Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Drefach-Felindre >

AFON TEIFI: CASTELLNEWYDD EMLYN - LLANDYSUL

AFON TEIFI: CASTELLNEWYDD EMLYN - LLANDYSUL

CYFEIRNOD GRID: SN352401
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 388

Cefndir Hanesyddol

Ardal gul, hir o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin a Cheredigion sy’n cynnwys gorlifdir bras, golygfaol rhan isaf afon Teifi rhwng Castellnewydd Emlyn i’r gorllewin a Llandysul i’r dwyrain. Tir amaeth yw’r ardal gyfan bron ac fe’i nodweddir gan dir pori wedi’i rannu’n gaeau eithaf mawr sydd yn aml yn rheolaidd eu siâp. Mae afon Teifi yn ffurfio’r ffin rhwng y ddwy sir ond mae hanes canoloesol a diweddarach yr ardal yn debyg yn y ddwy. Arhosodd Cantref Emlyn (cwmwd Emlyn Uwch-Cych) sydd i’r de o’r afon, a Chantref Is Aeron (cwmwd Gwynionydd) sydd i’r gogledd o’r afon yn nwylo’r Cymry tan y 13eg ganrif er iddynt ddod o dan reolaeth Eingl-Normanaidd am gyfnod byr rhwng 1100 a 1136 pan sefydlwyd nifer o gestyll. Cyfeddiannwyd y ddwy ardal yn y diwedd gan goron Lloegr yn 1283, pan grëwyd sir Aberteifi. Yn y diwedd daeth cwmwd Emlyn Uwch-Cych yn rhan o Gantref Elfed yn sir Gaerfyrddin, yn 1536. Patrwm tirddaliadaeth Cymreig - na chynhwysai na threflannau na ffioedd marchog - a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth; mae hyn a llifogydd achlysurol wedi llesteirio unrhyw anheddu yn yr ardal. Fodd bynnag, cafwyd rhywfaint o anheddu. Roedd yr eglwys yn Llandyfrïog (Ceredigion), yn union ar lan yr afon, eisoes yn eglwys blwyf yn 1291 ac mae’n bosibl iddi gael ei sefydlu ynghynt (ond fe’i hail-adeiladwyd yn gyfan gwbl yn y 19eg ganrif). Ymddengys na fu’n ganolbwynt i anheddu domestig erioed. Roedd y safle â ffos o’i amgylch yn Henllys wedi’i gofnodi erbyn y 14eg ganrif (nid yw’r enw o reidrwydd yn amlygu tarddiad arbennig o gynnar), a sefydlwyd nifer fach o ffermydd - sef Ddôl, Berthyfedwen, Cwmisdwr a Bercoed Uchaf - yn ddiweddarach ar y gorlifdir. Byddai’r ardal wedi bod yn fwy anghysbell nag ydyw heddiw yn ystod y cyfnod hanesyddol, am fod y ddwy ffordd sydd bellach yn rhedeg ar y naill ochr a'r llall i’r gorlifdir - sef yr A484 ar yr ochr ddeheuol a’r A475 i’r gogledd - yn gyn-ffyrdd tyrpeg a adeiladwyd o’r newydd ar ddiwedd y 18fed ganrif. Mae’n bosibl bod y patrwm caeau wedi’i sefydlu i raddau helaeth erbyn dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, a dengys mapiau ystad a mapiau degwm nad yw’r ardal wedi newid fawr ddim yn ystod y 200 mlynedd diwethaf. Collwyd ychydig o ffiniau ers i fapiau ystad gael eu llunio yn 1778, ac mae’n amlwg o fapiau hanesyddol bod cwrs yr afon wedi newid mewn rhai mannau. Fodd bynnag, cyfrannai’r rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberteifi a adeiladwyd trwy’r ardal - a agorwyd o dan gwmni rheilffordd Great Western yn 1895, ond a derfynai mewn gwirionedd yng Nghastellnewydd Emlyn - yn fawr at gymeriad yr ardal nes iddi gael ei chau yn 1973. Cludai frethyn a gynhyrchwyd yn lleol yn bennaf, a da byw, llaeth a choed.

AFON TEIFI: CASTELLNEWYDD EMLYN - LLANDYSUL

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys gorlifdir afon Teifi rhwng Castellnewydd Emlyn a Llandysul, pellter o ryw 12km. Mae’r gorlifdir tua 0.5 cilomedr o led ar gyfartaledd ac fe’i lleolir rhwng 30m a 50m uchlaw lefel y môr. Tir pori wedi’i wella yw’r defnydd a wneir o’r tir bron yn gyfan gwbl a cheir rhywfaint o dir pori heb ei wella. Rhennir y caeau o faint canolig i fawr, eithaf rheolaidd eu siâp gan wrychoedd. Anaml y mae’r gwrychoedd wedi’u gosod ar gloddiau terfyn, ac mae’r cloddiau sydd i’w cael yn isel. Weithiau ceir gwrychoedd bob ochr i nentydd a ffosydd draenio. Mae llawer o’r gwrychoedd wedi tyfu’n wyllt, ac mae’r rhain ynghyd â’r nifer fawr o goed gwrychoedd mawr yn rhoi golwg ‘parcdir’ i rannau o’r dirwedd. Ar wahân i eglwys Llandyfrïog, nid oes unrhyw adeiladau, ond mae dwy bont yn croesi’r afon lle y mae’r dyffryn yn culhau nes ei fod tua 50m o led. Mae Pont Henllan yn bont un bwa wedi’i hadeiladu o lechi Dyffryn Teifi a chanddi garreg ddyddiad ddyddiedig 1774, ac mae Pont Allt-y-Cafan hefyd wedi’i hadeiladu o gerrig lleol a chanddi un bwa a charreg ddyddiad dyddiedig 1839. Mae’r ddwy yn adeiladau rhestredig. Mae darnau o gyn-ffyrdd tyrpeg - sef yr A484, yr A486 a’r A475 - yn rhedeg ar hyd ymyl y gorlifdir ac mewn mannau mae’r ffyrdd hyn yn ei groesi. Ceir waliau â morter arnynt o bob tu i ddarnau o’r ffyrdd hyn. Mae arglawdd tra choediog rheilffordd a ddatgymalwyd sy’n rhedeg ar draws y gorlifdir bron o’r naill ben i’r llall yn elfen dirwedd nodedig. Sefydlwyd maes chwarae, gwaith trin carthion a safle carafanau yn ddiweddar ar y gorlifdir. Cyfyngir yr archeoleg hysbys i’r anheddiad canoloesol â ffos o’i amgylch yn Henllys.

Mae’r nifer fach o adeileddau a golwg ‘parcdir’ yr ardal gymeriad dirwedd hanesyddol yn gwahaniaethu rhyngddi a’r ardaloedd sy’n ffinio â hi. Mae ei natur wastad, mewn cyferbyniad â thir bryniog y dirwedd oddi amgylch, yn ein galluogi i dynnu ffin bendant o’i hamgylch.

Ffynonellau: Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Dyfed Archaeological Trust; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol I, Caerdydd; Ludlow, N, 2000 ‘The Cadw Historic Churches Project: Ceredigion Churches’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Dyfed Archaeological Trust ar gyfer cleient; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Llyfr mapiau’r Parch J C Davies 1793 – 1815; map degwm plwyf Llandyfrïog 1844; map degwm plwyf Llanfair Onllwyn 1844; map degwm plwyf Llangeler 1839; map degwm plwyf Penboyr 1840; Meyrick, S R, 1810, The History of and Antiquities of Cardiganshire, Llundain; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth Century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain; Rheilffordd Gwili, d.d., Guide to the Gwili Railway.

MAP AFON TEIFI: CASTELLNEWYDD EMLYN - LLANDYSUL

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]