Cartref > Tirweddau Hanesyddol >Tyddewi >

302 YNYS DEWI

CYFEIRNOD GRID: SM704244
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 86.7

Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy'n ymestyn dros hanner gogledd-ddwyreiniol Ynys Dewi, oddi ar flaen gorllewinol eithaf Penmaendewi. Yn weinyddol, roedd yr ynys yn rhan o gantref canoloesol Pebidiog neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. Yn hanesyddol, roedd yr ynys yn rhan o blwyf Tyddewi, a chynhwysai safleoedd dau gapel canoloesol a all ddyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol. Lleolir un o'r capeli hyn - sydd wedi'i gysegru i Dyfannog Sant - o fewn yr ardal gymeriad. Fe'i cysylltir â safle ffynnon sanctaidd, mynwent a charreg arysgrifedig a all goffáu esgob o'r 9fed ganrif. Awgrymwyd bod y berthynas rhwng yr ynys a'r fynachlog yn Nhyddewi o bosibl yn cyfateb i'r berthynas rhwng Llancarfan ac Ynys Echni ym Môr Hafren, ac y defnyddid yr ynys gan y gymuned fynachaidd fel encilfa. Mae'r ynys yn llawn chwedlau yn gysylltiedig â'i thrigolion blaenorol. Mae llawer o'r chwedlau hyn yn rhai goruwchnaturiol sy'n cynnwys y Tylwyth Teg a Phlant Rhys Dwfn ac mae yn sôn am sðn y clychau o dan y môr. Yn ystod y cyfnod ar ôl y goresgyniad Eingl-Normanaidd, roedd Ynys Dewi, ac yn arbennig y ffynnon, yn safle pererindod pwysig. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol â Chantref Pebidiog a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536. Fodd bynnag, ymddengys fod systemau tirddaliadaeth Cymreig addasedig wedi goroesi. Daeth Ynys Dewi yn rhan eithaf cynhyrchiol o diroedd yr Esgob, ac mae Inquisition Post Mortem dyddiedig 1293 yn nodi bod yr ynys yn ffrwythlon a bod ystod eang o ffermio cymysg yn cael ei harfer. Cofnodir gwartheg eidion, defaid a geifr, a hefyd gwenith, ceirch a haidd. Mae adroddiad mwy manwl yn Llyfr Du Tyddewi dyddiedig 1326, yn cofnodi bod gan yr esgob ddau weddgyfair o dir ar yr ynys, yn cynnwys 100 erw, lle y gellid cadw 10 ceffyl, 100 o 'wartheg mawr' a 300 o ddefaid. Cymerid can llwyth o frwyn a grug per annum, a 500 o gwningod 'i'w coginio' gwerth 33s 4c. Defnyddid yr ynys hefyd i gasglu wyau gwynlanod, gwylogod a phalod. Roedd patrwm y caeau yn yr ardal gymeriad hon yn ei le erbyn dechrau'r 19eg ganrif ac ymddengys ei fod yn fwy diweddar na'r ffiniau creiriol yn ardal gymeriad Carn Llundain - Caer Ysgubor, a all berthyn i'r oes efydd. Yn wreiddiol gallai'r system hon o'r oes efydd fod wedi ymestyn dros yr hanner hwn o'r ynys, ac mae'n bosibl bod rhai o'r ffiniau sydd wedi goroesi yn y fan hyn yn dilyn llinell ffiniau cynharach. Bu rhyw William Browne yn byw mewn ffermdy ar yr ynys, gerllaw melin þd ac odyn galch, ym 1543-4 ond adeiladwyd y tþ presennol oddeutu 1800, ac roedd yr hen adeilad yn adfail pan ymwelodd Fenton ag ef oddeutu 1811. Parhawyd i ffermio ar yr ynys ymhell i'r 20fed ganrif, ac yn y 1900au bu'r brodyr Arnold yn ffermio arni yn tyfu haidd, tatws, maip a phys, ac yn magu defaid a rhai moch a cheffylau. Roedd melin þd ac odyn galch yn dal i fod yn weithredol bryd hynny. Parhaodd yr ynys i fod yn ddaliad eglwysig nes cael ei gwerthu i ddwylo preifat ym 1905. Erbyn hyn mae'n eiddo i'r RSPB ac fe'i rheolir ganddi.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ynys Dewi yn cynnwys y rhan honno o Ynys Dewi sy'n cynnwys system o gaeau sy'n dal i gael ei defnyddio, sef yn y bôn cornel ogledd-ddwyreiniol yr ynys. Dyma ran fwyaf cysgodol yr ynys, ac mae'n cynnwys llain o dir ar oleddf sy'n disgyn o 55m o uchder yn y gorllewin i 30m o uchder ar yr ochr ddwyreiniol lle yn y diwedd y mae'n cyrraedd clogwyni uchel. Rhennir yr ardal yn gaeau afreolaidd eu siâp o faint canolig i fawr gan waliau cerrig sych a chloddiau ac arnynt wynebau o gerrig. At ei gilydd mae'r ffiniau mewn cyflwr da. Tir pori yw'r defnydd a wneir o'r tir yn bennaf. Tirwedd foel ydyw. Lleolir ffermdy a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif yn yr arddull brodorol a chanddo res helaeth o adeiladau fferm a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif ar ben y clogwyni uwchben man glanio/cei. Mae'r ffermdy'n rhestredig Gradd II. Ar doeau'r adeiladau ceir llechi a dalenni asbestos.

Mae archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys man darganfod mesolithig-neolithig, safle maen hir posibl o'r oes efydd, y gapelyddiaeth ganoloesol â chysegriad i Dyfannog Sant, mynwent a charreg arysgrifedig, a safleoedd y felin, y cei a'r odyn.

Mae Ynys Dewi yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol ar wahân ac iddi ffiniau pendant. I'r gogledd ac i'r dwyrain mae'r môr, ac i'r gorllewin ac i'r de ceir rhostir agored.

Ffynonellau: Fenton 1811; James 1981; James 1993; James a James 1994; Jones 1996; Map a rhaniad degwm Tyddewi, 1840-41; Llyfrgell Genedlaethol Cymru 14229/6 Map 84; Willis-Bund 1902