Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Drefach-Felindre >

RHOS PENBOYR

RHOS PENBOYR

CYFEIRNOD GRID: SN333336
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1584

Cefndir Hanesyddol

Ardal fawr o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin sy’n cynnwys esgair helaeth o dir uchel sy’n gwahanu dyffryn Teifi i’r gogledd a dyffryn Tywi i’r de. Rhostir agored ydoedd, a elwir yn Fynydd Castell Newydd ar fap Emmanuel Bowen dyddiedig 1729 ac nis amgaewyd tan 1866. Yn hanesyddol, roedd yn gryn rwystr i deithwyr. Yn wir gelwir ei ben gorllewinol yn ‘Fose y Gelin’ gan Bowen, a cheir y rhybudd ‘A Dangerous Bogg which Strangers ought to be cautious of Crossing in ye Winter Season without Guides’. Yn debyg i dirweddau eraill yn y De-orllewin, henebion cynhanesyddol yw prif elfen y dirwedd hanesyddol; gan gynnwys 15 crug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd, a oedd, o fwriad, yn dra amlwg - ac sy’n dal i fod yn dra amlwg heddiw, yn arbennig y tri ar gopa Mynydd Moelfre ym mhen gorllewinol yr ardal - ac maent yn rhoi cymeriad gweledol a dyfnder amser i‘r ardal. Ni nodwyd unrhyw systemau caeau cyfoes hyd yma, er ceir clawdd amddiffynnol llinellol enfawr a elwid yn Glawdd-Mawr, sy’n croesi pen dwyreiniol yr esgair, sy’n dyddio o ddechrau’r cyfnod canoloesol, ond a allai fod yn llawer cynharach.

Yn ystod y cyfnod hanesyddol, gorweddai’r rhan fwyaf o’r ardal hon o fewn cantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch-Cych a arhosodd yn nwylo’r Cymry i raddau helaeth tan y 13eg ganrif. . Fe’i cyfeddiannwyd yn y diwedd gan goron Lloegr yn 1283, ac yn 1536 roedd yn rhan o Gantref Elfed yn sir Gaerfyrddin. Mae rhan ddeheuol yr ardal gymeriad hon yng Nghantref Gwarthaf, yng nghwmwd Elfed. Daethpwyd â’r ardal hon o dan reolaeth Eingl-Normanaidd yn fuan ar ôl i’r castell brenhinol gael ei sefydlu yng Nghaerfyrddin, yn 1109-10, fel rhan o Uchelarglwyddiaeth Caerfyrddin a oedd yn gysylltiedig. Yn 1284, daeth yn graidd i sir Gaerfyrddin a oedd newydd ei ffurfio. Fodd bynnag, cynrychiolai ‘Frodoraeth’ yr arglwyddiaeth a’r sir, ac felly parhaodd patrwm tirddaliadaeth Cymreig yn y ddwy ardal - na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchog. Y patrwm tirddaliadaeth hwn a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth. Yn wir, ymddengys na fu fawr ddim gweithgarwch anheddu yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Rhos Penboyr cyn diwedd y 19eg ganrif. Fodd bynnag, mae tystiolaeth ddogfennol o weithgarwch cloddio am blwm ac arian yn ystod yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif.

Roedd Mynydd Moelfre yn dir comin ffurfiol yn ystod y cyfnod canoloesol, a dangosir y cyfan o’r ardal gymeriad fel tir comin agored - rhostir yn y bôn – ar fapiau degwm dyddiedig tua 1840, er bod sgwatwyr wedi tresmasu ar gyrion is y tir comin erbyn y dyddiad hwn gan adeiladu bythynnod a gosod caeau. Amgaewyd y rhan fwyaf o’r tir comin, gan gynnwys y rhan fwyaf o’r ardal gymeriad hon, trwy Ddeddf Seneddol yn 1866. Cynlluniwyd caeau eithaf mawr, rheolaidd eu siâp, ac yn fuan ar ôl hynny adeiladwyd bythynnod a ffermydd. Bu ymyriadau diweddarach yn gyfyngedig, er i ail linell amddiffynnol, sef Llinell Atal Rhos-Llangeler, gael ei hadeiladu ar draws yr esgair i’r gorllewin o Glawdd Mawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ers y rhyfel, sefydlwyd planhigfeydd o goed coniffer dros rai o’r caeau, a’r planhigfeydd hyn ynghyd â thri thyrbin gwynt enfawr - a adeiladwyd ar ddechrau’r 21ain ganrif ar Fynydd Moelfre - yw nodweddion tirwedd amlycaf yr ardal.

RHOS PENBOYR

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Rhos Penboyr yn esgair sy’n ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin rhwng 210m a 330m uwchben lefel y môr ac sy’n ffurfio’r gwahaniad dyfroedd rhwng afon Teifi i’r gogledd ac afon Tywi i’r de. Tirwedd amaethyddol ydyw a orchuddir mewn mannau â choedwigoedd o goed coniffer a blannwyd. Mae’r caeau mawr, rheolaidd eu siâp a’r lonydd syth yn nodweddiadol o dirwedd a grëwyd gan Ddeddf Seneddol, yn yr achos hwn yn 1866. Ardal agored yn nannedd y gwynt ydyw, ac o ganlyniad mae’r gwrychoedd ar y cloddiau terfyn naill ai’n rhesi anniben o lwyni isel neu nid oes dim gwrychoedd o gwbl. Ffensys pyst a gwifrau yw’r prif ffiniau cadw stoc. Ar wahân i goedwigoedd mawr o goed coniffer a blannwyd, sy’n un o brif nodweddion y dirwedd hon, nid oes coed yn tyfu yma. Tir pori wedi’i wella yw’r defnydd a wneir o’r tir a cheir ambell gae o dir pori heb ei wella a phocedi o rostir grugog/rhedynog. Mae’r ffermydd yn fach ac wedi’u gwasgaru’n eang. Er i’r mwyafrif o’r ffermydd gael eu sefydlu yn ail hanner y 19eg ganrif, prin yw’r tai neu’r adeiladau allan fferm a adeiladwyd cyn ail hanner yr 20fed ganrif. Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig. Mae tri thyrbin enfawr a adeiladwyd ar ddechrau’r 21ain ganrif yn nodweddion tirwedd amlwg. Mae clawdd amddiffynnol Clawdd-Mawr yn croesi pen dwyreiniol yr esgair. Dynodir Llinell Atal Rhos-Llangeler a adeiladwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan giwbiau gwrthdanciau a chaerau tanddaearol, ac mae’n croesi’r esgair ymhellach i’r gorllewin. Mae safleoedd archeolegol eraill yn cynnwys dros 15 o grugiau crwn yn dyddio o’r Oes Efydd, y mae’r mwyafrif ohonynt yn Henebion Cofrestredig. Mae’r rhai amlycaf yn eu plith, a leolir ar bennau bryniau, yn elfennau tirwedd hanesyddol pwysig ac maent yn dangos bod yr ardal wedi’i defnyddio cyn y 19eg ganrif.

Mae i’r ardal gymeriad dirwedd hanesyddol hon ffiniau eithaf pendant ac mae’n cyfateb yn y bôn i’r tir a amgaewyd trwy Ddeddf Seneddol yn 1866. Erbyn hyn mae ffiniau’r ardal ychydig yn llai pendant, sydd i’w briodoli yn arbennig i sefydlu planhigfeydd o goed coniffer, ond serch hynny mae’r ffiniau hanesyddol yn dal yn ddilys.

Ffynonellau: Archifdy Caerfyrddin c/v 5885 Ystad Castellnewydd Emlyn – Eiddo John Vaughan 1778, map 54, 56; Bowen E, 1729 A Map of South Wales; Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Jones, D E, 1899, Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, Llandysul; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol I, Caerdydd; Llawysgrifau Amgueddfa Genedlaethol Cymru Cyfrol 84 (PE965) Cynllun Cau Tiroedd yn Llangeler, Penboyr a Chilrhedyn 1866; Map degwm plwyf Conwil 1840; Map degwm plwyf Llangeler 1839; Map degwm plwyf Penboyr 1840; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain

MAP RHOS PENBOYR

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221