Cartref > Tirweddau Hanesyddol >Tyddewi >

300 PORTH CLAIS

CYFEIRNOD GRID: SM740241
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 7.6

Cefndir Hanesyddol
Porthladd naturiol ar arfordir deheuol penrhyn Tyddewi. Dyma oedd porthladd bwrdeistref Tyddewi yn ystod y cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol. Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai o fewn Cantref Pebidiog, neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. Erbyn hyn lleolir yr ardal gymeriad o fewn plwyf hanesyddol Tyddewi, sydd hyd yn oed heddiw yn cadw topograffi eglwysig go arbennig. Mae'n bosibl bod capel a safle ffynnon ganoloesol ym mhen y porthladd, a adwaenir fel Capel-y-pistyll, yn perthyn i ddechrau'r cyfnod canoloesol, ac erbyn yr adeg y bu Gerallt Gymro yn ysgrifennu oddeutu 1200 roedd y safle wedi'i nodi fel safle bedyddio Dewi Sant. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol â Chantref Pebidiog a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536. Yn ystod y cyfnod canoloesol defnyddid Porth Clais yn bennaf gan gabidwl Tyddewi. Ceir y cofnod cyntaf o fasnachu o'r porthladd hwn, a'i chwareli, mewn adroddiad ar waith adeiladu yn yr eglwys gadeiriol dyddiedig 1385. Mae'r Welsh Port Books ar gyfer y blynyddoedd 1550-1603 yn cofnodi bod nwyddau moethus megis gwin, resins, pupur a chalico yn cael eu mewnforio, a phren o Iwerddon. Grawn yw'r prif allforyn a gofnodwyd. Ceir cyfeiriadau at fasnach ac at weithio calch trwy'r 16eg ganrif, yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif a dywedwyd bod pob teulu yn Nhyddewi yn gysylltiedig â rhyw agwedd ar fasnach arforol. Mae Samuel Lewis yn cofnodi bod y cei newydd ei ymestyn ym 1833, a bod y saith llong a oedd yn eiddo i'r porthladd ar gyfartaledd yn pwyso 25 o dunelli, ac y teithient yn ôl ac ymlaen i Fryste yn bennaf ond y byddent yn dod â chalchfaen a glo mân o Aberdaugleddau hefyd. Parhaodd y fasnach hon tan ddiwedd y 19eg ganrif ond daeth o dan fwy a mwy o fygythiad gan y ffyrdd a'r rheilffyrdd, yn enwedig ar ddechrau'r 20fed ganrif. Brwydrodd y diwydiant glo yn ei flaen gan gyflenwi Tyddewi a'r gwaith nwy a sefydlasid ar lan y cei yn ystod y 1880au, ond daeth i ben yn y 1930au a dymchwelwyd yr iardiau glo a'r bont bwyso. Serch hynny, mae olion pedwar pâr o odynau calch, chwareli a nifer o strwythurau porthladd eraill i'w gweld o hyd ym Mhorth Clais.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach iawn yw Porth Clais. Mae'n cynnwys porthladd bach a strwythurau cysylltiedig. Lleolir y porthladd wrth aber dyffryn cul Afon Alun sydd ag ochrau serth. Mae'r unig strwythur cyfannedd yn cynnwys byngalo modern, er bod tystiolaeth o anheddau anghyfannedd yn agos at y porthladd. Mae morglawdd wedi'i adeiladu o gerrig yn gorwedd tua'r marc distyll gydag ochrau cei, a adeiladwyd o gerrig, ar ddwy ochr y dyffryn oddeutu'r marc penllanw. Ceir banciau o odynau calch sy'n dyddio o'r 19eg ganrif ac sydd wedi'u hadeiladu o gerrig (wedi'u hadfer) ar y ceiau. Mae pontydd bach yn croesi'r afon yn union i'r fyny'r afon o'r ceiau a'r tu hwnt i'r pontydd hyn ceir meysydd parcio i wasanaethu'r diwydiant twristiaeth a defnyddwyr y porthladd.

Mae chwe adeilad rhestredig yn gysylltiedig â'r porthladd. Mae un o bob pâr o'r pedwar pâr o odynau calch yn rhestredig Gradd II, ynghyd â'r bont droed a Phen Porth Clais, enghraifft dda o dý deulawr bach yn 'Dewisland'. Mae adeiladau/strwythurau eraill yn cynnwys y porthladd ei hun (a fu gynt yn rhestredig), dau gei, olion gwaith nwy, a nifer o adeiladau a safleoedd adeiladau ôl-ganoloesol gan gynnwys 3 storfa, a safle bwthyn.

Cyfyngir archeoleg arall a gofnodwyd i safleoedd capel a ffynnon Capel-y-Pistyll, a dwy chwarel.

Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach iawn hon yn cynnwys y porthladd a strwythurau cysylltiedig. Mae'n gwrthgyferbynnu'n gryf ag ardaloedd cyfagos sy'n cynnwys caeau a ffermydd. Mae iddi ffiniau pendant.

Ffynonellau: James 1981; James 1993; Lewis 1833; Lewis 1927; Map a rhaniad degwm Tyddewi, 1840-41