Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi >

 

Y FERWIG

Y FERWIG

CYFEIRNOD GRID: SN180487
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1186

Cefndir Hanesyddol

Ardal gymeriad dirwedd hanesyddol weddol fawr o fewn ffiniau modern Ceredigion sy’n cynnwys tir amaethyddol tonnog rhwng Aberteifi a chlogwyni creigiog Môr Iwerddon. Mae’r tir uchaf yng ngogledd yr ardal lle y mae crug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd yn Fferm Crug yn dystiolaeth o anheddu cynnar yn yr ardal hon ac mae’n nodwedd amlwg yn y dirwedd.

Gorweddai’r ardal gymeriad hon yng nghantref canoloesol Iscoed, yng nghwmwd Is-Hirwern. Daethpwyd â Cheredigion, gan gynnwys Cantref Iscoed, o dan reolaeth Eingl-Normanaidd am gyfnod byr rhwng 1110 a 1136, o dan ieirll de Clare, a adeiladodd gastell yn Aberteifi ar fryncyn yn edrych dros Afon Teifi. Roedd castell eisoes wedi’i sefydlu yn ystod cyrch cynharach, ym 1093, ond roedd yn fyrhoedlog. Cipiwyd rheolaeth ar Gantref Iscoed oddi wrth yr Eingl-Normaniaid yn sydyn ym 1136, pan enillodd lluoedd Cymreig fuddugoliaeth dyngedfennol yng Nghrug Mawr, 3 chilomedr i’r gogledd-ddwyrain o’r dref ac ychydig y tu hwnt i ochr ddwyreiniol yr ardal gymeriad hon. Arhosodd Ceredigion yn nwylo’r Cymry trwy gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, nes iddi gael ei chyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr ym 1283, pan grëwyd Sir Aberteifi. Fodd bynnag, ildiwyd Cwmwd Is-Hirwern i’r Brenin Normanaidd John ym 1201 pan y’i gwnaed yn arglwyddiaeth frenhinol, a weinyddid o Gastell Aberteifi, ac arhosodd felly tan Ddeddf Uno 1536 pan ddaeth yn rhan o Gantref Troedyraur. At ei gilydd parhaodd yr arglwyddiaeth i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau a phatrymau tirddaliadaeth Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, ac fe’i gweinyddid fel ‘Brodoraeth’.

Gorweddai’r ardal benodol hon o fewn un o israniadau’r cwmwd, sef Gwestfa Ferwig, a sefydlwyd o bosibl cyn y goresgyniad Normanaidd, ac a barhaodd i mewn i’r cyfnod ar ôl 1110 fel treflan, sef Berwig. Mae’n bosibl nad oedd cysylltiad agos rhwng y dreflan hon ac eglwys plwyf y Ferwig, sef Eglwys Sant Pedrog (a restrwyd, fel eglwys ‘Ber[e]wick’ ym 1291) am fod yr anheddiad presennol o amgylch yr eglwys yn ei gyfanrwydd yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Efallai i’r eglwys gael ei sefydlu gan Arglwydd Cymreig Aberteifi ar y pryd tua 1200, pan y’i rhoddwyd i Abaty Talyllychau. Ar wahân i’w thwr (a oedd yn dirnod enwog yn ystod yr 16eg ganrif, ond a ddymchwelwyd mor ddiweddar â 1968), ailadeiladwyd yr eglwys ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ailwampiwyd y fynwent hirsgwar fawr yn y cyfnod ôl-ganoloesol ac mae wedi’i hintegreiddio â’r patrwm caeau o’i hamgylch (ac yn rhan ohono?). Mae’r caeau mawr, eithaf rheolaidd eu siâp yn awgrymu iddynt gael eu sefydlu ar ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol, yn y 18fed ganrif o bosibl, er efallai i rai o’r caeau i’r de-orllewin o’r eglwys gael eu sefydlu ynghynt. Mae gan y felin yn yr ardal hon, sef Felin Bedr, enw sy’n adlewyrchu’r sant y cysegrwyd yr eglwys iddo ac mae’n bosibl ei bod yn dyddio o gyfnod cynharach hefyd, sy’n awgrymu o bosibl ei bod yn sefyll ar safle melin ganoloesol. Mae gan Fferm Crug, i’r gogledd, drawstiau to canoloesol a thu mewn yn dyddio o’r 17eg ganrif, ond nid yw’n safle a gofnodwyd. Yn ystod y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif datblygodd anheddiad cnewyllol o amgylch eglwys y plwyf a sefydlwyd capel, Swyddfa Bost ac ysgol, ond ymddengys mai anheddiad newydd ydoedd a sefydlwyd yn y 19eg ganrif. Mae datblygiadau modern eraill yn cynnwys gwaith trin carthion a chronfa ddðr.

Mewn cyferbyniad, roedd hanner deheuol yr ardal hon o’r 13eg ganrif wedi’i hymgorffori yn libart bwrdeistref ganoloesol Aberteifi a ddelid o dan dirddaliadaeth Eingl-Normanaidd. Derbyniodd Aberteifi ei siarter gyntaf ym 1284, ond buasai’n cynnal marchnad wythnosol ers canol y 12fed ganrif pan roddwyd breintiau bwrdeisol iddi. Ymgorfforwyd y fwrdeistref ar ddechrau’r 16eg ganrif pan gafodd faer a chorfforaeth, a rhoddwyd rhagor o freintiau iddi. Gall yr enw Warren Hill, ym mhen dwyreiniol yr ardal, ddynodi presenoldeb cwningar y bwrdeisiaid. Mae Afon Mwldan yn llifo trwy’r ardal hon, a gyflenwai dair melin ddwr yn y dref, ac roedd tair arall wedi’u lleoli yn yr ardal hon. Efallai fod Felin Ganol yn sefyll ar safle un ohonynt, ond ymddengys i New Mill gael ei sefydlu yn ddiweddarach. Ar fap degwm 1846, mae lleiniau i’r gogledd o’r dref yn dynodi caeau agored creiriol, ond mae’r rhain wedi diflannu bellach. Dangosir poced fach o dir comin gerllaw, yn Nhrebared, ar y map hefyd. Fel arall nid yw’r system gaeau yn annhebyg i’r un a welir o amgylch Ferwig heddiw ac ymddengys iddi gael ei sefydlu ar ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol, sy’n awgrymu na fu’r system o gaeau agored erioed yn un helaeth ac mai tir agored a geid yn bennaf.

Nid oes fawr ddim datblygiadau diweddarach yn yr ardal hon ac ymddengys fod y mwyafrif o’r ffermdai yn dyddio o ail hanner y 19eg ganrif neu’r 20fed ganrif. Yn ffinio â’r ardal hon i’r de mae’r A487(C) sy’n dilyn y llwybr canoloesol o Aberteifi i Aberystwyth, a oedd wedi’i throi’n ffordd dyrpeg cyn 1833. Buwyd yn gweithio pwll tywod yn ystod y 19eg ganrif ym Maesymeillion, tra bod ty pwmpio yng Nghaemorgan. Cafwyd rhai datblygiadau o amgylch New Mill a Llwynpiod yn yr 20fed ganrif, ond fel arall tir pori a geir yn yr ardal hon.

Y FERWIG

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Lleolir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol y Ferwig ar ochr ogleddol aber Afon Teifi ar lethrau yn wynebu’r gorllewin sy’n graddol godi o’r dwr i dros 120m uwchlaw lefel y môr. Mae’r pen gogleddol yn nannedd gwyntoedd mawr yr Iwerydd ac felly mae’n ddi-goed. Ceir coetir collddail mewn lleoliadau mwy cysgodol ar hyd yr afon gyferbyn â Llandudoch, ac ar lethrau serth dyffrynnoedd bach. Tirwedd amaethyddol ydyw sy’n cynnwys tir pori wedi’i wella yn bennaf a rhywfaint o dir âr a thir prysglog garw ar rai llethrau serth. O bobtu i’r caeau gweddol fawr, rheolaidd eu siâp ceir gwrychoedd wedi’u gosod ar gloddiau pridd a chloddiau o bridd a cherrig. At ei gilydd mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da, ond yn y lleoliadau mwy agored maent yn isel ac mewn achosion eithriadol nid ydynt yn ddim mwy na rhesi o eithin a drain a chwythir gan y gwynt. Cerrig o ddyffryn Teifi, sydd yn aml wedi’u rendro ar dai, yw’r prif ddeunydd adeiladu a ddefnyddiwyd cyn yr 20fed ganrif. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig a chlystyrau yn y Ferwig a Llwynpiod. Yn debyg i ardaloedd amaethyddol eraill yn rhannau isaf dyffryn Teifi mae’r stoc adeiladau hyn yn dyddio o’r 19eg ganrif yn bennaf. Mae Fferm Crug, â’i thrawstiau to canoloesol a’i thu mewn yn dyddio o’r 17eg ganrif, yn enghraifft brin o adeilad sydd wedi goroesi o gyfnod cynharach. Ailadeiladwyd eglwys plwyf y Ferwig yn gyfan gwbl ar ddiwedd y 19eg ganrif, ar wahân i’w thwr, a ddymchwelwyd yng nghanol yr 20fed ganrif. Ceir plastai yn yr arddull Sioraidd megis Bryn-y-Môr ac Aberdare (y mae’r ddau ohonynt yn rhestredig), ond mae’r mwyafrif o’r ffermdai yn symlach, maent yn dyddio o ail hanner y 19eg ganrif ac mae ganddynt ddau lawr a thri bae a cheir enghreifftiau yn yr arddull Sioraidd ac yn y traddodiad brodorol. Mae adeiladau fferm a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif yn gymharol fach, sy’n adlewyrchu maint y daliad tir, ac fel arfer maent yn ffurfio un neu ddwy res. Mae rhai ohonynt yn mynd yn segur ac addaswyd eraill i’w defnyddio at ddibenion anamaethyddol. Mae gan ffermydd gweithredol resi o adeiladau amaethyddol modern, ond fel arfer nid ydynt yn sylweddol. Mae barrau haearn rhychog â phennau crwn yn dyddio, yn ôl pob tebyg, o’r 20fed ganrif wedi goroesi ar rai ffermydd. Un o nodweddion yr ardal hon yw bod nifer o’r ffermdai hþn wedi’u disodli gan dai yn dyddio o’r 20fed ganrif. Ceir cryn dipyn o dai modern hefyd, wedi’u gwasgaru ac mewn clystyrau yn y Ferwig a Llwynpiod. Yn ogystal â thai modern yn y Ferwig, ceir anheddiad cnewyllol bach o dai gweithwyr yn dyddio o’r 19eg ganrif - mewn terasau byr ac ar wahân - sydd wedi’u canoli ar eglwys y plwyf a chapel yn dyddio o’r 19eg ganrif. Mae’r mwyafrif o’r 28 o safleoedd archeolegol a gofnodwyd yn ymwneud ag agweddau ar y dirwedd ôl-ganoloesol. Mae safleoedd cynharach pwysig yn cynnwys y cloddwaith yn Old Castle Farm, a chrug crwn a maen hir yn dyddio o’r Oes Efydd.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant i’r gorllewin a’r de, ond nid ydynt mor bendant i’r gogledd a’r dwyrain – yma ceir ardal newid yn hytrach na ffin bendant.

Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Jones, F, 2000, Historical Cardiganshire Homes and their Families, Casnewydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Ludlow, N, 2000, ‘The Cadw Welsh Historic Churches Project: Ceredigion churches’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Map degwm plwyf Y Ferwig 1839; Map degwm plwyf Eglwys y Santes Fair; Meyrick, S R, 1810, The History and Antiquities of Cardiganshire, Llundain; Owen, E, 1893 a 1894 ‘A Contribution to the History of the Praemonstratensian Abbey of Talley’, Archaeologia Cambrensis, 10 a 11, Pumed Gyfres; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain; Soulsby, I, 1983, The Towns of Medieval Wales, Chichester

MAP Y FERWIG

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]