Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Drefach-Felindre >

DRE-FACH FELINDRE

DRE-FACH FELINDRE

CYFEIRNOD GRID: SN353385
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 127

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin sy’n cynnwys dyffrynnoedd Nant Bargod a’i hisafonydd, Nant Esgair a Nant Brân, sydd â llethrau serth ar y cyfan. Mae ei chymeriad wedi’i lunio’n bennaf gan ddiwydiant gwlân y 19eg ganrif. Gorweddai’r ardal o fewn cantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch-Cych. Dygwyd Cantref Emlyn yn rhannol o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 pan ad-drefnwyd cwmwd Emlyn Is-Cych, i’r gorllewin, i greu Arglwyddiaeth Cilgerran. Sefydlwyd nifer o gestyll yng nghwmwd Uwch-Cych - nad oes gan yr un ohonynt unrhyw hanes cofnodedig - ond roedd y cwmwd yn ôl o dan reolaeth y Cymry erbyn y 1130au, ac arhosodd felly trwy gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Cymerodd Ieirll Marshall Eingl-Normanaidd Penfro feddiant ar gwmwd Uwch-Cych yn 1223, ond fe’i rhoddwyd i Maredudd ap Rhys, ac arhosodd ym meddiant ei deulu yntau nes cael ei gyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr yn 1283. Roedd yn rhan o Gantref Elfed yn sir Gaerfyrddin yn 1536, pan ymunodd Is-Cych â sir Benfro. Rhoddwyd Uwch-Cych i Syr Rhys ap Thomas, ffefryn yn y llys brenhinol, ar ddiwedd y 15fed ganrif. Dychwelodd i’r goron yn 1525 a’i rhoddodd i Syr Thomas Jones o Haroldston, sir Benfro, yn 1546. Arhosodd ym meddiant y teulu hwn am nifer o genedlaethau cyn cael ei drosglwyddo yn y diwedd trwy briodas i Ystad Gelli Aur y teulu Vaughan, a oedd yn dal i fod yn berchen ar bron yr holl dir ar ochr ddeheuol afon Teifi o Bentre-cwrt yn y dwyrain i Genarth yn y gorllewin yn y 19eg ganrif. Y patrwm tirddaliadaeth canoloesol Cymreig - na chynhwysai na threflannau na ffioedd marchog - a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth. Yn wir ni fu fawr ddim anheddu yn ardal gymeriad Dre-fach Felindre cyn diwedd y 18fed ganrif hon, er i aneddiaddau canoloesol gael eu cofnodi yng Nghringae, sydd bellach yn fferm, ac yn Aberbargod.

Oherwydd i frethyn gael ei gynhyrchu mewn sawl lleoliad yn y De-orllewin yn ystod y cyfnod canoloesol ac ar ddechrau’r cyfnod modern, mae’n debygol iddo gael ei gynhyrchu hefyd yn Dre-fach Felindre, ac efallai mai melin bannu oedd y felin yng Nghringae yn y 14eg ganrif. Roedd capel anwes bach i blwyf Penboyr wedi’i sefydlu, ac o fewn hyn sefydlwyd Felindre erbyn dechrau’r 18fed ganrif. Roedd Capel y Drindod Sanctaidd, a elwid yn Gapel Bach hefyd, ‘mewn cyflwr gwael’ yn 1750 ac adeiladwyd Eglwys Sant Barnabas yn ei le yn 1862. Yr hyn nad yw’n glir yw pam y dechreuodd Dre-fach Felindre chwarae rhan amlwg yn y diwydiant cynhyrchu brethyn yng Nghymru yn ystod y 19eg ganrif, gan arwain at alw’r lle yn ‘Huddersfield Cymru’. Ar ddiwedd y 18fed ganrif, sefydlwyd pedair melin bannu ym Mhentre-cwrt, Dolwyon, Dre-fach a Chwmpencraig; cynhaliwyd swyddogaethau eraill â llaw, mewn cartrefi neu mewn gweithdai bach. Roedd ffatrïoedd cardio ar waith yng Nghwmpencraig a Dolwyon erbyn yr 1820au, ac roedd gan ffatrïoedd diweddarach beiriannau nyddu. Ynghlwm wrth y cynnydd mewn gwaith cynhyrchu brethyn oedd twf aneddiadau. Yn 1776 dim ond ychydig o dai o’r enw Velindre Shinkin oedd yn Felindre ond erbyn yr arolwg o’r degwm a gynhaliwyd oddeutu 1840 roedd wedi tyfu i fod yn bentref yn cynnwys oddeutu 20 o dai. Roedd tua 20 o dai yn Nhre-fach ac roedd tua 7 tyˆ yn Nhrefelin. Ni chofnodir unrhyw anheddiad yn Waungilwen ar y map degwm. Yn wir, tir comin oedd ardal Drefelin, ac mae’n debygol bod yr anheddiad wedi cychwyn gyda sgwatwyr yn adeiladu tai anghyfreithlon. Ymddengys bod proses debyg wedi digwydd yng Nghwmhiraeth.

Yn sgîl cyflwyno’r gwþdd peiriannol yn y 1850au a mwy o ddibyniaeth ar bðer dðr a ffynonellau pðer eraill yn ddiweddarach, ehangwyd y diwydiant, ac adeiladwyd melinau sylweddol (gyda rhai ohonynt yn cyflogi 50-100 o bobl) yn Nhre-fach, Felindre, Drefelin, Cwmpengraig, Cwmhiraeth a Phentre-cwrt erbyn degawd cyntaf yr 20fed ganrif. Estynnwyd yr aneddiadau i gynnwys gweithwyr a phersonél arall, a degawdau prysuraf y diwydiant o 1880 i 1910 sydd wedi llywio’r dirwedd hanesyddol yn bennaf. Yn ystod y cyfnod hwn, sefydlwyd canolfannau poblogaeth Dre-fach a Felindre, gyda’u tai gweithwyr, tai perchenogion melinau, siopau, eglwys a mannau addoli eraill, yn ogystal ag aneddiadau eilaidd megis Cwmpencraig a Chwmhiraeth, gyda’u ffatrïoedd, tai perchenogion melinau, tai gweithwyr, a chapeli mewn clystyrau ar lawr dyffrynnoedd cul. Adlewyrchir dirywiad y diwydiant gwlân o’r 1920au yn y dirwedd hanesyddol am nad oes llawer o dai neu adeiladau eraill yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif. Fodd bynnag, mae tai o ddiwedd yr 20fed ganrif, yn arbennig datblygiad llinellol, wedi cysylltu rhai o’r aneddiadau a oedd yn arfer bod ar wahân, megis cysylltu Dre-fach a Felindre â Waungilwen.

DRE-FACH FELINDRE

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae aneddiadau diwydiannol bach yn uno’r ardal gymeriad hanesyddol hon ac iddi siâp rhyfedd. Mae canol yr ardal tua 50m uwcben lefel y môr wrth gymer Nant Bargod, Nant Esgair a Nant Brân lle y mae dyffrynnoedd llethrog y nentydd hyn sy’n llifo i’r gogledd yn cyrraedd Dyffryn Teifi, ond mae hefyd yn cynnwys aneddiadau a chaeau i fyny’r afon ar lawr dyffrynnoedd cul yn codi hyd at 90m uwchben lefel y môr. Y grym symudol a ddarperir gan y nentydd hyn oedd y prif reswm dros dwf y diwydiant gwlân, ac nid yw’r ffatrïoedd na’r aneddiadau cysylltiedig wedi ehangu yn bell o lawr y cwm. Hyd at ganol yr 20fed ganrif, roedd y pentrefi a’r pentrefannau a oedd yn yr ardal gymeriad hon ar wahân yn ffisegol i ryw raddau, er bod ganddynt yr un swyddogaeth a chymeriad, ond ers hynny mae datblygiad preswyl wedi uno’r ddau brif aneddiad – Dre-fach a Felindre – â Waungilwen. Gwelwyd datblygiad llai diweddar ym mhentrefannau Drefelin, Cwmpengraig, Cwmhiraeth a Glyn-teg, yn y dyffrynnoedd llethrog ac maent wedi cadw eu cymeriad unigol. Mae’r pentrefi a’r pentrefannau yn llinellol, ar hyd llawr dyffrynnoedd neu ar hyd ffyrdd. Nid oes canolbwynt penodol i’r aneddiadau hyn erbyn hyn, ac mae’r clystyrau o dai o amgylch melinau unigol neu adeiladau eraill megis capeli a oedd yn arfer bodoli wedi’u cynnwys ym mhatrwm yr anheddiad cyfan.

Dre-fach yw’r pentref mwyaf ac fe’i disgrifir yn gyntaf am ei fod yn cynnwys y rhan fwyaf o’r elfennau y gellir eu gweld yn y pentrefi a’r pentrefannau eraill hefyd. Anheddiad diwydiannol o’r 19eg ganrif ydyw yn bennaf. Mae’r melinau yma yn amrywio o adeiladau deulawr sylweddol o garreg a bric megis y Melinau Cambriaidd integredig (sydd bellach yn rhan o Amgueddfa ac Orielau Cenedlaethol Cymru) a adeiladwyd yn bennaf yn ystod degawd cyntaf yr 20fed ganrif, i gytiau/gweithdai gwehyddu ynghlwm wrth dai neu wedi’u hymgorffori ynddynt fel croglofftydd neu loriau uwch, megis Pantglas a Thyˆ Llwynbrain (mae’r tai hyn a’r Melinau Cambriaidd wedi’u rhestru). Yr adeiladau rhestredig eraill yn Nhre-fach yw capel o ddiwedd y 19eg ganrif, melinau a thai mawr ar wahân o ddiwedd y 19eg ganrif yn perthyn i’r dosbarthiadau canol a pherchenogion melinau, megis Greenfield, Bargoed Villa a Neuadd Meiros. Nid yw’r rhan fwyaf o’r tai wedi’u rhestru a thai gweithwyr o’r 19eg ganrif ydynt. Mae sawl arddull yn amlwg, ond tai teras deulawr heb lawer o fanylion pensaernïol a geir gan amlaf, yn cynnwys tai teras o un cyfnod ac mewn un arddull a thai teras lluosog mewn arddull gymysg. Mae’n debyg eu bod yn deillio o dai a ddarparwyd gan berchenogion melinau neu waith adeiladu hapfasnachol gan dirfeddianwyr. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn y traddodiad brodorol Sioraidd, gyda ffenestri codi cymharol fawr a ffasadau wedi’u trefnu’n gymesur. Mae rhai manylion Gothig yn amlwg ar rai o’r anheddau ac mae rhes o fythynnod deulawr o ganol y 18fed ganrif yng nghanol y pentref. Carreg – a gloddiwyd yn lleol a llechi dyffryn Teifi – yw’r prif ddeunydd adeiladu. Caiff llechi dyffryn Teifi eu naddu a’u gosod mewn rhesi ar y tai mwy o faint, megis Greenfield, ond defnyddir cerrig gan amlaf fel cerrig llanw ar fythynnod gweithwyr ac adeiladau eraill. Mae’r defnydd o friciau melyn ac, i raddau llai, briciau coch ar gyfer cilbyst a cherrig bwa drysau a ffenestri yn rhoi cymeriad hynod i lawer o adeiladau. Mae cerrig bwa lluniedig yn bresennol hefyd. Mae rendrad sment a distempro lliw yn gyffredin hefyd, yn arbennig ar adeiladau yn dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif. Efallai fod rhai o’r rhain wedi’u gwneud o frics, er nad yw’r defnydd o frics ar gyfer yr adeilad cyfan yn gyffredin cyn dechrau’r 20fed ganrif. Mae llechi wedi’u naddu’n fasnachol o’r Gogledd ym mhobman. Parhaodd gwaith datblygu drwy gydol yr 20fed ganrif, gydag enghreifftiau o dai maestrefol o 1930 i 1950 ar gyrion y pentref ac yn llenwi lleoedd gwag yn y pentref ei hun. Mae’r gwaith o adeiladu tai yn parhau heddiw, ac mae byngalos a thai yn dyddio o’r 20fed ganrif bellach yn cysylltu pentref Dre-fach â Felindre.

Mae Felindre yn rhannu llawer o nodweddion â Dre-fach. Mae ganddo felinau gwlân rhestredig, tai teras gweithwyr a thai dosbarth canol mwy o faint neu dai perchenogion melinau. Saif eglwys Sain Barnabas, eglwys Anglicanaidd y cymunedau, yn yr arddull gothig yn dyddio o ganol y 19eg ganrif, a’r ysgol yn dyddio o’r 19eg ganrif, yma. Addaswyd ysgubor i greu capel cynnar yn Felindre, sef Capel Pen-rhiw, yn 1777. Roedd yn enghraifft o’r math ‘cyntefig’ o bensaernïaeth capeli ac fe’i symudwyd i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Efallai i Dyˆ Felindre gyferbyn â’r eglwys gael ei sefydlu yn y 18fed ganrif, ac os yw hynny’n wir, mae’n hþn nag adeiladau eraill yn yr ardal, er ei fod yn edrych fel tþ deulawr wedi’i adeiladu o gerrig llanw yn dyddio o’r 19eg ganrif o’r tu allan. Yn debyg i Dre-fach, mae datblygiad llinellol yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif yn cysylltu’r pentref â’r pentrefi sydd nesaf ato.

Mae rhan hynaf Waungilwen yn cynnwys terasau o dai gweithwyr a thai gweithwyr ar wahân yn yr arddull frodorol yn dyddio o’r 19eg ganrif, gan gynnwys rhai bythynnod unllawr. Mae gan Drefelin felin restredig wedi’i hadeiladu o garreg, ar safle melin hyˆ n, a theras o dai gweithwyr yn dyddio o’r 19eg ganrif yn rhedeg ar hyd llawr y cwm. Ymhellach i fyny’r cwm, yng Nglyn-teg, mae capel yn dyddio o’r 19eg ganrif, fferm a theras byr o fythynnod gweithwyr unllawr yn dyddio o’r 19eg ganrif. Mewn lle bach iawn ar lawr y dyffryn cul yng Nghwmpengraig mae capel, melin wlân a thyˆ gweithiwr, y mae pob yn ohonynt yn dyddio o’r 19eg ganrif. Mae Cwmhiraeth yr un mor gyfyng. Yma ceir clwstwr llac o dai gweithwyr deulawr yn dyddio o’r 19eg ganrif – tai ar wahân, tai pâr a thai teras – bythynnod unllawr a thyddynnod a melin drillawr anghyfannedd. Llechi dyffryn Teifi yw’r prif ddeunydd adeiladu. Mae nifer fach o fyngalos a thai modern hefyd. Y tu mewn i gaeau llawr y dyffryn neu gerllaw, rhwng y pentrefi a’r pentrefannau, ceir melinau, bythynnod, tai gweithwyr, tai perchenogion melinau anghysbell eraill, y mae bron pob un ohonynt yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Er bod y rhan fwyaf o’r rhain yn edrych fel cartrefi, mae gan lawer o’r anheddau hyn gytiau gwehyddu neu weithdai ynghlwm wrthynt, er bod y mwyafrif ohonynt mewn cyflwr adfeiliedig erbyn hyn.

O’r 115 o safleoedd archeolegol a gofnodwyd yn yr ardal hon, adeiladau a strwythurau fel y’u disgrifiwyd uchod yw’r mwyafrif llethol ohonynt, ac mae eraill yn gysylltiedig â’r diwydiant gwlân, megis ffrydiau melinau a phyllau. Nid oes fawr ddim archeoleg a gofnodwyd sy’n gynharach na’r 19eg ganrif, ac nid yw’r safleoedd archeolegol a geir – sef tair ffynnon gysegredig – yn nodweddiadol iawn o’r ardal.

Mae’r grwpiau tynn o adeiladau a godwyd o gerrig lleol mewn arddull bensaernïol debyg, fwy neu lai, o fewn cyfnod byr iawn o 1870 hyd 1910 yn darparu cymeriad tirwedd hanesyddol cryf i Dre-fach Felindre. Felly, mae’n ardal dirwedd hanesyddol hynod iawn, ac mae’n gwrthgyferbynnu â choetir a thir ffermio ardaloedd cyfagos. Fodd bynnag, mae llawer o nodweddion pensaernïol yr adeiladau diwydiannol – sef y defnydd a wnaed o lechi dyffryn Teifi, arddull yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif –i’w gweld yn adeiladau amaethyddol y gymdogaeth.

Ffynonellau: Archifdy Caerfyrddin c/v 5885 Ystad Castellnewydd Emlyn – Eiddo John Vaughan 1778, map 76; Bowen, E G, 1939, ‘Economic and Social Life’, yn J E Lloyd, A History of Carmarthenshire Volume II, From the Act of Union (1536) to 1900, 265-406, Caerdydd; Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Craster, O E, 1957, Cilgerran Castle, Llundain; Jack, R I, 1981, ‘Fulling Mills in Wales and the March before 1547’, Archaeologia Cambrensis 130, 70-125; Jenkins, J G, 1998 ‘Rural Industries in Cardiganshire’ yn G H Jenkins ac I G Jones, Cardiganshire County History Volume 3: Cardiganshire in Modern Times, 135-59, Caerdydd; Jones , D E, 1899, Hanes Plwyfi Llangeler a Phen-boyr, Llandysul; Hilling, J B, 1975, The Historic Architecture of Wales, Caerdydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 & 2, Llundain; map degwm plwyf Llangeler 1839; Llawysgrifau Amgueddfa Genedlaethol Cymru Cyfrol 84 (PE965) Cynllun Cau Tiroedd yn Llangeler, Penboyr a Chilrhedyn 1866; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol I, Caerdydd; Ludlow, N, Wilson, H a Page, N, 2001, ‘Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed n Mills, Drefach Felindre’, adroddiad cleient nas cyhoeddwyd gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ; map degwm plwyf Penboyr 1840; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain.

MAP DRE-FACH FELINDRE

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221