|
304 YNYS SELYF - CAEAU
CYNHANESYDDOL CYFEIRNOD GRID: SM716093
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 199
Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy'n cynnwys y tir o amgylch
yr Hen Fferm ar Ynys Selyf, sy'n gorwedd ychydig oddi ar benrhyn gorllewinol
eithaf Sir Benfro ym mhen deheuol Bae Sant Ffraid. Yn weinyddol, roedd
yr ynys yn rhan o arglwyddiaeth ganoloesol Hwlffordd, o dan reolaeth ieirll
Penfro, ac yn ddiweddarach y goron, a than yn ddiweddar roedd yn rhan
ar wahân o blwyf Sant Martin, Hwlffordd. Buwyd yn ffermio ar yr ynys yn
ystod y cyfnod cynhanesyddol ac mae olion ffisegol systemau caeau ac arwyddion
amaethu, clostiroedd, carneddau clirio, cytiau, argaeau a hyd yn oed aneddiadau,
wedi goroesi yn eu lle fwy neu lai yn yr ardal ymylol hon, sy'n ymestyn
dros bron dau draean o'r ynys. Ni ellir dyddio'r olion yn fanwl ond nododd
Evans 'nad oes dim byd tebyg i drefniant y caeau neu siâp y cytiau yn
hysbys o'r cyfnod Rhufeinig nac o gyfnodau diweddarach' a phriodolodd
y nodweddion i ystod ddyddiadau o'r cyfnod neolithig i gyfnod yr oes haearn.
Maent wedi goroesi mewn modd mor eithriadol oherwydd, er i'r ynys gael
ei rhentu yn dymhorol i bori gwartheg arni yn ystod yr Oesoedd Canol,
ac er iddi gael ei rhentu bob blwyddyn am £4 7s yn yr 16eg ganrif, ymddengys
na fu fawr ddim anheddu parhaol tan y 18fed ganrif pan sefydlwyd y fferm
bresennol yng nghanol yr ynys. Ni chofnodir unrhyw anheddiad canoloesol
na diweddarach yn yr ardal ymylol hon. Yn ystod y cyfnod canoloesol cyflwynwyd
cwningod yn fwriadol i'r ynys ac fe'u defnyddid ar gyfer eu cig a'u crwyn.
Deuai cwningwyr i'r ynys bob gaeaf i ddal cwningod, ac mae cofnodion y
Trysorlys o 1325-6 yn rhestru taliadau i dri daliwr cwningod a gyflenwodd,
gyda chymorth ffuredau a rhwydi, 'garcasau a chrwyn cwningod' gwerth £13
12s. Yn ddiweddarach yn y 14eg ganrif mae cofnod am dþ ffuredwr a storfa
carcasau gyda'i gilydd ar yr ynys, mewn lleoliad anhysbys. Buwyd yn ffermio
cwningod ar raddfa fwy dwys yn ystod y 19eg ganrif a pharhaodd hyn tan
1950. Bu peth llosgi calch, o'r creigwely naturiol, o fewn yr ardal yn
ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Erbyn hyn gwarchodfa natur genedlaethol
yw'r ynys ac fe'i rheolir gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru
ar brydles o Gyngor Cefn Gwlad Cymru.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ynys Selyf yn cynnwys y cyfan
o Ynys Selyf ac eithrio y rhan ganol lle y saif fferm ddiweddarach. Mae
clogwyni uchel ar bob ochr, sy'n codi i 70m o uchder, yn amddiffyn yr
ynys ac yn ei hynysu. Mae'n anodd glanio ar yr ynys. Uwchben y clogwyni,
nodweddir yr amgylchedd naturiol gan lwyfandir o fryniau isel wedi'i fritho
â brigiadau tebyg i foelydd. Ac eithrio pentir ar wahân a adwaenir fel
'The Neck' lle y lleolir caer o'r oes haearn, gorchuddir yr ardal gyfan
â systemau caeau ac aneddiadau cynhanesyddol. Rhennir y caeau gan wahanol
fath o ffiniau, sy'n cynnwys cloddiau isel o gerrig a phridd, balciau,
a rhesi o feini mawr sy'n sownd yn y ddaear. Mae'r caeau yn fach ac yn
rheolaidd eu siâp. Mae'r aneddiadau yn cynnwys cylchoedd cytiau wedi'u
hadeiladu o gerrig a phadogau neu iardiau ynghlwm wrthynt. Mae'r nifer
fawr o gwningod sy'n pori ar yr ynys yn cadw'r borfa yn fyr dros ddarnau
mawr o'r ynys, mewn mannau eraill ceir porfa a rhedyn hwy. Nid oes unrhyw
goed.
Mae adeiladau/strwythurau sy'n sefyll yn cynnwys odyn galch
sy'n rhestredig Gradd II, a thy modern y warden bywyd gwyllt. Mae archeoleg
a gofnodwyd yn cynnwys yn bennaf systemau caeau cynhanesyddol, clostiroedd,
carneddau clirio, cytiau, argaeau ac aneddiadau, y mae'r mwyafrif ohonynt
yn gofrestredig. Hefyd mae maen hir cofrestredig o'r oes efydd, caer bentir
gofrestredig o'r oes haearn a rhai nodweddion o gymeriad anhysbys, a all
ddyddio o'r cyfnod canoloesol.
Ardal gymeriad hanesyddol nodedig iawn ydyw ac iddi ffiniau
pendant, gyda'r môr ar un ochr a wal rhyngddi a thir ffermio diffaith
yr Hen Fferm.
Ffynonellau: Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Dyfed d.d.; Evans
1986; Evans 1990; Grimes 1950; Howells 1968; Lewis 1833; Owen 1911
|