Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi >

 

LLANDYGWYDD

LLANDYGWYDD

CYFEIRNOD GRID: SN233435
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1052

Cefndir Hanesyddol

Yn ystod y cyfnod hanesyddol, gorweddai’r ardal gymeriad hon yng Ngheredigion, yng nghantref canoloesol Iscoed, wedi’i rhannu rhwng cymydau Uwch-Hirwern ac Is-Hirwern, a oedd wedi’u gwahanu gan ddyffryn serth Afon Hirwaun sy’n ymestyn o’r gogledd i’r de. Daethpwyd â Cheredigion, gan gynnwys Cantref Iscoed, o dan reolaeth Eingl-Normanaidd am gyfnod byr rhwng 1110 a 1136, o dan ieirll de Clare. Mae’n debyg mai yn ystod y cyfnod hwn y sefydlwyd y mwyafrif o’r nifer fawr o gestyll a geir yn y rhan hon o Geredigion ac mae’n bosibl i rai ohonynt gael eu hadeiladu yn ystod ailoresgyniad y Cymry ym 1135-6. Arhosodd Ceredigion yn nwylo’r Cymry trwy gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, nes iddi gael ei chyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr ym 1283, pan grëwyd Sir Aberteifi. Fodd bynnag, ildiwyd cwmwd Is-Hirwern i’r Brenin Normanaidd John ym 1201 pan y’i gwnaed yn arglwyddiaeth frenhinol, a weinyddid o Gastell Aberteifi. Parhaodd yn arglwyddiaeth frenhinol – ar wahân i gyfnod byr rhwng 1215 – 1223 pan fu o dan reolaeth y Cymry – tan Ddeddf Uno 1536 pan ddaeth yn rhan o Gantref Troedyraur. At ei gilydd parhaodd yr arglwyddiaeth i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau a phatrymau tirddaliadaeth Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, ac fe’i gweinyddid fel ‘brodoraeth’. Mae’n bosibl bod castell mwnt a beili, a sefydlwyd ger Llwyndyrys, yn edrych dros gwr gogleddol gorlifdir Afon Teifi, wedi datblygu’n ganolbwynt i dreflan fach. Yn ddiau roedd treflan wedi’i sefydlu erbyn diwedd y 13eg ganrif, ac fe’i sefydlwyd yn ffurfiol fel Maenor Llandygwydd, o dan nawdd Esgobion Tyddewi yn ôl pob tebyg a oedd wedi dod i feddu ar blwyf Llandygwydd, ac a sefydlodd ffair yn y faenor.

Efallai i eglwys plwyf Llandygwydd (a ailadeiladwyd yn y 19eg ganrif yn union i’r dwyrain o’i rhagflaenydd) gael ei sefydlu yr un pryd â’r mwnt, ond mae’n fwy tebygol ei bod yn dyddio o’r cyfnod pan roddwyd plwyf Llandygwydd i Esgobaeth Tyddewi am ei bod wedi’i lleoli 0.5km i’r gogledd-ddwyrain o’r mwnt. Ymddengys i’r mwnt gael ei adael yn wag yn gynnar ac fe’i disodlwyd gan y maenordy (neu’r tþ bonedd) yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol a ddynodir yn ôl pob tebyg gan y cloddwaith sgwâr i’r gorllewin. Mae’n debyg mai hwn yw’r Llwyndyrys y cyfeiriwyd ato ym 1507, pan oedd yn eiddo i’r Esgobion, a oedd wedi’i brydlesu i Gruffudd Willam Madog. Fel arall, parhaodd yr ardal at ei gilydd i fod yn ddarostyngedig i batrymau tirddaliadaeth Cymreig – na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchogion – a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig o fewn y rhanbarth.

Ni ddatblygodd unrhyw anheddiad cnewyllol canoloesol. Mae pob rhan o anheddiad presennol Llandygwydd, er ei fod wedi’i ganoli ar yr eglwys ac, yn ôl pob tebyg, safle’r dreflan ganoloesol, yn dyddio o ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol, ac fe’i nodweddir gan res wasgarog o fythynnod yn arwain i fyny dyffryn bach o’r eglwys. Mae’r clwstwr llac ym Mhonthirwaun hefyd yn dyddio o ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol ac, yn debyg i Gapel Tygwydd ychydig y tu hwnt i’r ardal gymeriad hon a sefydlwyd ym 1840. Efallai i chwarel gerllaw hybu ei dwf. Mae aneddiadau wedi parhau i ddatblygu, a chafwyd datblygiadau mewnlenwi yn yr 20fed ganrif. Nodweddir yr ardal gyfan gan ffermydd gwasgaredig y mae’r mwyafrif ohonynt yn perthyn i’r cyfnod pan sefydlwyd y dirwedd bresennol o gaeau mawr, rheolaidd eu siâp, er efallai i rai gael eu sefydlu yn gynharach. Ymddengys fod y dirwedd yn dyddio o ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol ac roedd wedi cymryd ei ffurf bresennol erbyn diwedd y 18fed ganrif pan y’i dangosir ar fapiau ystad fel y mae heddiw. Datblygodd rhai o’r ffermydd yn dai bonedd eithaf sylweddol, gan fanteisio ar yr olygfa ardderchog tua’r de, a datblygodd yr ardal olwg ‘fonheddig’ Mae’r tai hyn yn cynnwys Plasty Stradmore sy’n dyddio o’r 17eg ganrif, a gofnodwyd ym 1610 ond a adleolwyd ar ôl hynny, Blaenpant, a gofnodwyd ym 1621, a Phenylan. Sefydlwyd Manor Eifed cyn 1766. Adeiladwyd y ffordd sy’n rhedeg ar hyd cwr deheuol yr ardal heddiw – sef yr A484 – o’r newydd ar ddiwedd y 18fed ganrif fel ffordd dyrpeg.

LLANDYGWYDD

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Llandygwydd yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol fawr sy’n ymestyn dros 9km o’r dwyrain i’r gorllewin ar lethr dyffryn Afon Teifi sy’n wynebu’r de. O’r gorlifdir ar uchder o tua 10m uwchlaw lefel y môr mae’r tir yn codi’n serth iawn i dros 80m ac yna’n lefelu’n dir mwy tonnog sy’n parhau i godi i dros 100m. Rhennir yr ardal gan isafonydd yn llifo i’r de mewn dyffrynnoedd llethrog. Gorchuddir y llethrau serth â phlanhigfeydd o goetir collddail lled-naturiol a choed coniffer, sy’n rhoi golwg goediog i ran helaeth o’r dirwedd, yn arbennig y rhan honno yn nyffryn Teifi. Tir pori wedi’i wella yw’r tir amaeth yn bennaf a cheir rhywfaint o dir âr. Rhennir y caeau gweddol fawr, afreolaidd eu siâp gan wrychoedd ar gloddiau. At ei gilydd mae’r gwrychoedd hyn mewn cyflwr eithaf da ond i’r gorllewin, ac ar ddarnau o dir uwch, fel arfer maent wedi tyfu’n wyllt, ac mewn rhai achosion nid ydynt yn ddim mwy na rhesi aflêr o lwyni. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd a thai gwasgaredig a cheir clystyrau ym Mhonthirwaun a Llandygwydd. Mae ymron yr holl stoc adeiladau cyn-fodern yn yr ardal hon yn perthyn i’r 19eg ganrif, a llechi dyffryn Teifi (yn foel ac wedi’u rendro â sment), a llechi o ogledd Cymru yw’r prif ddeunyddiau adeiladu. Mae’r mathau o dai yn cynrychioli ystod economaidd-gymdeithasol fawr. Mae Penylan yn dy ffurfiol rhestredig mawr a chanddo ardd â wal o’i hamgylch, cerbyty a stablau. Mae’r ty hwn a Maenor Elfed, ty bonedd rhestredig yn yr arddull Sioraidd yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif, a Phlasty Stradmore a fferm y plas, ym mhen uchaf y raddfa. Mae’r mwyafrif o’r ffermdai yn fwy syml ac maent yn cynnwys ffasâd deulawr â thair ffenestr sydd â chynllun cymesur, math o strwythur sy’n deillio o’r arddull Sioraidd, er bod y mwyafrif yn dyddio o ail hanner y 19eg ganrif, yn hytrach na’r traddodiad brodorol. Mae adeiladau fferm cyfoes yn fwy sylweddol nag mewn ardaloedd cyfagos, sy’n adlewyrchu yn ôl pob tebyg maint y daliad tir yn y 19eg ganrif, ac yn aml mae ganddynt ddwy neu dair rhes o adeiladau, sydd fel arfer yn cynnwys ysgubor, beudy, stablau ac ati. Ceir ambell ffermdy llai o faint a chanddo nodweddion mwy brodorol a rhesi llai o faint o adeiladau allan. Mae rhai o’r adeiladau hyn yn dechrau mynd yn segur. Mae gan ffermydd gweithredol setiau sylweddol o adeiladau amaethyddol modern o goncrid, dur ac asbestos. Yn Rhyd, mae ffermdy unllawr, clom (pridd), rhestredig (a ddefnyddir bellach fel adeilad allan amaethyddol) sydd â tho gwellt o dan haearn rhychog yn cynrychioli traddodiad adeiladu hþn, un a ddisodlwyd gan gerrig a llechi yn ystod y 19eg ganrif. Mae Ponthirwaun yn glwstwr llac o dai gweithwyr deulawr yn dyddio o’r 19eg ganrif sydd wedi’u hadeiladu o lechi nadd patrymog o ddyffryn Teifi, ac mae’n cynnwys capel rhestredig wedi’i adeiladu o gerrig ac ambell dþ modern. Mae hen chwarel fawr yn un rheswm posibl dros ddatblygiad y pentrefan hwn. Mae pentrefan Llandygwydd wedi’i ganoli ar grwp o adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif gan gynnwys eglwys y plwyf, cerbyty a stablau wrth ymyl y fynwent, ficerdy yn yr arddull Duduraidd-Gothig a bwthyn gothig, ac ychydig o fythynnod gweithwyr unllawr a deulawr yn dyddio o’r 19eg ganrif. Mae clystyrau llac o dai modern, mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau, wedi mewnlenwi bylchau rhwng adeiladau hþn ac maent yn ymestyn i fyny isffordd i’r dwyrain o’r eglwys. Ceir gwasgariad o dai modern eraill ar draws yr ardal hon. Ar wahân i’r A484 sy’n ymdroelli ar hyd cwr gorlifdir Afon Teifi ar gwr yr ardal hon, yr unig ffyrdd eraill yw lonydd a llwybrau ar gyfer traffig lleol. Fodd bynnag, ceir nifer o safleoedd pwysig, ac er nad yw’r rhain yn nodweddiadol iawn o’r ardal maent yn dynodi cyfnod hir o weithgarwch dynol yn y dirwedd hon. Mae’r rhain yn cynnwys castell cloddwaith canoloesol Llwyndyrys, bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn, ffynnon sanctaidd ganoloesol, a safleoedd canoloesol posibl eraill y daw’r holl wybodaeth sydd gennym amdanynt o ddogfennau.

Mae i’r ardal hon ffin bendant i’r de lle y mae’n ffinio â gorlifdir Afon Teifi ac ardaloedd adeiledig Cenarth a Llechryd. I’r gogledd mae’r ffin yn llai pendant. Yma mae’r caeau gweddol fawr a’r nifer fawr o ffermydd yn ymdoddi i dir uwch lle y ceir caeau mwy o faint a llai o ffermydd.

Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Jones, F, 2000, Historic Cardiganshire Homes and their Families, Casnewydd; King, D J C, 1988, Castellarium Anglicanum, Efrog Newydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Ludlow, N, 2000, ‘The Cadw Welsh Historic Churches Project: Ceredigion churches’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Llyfrgell Genedlaethol Cymru 7616 134/1/19, 1758; Map degwm plwyf Llandygwydd 1842; Map degwm plwyf Llangoedmor 1839; Meyrick, S R, 1810, The History and Antiquities of Cardiganshire, Llundain; Rawlins, B J, 1987, The Parish Churches and Nonconformist Chapels of Wales: Their Records and Where to Find Them, Salt Lake City; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain; Willis-Bund, J W (gol.), 1902, The Black Book of St Davids, Llundain

MAP LLANDYGWYDD

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]