Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Drefach-Felindre >

HENLLAN

HENLLAN

CYFEIRNOD GRID: SN354408
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 167

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern Ceredigion sy’n cynnwys ardal adeiledig pentref Henllan a’r cylch, ar lan ogleddol afon Teifi lle y mae’r gorlifdir yn culhau. Fe’i lleolir o fewn cantref canoloesol Is Aeron, yng nghwmwd Gwynionydd. Daethpwyd â Hen Geredigion, gan gynnwys Gwynionydd, o dan reolaeth Eingl-Normanaidd am gyfnod byr rhwng 1110 a 1136, o dan ieirll de Clare. Mae’n debyg mai yn ystod y cyfnod hwn y sefydlwyd y mwyafrif o’r nifer fawr o gestyll a geir yn yr Ardal Gofrestr hon, y mae’n bosibl i rai ohonynt gael eu hadeiladu yn ystod ailoresgyniad y Cymry yn 1135-6. Ychydig ohonynt sydd ag unrhyw hanes cofnodedig. Mae’n bosibl bod y cloddwaith yn Felin Cwrrws yn gastell cynnar, ond mae’n fwy tebyg ei fod yn dyddio o’r Oes Haearn, yn debyg i’r fryngaer amlgloddiog fawr i’r de o Henllan ei hun. Os cafodd ei hailddefnyddio yn ystod y cyfnod canoloesol, fe’i gadawyd yn gynnar, ac ni ddaeth erioed yn ganolbwynt i unrhyw anheddiad cnewyllol nac unrhyw anheddiad arall. Ac ni ddatblygodd anheddiad o amgylch eglwys plwyf Henllan, ar y gorlifdir, ychwaith. Cofnodir yr eglwys ar ddiwedd y 12fed ganrif, ond mae bron yn sicr ei bod yn sefyll ar safle canoloesol cynharach, ac mae ganddi fynwent gron fawr a sefydlwyd o bosibl gan fynachod. Ailadeiladwyd yr eglwys yn gyfan gwbl yn y 19eg ganrif. Arhosodd Ceredigion yn nwylo’r Cymry trwy gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, nes iddi gael ei chyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr yn 1283, pan grëwyd sir Aberteifi. Y patrwm tirddaliadaeth Cymreig - na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchog - a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth.

Sefydlwyd pentref Henllan yn ei gyfanrwydd yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif ac nid yw’n gysylltiedig ag eglwys y plwyf, a leolir 0.5km i’r gogledd-orllewin. Lleolir y pentref yr un mor bell oddi wrth Dþ Henllan, a gofnodir fel tþ bonedd yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol a safle melin ddðr (melin þd). Dangosir yr ardal gymeriad yn ei ffurf bresennol ar fap degwm plwyf Henllan dyddiedig 1844, ar wahân i’r pentref na fodolai bryd hynny. Mae’n bosibl iddo ddatblygu ar ôl i ddwy felin wlân gael eu sefydlu, yng Nghwerchyr yn 1840, a Threbedw yn 1885, ond roeddynt bob amser ar ymylon y brif ganolfan cynhyrchu brethyn o amgylch Dre-fach Felindre. Mae’n amlwg i’r rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberteifi a adeiladwyd trwy’r ardal - a agorwyd o dan Reilffordd y Great Western yn 1895 - yr oedd ganddi orsaf yn Henllan, gyflymu ei ddatblygiad, ond parhaodd i fod yn bentref cymharol fach, a gynhwysai un stryd wedi’i chanoli ar yr orsaf reilffordd. Tua 1940, sefydlwyd gwersyll ar gyfer carcharorion rhyfel o’r Eidal ar y ffordd sy’n cyrraedd y pentref o’r de, ac yn y diwedd ymestynnai’r gwersyll dros 4.5 hectar a chynhwysai resi o Gytiau Nissen, y mae’r mwyafrif ohonynt wedi diflannu bellach. Roedd y gwersyll yn wag fwy neu lai erbyn 1944. Caeodd Melin Cwerchyr yn 1953, a Melin Trebedw yn 1958, tra caeodd y llinell reilffordd a’r orsaf yn 1973. Fodd bynnag, ail-agorwyd darn byr o’r llinell fel atyniad ymwelwyr, sef Rheilffordd Dyffryn Teifi, ac erbyn hyn defnyddir safle'r gwersyll carcharorion rhyfel ar gyfer carafanau a gwersylla, ac ystad ddiwydiannol fach.

HENLLAN

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Henllan yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol fach sy’n ymestyn ar draws llethr sy’n graddol ddisgyn ac yn wynebu’r gogledd rhwng 30m a 110m uwchben lefel y môr. Ardal gymysg ydyw sy’n cynnwys llawer o wahanol elfennau, ond yn y bôn mae’n cynnwys pentref Henllan yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a’r tir amaeth tra choediog o’i amgylch. Mae pentref Henllan, a phentref llai o faint Trebedw gerllaw, yn bentrefi llinellol gwasgarog, y mae’r ddau yn perthyn i ddiwedd y 19eg ganrif o ran eu cymeriad. Llechi dyffryn Teifi, sydd yn aml wedi’u naddu ac yn dra phatrymog yn hytrach na bod yn gerrig llanw dibatrwm, yw prif ddeunydd adeiladu’r 19eg ganrif, a ddefnyddir weithiau ar y cyd ag addurniadau o frics melyn. Mae llechi o’r Gogledd wedi’u defnyddio ar gyfer y toeau. Mae tai gweithwyr yn adeiladau deulawr sy’n sefyll mewn terasau, mewn parau ac ar wahân a cheir bythynnod unllawr hefyd. Mae gan Henllan deras o dai deulawr a adeiladwyd mewn un cyfnod sy’n cynnwys tai bargodol mwy o faint yn y ddeupen. Ceir eglwys o haearn rhychog hefyd. Mae nifer o hen adeiladau diwydiannol bach wedi’u hadeiladu o haearn rhychog, yn arbennig y rhai sy’n gysylltiedig â’r rheilffordd, a nifer o adeiladau allan amaethyddol hefyd. Mae rhai o’r adeiladau gwreiddiol sy’n perthyn i’r gwersyll carcharorion rhyfel a adeiladwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi goroesi, gan gynnwys Cytiau Nissen a chapel haearn rhychog unigryw, sy’n rhestredig Gradd II*, a addaswyd o floc cysgu ac a addurnwyd gan y carcharorion eu hunain. Mae’r mwyafrif o’r adeiladau eraill wedi diflannu. Cadwyd darn o’r rheilffordd fel llinell dwristaidd. Y tu hwnt i’r pentref, mae’r daliadau amaethyddol yn fach, ac mae’r tai a’r adeiladau allan yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Mae’r ffermdai yn arddull dde-orllewinol nodweddiadol y cyfnod: sef adeiladau deulawr a chanddynt dri bae, drws ffrynt canolog a ffenestri wedi’u trefnu’n gymesur. Mae’r adeiladau allan hþn wedi’u hadeiladu o gerrig ac maent yn ffurfio un neu ddwy res. Ceir adeiladau allan o haearn rhychog yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif hefyd, a rhesi bach o adeiladau amaethyddol modern hefyd. Rhennir y caeau gweddol fawr, afreolaidd eu siâp gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae llawer o’r gwrychoedd wedi tyfu’n wyllt. Tir pori wedi’i wella a thir mwy garw yw’r defnydd a wneir o’r tir. Ceir llawer o goetir collddail, y mae’n debyg bod rhywfaint ohono wedi aildyfu dros gaeau. Ailadeiladwyd eglwys plwyf Henllan yn gyfan gwbl yn ystod y 19eg ganrif. Lleolir dwy bont restredig, sef Pont Henllan a Phont Felin Cwrrws, yn yr ardal hon. Ar ben hynny, mae safleoedd archeolegol yn cynnwys dwy fryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn a safle melin þd.

Mae’r aneddiadau diwydiannol yn dyddio o’r 19eg ganrif a thirwedd dra choediog yn gwahaniaethu rhwng yr ardal hon a’r ardaloedd sy’n ffinio â hi.

Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ; Jenkins, J G, 1998 ‘Rural Industries in Cardiganshire’ yn G H Jenkins ac I G Jones, Cardiganshire County History Volume 3: Cardiganshire in Modern Times, 135-59, Caerdydd; King, D J C, 1988, Castellarium Anglicanum, Efrog Newydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Ludlow, N, 1994, ‘Aberbanc – Henllan Bridge watermain scheme: archaeological watching brief’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ; Ludlow, N, 2000 ‘The Cadw Welsh Historic Churches Project: Ceredigion Churches’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ; Ludlow, N, 2002, ‘The Cadw Early Medieval Ecclesiastical Sites Project, Stage 1: Ceredigion’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ; Map degwm plwyf Henllan 1844; Map degwm plwyf Llandyfriog 1844; Map degwm plwyf Llanfair Onllwyn 1844; Meyrick, S R, 1810, The History and Antiquities of Cardiganshire, Llundain; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain; Rheilffordd Gwili, d.d., Guide to the Gwili Railway

MAP HENLLAN

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221