Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Maenorbyr >

Maenorbyr

MAENORBYR

CYFEIRNOD GRID: SS 067979
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 52

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Benfro, yn cynnwys pentref adeiledig Maenorbyr. Yn ystod y cyfnod canoloesol, gorweddai ym maenor Eingl-Normanaidd Maenorbyr (a Phenalun) a oedd yn arglwyddiaeth fên neu farwniaeth freiniol a ddaliwyd, drwy wasanaeth 5 marchog, o dan Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro, sef rhanbarth wedi’i Seisnigeiddio’n helaeth a ddygwyd o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid cyn 1100, a ad-drefnwyd ar hyd llinellau maenorau Seisnig ac nas ail-gipiwyd gan y Cymry byth eto. Daliasid y farwniaeth gan y teulu de Barri, ers dechrau’r 12fed ganrif ac, ar ôl i’r llinach honno ddod i ben yn 1392, fe’i gwerthwyd i Ddugoedd Caerwysg cyn mynd yn ôl i’r goron yn 1461. O hynny ymlaen cafodd ei phrydlesu i nifer o unigolion cyn cael ei hewyllysio i’r teulu Philipps o Gastell Pictwn a bu ym meddiant y teulu hwnnw tan yr 20fed ganrif. Nodwedd amlycaf Maenorbyr yw’r castell, a allasai fod yn ganolfan bendefigaidd neu lys cyn oes y Normaniaid, sydd, yn ei dro, wedi’i godi dros fryngaer o’r oes haearn. Mae’r ffaith ei bod ar wahân i eglwys y plwyf, a saif ar ochr arall cilfach wedi’i siltio yn awgrymu tarddiad canoloesol cynnar i’r ddau, ac yn wir mae’r pellter rhwng yr eglwys a’r anheddiad yn awgrymu hynny, o bosibl fel safle ‘pâr’ seciwlar/eglwysig a welir mewn mannau eraill yn y De-orllewin. Mae peth ansicrwydd p’un a roddodd Maenor Maenorbyr yr enw ar y cwmwd Cymreig Maenor Pyr neu i’w henw ddeillio o’r cwmwd hwnnw. Dadleuwyd nad yw’r elfen ‘maenor’ yn deillio o’r gair Eingl-Normanaidd ‘manor’ ond o’r elfen ‘maenol’ a fodolai cyn y Goncwest ac sy’n gysylltiedig â’r enw personol ‘Pyr’ sydd hefyd yn cael ei gofio yn ‘Ynys Pyr’. Awgrymwyd hefyd ei fod yn rhan o ystad luosog - fodd bynnag, nid yw ffynonellau cyn y Goncwest Eingl-Normanaidd yn cyfeirio at yr anheddiad. Sefydlu’r castell yn oddeutu 1100 yw’r hanes cofnodedig cynharaf. Gwariodd y teulu de Barri lawer iawn o arian ar ddatblygu’r castell. Mae ganddo adeiladau cerrig o’r 12fed ganrif, sy’n anghyffredin yn sir Benfro. Mae’n adnabyddus fel y man lle y genid yr eglwyswr a’r croniclydd, Gerald de Barri - neu ‘Gerallt Gymro’ - yn 1146. Mae ei waith yn rhoi darlun gwerthfawr o natur y faenor ar ddiwedd y 12fed ganrif, a’i threfniadau Eingl-Normanaidd - ‘mae gan y castell dyrrau a gwrthgloddiau ac iddynt amddiffynfeydd da, a saif ar gopa bryn sy’n ymestyn tuag at y porthladd ar yr ochr orllewinol ac ar yr ochr ogleddol a deheuol mae’n cyd-ffinio â phwll pysgod gwych yng nghysgod ei waliau, sydd mor amlwg oherwydd ei ymddangosiad crand, ag ydyw oherwydd dyfnder ei ddyfroedd, a pherllan hardd ar yr un ochr, wedi’i hamgáu ar y naill ochr gan winllan, ac ar y llall gan goedwig sy’n hynod am y creigiau sy’n estyn ohoni, ac uchder ei choed cyll. Ar ochr ddeheuol y pentir, rhwng y castell a’r eglwys, wrth ymyl llyn mawr iawn a melin, mae afonig, y mae ei dyfroedd yn llifo’n ddi-baid, yn rhedeg drwy ddyffryn, sy’n dywodlyd oherwydd grym y gwyntoedd. Tua’r gorllewin, mae môr Hafren, yn ymdroelli tuag at Iwerddon, yn llifo i fae gwag ryw bellter o’r castell; a byddai’r creigiau deheuol, yn ymestyn ychydig i’r gogledd, yn ei gwneud yn harbwr ardderchog ar gyfer llongau ... Yn y wlad hon mae digonedd o y d, pysgod y môr, a gwinoedd tramor; a’r hyn sy’n rhagori ar bob mantais arall, o’i agosrwydd i Iwerddon, yw ei hawyr iachus...’. Roedd y castell wedi mynd yn adfail erbyn dechrau’r 17eg ganrif ond ailadeiladwyd ei amddiffynfeydd yn ystod y Rhyfel Cartref pan gafodd ei gipio, yn ddi-wrthwynebiad, gan y Senedd. Ar ôl cyfnod o raddol ddadfeilio cafodd ei adnewyddu’n rhannol ar ddiwedd y 19eg ganrif. Rhoddwyd yr eglwys, a grybwyllwyd hefyd gan Gerallt, i Fenedictiaid Priordy Cil-maen, sir Benfro, yn 1301. Roedd y parc a oedd yn perthyn i’r castell i’r gorllewin (ardal gymeriad East Moor a West Moor yn bennaf) ac roedd yn rhan o’r demên maenorol; yn ôl disgrifiad o ddechrau’r 17eg ganrif roedd wedi’i amgáu gan wal gerrig ac roedd yn cynnwys 60-70 erw o dir pori. Ymddengys nad oedd yr anheddiad canoloesol wrth borth y castell wedi cael ei gynllunio, ac mai datblygu fesul tipyn a wnaeth. Fel pentrefan amaethyddol, mae’n debyg nad oedd yr anheddiad erioed yn fawr iawn a dim ond ar hyd y ffordd i’r dwyrain o’r castell y datblygodd; ni chyfeiriwyd ato mewn hanesion cydamserol ac ymddengys na fu ganddo na marchnad na ffair. Ni ddatblygwyd ‘harbwr’ Gerallt erioed. Cofnodwyd Maenorbyr yn fanwl mewn tri arolwg diweddarach o Faenor Maenorbyr, yn 1601, 1609 a 1618. Roedd yn un o dri rhanbarth y faenor, gyda maer yn gyfrifol am gasglu rhent, ac o ddiwedd yr 17eg ganrif cynhelid llysoedd maenorol yno. Er mai hwn oedd yr anheddiad mwyaf yn y faenor, nid oedd ond yn cynnwys 22 o anheddau sef 8 fferm fawr, 9 ty a 5 bwthyn. O’r arolygon mae’n amlwg bod y broses o amgáu’r caeau o’i hamgylch eisoes wedi dechrau erbyn dechrau’r 17eg ganrif. Cadarnhawyd yn yr arolygon fod y d yn cael ei dyfu yn yr ardal o amgylch y pentref, a bu cynnydd o 56 erw mewn tir âr rhwng 1609 a 1618. Erbyn hynny nid oedd dim adar hela na cheirw yn y parc, a oedd wedi’i rannu’n dri chae. Collasid llawer o’r demên (a aeth yn ddaliadau sensori) er bod yr arolygon yn cyfeirio at Ddôl yr Arglwydd, a’r felin. Ni chyfeiriwyd at y colomendy, a oedd yn ‘old and decayed’ yn 1582 mewn arolygon diweddarach. Byddai tenantiaid yn dal tir drwy rydd-ddaliad, a thrwy ddau fath o ddaliadaeth gopihowld a elwid yn ‘ddaliadaeth hwsmonaeth’ a ‘daliadaeth sensori’, yr ymddengys eu bod wedi goroesi o ddeiliadaeth ffiwdal gynharach. Ym Maenorbyr, talodd un tenant rhydd-ddaliadol mewn arian parod. Dros y tri arolwg, cofnodwyd bod 17 o denantiaid hwsmonaeth yn meddu ar ffermydd sylweddol, gan gynnwys cyfanswm o 6 ysgubor, 5 ysgubor gwair a 4 beudy. Roedd yn rhaid i denantiaid hwsmonaeth fedi’r gwair ar ddôl yr arglwydd a’i gludo i’r castell, wedyn roedd ganddynt yr hawl i bori yn y ddôl; roedd yn rhaid iddynt lanhau pynfarch y felin a darparu meini melin. Roedd gan y tenantiaid sensori 4 ysgubor, 3 ysgubor wair a 3 beudy. Roedd tri o denantiaid yn berchen ar ffald; mae’n debyg i’r anifeiliaid bori ar y llain arfordirol heb ei hamgáu. Ymddengys nad oedd y pentref wedi datblygu fawr ddim - a’i fod wedi crebachu o bosibl - erbyn 1774-5 pryd y dengys map o ystad ‘The Crofts’ ychydig o dai gwasgaredig. Ar fap degwm oddeutu 1840, darluniwyd y pentref fel ychydig o dai ar un stryd. Bu rhai datblygiadau yn yr 20fed ganrif, y rhan fwyaf ohonynt i’r dwyrain o’r pentref lle y codwyd ystad tai i wasanaethu Gwersyll Maenorbyr (gweler ardal gymeriad Gwersyll Maenorbyr). Sefydlwyd y gwersyll yn wreiddiol fel ysgol arfau gwrthawyrennol yn ystod yr Ail Ryfel Byd Mae Maenorbyr, a’i thraeth a’i chastell yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid.

Maenorbyr

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Maenorbyr yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gymharol fach ond cymhleth. Mae’n cynnwys llawer o elfennau gwahanol. Ardal ddatblygedig ydyw yn y bôn ac mae’n cynnwys enghreifftiau da o adeiladau, eglwys, castell a cholomendy canoloesol, yn ogystal â phentref yn dyddio o’r 19eg ganrif. Ei chanolbwynt yw’r castell cerrig canoloesol, a saif ar bentir mewndirol 50m uwchben lefel y môr, ond mae hefyd yn cynnwys dyffrynoedd serth, gwaelod dyffrynnoedd wrth ymyl y môr, yr eglwys ganoloesol ar ochr gyferbyn y dyffryn, a thai modern ar dir gwastad ryw bellter o’r castell a’r arfordir. Saif y castell, gyda’i waliau cerrig uchel, ar wahân i’r pentref ar bentir serth. Gorwedda pyllau pysgod/melin llawn llaid, melin adfeiliedig, a cholomendy canoloesol a gwaith trin carthion yn y dyffryn i’r gogledd o’r castell. Mae meysydd parcio (i ymwelwyr â’r traeth) a thir garw yn y dyffryn i’r de. Saif neuadd bentref gerrig hardd a godwyd ar ddechrau’r 20fed ganrif yng nghanol y pentref lle mae tair stryd gul yn cyfarfod. Mae hen adeiladau eraill yn y pentref, tua 20 neu 30 i gyd, yn dyddio o’r 19eg ganrif, ac maent mewn clwstwr heb ei gynllunio ar hyd y tair stryd hyn. Y defnydd adeiladu mwyaf cyffredin yw cerrig wedi’u rendro â sment, o dan doeau llechi wedi’u torri â pheiriant. Mae’r math llydan o adeiladau a’u harddull yn yr anheddiad yn arwydd arall nad oedd wedi’i gynllunio - nid oes fawr ddim cysondeb pensaernïol yn y pentref. Mae’r tai yn amrywio o fythynnod brodorol unllawr â ffryntiad dwbl i dai deulawr neu dri llawr, tafarn, siop a gwesty bach yn y traddodiad ‘Sioraidd’ cain. Mae gan rai tai fanylion cyfoes o ddiwedd y 19eg ganrif megis ffenestri neo-gothig a chasys drysau. Mae tai modern a byngalos wedi’u codi mewn modd di-gynllun rhwng yr adeiladau hy n. Mae’r waliau cerrig ar y naill ochr a’r llall i’r strydoedd cul yn nodweddiadol o ganol y pentref. Mae bythynnod adfeiliedig wrth ymyl Eglwys San Iago gyda’i thw r canoloesol uchel yn awgrymu craidd ail bentref, sydd bellach wedi crebachu’n un annedd. Gorwedda datblygiadau mwy wedi’u cynllunio ar ffurf dwy ystad tai o ganol i ddiwedd yr 20fed ganrif ar dir gwastad i’r dwyrain o ganol y pentref hanesyddol. Mae tai sydd wedi’u codi fesul un yn ddiweddar yn dechrau llenwi’r bylchau rhwng craidd y pentref a’r ystadau tai. Am nad oedd y pentref wedi’i gynllunio, mae sawl man agored bach, megis ochrau garw’r dyffryn a gwaelod y dyffryn. Ceir meysydd chwaraeon hefyd. Nid oes llawer o safleoedd archeolegol ar wahân i’r rhai y cyfeiriwyd atynt uchod ac nid ydynt yn nodwedd gref o’r ardal. Maent yn cynnwys mannau darganfod olion cynhanesyddol a safle melin wynt.

Mae hon yn ardal benodol. Mae’n gwrthgyferbynnu â’r ardaloedd cyfagos o gaeau a ffermydd.

Ffynonellau: Charles 1992; King a Perks 1970; Kissock 1993; Ludlow 2000; Ludlow 2002; map degwm Plwyf Maenorbyr 1842; Milne 2001; Swyddfa Gofnodion Sir Benfro HDX/945/2; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyf 88; Owen 1892; Thomas 1994; Thorpe 1978; Walker 1992

Map Maenorbyr

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221