Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi >

 

CROES-Y-LLAN

CROES-Y-LLAN

CYFEIRNOD GRID: SN204444
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 3345

Cefndir Hanesyddol

Ardal o fewn ffiniau modern Ceredigion sy’n cynnwys system o gaeau bach, afreolaidd eu siâp a nifer fawr o ddaliadau amaethyddol bach, ar y llwyfandir tonnog i’r gogledd o Afon Teifi.

Yn ystod y cyfnod hanesyddol, gorweddai’r ardal gymeriad hon yng Ngheredigion, yng nghantref canoloesol Iscoed, wedi’i rhannu rhwng cymydau Uwch-Hirwern ac Is-Hirwern, a oedd wedi’u gwahanu gan ddyffryn serth Afon Hirwaun sy’n ymestyn o’r gogledd i’r de. Daethpwyd â Cheredigion, gan gynnwys Cantref Iscoed, o dan reolaeth Eingl-Normanaidd am gyfnod byr rhwng 1110 a 1136, o dan ieirll de Clare. Mae’n debyg mai yn ystod y cyfnod hwn y sefydlwyd y mwyafrif o’r nifer fawr o gestyll a geir yn y rhan hon o Geredigion ac mae’n bosibl i rai ohonynt gael eu hadeiladu yn ystod ailoresgyniad y Cymry ym 1135-6. Arhosodd Ceredigion yn nwylo’r Cymry trwy gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, nes iddi gael ei chyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr ym 1283, pan grëwyd Sir Aberteifi. Fodd bynnag, ildiwyd cwmwd Is-Hirwern i’r Brenin Normanaidd John ym 1201 pan y’i gwnaed yn arglwyddiaeth frenhinol, a weinyddid o Gastell Aberteifi. Parhaodd yn arglwyddiaeth frenhinol – ar wahân i gyfnod byr rhwng 1215 -1223 pan fu o dan reolaeth y Cymry – tan Ddeddf Uno 1536 pan ddaeth yn rhan o Gantref Troedyraur. At ei gilydd parhaodd yr arglwyddiaeth i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau a phatrymau tirddaliadaeth Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, ac fe’i gweinyddid fel ‘brodoraeth’. Lleolir yr ardal hon o fewn un o israniadau’r cwmwd, sef Gwestfa Camros, y mae’n bosibl iddo gael ei sefydlu cyn y Goresgyniad Normanaidd. Bu patrymau tirddaliadaeth canoloesol – na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchogion – yn bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig a welir fel arfer yn y rhanbarth.

Nid oes fawr ddim aneddiadau a gofnodwyd o fewn yr ardal gymeriad hon cyn y 19eg ganrif, er y dywedir bod Rosehill House yn cynnwys elfennau yn dyddio o’r 17eg ganrif. Ymddengys fod tirwedd nodedig yr ardal gymeriad hon sy’n cynnwys nifer fawr o ffermydd bach, wedi’u gwasgaru’n rheolaidd yn cynrychioli gwaith cynllunio gan ystad neu ystad fawr a rannwyd ac a werthwyd, neu a osodwyd ar rent, fel lleiniau, ac mae’n debyg iddi gael ei sefydlu ar ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol yn hytrach nag mewn cyfnod cynharach. Beth bynnag fo ei tharddiad, roedd y broses wedi’i chwblhau erbyn tua 1840 pan ddengys y mapiau degwm dirwedd debyg i’r un a welir heddiw. Gwelodd ail hanner y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif lawer o ddatblygiadau mewnlenwi, yn arbennig ar hyd yr A484 i mewn i Aberteifi, ac ar y naill ochr a’r llall i’w chyffordd yng Nghroes-y-Llan. Trowyd y ffordd hon yn ffordd dyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif ond fe’i sefydlwyd fel llwybr canoloesol yn arwain at y rhyd/pont yn Llechryd. Erbyn hyn mae rhan o’r ardal hon yn warchodfa natur.

CROES-Y-LLAN

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Croes-y-Llan yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol amaethyddol sy’n gorwedd ar lethr weddol donnog dyffryn Teifi sy’n wynebu’r de-orllewin rhwng 10m a 60m uwchlaw lefel y môr. Fe’i nodweddir gan ei system o gaeau bach, afreolaidd eu siâp a’r patrwm anheddu o ddaliadau amaethyddol bach niferus. Tir pori wedi’i wella a thir pori heb ei wella sydd o ansawdd gwaeth ac sy’n cynnwys brwyn yw’r defnydd a wneir o’r tir. Rhennir y caeau gan wrychoedd ar gloddiau. Mae’r gwrychoedd hyn yn aml wedi tyfu’n wyllt, ac yn aml nid ydynt yn ddim mwy na rhesi o lwyni sydd weithiau yn cynnwys coed. Mae’r coed hyn ar y cyd â chlystyrau bach o goetir collddail a phlanhigfeydd bach o goed coniffer yn rhoi golwg goediog i rannau o’r dirwedd. Mae bron pob un o’r adeiladau hyn yn dyddio o’r 19eg ganrif. Maent wedi’u hadeiladu o lechi dyffryn Teifi ac mae ganddynt doeau llechi o ogledd Cymru. Ceir dosbarthiad gweddol gyfyng o ddaliadau amaethyddol ar hyd yr A484. Mae rhai o’r tai hyn yn dyddio o’r cyfnod rhwng dechrau a chanol y 19eg ganrif, maent wedi’u rendro â sment, ac mae ganddynt nodweddion brodorol cryf megis ffenestri bach a drychiadau anghymesur, isel. Fodd bynnag mae’r mwyafrif ohonynt yn dyddio o ail hanner y 19eg ganrif, maent wedi’u hadeiladu o gerrig moel ac mae eu harddull yn deillio yn fwy o’r traddodiad Sioraidd cain na’r traddodiad brodorol – yr arddull sy’n nodweddiadol o dde-orllewin Cymru sef dau lawr a thri bae a drws ffrynt canolog a phum ffenestr wedi’u trefnu’n gymesur. Lleolir y tai hyn â bwlch cyson rhyngddynt ar hyd y ffordd ac yn hytrach na wynebu’r ffordd, fel sy’n arferol, talcenni’r tai sy’n wynebu’r ffordd. Fel arfer mae un adeilad allan amaethyddol wedi’i adeiladu o gerrig, sydd weithiau ynghlwm wrth yr annedd ac yn yr un llinell â hi, yn gysylltiedig â’r tai hyn. Erbyn hyn ni ddefnyddir llawer o’r adeiladau allan hyn at ddibenion amaethyddol. Mae pentref Llechryd wedi ehangu i gynnwys rhai o’r daliadau amaethyddol hyn o fewn ei ffiniau. Mae ffermydd eraill mewn arddull debyg i’r rhai ar y briffordd, ac maent yn cynnwys enghraifft restredig Derwenlas sy’n dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif. Un eithriad yw adeilad rhestredig Rosehill y credir ei fod yn cynnwys elfennau yn dyddio o’r 17eg ganrif, a’r defnydd a wnaed o frics mewn ambell dy ac adeilad allan yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif i ddechrau’r 20fed ganrif. Ceir dosbarthiad gweddol ddwys o dai modern mewn amrywiaeth o arddulliau, a chlwstwr amlwg a datblygiadau llinellol i lawr cilffyrdd yng Nghroes y Llan. Ar hyd y briffordd mae’r anheddau modern hyn wedi mewnlenwi rhai o’r bylchau rhwng y tyddynnod. Mae rhai wedi cadw’r traddodiad o osod talcen y ty yn wynebu’r ffordd. Nid oes unrhyw safleoedd archeolegol ar wahân i’r rhai a gysylltir â’r adeiladau a ddisgrifiwyd uchod.

Mae hon yn ardal nodedig ac mae ei system gaeau a’i phatrwm anheddu yn cyferbynnu â systemau caeau a phatrymau anheddu’r ardaloedd sy’n ffinio â hi.

Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Jones, F, 2000, Historical Cardiganshire Homes and their Families, Casnewydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Map degwm plwyf Llangoedmor 1839; Map degwm plwyf Llechryd 1842; Meyrick, S R, 1810, The History and Antiquities of Cardiganshire, Llundain; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain

MAP CROES-Y-LLAN

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221