Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi >

 

CILGERRAN

CILGERRAN

CYFEIRNOD GRID: SN194429
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 35

Cefndir Hanesyddol

Ardal adeiledig tref fach, hardd Cilgerran, Sir Benfro. Mae’n gorwedd o fewn cantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Is-Cych. Roedd Cantref Emlyn wedi’i rannol ddwyn o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 pan ad-drefnwyd cwmwd Emlyn Is-Cych i greu Arglwyddiaeth Cilgerran. Parhaodd Cilgerran yn un o arglwyddiaethau’r gororau, a weinyddid o Gastell Cilgerran, a sefydlwyd tua 1100. Adenillwyd yr arglwyddiaeth gan y Cymry ym 1164 ac arhosodd o dan eu rheolaeth tan 1223, pan y’i cipiwyd gan William Marshall, Iarll Penfro. Fe’i delid o Iarllaeth Penfro nes cael ei throsglwyddo i’r goron ar ddiwedd y 15fed ganrif. Fe’i diddymwyd yn y pen draw ym 1536, pan ymgorfforwyd yr arglwyddiaeth yn Sir Benfro fel Cantref Cilgerran.

Mae’n bosibl na saif y castell ar safle canolfan y cwmwd cyn y goresgyniad Normanaidd, am yr ymddengys na chafodd enw’r arglwyddiaeth, sef Cilgerran, tan ganol y 12fed ganrif, a chyfeiriwyd ato fel Cenarth Bychan pan ymosodwyd arno gan y Cymry mewn cyrch beiddgar ym 1109. Dechreuodd William Marshall ailadeiladu’r castell o gerrig ym 1223, ac roedd wedi’i gwblhau i raddau helaeth erbyn diwedd y 13eg ganrif. Ei ddau dwr ‘baril’ yw elfennau amlycaf y dirwedd o hyd.

Datblygodd anheddiad y tu allan i gatiau Castell Cilgerran, a oedd yn ddigon mawr i gael ei alw’n ‘dref’ ym 1204. Ystyrid ei fod yn fwrdeistref, ond dim ond trwy hirfeddiant, am na wyddom am unrhyw siarter. Mae ei chynllun rheolaidd, sy’n cynnwys lleiniau o dir bwrdais wedi’u gosod ar y naill ochr a’r llall i brif stryd hir, a marchnadfa lydan, ac ail stryd ar ongl sgwâr, yn awgrymu iddi gael ei chynllunio. Cofnodwyd dau ar hugain o drethdalwyr ym 1292 – ychydig yn llai na’r 70 o leiniau o dir bwrdais, fwy neu lai, sydd i’w gweld o hyd – ac ymddengys fod y dref yn dal i dyfu. Tua 1610 fe’i rhestrwyd ymhlith prif drefi marchnad Sir Benfro gan Speed. Adlewyrchir demograffeg gwbl Gymreig, fwy neu lai, yr arglwyddiaeth yn enwau Cymraeg y trethdalwyr. Roedd gan y dref ei charchar, a’i chyffion ei hun. Ymddengys iddi gadw ei chysylltiadau â’r tir bob amser, a phrif fywoliaeth pobl y dref yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol oedd ffermio, pysgota am eogiaid a chloddio llechi.

Buasai cysylltiad agos rhwng Cilgerran a’r diwydiant cloddio ers amser maith, ac roedd gan fwrdeisiaid yr hawl i gloddio am gerrig o fewn Ceunant Teifi, lle y lleolid pob un o’r prif chwareli. Roedd rhai o’r adeiladau prosesu cerrig, gan gynnwys sied naddu, wedi’u lleoli yn y dref. Adlewyrchir cyfoeth y diwydiant pan oedd ar ei anterth, ar ddiwedd y 19eg ganrif, yn adeiladau’r dref, y mae’n amlwg i lawer ohonynt gael eu hadeiladu neu eu hailadeiladu bryd hynny gan ddefnyddio cerrig lleol. Gwelodd y dref rywfaint o dwf pellach, a hybwyd yn ddiau gan y llinell reilffordd o Hendy-gwyn ar Daf i Aberteifi, a ymgorfforwyd ym 1869 (ond a gaeodd yn y 1960au). Sefydlwyd capel, a gwaith brics, er nad yw brics yn ddeunydd adeiladu cyffredin yn y dref. Fodd bynnag, daeth y farchnad wythnosol a gofnodwyd gan George Owen i ben ym mlynyddoedd cyntaf yr 20fed ganrif; roedd y ffair wedi dod i ben flynyddoedd lawr cyn hynny, tra daeth y gweithgarwch cloddio i ben ym 1938. Pan ddiddymwyd yr arglwyddiaeth ym 1536 roedd Castell Cilgerran eisoes yn anghyfannedd ac yn dirywio. Ni welodd unrhyw frwydro yn ystod y Rhyfel Cartref a gadawyd iddo adfeilio, er mai’r castell oedd ffynhonnell ysbrydoliaeth yr arlunwyr Rhamantaidd. Daethpwyd i ddefnyddio’r ffos fel ffald y dref, ac o ganlyniad i weithgarwch cloddio a gyflawnwyd o amgylch y castell, cwympodd darn mawr o fur y castell ei hun ym 1863. Fodd bynnag, bu yng ngofal y wladwriaeth ers 1943 ac erbyn hyn y castell yw un o’r prif atyniadau ymwelwyr yn y rhanbarth.

CILGERRAN

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol adeiledig, gymharol fach sy’n cynnwys tref fach Cilgerran, a leolir ar dir cymharol wastad ar uchder o ryw 35m uwchlaw lefel y môr yn union i’r de o geunant dyffryn Teifi ac uwch ei phen. Anheddiad llinellol ydyw yn y bôn sy’n cynnwys tai wedi’u cywasgu ar hyd prif stryd, a hen farchnadfa Castle Square sydd ar ffurf triongl (y tresmaswyd arni gan adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif) a’r castell mawr adfeiliedig a adeiladwyd o gerrig yn y 13eg ganrif - 14eg ganrif i’r gogledd, ac eglwys Sant Llawddog sy’n sefyll ar ei phen ei hun ychydig bellter i’r gorllewin. Ar wahân i’r twr canoloesol, ailadeiladwyd yr eglwys yn llwyr ddwywaith yn ystod y 19eg ganrif. Ceir lleiniau o dir bwrdais ar y naill ochr a’r llall i’r farchnad a’r brif stryd. Mae’r lleiniau hyn ynghyd â morffoleg yr anheddiad yn dynodi tref gynlluniedig ganoloesol fach. Mae gwaith cynllunio canoloesol wedi pennu ffurf fodern yr anheddiad, a cheir tai sydd yr un lled â llain safonol o dir bwrdais wedi’u gwasgu’n dynn yn erbyn eu cymdogion, â’u tu blaen yn ffinio â’r stryd. Mae hyn wedi arwain at derasau o adeiladau unigol - prin yw’r enghreifftiau o derasau a adeiladwyd mewn un cyfnod - am nad oes fawr ddim lle ar gyfer adeiladau ar wahân yn y lleiniau cul yng nghanol yr anheddiad. Ceir rhai tai ar wahân a rhai tai pâr, yn arbennig ar gwr yr anheddiad. Ar wahân i dwr canoloesol yr eglwys ac adfeilion y castell, mae bron pob un o’r adeiladau hyn yng Nghilgerran yn dyddio o’r 19eg ganrif, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn perthyn i ail hanner y ganrif. Llechi dyffryn Teifi (llechi Cilgerran) yw’r unig ddeunydd toi a ddefnyddiwyd ar yr adeiladau hyn ac mae brics coch yn ymddangos tua diwedd y 19eg ganrif. Mae mwyafrif yr adeiladau wedi’u rendro â sment (plastr). Mae llechi o ogledd Cymru wedi’u defnyddio ar y toeau. Ar hyd y brif stryd, ac ar Castle Square, tai deulawr a geir yn bennaf yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif ac mae eu drychiadau blaen cymesur a’u ffenestri mawr yn nodweddion pendant o’r traddodiad Sioraidd ‘cain’. Fodd bynnag, mae rhai nodweddion brodorol sy’n gynnar yn ôl pob tebyg, megis ffenestri llai o faint, ffryntiau anghymesur, simneiau isel wedi goroesi ar rai tai. Mae’r llechfeini o ddyffryn Teifi, lle nad ydynt wedi’u gorchuddio â rendr sment, o ansawdd uchel iawn, a cheir cerrig wedi’u sgwario ac wedi’u llifio wedi’u gosod mewn haenau. Cyfyngir addurniadau i beciadau cyn ar yr wynebau llifiedig. Mae sawl enghraifft o’r adeiladau hyn yn rhestredig, yn ogystal â’r Rheithordy ‘Sioraidd’ a gynlluniwyd gan bensaer sy’n dyddio o ganol y 19eg ganrif. Mae rendr sment wedi’i ddefnyddio yn ôl pob tebyg ar adeiladau â gwaith cerrig o ansawdd gwaeth, neu dros frics ar adeiladau diweddarach. Lleolir terasau a thai unigol a chanddynt lawer mwy o nodweddion brodorol i’r gorllewin o graidd y prif anheddiad yng Nghwm Plysgog ac i’r dwyrain yng Nghnwcau. Lleolir cyn-sied naddu a adeiladwyd o gerrig yn y lleoliad olaf, er bod y mwyafrif o’r chwareli wedi’u cynnwys mewn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol arall. Mae adeiladau eraill yng Nghilgerran yn cynnwys capel yn dyddio o’r 19eg ganrif, ysgol yn dyddio o’r 20fed ganrif, canolfan pysgota â chyryglau/ymwelwyr, a rhywfaint o dai modern ar gyrion yr anheddiad. Prin yw’r safleoedd archeolegol a gofnodwyd yma ar wahân i’r rhai sy’n gysylltiedig â’r adeiladau sy’n sefyll.

Mae Cilgerran yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol nodedig. Mae ei natur adeiledig yn cyferbynnu â’r ardaloedd gwledig sy’n ffinio â hi.

Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Craster, O E, 1957, Cilgerran Castle, Llundain; Fenton, R, 1811 A Historical Tour through Pembrokeshire, Llundain; Hilling, J B, 1992, Cilgerran Castle/St Dogmaels Abbey, Caerdydd; Jones, T, 1952, Brut y Tywysogyon, Peniarth MS 20, Caerdydd; King, D J C, 1988, Castellarium Anglicanum, Efrog Newydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Ludlow, N, 2000, ‘The Cadw Welsh Historic Churches Project: Pembrokeshire churches’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Ludlow, N, 2002, ‘The Cadw Early Medieval Ecclesiastical Sites Project, Stage 1: Pembrokeshire’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Map degwm plwyf Cilgerran 1844; Owen, H (gol.), 1897, The Description of Pembrokeshire by George Owen of Henllys, Lord of Kemes 2, Llundain; Owen, H (gol.), 1914, Calendar of Pembrokeshire Records, 2, Llundain; Price, M R C, 1984, The Whitland and Cardigan Railway, Rhydychen; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain; Richards, A J 1998 The Slate Quarries of Pembrokeshire, Llanrwst; Soulsby, I, 1983, The Towns of Medieval Wales, Chichester; Slater & Co., 1850 Royal, National and Commercial Directory and Topography of the Counties of….. , Llundain; Weeks, R, 2002, The ‘Lost Market’ settlements of Pembrokeshire, Medieval Settlement Research Group, Annual Report 17, 21-30

MAP CILGERRAN

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]