deheuol yr ardal hon. Nid oes unrhyw adeiladau
sy'n sefyll o fewn yr ardal.
Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i safle maen hir posibl
o'r oes efydd, man darganfod o'r oes haearn a safleoedd treflannau/ffermydd
Llechell a Threflodan.
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol maes awyr Tyddewi
yn nodedig ac mae'n gwrthgyferbynnu'n gryf â phatrwm yr hen ffermydd a
chaeau sefydledig i'r gorllewin, i'r de ac i'r dwyrain, ac â'r tir comin
agored i'r gogledd.
Ffynonellau: Charles 1992; James 1981; Thomas 1997; Map
a rhaniad degwm Tre-groes (Tyddewi), 1840-41; Willis-Bund 1902
|