Cartref > Tirweddau Hanesyddol >Tyddewi >

299 CAERFORIOG

CYFEIRNOD GRID: SM812265
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 128.6

Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro a leolir o fewn Penrhyn Tyddewi. Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai o fewn Cantref Pebidiog, neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. Erbyn hyn lleolir yr ardal gymeriad o fewn plwyf Tre-groes, ond gorweddai o fewn plwyf Tyddewi gynt, sydd hyd yn oed heddiw yn cadw ei dopograffi eglwysig go arbennig. Mae'n bosibl bod safle capel canoloesol yng Nghaerforiog yn perthyn i ddechrau'r cyfnod canoloesol. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol â Chantref Pebidiog a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536. Fodd bynnag ymddengys i systemau tirddaliadaeth Cymreig oroesi, er iddynt gael eu haddasu mewn amrywiol ffyrdd, mewn fersiwn o arfer Cymreig lle yr arferid system tir âr-tir allan o amaethu caeau agored. Ni ddelid y tir gan unigolyn, ond gan ddau berson a'u cydberchenogion. Ni restrir yr un o'r ddwy fferm o fewn yr ardal gymeriad, sef Caerforiog a Kingheriot, ymhlith treflannau Pebidiog yn Llyfr Du Tyddewi dyddiedig 1326. Mae Caerforiog a leolir yng nghanol yr ardal gymeriad yn bresennol erbyn 1341, ni chofnodir Kingheriot, ar gyrion yr ardal, tan gryn dipyn yn ddiweddarach ym 1543. Yn ôl pob sôn Caerforiog yw man geni Adam de Houghton, sef Esgob Tyddewi ym 1361-89. Ar ôl hynny bu'r daliad yn eiddo i'r teulu Perrot. Serch hynny, mae'r ffaith ei bod yn gysylltiedig â thir comin o fewn yr ardal gymeriad hon, y mae llawer ohono'n cynnwys y clostiroedd mawr afreolaidd eu siâp sy'n nodweddiadol o'r modd yr amgaewyd tir comin ar ddiwedd y cyfnod canoloesol a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, yn dangos y gweithredai Caerforiog fel treflan. Dangosir patrwm presennol y caeau ar fap degwm 1840, ond efallai bod rhai o'r caeau, yn arbennig y rhai yn hanner deheuol yr ardal, yn cynrychioli cyn-lain-gaeau agored a amgaewyd, ac fe'u dangosir fel caeau ychydig yn llai o faint ac afreolaidd eu siâp.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gymharol fach hon yn gorwedd ar lwyfandir rhwng tua 50m a 65m o uchder. Fe'u rhennir yn gaeau mawr, afreolaidd eu siâp gan gloddiau o bridd a cherrig. Ar y cloddiau ceir rhesi isel, digysgod, di-drefn o lwyni. Ychwanegwyd ffensys gwifrau at y cloddiau a'r gwrychoedd. Defnyddir pileri o gerrig â morter arnynt (yn lle rhai o'r pileri hyn gosodwyd pileri concrid) fel pyst gatiau wrth fynedfeydd caeau. Tirwedd foel ydyw. Tir pori wedi'i wella a thir âr yw'r defnydd a wneir o'r tir, ac nid oes nemor ddim tir garw. Mae'r ffermydd yn eithaf sylweddol ac mae gan un yn arbennig, sef Caerforiog, res sylweddol iawn o adeiladau amaethyddol modern. Mae Kingheriot yn enghraifft dda o dþ deulawr a adeiladwyd o gerrig yn y traddodiad Sioraidd yn dyddio o gyfnod oddeutu 1860 a chanddo res o adeiladau fferm o gerrig wedi'u gosod o amgylch iard o flaen y tþ. Mae'r tý yn rhestredig.

Mae archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys ffatri fwyeill bosibl o'r cyfnod eolithig, safleoedd posibl dau faen hir o'r oes efydd, man darganfod yn perthyn i'r oes haearn neu'r cyfnod Rhufeinig a safle capel canoloesol.

Mae'n anodd diffinio ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Caerforiog yn hyderus. Mae'n rhannu llawer o nodweddion â'r ardaloedd cyfagos, yn arbennig y rhai i'r dwyrain ac i'r de nas diffiniwyd eto. Fodd bynnag, mae ei chaeau mawr a chymeriad moel, agored yn ei gosod ar wahân, er bod yn rhaid ystyried bod ei ffiniau yn agored i gael eu hailddiffinio, ac eithrio i'r gorllewin lle y mae'n ffinio â dyffryn coediog ardal gymeriad tirwedd hanesyddol y Felinganol.

Ffynonellau: Charles 1992; Fenton 1811; James 1981; Jones 1996; Ludlow 1994; Map a rhaniad degwm Tre-groes (Tyddewi), 1840-41; Willis-Bund 1902