Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Maenorbyr >

LLAIN ARFORDIROL FRESHWATER EAST I LYDSTEP

LLAIN ARFORDIROL FRESHWATER EAST I LYDSTEP

CYFEIRNOD GRID: SS 061974
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 143

Cefndir Hanesyddol

Ardal gymeriad o fewn ffiniau modern sir Benfro yn cynnwys llain arfordirol gul rhwng Freshwater East a Lydstep. Yn hanesyddol, tir ymylol fu’r llain arfordirol hon erioed. Gorwedda rhwng tir âr a’r clogwyni. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth ar ffurf lloriau cloddio fflint a thwmpathau llosgedig, a dwy fryngaer bentir o’r oes haearn, fod pobl yn byw yn yr ardal yn y cyfnod cynhanesyddol. Am fod y clogwyni i’w gweld mor amlwg yn y dirwedd denwyd pobl i godi cofebau, gyda beddrod siambr neolithig ger Maenorbyr. Mae’r elfennau Skrinkle a Skomar mewn enwau lleoedd yn awgrymu bod yr ardal yn gyfarwydd i forwyr o Lychlyn - ac efallai eu bod wedi ymsefydlu yma hyd yn oed - yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar. Yn y cyfnod hanesyddol, defnyddid y tir fel tir pori garw yn bennaf. Yn ystod y cyfnod canoloesol, gorwedda’r ardal o fewn maenor Eingl-Normanaidd Maenorbyr (a Phenalun) a oedd yn arglwyddiaeth fên neu farwniaeth freiniol a ddaliwyd, drwy wasanaeth 5 marchog, o dan Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro, sef rhanbarth wedi’i Seisnigeiddio’n helaeth a ddygwyd o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid cyn 1100, a ad-drefnwyd ar hyd llinellau maenorau Seisnig ac nas ail-gipiwyd gan y Cymry byth eto. Daliasid y farwniaeth gan y teulu de Barri, ers dechrau’r 12fed ganrif ac, ar ôl i’r llinach honno ddod i ben yn 1392, fe’i gwerthwyd i Ddugoedd Caerwysg cyn mynd yn ôl i’r goron yn 1461. O hynny ymlaen cafodd ei phrydlesu i nifer o unigolion cyn cael ei hewyllysio i’r teulu Philipps o Gastell Pictwn a bu ym meddiant y teulu hwnnw tan yr 20fed ganrif. Cofnodwyd Maenorbyr yn fanwl mewn tri arolwg diweddarach o Faenor Maenorbyr, yn 1601, 1609 a 1618. Roedd pum tenant yn meddu ar ffaldau, sy’n gysylltiedig â daliadau a gofnodwyd fel eithin, gwaun, rhostir a chlogwyn. Roedd yr anifeiliaid yn pori fwy na thebyg ar y llain arfordirol heb ei hamgáu yn yr ardal gymeriad hon. Mae’r enw ‘Conigar Pit’ ar Old Castle Head yn awgrymu hen gwningar. Nid oes ond ychydig o fannau sy’n addas ar gyfer glanio cychod bach ac ni wireddwyd awgrym Gerallt Gymro y gallai Bae Maenorbyr fod yn ‘harbwr ardderchog ar gyfer llongau’. Ar wahân i amaethyddiaeth, chwarela oedd un o’r gweithgareddau eraill a gafwyd yn yr ardal hon. Yn 1867, neilltuwyd tir ar gyfer caer ar ben clogwyn East Moor ond nis adeiladwyd erioed. Defnyddiwyd y safle yn ddiweddarach ar gyfer lle tanio arfau gwrthawyrennol ysgafn yn yr Ail Ryfel Byd. Nid oes dim olion ohono wedi goroesi ac mae’r tir wedi troi’n rhostir unwaith eto. Sefydlwyd Gwersyll presennol Maenorbyr, ar Old Castle Head, fel ysgol arfau gwrthawyrennol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Arferai fod yn fwy o faint nag ydyw heddiw ac mae nifer o osodiadau wedi goroesi o fewn y llain arfordirol hon. Sefydlwyd uned datblygu wrthawyrennol hefyd ym Mhentir Lydstep. Mae gweithgarwch modern yn yr ardal yn gysylltiedig â thwristiaeth a hamdden yn bennaf - mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg drwy’r ardal, ac mae Hostel Ieuenctid a safle picnic yn Skrinkle.

LLAIN ARFORDIROL FRESHWATER EAST I LYDSTEP

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys clogwyni uchel sy’n agored i’r môr, llain gul ar ben y clogwyni a baeau tywodlyd bach sy’n rhedeg o Freshwater East i’r gorllewin i Bentir Lydstep i’r dwyrain, sef cyfanswm o 9km. Mae’n llain gul iawn, sy’n llai na 50m mewn mannau, ond sy’n mynd yn lletach nes ei bod yn 300m ym Mhentir Lydstep. Ei lled gyfartalog yw tua 100m. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg ar ben y clogwyni, ac mae meysydd parcio i ymwelwyr yn Skrinkle a Phentir Lydstep. Nid oes dim adeiladau cyfannedd, er bod sawl adeilad sy’n gysylltiedig â’r ysgol arfau gwrthawyrennol o ganol yr 20fed ganrif - mannau arsylwi, llwyfannau magnel - yn gorwedd rhwng Old Castle Head a Phentir Lydstep. Ymhlith y safleoedd archeolegol eraill mae twmpathau llosgedig - safleoedd anheddu o bosibl - lloriau cloddio fflint, beddrod siambr Coetio’r Brenin a dwy gaer bentir o’r oes haearn. Mae’r tri safle olaf yn elfennau pwysig o’r dirwedd hanesyddol. Cofnodir hen chwareli ar yr arfordir hefyd, gan gynnwys chwareli calchfaen mawr gyda cheiau a glanfeydd ym mhen dwyreiniol pellaf yr ardal hon yn Hafan Lydstep.

Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol benodol iawn, gyda’r môr agored i’r de a thir ffermio amgaeedig i’r gogledd yn ffiniau iddi.


Ffynonellau: Charles 1992; map degwm Plwyf Hodgeston 1840; King a Perks 1970; map degwm Plwyf Maenorbyr 1842; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyf 88; Swyddfa Gofnodion Sir Benfro HPR/57/31; Thomas 1994; Thorpe 1978; Walker 1992

MAP LLAIN ARFORDIROL FRESHWATER EAST I LYDSTEP

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221