Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi >

 

COEDMORE

COEDMORE

CYFEIRNOD GRID: SN197437
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 136

Cefndir Hanesyddol

Lleolir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Coedmor o fewn ffiniau modern Ceredigion ac mae’n cyfateb i Barc Coedmor a sefydlwyd yn y 19eg ganrif a’r ardal o’i amgylch, tirwedd ystad goediog ar y llwyfandir tonnog i’r gogledd o Afon Teifi.

Yn ystod y cyfnod hanesyddol, gorweddai’r ardal gymeriad hon yng Ngheredigion, yng nghantref canoloesol Iscoed, wedi’i rhannu rhwng cymydau Uwch-Hirwern ac Is-Hirwern, a oedd wedi’u gwahanu gan ddyffryn serth Afon Hirwaun sy’n ymestyn o’r gogledd i’r de. Daethpwyd â Cheredigion, gan gynnwys Cantref Iscoed, o dan reolaeth Eingl-Normanaidd am gyfnod byr rhwng 1110 a 1136, o dan ieirll de Clare. Mae’n debyg mai yn ystod y cyfnod hwn y sefydlwyd y mwyafrif o’r nifer fawr o gestyll a geir yn y rhan hon o Geredigion ac mae’n bosibl i rai ohonynt gael eu hadeiladu yn ystod ailoresgyniad y Cymry ym 1135-6. Arhosodd Ceredigion yn nwylo’r Cymry trwy gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, nes iddi gael ei chyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr ym 1283, pan grëwyd Sir Aberteifi. At ei gilydd parhaodd y cantref i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau a phatrymau tirddaliadaeth Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, ac fe’i gweinyddid fel ‘Brodoraeth’. Fodd bynnag roedd yr ardal hon - fel Coed Mawr - yn rhan o’r ddemên ffurfiol a oedd ynghlwm wrth Gastell Aberteifi, a oedd wedi’i sefydlu gan ieirll de Clare tua 1110. Mewn cyferbyniad a’r ardal o’i hamgylch, gwrthsafodd Aberteifi ymosodiadau’r Cymry tan 1164. Fe’i hildiwyd i’r Brenin Normanaidd John ym 1201 pan ddaeth yn ganolfan arglwyddiaeth frenhinol, a gyfatebai i gwmwd Is-Hirwern. Daeth o dan reolaeth y Cymry unwaith eto rhwng 1215-1223, ond fel arall arhosodd Aberteifi yn nwylo coron Lloegr am weddill y cyfnod canoloesol. Felly er efallai i Goed Mawr gael ei sefydlu fel demên tua 1110, ni chafodd y ddemên a’r castell eu haduno tan 1201. Y ddemên oedd y rhan honno o’r faenor lle’r oedd y tir yn eiddo i’r arglwydd ei hun, sy’n golygu ei fod yn ddarostyngedig i gyfundrefn faenoraidd Eingl-Normanaidd. Fel arfer, câi tir demên ei weithio gan denantiaid caeth am 2 neu 3 diwrnod yr wythnos yn gyfnewid am leiniau o dir. Fodd bynnag, gallai gynnwys coedwigoedd, tir diffaith neu goetir hefyd, fel yng Nghoedwig Arberth a oedd yn rhan o’r ddemên ynghlwm wrth Gastell Penfro. Mae’r enw Coed Mawr yn awgrymu mai ardal goediog fu’r ardal erioed ac y câi ei defnyddio ar gyfer gwerth economaidd y coetir. Parhaodd Castell Aberteifi i fod yn eiddo i’r goron. Fodd bynnag, ymddengys i Goed Mawr gael ei is-osod yn gynnar, a chofnodwyd bod Iarll Roger o’r Waun yn dal y faenor ar ddiwedd y 13eg ganrif.

Ychydig a wyddom am hanes Coedmore ar ddiwedd y cyfnod canoloesol a dechrau’r cyfnod modern. Roedd yn rhan o ystadau’r teulu Mortimer, a’i gwerthodd i Syr John Lewis ym 1614-15. Fe’i trosglwyddwyd yn y diwedd i’r teulu Lloyd o Gilgwyn. Ym 1813, fe’i disgrifiwyd fel ‘dim byd arbennig iawn’, ond erbyn 1833, o dan berchenogaeth Thomas Lloyd, roedd wedi datblygu’n ‘blasty urddasol’. Mae’n debyg i’r gerddi a’r parcdir sydd wedi goroesi gael eu cynllunio gan Thomas Lloyd.

COEDMORE

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Ardal gymeriad dirwedd hanesyddol ardal y dylanwadwyd yn fawr arni gan ystad yw Coedmore a leolir ar ochr ogleddol Afon Teifi. Mae’r rhan fwyaf o’r ardal yn gorwedd ar dir gweddol donnog rhwng 40m a 60m uwchlaw lefel y môr ac yn ffinio â hi i’r gorllewin a’r de ceir llethrau coediog serth iawn ceunant Afon Teifi. Saif Coedmore House, ty rhestredig sylweddol yn yr arddull Sioraidd a adeiladwyd o lechi dyffryn Teifi ar ddechrau’r 19eg ganrif ac sy’n cynnwys twr wythonglog ac adain gweision fawr a adeiladwyd yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif, yng nghanol yr ardal hon. Ceir gerddi o amgylch y ty, gerddi difyrrwch coediog y tu hwnt i’r rhain i’r gogledd-orllewin, a gardd lysiau â wal o’i hamgylch ymhellach i’r gogledd-orllewin. Mae’n cynnwys hefyd fferm y plas a rhywfaint o’i thir amaeth. Mae’r caeau yn gymharol fawr ac yn rheolaidd eu siâp ac fe’u rhennir gan wrychoedd mewn cyflwr da ar gloddiau. Tir pori wedi’i wella yw’r defnydd amaethyddol a wneir o’r tir. Fodd bynnag, plannwyd llawer o’r caeau â choed coniffer yn gymysg â rhywfaint o goetir collddail, a all fod yn greiriol. Y coetir hwn yw prif nodwedd yr ardal hon y tu allan i’r parcdir. Nid oes unrhyw archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon ar wahân i’r safleoedd hynny sy’n gysylltiedig â Coedmore House a’i erddi.

Mae parcdir a choetir yn gwahaniaethu rhwng yr ardal hon a’r ardaloedd o dir amaeth sy’n ffinio â hi a cheunant Afon Teifi i’r de ac i’r gorllewin.

Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cadw 2002, Cofrestr o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, Rhan 1 Parciau a Gerddi, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Jones, F, 2000, Historical Cardiganshire Homes and their Families, Casnewydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Map degwm plwyf Llangoedmor 1839; Map degwm plwyf Llechryd 1842; Meyrick, S R, 1810, The History and Antiquities of Cardiganshire, Llundain; Murphy, K, ac O’Mahoney, C, 1985, ‘Excavation and Survey at Cardigan Castle’, Ceredigion 10, Rhif 2, 189-218; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain

MAP COEDMORE

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]