Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi >

 

GELLIDYWYLL

GELLIDYWYLL

CYFEIRNOD GRID: SN277407
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 730

Cefndir Hanesyddol

Mae hon yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol weddol fawr a leolir o fewn ffiniau modern Sir Gaerfyrddin ar lethrau deheuol Dyffryn Teifi. Lleolir yr ardal o fewn cantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch-Cych. Roedd Cantref Emlyn wedi’i rannol ddwyn o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100. Sefydlwyd nifer fawr o gestyll yng nghwmwd Uwch-Cych - nad oes gan yr un ohonynt unrhyw hanes cofnodedig - ond roedd y cwmwd yn ôl o dan reolaeth y Cymry erbyn y 1130au, ac arhosodd felly trwy’r 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Cymerodd Ieirll Marshal Eingl-Normanaidd Penfro feddiant o gwmwd Uwch-Cych ym 1223, ond fe’i rhoddwyd i Maredudd ap Rhys, ac arhosodd ym meddiant ei deulu nes iddo gael ei gyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr ym 1283. Ym 1536 roedd yn rhan o Gantref Elfed yn Sir Gaerfyrddin. Ymddengys fod yr ardal ffrwythlon hon bob amser yn fwy poblog na rhannau eraill o Uwch-Cych, a chofnodwyd israniadau pellach o’r cwmwd - a fodolai o bosibl cyn 1100. Ymddengys fod yr ardal gymeriad dirwedd hanesyddol yn cyfateb i un o’r israniadau hyn - sef Gwestfa Cilfawr. Efallai mai Gwestfa Fawr, gyda’i ganolfan bosibl yn Fferm Gillo (hy. Cilfawr), oedd y sail i ystâd ddiweddarach Gellidywyll. Dyma oedd yr unig Westfa a gofnodwyd yng Nghantref Emlyn, ffaith a all fod yn arwyddocaol.

Erbyn diwedd y 15fed ganrif roedd Gellidywyll ym meddiant y teulu bonedd lleol, sef y teulu Lloyd. Daeth i feddiant y teulu Lewes ym 1589. Felly ymddengys ei fod yn ddaliad ar wahân i weddill cwmwd Uwch-Cych, a roddwyd i Syr Rhys ap Thomas, ffefryn yn y llys brenhinol, ar ddiwedd y 15fed ganrif, ac a drosglwyddwyd yn y diwedd trwy briodas i Ystad Gelli Aur y teulu Vaughan. Ar ben hynny yn draddodiadol mae gan Gellidywyll hanes hir sy’n rhan o chwedloniaeth Cymru, ac yn ôl pob sôn roedd yn gartref i bennaeth cynnar y dywedid bod gan ei geffyl bedolau aur. Fe’i cynlluniwyd fel ystâd fonedd, o amgylch y ty yn Gellidywyll, yn ystod y 18fed ganrif a dengys map o ‘Gelli Dowill Demesne’ a luniwyd ym 1768, pan oedd yn eiddo i James Lewes, ystad gynlluniedig, fach yn cynnwys coetir, parcdir a lleiniau cysgodi. Mae’r system gaeau o’i hamgylch yn debyg i’r un a welir heddiw. Mae mapiau ystâd eraill yn dyddio o’r 18fed ganrif, a map degwm 1840, hefyd yn dangos yr un dirwedd ag a welir heddiw. Prynwyd Gellidywyll ei hun gan Ystad Gelli Aur ar ddiwedd y 19eg ganrif. Dechreuodd yr A484, sy’n rhedeg trwy’r ardal hon, fel ffordd dyrpeg a adeiladwyd o’r newydd ar ddiwedd y 18fed ganrif. Mae datblygiadau yn dyddio o’r ugeinfed ganrif yn cynnwys pentref gwyliau ym Mhenlan a gwaith trin carthion, i’r gorllewin o Gellidywyll.

GELLIDYWYLL

 

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Gellidywyll yn ymestyn dros lethrau eithaf serth sy’n wynebu’r gogledd, sy’n codi o 20m uwchlaw lefel y môr ar orlifdir Afon Teifi i dros 170m. Mae coetir collddail ar rai o lethrau mwy serth dyffryn Afon Teifi a’i hisafonydd, a phlanhigfeydd o goed coniffer ar bocedi o dir uwch yn nodweddiadol o’r ardal hon. Fodd bynnag tir pori wedi’i wella yw’r prif ddefnydd a wneir o’r tir a cheir rhywfaint o dir âr. Rhennir y caeau gweddol fawr, afreolaidd eu siâp gan wrychoedd ar gloddiau. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da. At ei gilydd nid adlewyrchir presenoldeb cryf yr ystâd, a rychwantai’r 17eg ganrif drwodd i’r 19eg ganrif, yn y dirwedd, ar wahân i rai adeiladau a ddisgrifir isod. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig yn bennaf, a cheir rhai datblygiadau llinellol ar hyd yr A484 sy’n rhedeg trwy ran ogleddol y dirwedd hon gerllaw gorlifdir Afon Teifi. Lleolir pentref gwyliau bach o gabanau haf, sef Penlan, gerllaw’r un ffordd. Mae’r adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif yn bennaf a llechi dyffryn Teifi yw’r prif ddeunydd adeiladu. Mae’r llechi hyn yn aml wedi’u rendro â sment ar anheddau, ond maent wedi’u gadael yn foel ar adeiladau fferm.. Mae haenau tenau iawn o gerrig nadd yn gyffredin ar adeiladau’r ystâd ac mae cerrig llanw wedi’u gosod ar hap yn gyffredin ar adeiladweithiau eraill. Fel arfer mae’r ffermydd yn eithaf bach, ac mae’r ffermdai yn arddull nodweddiadol de-orllewin Cymru a chanddynt ddau lawr a thri bae a drws ffrynt canolog a phum ffenestr wedi’u trefnu’n gymesur - arddull sy’n deillio’n fwy o’r traddodiad Sioraidd cain na’r traddodiad brodorol. Mae ganddynt un neu ddwy res o adeiladau amaethyddol a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif, gan gynnwys beudai, ysguboriau a stablau, sy’n nodi economi ffermio gymysg yn y 19eg ganrif. Mewn rhai achosion addaswyd yr adeiladau fferm hyn hyn i’w defnyddio at ddibenion anamaethyddol. Mae gan ffermydd gweithredol resi sylweddol o adeiladau amaethyddol wedi’u hadeiladu o goncrid, dur ac asbestos. Mae cynllun y buarthau yn anffurfiol iawn. Mae Gelligatti yn eithriad. Yma mae gan adeilad sylweddol a godwyd ar gyfer asiant ystad Cawdor adeiladau fferm enghreifftiol Fictoraidd ynghlwm wrtho, adeiladau sydd o safon. Mae pob un yn rhestredig. Nid yw dylanwad yr ystad ar adeiladau eraill yn amlwg, ar wahân i’r plasty yn Gellidywyll yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif, o leiaf un ty o gynllun ‘llyfr patrymau’ yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif gerllaw’r A484, ac adeilad rhestredig yr Hen Ficerdy. Mae adeiladau eraill ar y ffordd hon yn cynnwys tai gweithwyr yn dyddio o’r 19eg ganrif, tai cymdeithasol yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif a thai gwasgaredig yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif. Ceir enghreifftiau eraill o’r math olaf o dai wedi’u gwasgaru ar draws yr ardal. Mae mwyafrif y 30 o safleoedd archeolegol a gofnodwyd yn yr ardal hon yn ymwneud â’r adeiladau y cyfeiriwyd atynt uchod neu â mân elfennau tirwedd hanesyddol megis hen chwareli. Fodd bynnag, mae beddrod siambrog cynhanesyddol yn dynodi cyfnod hir o weithgarwch dynol yn y dirwedd.

Mae i’r ardal gymeriad dirwedd hanesyddol hon ffiniau eithaf pendant. I’r gogledd ceir gorlifdir Afon Teifi a phentref Cenarth, i’r gorllewin dyffryn Cych, i’r dwyrain Castellnewydd Emlyn ac i’r de, tir uwch, llai poblog.

Ffynonellau: Archifdy Caerfyrddin c/v 5885 Ystad Castellnewydd Emlyn – Eiddo John Vaughan 1778, map 2, 5, 7, 9, 11; Archifdy Caerfyrddin 227 Mapiau o Ystadau James Lewis 1768 tudalennau 3, 11, 17; Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Craster, O E, 1957, Cilgerran Castle, Llundain; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Jones, F, 1997, Historic Carmarthenshire Homes and their Families, Caerfyrddin; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol 1, Caerdydd; Map degwm plwyf Cenarth 1840; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain

MAP GELLIDYWYLL

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]