Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi >

 

CORS PENTOOD

CORS PENTOOD

CYFEIRNOD GRID: SN186453
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 88

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern Ceredigion a Sir Benfro sy’n cynnwys cors, ar lan ddeheuol Afon Teifi. Gwarchodfa natur ydyw. Hyd yn ddiweddar, gorweddai’r ardal gyfan o fewn Sir Benfro. Fe’i rhennir yn ddwy ran gan Afon Piliau, un o isafonydd Afon Teifi, a ffurfiai’r ffin rhwng Cantrefi Cemaes ac Emlyn yn y cyfnod canoloesol, a’r arglwyddiaethau Eingl-Normanaidd a’u holynodd, sef Cemaes a Chilgerran, a sefydlwyd tua 1100 ac a ymgorfforwyd yn Sir Benfro pan y’i sefydlwyd ym 1536. Fodd bynnag, cynhwysai’r ardal ‘Frodoraethau’r’ ddwy arglwyddiaeth, lle y parhawyd â chyfreithiau, arferion a phatrymau tirddaliadaeth Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol ac i mewn i’r cyfnod modern. Mae’r ardal hon bob amser wedi cynnwys tir ymylol ac yn ôl pob tebyg arferai fod yn helaethach nag ydyw heddiw, gyda’r morfa heli yn cronni yng nghymer Afon Piliau ag Afon Teifi. Fodd bynnag roedd y gors wedi cyrraedd ei maint presennol erbyn y 1840au, pan y’i cofnodwyd fel tir ymylol ar y mapiau degwm. Mae’r hen reilffordd o Hendy-gwyn ar Daf i Aberteifi (a adeiladwyd ym 1869) yn croesi’r gors ac erbyn hyn fe’i defnyddir fel llwybr troed/llwybr beiciau. Roedd y llinell - a enillodd le yng nghalon y bobl leol ac y rhoddwyd y llysenw Cardi Bach iddi - yn weithredol tan y 1960au, a chyflenwai laeth a thraffig gwyliau i Aberteifi a Llandudoch yn bennaf.

CORS PENTOOD

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Pentood a Rosehill yn gorsydd llanw yn llawn corslwyni, yn union i fyny’r afon o Bont Osgoi Aberteifi yng nghymer Afon Teifi ac Afon Piliau. Nid yw’r ardal hon, nad yw’n mesur ond 1.3 cilomedr wrth 0.8 cilomedr, yn un fawr ond mae’n ardal ar wahân, ac mae’n cyferbynnu â’r tirweddau cyfagos o gaeau a ffermydd. Gwarchodfa natur ydyw. Lleolir canolfan ymwelwyr yma a throwyd yr hen linell reilffordd yn llwybr troed. Nid oes unrhyw safleoedd archeolegol a gofnodwyd.

Ffynonellau: Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Fenton, R., 1811 A Historical Tour through Pembrokeshire, Llundain; Howells, B E a K A (golygyddion), 1977, The Extent of Cemaes, 1594, Hwlffordd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Map degwm plwyf Cilgerran 1844; Map degwm plwyf Llandudoch 1838; Map degwm plwyf Llangoedmor 1839; Owen, H (gol.), 1914, Calendar of Pembrokeshire Records, 2, Llundain; Price, M R C, 1984, The Whitland and Cardigan Railway, Rhydychen; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain; Sambrook, P, 2000, ‘St Dogmaels Historic Audit’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed

MAP CORS PENTOOD

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221