|
297 WAUN CAERFARCHELL
CYFEIRNOD GRID: SM781260
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 58.7
Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro ar ochr ddeheuol Penrhyn Tyddewi.
Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai o fewn Cantref Pebidiog, neu 'Dewisland',
a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r Esgobaeth
ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y
goresgyniad, i'r Esgob Sulien. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn
Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal
a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol â Chantref Pebidiog
a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536. Perthynai'r ardal gymeriad hon i 'faenor'
Crugheli, ond ymddengys i systemau tirddaliadaeth Cymreig oroesi, er iddynt
gael eu haddasu mewn amrywiol ffyrdd, a pharhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau
ffiwdal tan ddechrau'r 20fed ganrif hyd yn oed. Crair llain fawr agored
o dir diffaith neu 'waun' ydyw. Roedd y waun hon wedi'i rhannu rhwng o
leiaf bum treflan ganoloesol/ôl-ganoloesol, pob un ohonynt â'r hawl i
ran ohoni, y mae ei phriodoliad wedi goroesi yn yr enwau Waun Fachelych,
Waun Llandridian, Waun Llechell, Waun Treflodan a Waun Caerfarchell. Ymddengys
treflan Fachelych yn Llyfr Du Tyddewi dyddiedig 1326, ond nid ymddengys
Caerfarchell, Llandridian na Threflodan ac efallai eu bod yn perthyn i'r
14eg ganrif neu'r 15fed ganrif, tra ni cheir sôn am Lechell tan ganol
yr 16eg ganrif, sy'n awgrymu o bosibl ei bod yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol,
neu o leiaf o'r adeg pan rannwyd y tir comin. Dengys map degwm 1840 fod
y waun yn debyg o ran maint i'r waun bresennol, ond dengys hefyd ffiniau
yn rhannu'r ardal yn flociau mawr iawn. Efallai bod hyn yn adlewyrchu
ymgais gan ffermwyr unigol ar ddechrau'r 19eg ganrif i rannu'r waun ymhlith
ei gilydd, yn hytrach na rhaniadau yn ôl y treflannau. Sefydlwyd maes
awyr milwrol dros lawer o ran ddeheuol y tir comin hwn (ardal gymeriad
Tyddewi) ym 1943.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Waun Caerfarchell yn gorwedd
ar hyd llawr dyffryn agored ar uchder o 70m fwy neu lai. Tir comin gwlyb,
agored ydyw yn ei hanfod. Mae'r tir pori yn gyfyngedig ac mae coetir prysglog
ar ddarnau sychach o dir dros yr ardal gyfan. Ym mhen gorllewinol dengys
mapiau Arolwg Ordnans yr ardal wedi'i rhannu'n glostiroedd mawr iawn.
Nid oes unrhyw aneddiadau. Nid oes unrhyw adeiladau yn sefyll o fewn yr
ardal. Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i glostir o natur anhysbys.
Mae i'r ardal hon ffiniau pendant. I'r gorllewin, i'r gogledd
ac i'r dwyrain, ceir tir ffermio a hen faes awyr i'r de.
Ffynonellau: Charles 1992; James 1981; Map a rhaniad degwm
Tre-groes (Tyddewi), 1840-41; Willis-Bund 1902
|