Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi >

 

CIPPYN

CIPPYN

CYFEIRNOD GRID: SN139484
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 453

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy’n gorwedd rhwng clogwyni Penrhyn Cemaes ac aber Afon Teifi. Mae’n cynnwys system o gaeau o dir pori o faint bach i ganolig a ffermydd gwasgaredig, ar y naill ochr a’r llall i ddyffryn serth, sef Cwm yr Esgyr. Mae nifer fawr o dwmpathau llosg, sy’n dyddio o bosibl o’r cyfnod cynhanesyddol, yn dystiolaeth o anheddu cynnar yn yr ardal.

Yn ystod y cyfnod hanesyddol, gorweddai’r ardal yng nghantref canoloesol Cemaes, yng nghwmwd Is-Nyfer, yn rhaniad Uwch Clydach. Roedd Cemaes wedi’i ddwyn o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan Robert FitzMartin tua 1100 ac fe’i had-drefnwyd i greu Barwniaeth Cemaes. Parhaodd Cemaes yn un o arglwyddiaethau’r gororau, a weinyddid o gastell Nanhyfer, ac wedyn o Gastell Trefdraeth, tan 1536, pan ymgorfforwyd y farwniaeth yn Sir Benfro fel Cantref Cemaes. Fodd bynnag, cynrychiolai’r rhan fwyaf o Is-Nyfer ‘Frodoraeth’ y farwniaeth a pharhaodd i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau, arferion a phatrymau tirddaliadaeth Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, y parhaodd llawer ohonynt tan yr 20fed ganrif. Ar ben hynny daliodd y tywysogion Cymreig y rhan ogledd-ddwyreiniol hon o Is-Nyfer rhwng 1191 a 1201, ac unwaith eto ym 1215-1223. Y patrymau tirddaliadaeth Cymreig hyn a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth.

Mae’r beddau cist annyddiedig a ddadorchuddiwyd yng Nghastell Penrhyn a Phenrhyn-bach yn arwydd o boblogaeth sylweddol yn y dirwedd hon ar ddechrau’r cyfnod canoloesol. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod y fynwent erioed wedi’i hamgáu, nac iddi ddatblygu gyda chapel ynghlwm wrthi, ac mae’n bosibl iddi gael ei sefydlu yn gynnar iawn. Ar ôl hynny, daeth yr ardal gymeriad yn rhan o blwyf Llandudoch, a sefydlwyd yn ffurfiol ar ôl tua 1100. Roedd i’r plwyf yr un ffiniau â’r faenor, a gynhwysai ffi un marchog a ddelid o’r farwniaeth, fel ‘St Dogmaels patria alias Cassia’, gan abadau Llandudoch. Mae’r dreflan ganoloesol bosibl yng Ngranant, y cyfeiriwyd ati fel ‘caput of Granant alias Hendref, yn yr 16eg ganrif, wedi’i lleoli i bobtu i’r ardal hon. Fodd bynnag, am nad oedd yn rhan o’r farwniaeth, ni chynhwyswyd maenor Llandudoch yn yr asesiad manwl dyddiedig 1594 sydd wedi goroesi fel ‘Extent Cemaes’. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd, fe’i trosglwyddwyd i John Bradshaw o Lanandras a oedd wedi prynu’r abaty ym 1543. Goroesodd Maenor Llandudoch i mewn i’r 19eg ganrif. Roedd wedi dod i feddiant ystad Neuadd Trefawr yn ystod y 17eg ganrif ac fe’i gwerthwyd i David Davies o Castle Green, Aberteifi, ym 1862.

Ni chofnodwyd yr un o’r 15 fferm wasgaredig arall, fwy neu lai, a geir heddiw cyn y 18fed ganrif, ac ymddengys fod Castell Penrhyn yn sefydliad hollol newydd yn dyddio o’r 19eg ganrif, er ei bod yn debyg i rai ohonynt gael eu sefydlu ynghynt. Ymddengys fod y patrwm presennol o gaeau yn perthyn i ddau gyfnod ar wahân o weithgarwch amgáu. Mae system o gaeau bach, afreolaidd eu siâp i’w gweld yng Nghwm yr Esgyr, yn arbennig ar lethr y dyffryn sy’n wynebu’r de, ac yn hanner dwyreiniol yr ardal. Mae’r rhain yn gysylltiedig â’r crynhoad dwysaf o ffermydd ac ymddengys iddynt gael eu hamgáu ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, os nad diwedd y cyfnod canoloesol, o dan dirddaliadaeth Gymreig. I’r gorllewin o’r system hon, nodweddir y tir uwch – sy’n graddol esgyn at y clogwyni – gan gaeau mwy o faint, mwy rheolaidd eu siâp. Mae’n bosibl bod y rhan hon o’r ardal yn dir pori agored tan ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol, ond roedd wedi’i hamgáu erbyn arolwg degwm 1838.

Sefydlwyd gorsaf bad achub fach ar aber Afon Teifi. Bu datblygiadau ar ôl hynny yn gysylltiedig â hamdden. Lleolir Traeth Poppit, yng ngheg Cwm yr Esgyr, a’i draeth helaeth ar aber olygfaol, ac mae’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Parc carafannau a’i wasanaethau, a’r tai glan môr yn dyddio o’r 20fed ganrif sy’n gysylltiedig â phoced o dwyni tywod, yw prif nodweddion y dirwedd yn y fan hon. Ar ben hynny mae Llwybr Arfordir Sir Benfro, a ddynodwyd ym 1952, yn rhedeg ar hyd pen y clogwyn yn y fan hon gan roi mynediad heb ei ail i’r golygfeydd arfordirol, a lleolir Hostel Ieuenctid o fewn yr ardal hon.

CIPPYN

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Lleolir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Cippyn ym mhen gorllewinol pellaf dyffryn Afon Teifi i’r de o’r afon. Mae’n rhedeg i lawr i’r aber lanw ar ei hochr ogledd-ddwyreiniol ac mae’n codi i dros 180m uwchlaw lefel y môr. Mae ei llethrau gorllewinol a’i mannau uchaf yn nannedd gwyntoedd mawr yr Atlantig; ni saif unrhyw goed a phrin yw’r llwyni yn y fan hon. Darperir yr unig fannau cysgodol gan y llethr arfordirol serth sy’n wynebu’r gogledd-ddwyrain a llethrau serth Cwm yr Esgyr; yn y fan hon dim ond coetir collddail prysglog a llethrau wedi’u gorchuddio â rhedyn/eithin a geir. Ardal amaethyddol ydyw sy’n cynnwys tir pori wedi’i wella. Ar y rhannau uwch, agored rhennir caeau gweddol fawr, afreolaidd eu siâp gan gloddiau caregog. Mae’r gwrychoedd, lle y maent i’w cael, yn rhesi anniben o lwyni eithin isel. Mae’r gwrychoedd, y mae llawer ohonynt wedi tyfu’n wyllt neu wedi dirywio’n rhesi anniben o lwyni, wedi goroesi ar y cloddiau pridd a’r cloddiau o bridd a cherrig mewn lleoliadau mwy cysgodol. Mae ffermydd, tyddynnod a bythynnod wedi’u gwasgaru’n eithaf dwys ar draws y llethrau mwy cysgodol, a cheir ambell fferm a dau gapel bach yn dyddio o’r 19eg ganrif mewn lleoliadau agored. Ar wahân i feintioli ‘Sioraidd’ ffurfiol Bryntirion, ty deulawr rhestredig a adeiladwyd o gerrig llanw ar ddechrau’r 19eg ganrif, mae’r anheddau yn fach, ac maent yn dyddio yn ôl pob tebyg o ail hanner y 19eg ganrif. Mae gan y tai ddau lawr ac wyneb blaen â thair ffenestr. At ei gilydd mae eu drychiadau isel a’r ffenestr fach yn deillio’n fwy o’r traddodiad brodorol nag o’r arddull Sioraidd gain. Ceir bythynnod unllawr hefyd, gan gynnwys enghraifft restredig mewn cyflwr gwael. Cerrig o ffynonellau lleol, nid llechi dyffryn Teifi, yw’r prif ddeunydd adeiladu. Mae’r cerrig hyn bob amser wedi’u rendro ar dai, ond maent wedi’u gadael yn foel ar adeiladau allan amaethyddol. Mae’r adeiladau amaethyddol hyn hefyd yn fach, ac maent yn cynnwys un neu ddwy res yn unig, ac mewn rhai achosion un rhes, yn yr un llinell â’r annedd. Addaswyd rhai i’w defnyddio at ddibenion anamaethyddol, ac mae llawer ohonynt mewn cyflwr gwael. Prin yw’r adeiladau fferm modern ac fel arfer maent yn fach, am nad yw llawer o’r tyddynnod yn cael eu ffermio bellach. Lleolir nifer fach o dai a godwyd gan unigolion preifat yn dyddio o’r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a thai glan môr, yn Poppit. Ceir parc carafannau bach, gorsaf bad achub, meysydd parcio i ymwelwyr a chyfleusterau eraill yn y fan hon hefyd.

Nodweddir yr ardal hon gan y diffyg coed ac i ryw raddau wrychoedd, y cloddiau terfyn caregog a natur fach y tai a’r ffermydd ac mae’r ffaith nad oes unrhyw ddatblygiadau modern ar y cyfan yn gwahaniaethu rhyngddi a’r ardaloedd sy’n ffinio â hi. Mae’n ardal nodedig felly.

Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Fenton, R., 1811 A Historical Tour through Pembrokeshire, Llundain; Howells, B E a K A (golygyddion), 1977, The Extent of Cemaes, 1594, Hwlffordd; Jones, F, 1996, Historic Houses of Pembrokeshire and their Families, Casnewydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Ludlow, N, 2002, ‘The Cadw early Medieval Ecclesiastical Sites Project, Stage 1: Pembrokeshire’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Map degwm plwyf Llandudoch 1838; Owen, H (gol.), 1897, The Description of Pembrokeshire by George Owen of Henllys, Lord of Kemes 2, Llundain; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain

MAP CIPPYN

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]