303 YNYS SELYF - YR HEN FFERM
CYFEIRNOD GRID: SM724094
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 76.6
Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy'n ymestyn dros yr hen fferm
a'i chaeau yng nghanol Ynys Selyf, ychydig oddi ar benrhyn gorllewinol
eithaf Sir Benfro ym mhen deheuol Bae Sant Ffraid. Yn weinyddol, roedd
yr ynys yn rhan o arglwyddiaeth ganoloesol Hwlffordd, o dan reolaeth ieirll
Penfro, ac yn ddiweddarach y Goron, a than yn ddiweddar roedd yn rhan
ar wahân o blwyf Sant Martin, Hwlffordd. Buwyd yn ffermio ar yr ynys yn
ystod y cyfnod cynhanesyddol, a buwyd yn ei rhentu yn dymhorol i bori
gwartheg arni yn ystod yr Oesoedd Canol, a'i rhentu bob blwyddyn am £4
7s yn yr 16eg ganrif. Fodd bynnag, ymddengys na fu fawr ddim anheddu parhaol
arni tan y 18fed ganrif pan sefydlwyd y fferm bresennol. Ar ddiwedd y
19eg ganrif adeiladwyd ty newydd yn lle ty a adeiladwyd ar ddiwedd y 18fed
ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif (sydd heb do erbyn hyn). Gosodwyd y
system gaeau bresennol o fewn wal berimedr y fferm pan adeiladwyd y ty
gwreiddiol, ac ymddengys na ddylanwadwyd fawr ddim ar y system honno gan
unrhyw ffiniau caeau cynharach a fodolai ar un adeg. Er hynny, byddai'r
ffaith bod 'cryn dipyn (o'r ynys) wedi'i blannu â chnydau' gan y ffermwr-denant
ym 1833 wedi'i gwneud yn anodd i unrhyw nodweddion amaethyddol cynharach
oroesi. Yn ystod y cyfnod canoloesol cyflwynwyd cwningod yn fwriadol i'r
ynys ac fe'u defnyddid ar gyfer eu cig a'u crwyn. Deuai cwningwyr i'r
ynys bob gaeaf i ddal cwningod, ac mae cofnodion y Trysorlys o 1325-6
yn rhestru taliadau i dri daliwr cwningod a gyflenwodd, gyda chymorth
ffuredau a rhwydi, 'garcasau a chrwyn cwningod' gwerth £13 12s. Yn ddiweddarach
yn y 14eg ganrif mae cofnod am dy ffuredwr a storfa carcasau gyda'i gilydd
ar yr ynys, ac mae llwyfan ty canoloesol yn yr ardal hon. Buwyd yn ffermio
cwningod ar raddfa fwy dwys yn ystod y 19eg ganrif a pharhaodd hyn tan
1950. Er bod y tyllau at ei gilydd wedi'u lleoli o fewn yr ardal y tu
allan i'r tir a ffermid, daeth y cwningod yn bla difrifol ac ym 1840 gosodwyd
grug yn pwyntio am allan ar ben waliau perimedr y fferm i atal cwningod
rhag tresmasu ar dir amaethu a dinistrio cnydau. Defnyddid sied fach o
gerrig yng nghornel dde-ddwyreiniol y buarth i storio cwningod yn y 19eg
ganrif. Erbyn hyn gwarchodfa natur genedlaethol yw'r ynys ac fe'i rheolir
gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru ar brydles o Gyngor Cefn
Gwlad Cymru.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ynys Selyf - Yr Hen Fferm yn
cynnwys rhan ganol Ynys Selyf, sy'n weddol wastad ar uchder o 70m i 75m,
lle y lleolir yr Hen Fferm. Fe'i rhennir yn system o gaeau bach eithaf
rheolaidd eu siâp gan waliau a chloddiau o gerrig sych. Sefydlwyd y caeau
a'r fferm yn y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, ond mae'n debyg bod
adeiladau'r fferm, gan gynnwys y tþ, yn dyddio o ganol y 19eg ganrif.
Mae i'r ffermdy ddiwyg sy'n nodweddiadol o'r 19eg ganrif ac mae ganddo
gasgliad cymharol fach o dai allan wedi'u gosod yn agos at y fferm. Cyfyngir
adeiladau eraill o fewn yr ardal i adfeilion di-do y ffermdy cynharach
sy'n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif. O fewn
y caeau mae dau lyn. Mae amaethu dwys ar y caeau wedi creu patrwm o rynnau
amaethu syth a hir. Nid oes neb yn ffermio ar yr ynys bellach, ac mae
rhedyn a phorfa arw yn tyfu dros y system gaeau a adawyd. Ceir lleiniau
o dir corslyd. Darperir llety sylfaenol ar gyfer y nifer fach o ymwelwyr
sy'n dod i'r ynys yn adeiladau'r fferm.
Mae archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys rhai nodweddion cynhanesyddol
gan gynnwys anheddiad cofrestredig a system gaeau. Hefyd mae llwyfan ty
canoloesol cofrestredig, a'r hyn a all fod yn llwyfan cwt canoloesol.
Mae i'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon ffiniau pendant.
Fe'i hamgylchynir gan wal berimedr bendant sy'n ei gosod ar wahân i ardal
gymeriad arall yr ynys lle y mae'r caeau cynhanesyddol.
Ffynonellau: Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Dyfed d.d.; Evans
1986; Evans 1990; Grimes 1950; Howells 1968; Lewis 1833; Owen 1911
|