Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi >

 

LLAIN ARFORDIROL – POPPIT I DREFDRAETH

LLAIN ARFORDIROL – POPPIT I DREFDRAETH

CYFEIRNOD GRID: SN102453
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 212

Cefndir Hanesyddol

Ardal hir, gul o fewn ffiniau modern Sir Benfro a nodweddir gan y clogwyni serth ar hyd yr arfordir rhwng Traeth Poppit, yn aber Afon Teifi, a Threfdraeth i’r gorllewin. Yn ystod y cyfnod hanesyddol, gorweddai’r ardal yng nghantref canoloesol Cemaes, yng nghwmwd Is-Nyfer. Roedd Cemaes wedi’i ddwyn o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan Robert FitzMartin tua 1100 ac fe’i had-drefnwyd i greu Barwniaeth Cemaes. Parhaodd Cemaes yn un o arglwyddiaethau’r gororau, a weinyddid o gastell Nanhyfer, ac wedyn o Gastell Trefdraeth, tan 1536, pan ymgorfforwyd y farwniaeth yn Sir Benfro fel Cantref Cemaes. Fodd bynnag, cynrychiolai’r rhan fwyaf o Is-Nyfer ‘Frodoraeth’ y farwniaeth a pharhaodd i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau, arferion a phatrymau tirddaliadaeth Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, y parhaodd llawer ohonynt tan yr 20fed ganrif. Daliodd y tywysogion Cymreig y rhan ogledd-ddwyreiniol hon o Is-Nyfer rhwng 1191 a 1201, ac unwaith eto ym 1215-1223. Y patrymau tirddaliadaeth Cymreig hyn a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth. Bu’r llain arfordirol hon, sy’n gul iawn, bob amser yn dir ymylol ac fe’i defnyddid yn ôl pob tebyg ar gyfer tir pori garw o gyfnod cynnar. Fe’i dangosir fel y mae heddiw ar y mapiau degwm yn dyddio o’r 1840au. Ni nodwyd unrhyw safleoedd anheddu hanesyddol o fewn y llain hon, ond darperir tystiolaeth bod yr ardal wedi’i defnyddio yn y cyfnod ôl-ganoloesol gan nifer o chwareli. Mae Traeth Poppit yn cynnwys aber olygfaol a thraeth helaeth, sy’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Parc carafannau a’i wasanaethau - er eu bod ychydig y tu allan i’r ardal gymeriad hon - yw prif nodwedd y dirwedd yma. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro, a ddynodwyd ym 1952, yn dechrau yn Poppit ac yn rhoi mynediad heb ei ail i’r golygfeydd arfordirol.

LLAIN ARFORDIROL – POPPIT I DREFDRAETH

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal gymeriad dirwedd hanesyddol hon yn cynnwys y llain arfordirol gul o draeth Poppit ar aber Afon Teifi i draeth Trefdraeth, pellter o ryw 19 cilomedr. Mae’n gul iawn, ac anaml y mae’n fwy na 150m o led. Mae’n cynnwys clogwyni syth o greigiau caled sy’n codi i dros 150m mewn mannau ond sy’n is na hynny ar y cyfan, a llain gul o dir garw wedi’i gwasgu rhwng pen y clogwyn a thir amaeth. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg ar hyd pen y clogwyn. Nid oes unrhyw anheddau cyfannedd. Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys dwy fryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn, twmpathau llosg a gwasgariadau o ganfyddiadau cynhanesyddol a nifer o safleoedd ôl-ganoloesol gan gynnwys chwareli.

Mae’r llain arfordirol yn ardal gymeriad hanesyddol nodedig ac mae’n cyferbynnu â chaeau a ffermydd yr ardaloedd cymeriad sy’n ffinio â hi.

Ffynonellau: Charles, B G, 1948, ‘The Second Book of George Owen’s Description of Penbrokeshire’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 5, 265-285; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Fenton, R., 1811 A Historical Tour through Pembrokeshire, Llundain; Howells, B E a K A (golygyddion), 1977, The Extent of Cemaes, 1594, Hwlffordd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Map degwm plwyf Llandudoch 1838; Map degwm plwyf Nanhyfer 1847; Map degwm plwyf Trewyddel 1843; Maynard, D, 1993, ‘Burnt Mounds in the St Dogmaels area of north Pembrokeshire’, Archaeology in Wales 33, 41-43; Owen, H (gol.), 1897, The Description of Pembrokeshire by George Owen of Henllys, Lord of Kemes 2, Llundain; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain; Sambrook, P, 2000, ‘St Dogmaels Historic Audit’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed

MAP LLAIN ARFORDIROL – POPPIT I DREFDRAETH

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]