|
301 CARN LLUNDAIN - CAER YSGUBOR
CYFEIRNOD GRID: SM699234
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 152.1
Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy'n ymestyn dros hanner de-orllewinol
Ynys Dewi, oddi ar flaen gorllewinol Penmaendewi. Yn weinyddol, roedd
yr ynys yn rhan o gantref canoloesol Pebidiog neu 'Dewisland', a ddelid
yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r esgobaeth ers
1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad,
i'r Esgob Sulien. Fodd bynnag, mae tystiolaeth gynharach o anheddu ar
yr ynys, ac mae hyn yn ôl pob tebyg yn dyddio o'r oes efydd. Nodwyd nifer
o systemau caeau hefyd yn yr ardal gymeriad hon. Maent wedi'u canoli o
amgylch y crugiau crwn o'r oes efydd ar lethrau Carn Llundain a Chaer
Ysgubor, sy'n cynnwys cloddiau isel o gerrig neu resi o orthostatau, ac
er bod diffyg tystiolaeth gadarn i allu eu dyddio mae erydiad y pridd
ar y ddau gopa yn awgrymu y gall y system berthyn i amgylchiadau hinsoddol
mwy ffafriol a fodolai ar ddechrau neu yng nghanol yr Oes Efydd. Mae'r
ynys yn llawn chwedlau yn gysylltiedig â'i thrigolion blaenorol. Mae llawer
o'r chwedlau hyn yn rhai goruwchnaturiol sy'n cynnwys y Tylwyth Teg a
Phlant Rhys Dwfn ac mae eraill yn sôn am sðn y clychau o dan y môr. Yn
hanesyddol, roedd yr ynys yn rhan o blwyf Tyddewi a chynhwysai safleoedd
dau gapel canoloesol y gorweddai un ohonynt - a gysegrwyd i Dewi Sant
- o fewn yr ardal gymeriad hon. Awgrymwyd bod y berthynas rhwng yr ynys
a'r fynachlog yn Nhyddewi o bosibl yn cyfateb i'r berthynas rhwng Llancarfan
ac Ynys Echni ym Môr Hafren, ac y defnyddid yr ynys gan y gymuned fynachaidd
fel encilfa. Yn ystod y cyfnod ar ôl y goresgyniad, roedd Ynys Dewi yn
safle pererindota pwysig. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob
ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal
a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol â Chantref Pebidiog
a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536. Fodd bynnag, ymddengys fod systemau
tirddaliadaeth Cymreig addasedig wedi goroesi. Daeth Ynys Dewi yn rhan
eithaf cynhyrchiol o diroedd yr Esgob, ac mae Inquisition Post Mortem
dyddiedig 1293 yn nodi bod yr ynys yn ffrwythlon a bod ystod eang o ddulliau
ffermio cymysg yn cael eu harfer. Cofnodir gwartheg eidion, defaid a geifr,
a hefyd gwenith, ceirch a haidd. Mae adroddiad mwy manwl yn Llyfr Du Tyddewi
dyddiedig 1326, yn cofnodi bod gan yr esgob ddau weddgyfair o dir ar yr
ynys, yn cynnwys 100 erw, lle y gellid cadw 10 ceffyl, 100 o 'wartheg
mawr' a 300 o ddefaid. Cymerid can llwyth o frwyn a grug per annum, a
500 o gwningod 'i'w coginio' gwerth 33s 4c. Defnyddid yr ynys hefyd i
gasglu wyau gwynlanod, gwylogod a phalod. Parhawyd i ffermio ar yr ynys
ymhell i'r 20fed ganrif, ac yn y 1900au bu'r brodyr Arnold yn ffermio
arni gan dyfu haidd, tatws, maip a phys, ac yn magu defaid a rhai moch
a cheffylau. Roedd melin þd ac odyn galch yn dal i fod yn weithredol bryd
hynny. Buwyd yn aredig y tir yn ddwfn dros hanner deheuol yr ynys o'r
1930au i'r 1950au. Parhaodd yr ynys i fod yn ddaliad eglwysig nes cael
ei gwerthu i ddwylo preifat ym 1905. Erbyn hyn mae'n eiddo i'r RSPB ac
fe'i rheolir ganddi. .
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn ymestyn dros hanner
deheuol a chwr gorllewinol Ynys Dewi. Tirwedd agored ydyw yn ei hanfod,
ac mae'n cynnwys clogwyni uchel a llethrau creigiog sy'n codi i uchafswm
uchder o 136m ar Garn Llundain a 101m ar Gaer Ysgubor. Gellir gweld olion
system gaeau gynhanesyddol yn ogystal â charneddau cynhanesyddol. Mae
ffiniau'r system gaeau ar ffurf cloddiau caregog isel neu resi o feini
mawr sy'n sownd yn y ddaear. Rhennir hanner gogleddol yr ynys oddi wrth
yr ardal hon gan glawdd ac arno wyneb o gerrig. Rhostir garw yw'r defnydd
a wneir o'r tir. Tirwedd foel ydyw.
Nid oes unrhyw aneddiadau. Nid oes unrhyw adeiladau sy'n
sefyll o fewn yr ardal hon.
Mae archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys man darganfod cynhanesyddol,
dau grug crwn o'r oes efydd a dau grug posibl, y systemau o gaeau, cysegriad
canoloesol i 'David' a chell bosibl.
Mae Carn Lludain - Caer Ysgubor yn ardal gymeriad tirweddol
hanesyddol bendant. I'r gorllewin ac i'r de ceir clogwyni uchel, ac ar
hyd y ffin ddwyreiniol mae waliau o gerrig sych sy'n perthyn i system
gaeau a ddefnyddir ar hyn o bryd.
Ffynonellau: Fenton 1811; James 1981; James 1993; James
a James 1994; Jones 1996; Map a rhaniad degwm Tyddewi, 1840-41; Llyfrgell
Genedlaethol Cymru 14229/6 Map 84; Willis-Bund 1902
|