Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Drefach-Felindre >

WAUNFAWR

WAUNFAWR

CYFEIRNOD GRID: SN382339
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 475

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin, a leolir ym mhen dwyreiniol esgair helaeth o dir uchel sy’n gwahanu dyffryn Teifi i’r gogledd a dyffryn Tywi i’r de. Ar fap Emmanuel Bowen dyddiedig 1729 fe’i dangosir fel rhostir agored o dan yr enw ‘Mynydd Castell Newydd’. Yn hanesyddol, roedd yn gryn rwystr i deithwyr. Nid amgaewyd yr ardal tan 1866. Yn debyg i dirweddau eraill mewn mannau eraill yn y De-orllewin henebion cynhanesyddol yw prif elfen y dirwedd hanesyddol. Mae dwy domen gladdu yn dyddio o’r Oes Efydd a leolir yn ei man uchaf – yr oedd y ddwy ohonynt, o fwriad, yn dra amlwg - yn rhoi cymeriad gweledol a dyfnder amser i‘r ardal. Ni nodwyd unrhyw systemau caeau cyfoes.

Yn ystod y cyfnod hanesyddol, gorweddai’r rhan fwyaf o’r ardal hon o fewn cantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch-Cych a arhosodd yn nwylo’r Cymry i raddau helaeth tan y 13eg ganrif. Fe’i cyfeddiannwyd yn y diwedd gan goron Lloegr yn 1283, ac yn 1536 roedd yn rhan o Gantref Elfed yn sir Gaerfyrddin. Mae rhan ddeheuol yr ardal gymeriad hon yng Nghantref Gwarthaf, yng nghwmwd Elfed. Daethpwyd â’r ardal hon o dan reolaeth Eingl-Normanaidd yn fuan ar ôl i’r castell brenhinol gael ei sefydlu yng Nghaerfyrddin, yn 1109-10, fel rhan o Uchelarglwyddiaeth Caerfyrddin a oedd yn gysylltiedig. Yn 1284, daeth yn graidd i sir Gaerfyrddin a oedd newydd ei ffurfio. Fodd bynnag, cynrychiolai ‘Frodoraeth’ yr arglwyddiaeth a’r sir, ac felly parhaodd patrwm tirddaliadaeth Cymreig yn y ddwy ardal - na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchog. Y patrwm tirddaliadaeth hwn a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth. Yn wir, ymddengys na fu fawr ddim gweithgarwch anheddu yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Waunfawr cyn diwedd y 19eg ganrif. Fodd bynnag, mae tystiolaeth ddogfennol o weithgarwch cloddio am blwm ac arian yn ystod yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif.

Perthynai rhan ddwyreiniol yr ardal gymeriad hon i gyfundrefn tirddaliadaeth a daliadaeth wahanol, fel rhan o Faenor Forion. Sefydlwyd y faenor yn ystod ail hanner y 12fed ganrif, pan roddwyd y tir i Abaty Sistersaidd Hendy-gwyn ar Daf gan feibion yr arglwydd Cymreig lleol Maredudd Cilrhedyn. Ychydig a wyddom am y defnydd a wneid o’r tir o fewn y faenor- mae Maenor Forion yn un o’r nifer fach iawn o faenorau Cymreig na fu’n destun Achos gan y Trysorlys (Ecwiti) ar ôl Diddymu’r Mynachlogydd, y daw llawer o’n gwybodaeth am y modd y rheolid maenorau ohonynt. Adeg Diddymu’r Mynachlogydd delid llawer o ystadau Hendy-gwyn ar Daf o dan wahanol brydlesau, systemau tirddaliadaeth, rhenti a rhwymedigaethau yn perthyn i gyfraith Cymru. Yn gyffredinol, talai eiddo’r abaty yn sir Gaerfyrddin renti ar ffurf arian, a chyfraniadau o gaws, capylltiaid a cheirch, Mae’r ffaith bod amrywiaeth o renti wedi goroesi, a delid mewn arian, mewn nwyddau a thrwy wasanaeth, yn awgrymu eu bod yn cyfateb i rwymedigaethau bilaen cynharach. Awgrymwyd y gweithiai Hendy-gwyn ar Daf ei faenorau yn ôl arferion brodorol o’r cychwyn cyntaf, a bod y defnydd a wneid o’r tir a phatrymau anheddu yn debyg fwy neu lai i’r hyn a geid y tu allan i’r faenor, a’i bod yn debyg bod y rhan hon o’r faenor bob amser yn dir pori agored. Daeth y faenor i ddwylo’r goron yn dilyn Diddymu’r Mynachlogydd yn 1536 ac ymddengys i ran hon y faenor gael ei gwerthu’n gynnar iawn., Mae tystiolaeth ddogfennol o weithgarwch cloddio am blwm ac arian yn y rhanbarth hwn yn gyffredinol yn ystod yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif.

Roedd yr ardal gymeriad gyfan yn dal i gynnwys tir comin agored - rhostir yn y bôn – pan luniwyd map degwm Llangeler yn 1839, er bod sgwatwyr wedi tresmasu ar gyrion is y tir comin erbyn y dyddiad hwn gan adeiladu bythynnod a gosod caeau. Amgaewyd y rhan fwyaf o’r tir comin, gan gynnwys y rhan fwyaf o’r ardal gymeriad dirweddol hanesyddol hon, trwy Ddeddf Seneddol yn 1866. Cynlluniwyd caeau eithaf mawr, rheolaidd eu siâp, ac yn fuan ar ôl hynny adeiladwyd bythynnod a ffermydd. Ers yr Ail Ryfel Byd plannwyd coedwig helaeth o goed coniffer dros ran o’r dirwedd; hepgorwyd y goedwig hon o’r ardal hon.

WAUNFAWR

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Waunfawr ym mhen dwyreiniol esgair sy’n ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin ac sy’n ffurfio’r gwahaniad dyfroedd rhwng afon Teifi i’r gogledd ac afon Tywi i’r de. Fe’i lleolir rhwng 210m a 310m uwchaw lefel y môr. Tirwedd amaethyddol ydyw. Mae’r caeau mawr, rheolaidd eu siâp a’r lonydd syth yn nodweddiadol o dirwedd a grëwyd gan Ddeddf Seneddol, yn yr achos hwn yn 1866. Ardal agored a chwythir gan y gwynt ydyw, ac o ganlyniad naill ai mae’r gwrychoedd ar y cloddiau terfyn o bridd a cherrig yn rhesi aflêr o lwyni isel neu ni cheir unrhyw wrychoedd. Ffensys pyst a gwifrau yw’r prif ffiniau cadw stoc. Mae’r ardal yn ddi-goed, ar wahân i leiniau cysgodi bach o amgylch anheddau. Tir pori wedi’i wella yw’r defnydd a wneir o’r tir a cheir ambell gae o dir pori heb ei wella. Mae’r ffermydd yn fach ac wedi’u gwasgaru’n eang, ond nid yw adeiladau yn un o nodweddion amlwg yr ardal hon. Ceir ffermdai a adeiladwyd o gerrig ar ddiwedd y 19eg ganrif sydd yn arddull nodweddiadol y De-orllewin – sef adeiladau deulawr a chanddynt dri bae, drws ffrynt canolog a phum ffenestr wedi’u trefnu’n anghymesur - a rhesi bach o adeiladau diweddar hefyd. Ni cheir unrhyw adeiladau rhestredig. Prin yw’r safleoedd archeolegol, ond mae crugiau crwn yn dyddio o’r Oes Efydd ar y ddau fan uchaf yn haeddu sylw.

Mae i’r ardal gymeriad dirwedd hanesyddol hon ffiniau eithaf pendant. Mae’n cyfateb fwy neu lai i’r tir a amgaewyd trwy Ddeddf Seneddol yn 1866, heb gynnwys y blanhigfa goed helaeth.

Ffynonellau: Bowen E, 1729 A Map of South Wales; Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Calendr o Roliau Patent, Elizabeth Cyf. 2, 1560-1563, Llundain 1948; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Jones, A, 1937, ‘The Estates of the Welsh Abbeys at the Dissolution’, Archaeologia Cambrensis 92, 269-286; Jones, D E, 1899, Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, Llandysul; Jones, E G, 1939, Exchequer Proceedings (Equity) concerning Wales, Caerdydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol I, Caerdydd; Ludlow, N D, i’w gyhoeddi/ar fin cael ei gyhoeddi, ‘Whitland Abbey’, Archaeologia Cambrensis; Llawysgrifau Amgueddfa Genedlaethol Cymru Cyf 84 (PE965) Cynllun Cau Tiroedd yn Llangeler, Penboyr a Chilrhedyn 1866; Map degwm plwyf Llangeler 1839; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain; Richard, A J, 1935, ‘Castles, Boroughs and Religious Houses’, yn J E Lloyd, A History of Carmarthenshire Volume I, 269-371, Caerdydd; Williams, D H, 1990, Atlas of Cistercian Lands in Wales, Caerdydd

MAP WAUNFAWR

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221