Cartref > Tirweddau Hanesyddol >Tyddewi >

298 Y FELINGANOL

CYFEIRNOD GRID: SM805258
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 105

Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro ar ochr ddeheuol Penrhyn Tyddewi, sy'n cynnwys dyffryn Afon Solfach o amgylch y Felinganol, i fyny'r afon o bentref Solfach.Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai o fewn Cantref Pebidiog, neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. Erbyn hyn lleolir yr ardal gymeriad o fewn plwyf Tre-groes, a hyd yn oed heddiw mae iddi dopograffi eglwysig go arbennig. Mae'n bosibl bod enw lle 'Clyn Ysbyty', sydd wedi'i ddefnyddio ers 1610 o leiaf, yn nodi safle ysbyty canoloesol. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol Chantref Pebidiog a grwyd yn ddiweddarach ym 1536. Gorweddai'r ardal gymeriad o fewn 'maenor' Cantref Cymreig a Thydwaldy ond ymddengys fod systemau tirddaliadaeth Cymreig wedi goroesi, er iddynt gael eu haddasu mewn ffyrdd gwahanol, tra parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal hyd ddechrau'r 20fed ganrif. Afon Solfach yw nodwedd amlycaf yr ardal gymeriad a chredai Gerallt Gymro ei bod yn werth sn amdani oddeutu 1200. Roedd Pebidiog wedi bod yn enwog am ei dir r ffrwythlon ers amser maith ac felly ceir sn am felin d yn Solfach yn Llyfr Du Tyddewi dyddiedig 1326, a all gynrychioli melin bresennol Solfach i'r de o'r ardal gymeriad hon. Ni restrir Melin Caerforiog, yn y gogledd, yn y Llyfr Du ond ymddengys ei bod yn perthyn i'r cyfnod canoloesol hefyd, ac mae ei phwll - Llyn-yr-alarch - yn cynnwys yr hyn a all fod yn safle ffos o'i amgylch a chyn-golomendy (gweler ardal gymeriad Caerforiog). Ni restrwyd y Felinganol chwaith ym 1326 ac mae ei enw yn rhagdybio mai hi oedd y ddiweddaraf o'r tair melin. Cyfeiriwyd at Bont y Felinganol yn l ei henw mewn dogfen yn dyddio o 1598, sy'n dangos bod melin wedi'i sefydlu erbyn yr adeg honno. Roedd gan Solfach a'r Felinganol yr hawl i bori tir comin o fewn yr ardal sy'n awgrymu efallai i'r broses o ddosrannu tir comin ym Mhebidiog ddechrau, o leiaf yn rhannol, yn y cyfnod l-ganoloesol. Nodir melin d Fferm y Felinganol, a safai yn l pob tebyg ar safle'r felin y cyfeiriwyd ati yn yr 16fed ganrif, ar fap yn dyddio o 1760, ynghyd Th'r Felin, ac roedd yn dal i weithio fel melin d ym 1812. Fodd bynnag, erbyn y cyfnod hwn roedd y Felinganol wedi datblygu'n ganolfan i'r diwydiant brethyn yn y cyfnod l-ganoloesol. Yn yr 17eg ganrif, gwerthwyd 2500 o erwau o dir gan gynnwys y Felinganol i sidanwr o Lundain ac yn y 1830au y dwysedd uchaf o felinau gwln ar gyfer unrhyw ardal yn Sir Benfro oedd dwy ar bymtheg yng nghymdogaeth Tyddewi. Cynhwysent y Felinganol yr oedd pentref lled-ddiwydiannol wedi datblygu o'i amgylch, gyda chapel a th tafarn. Ni sefydlwyd y ffatri frethyn bresennol, fodd bynnag, tan 1907. O dan yr enw 'Thomas Griffiths and Son' bu'n allforio brethyn ledled y DU, ac yn fwy diweddar buwyd yn cynhyrchu carpedi yn y ffatri.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol y Felinganol yn gorchuddio llawr ac ochrau dyffryn Afon Solfach i fyny'r afon o bentref Solfach. Mae llawr y dyffryn yn gorwedd rhwng 5m i 10m o uchder ac mae'r ochrau'n codi'n serth i dros 50m o uchder. I lawr yr afon o bentrefan y Felinganol amgaeir y gorlifdir cul ac ochrau is y dyffryn gan gloddiau o bridd neu bridd a cherrig i ffurfio caeau bach o dir pori wedi'i wella. Mae'r gwrychoedd ar y cloddiau hyn yn aflr ac maent wedi tyfu'n wyllt ac ni allant ddal anifeiliaid bellach. Defnyddir ffensys gwifrau i ddal yr anifeiliaid. Mae ochrau'r dyffryn a llawr y dyffryn uwchben y Felinganol wedi'u gorchuddio naill ai choetir collddail a/neu goetir prysglog yn cynnwys canran uchel o eithin. Ar hyd y lonydd troellog rhwng pentref Solfach a'r Felinganol ceir nifer o fythynnod gwasgaredig o'r 19eg ganrif yn y traddodiad brodorol a byngalos modern mewn amrywiaethau o arddulliau. Mae'r Felinganol, fel y noda'r enw, yn bentrefan lled-ddiwydiannol bach. Yn ei ganol ceir melin wln a yrrir gan ddr yn dyddio o'r 19eg ganrif neu'r 20fed ganrif, sydd erbyn hyn yn atyniad i ymwelwyr. Mae'r pentrefan yn cynnwys yn bennaf glwstwr o dai a bythynnod o gerrig yn y traddodiad brodorol sy'n dyddio o'r 19eg ganrif, y mae llawer ohonynt wedi'u hadfer, a chapel, a leolir ar ochr ddwyreiniol is y dyffryn. Lleolir chwarel fawr - sy'n rhannol weithredol o hyd - ag adeiladau concrid ar ochr orllewinol uchaf y dyffryn sy'n edrych dros bentrefan y Felinganol. Lleolir gwaith trin dr ar lawr y dyffryn.

Mae pum adeilad rhestredig yn y Felinganol. T'r Felin a'r felin, a chorn d Fferm y Felinganol 'i holwyn dros y rhod sydd yn eu hanfod yn perthyn i'r 18fed ganrif ac a nodir ar fap o 1760, capel y Bedyddwyr, pont y Felinganol a Phont Caerforiog y cyfeiriwyd atynt ym 1598. Ymhlith yr adeiladau heb eu rhestru mae'r Llanwas Arms a'r Ffatri Frethyn, a'r tu allan i'r pentref, Melinau Caerforiog a Solfach, a phontydd Pont-y-cerbyd a Phont Ifangwr.

Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i fan darganfod o'r oes efydd, bryngaer bosibl o'r oes haearn, y clostir canoloesol, hirsgwar, cofrestredig sydd ffos o'i amgylch yn Llyn-yr-alarch, enw lle sydd o bosibl yn nodi 'ysbyty' canoloesol, a chwareli a grobyllau o'r cyfnod l-ganoloesol.

Mae dyffryn coediog a phatrwm anheddu cymharol ddiweddar yr ardal yn ei gosod ar wahn i'r ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol cyfagos lle y ceir hen gaeau a ffermydd sefydlog. Mae'r Felinganol yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol ar wahn.

Ffynonellau: Charles 1992; Fenton 1811; James 1981; Jones 1966-70; Lidlow 1994; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, NLW Coll B488; Map a rhaniad degwm Tre-groes (Tyddewi), 1840-41; Willis-Bund 1902

 

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]