Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Maenorbyr >

LLAIN-GAEAU MANORBIER NEWTON

LLAIN-GAEAU MAENORBYR NEWTON

CYFEIRNOD GRID: SS 057994
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 650

Cefndir Hanesyddol

Ardal o fewn ffiniau modern sir Benfro sy’n cynnwys bloc ar wahân o lain-gaeau cul, wedi’u hamgáu erbyn hyn. Mae sawl awdur wedi ceisio diffinio a dyddio’r system caeau. Awgrymodd Roberts ei bod yn Eingl-Normanaidd, ac yn wir mae llawer o’r caeau yn amlygu’r ffurf ddolennog grom sy’n nodwedd o aredig canoloesol. Fodd bynnag, fel y nodwyd gan awduron eraill, nid yw’r system yn nodweddiadol o’r cyfnod canoloesol ac ymddengys bod anheddau canoloesol posibl, megis Manorbier Newton a Jameston yn gorwedd drosti. Mae’n fwy tebygol ei bod yn dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol, yr oes efydd fwy na thebyg, gan ei bod yn gyfechelin â llwybr cynhanesyddol - ‘The Ridgeway’ - y mae nifer o grugiau crwn o’r oes efydd yn gorwedd ar hyd-ddi. Mae’n bosibl ei bod yn grair o system caeau gynhanesyddol helaethach sydd wedi diflannu mewn mannau eraill, ond sy’n weladwy ymhellach i’r gorllewin yn ardal Castell Martin. Mae’r ffiniau dolennog presennol o bosibl yn deillio o’r ailddefnydd o’r caeau yn yr Oesoedd Canol, a gafodd eu hamgáu wedyn. Yn ystod y cyfnod canoloesol, gorweddai’r ardal o fewn maenor Eingl-Normanaidd Maenorbyr (a Phenalun), a oedd yn arglwyddiaeth fên neu’n farwniaeth freiniol, a ddaliwyd drwy wasanaeth 5 marchog, o dan Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro sef rhanbarth wedi’i Seisnigeiddio’n helaeth a ddygwyd o dan reolaeth Eingl-Normanaidd cyn 1100, a ad-drefnwyd ar hyd llinellau maenorau Seisnig ac nas ail-gipiwyd gan y Cymry byth eto. Daliasid y farwniaeth gan y teulu de Barri, ers dechrau’r 12fed ganrif ac, ar ôl i’r llinach honno ddod i ben yn 1392, fe’i gwerthwyd i Ddugoedd Caerwysg cyn mynd yn ôl i’r goron yn 1461. O hynny ymlaen cafodd ei phrydlesu i nifer o unigolion cyn cael ei hewyllysio i’r teulu Philipps o Gastell Pictwn a bu ym meddiant y teulu hwnnw tan yr 20fed ganrif. Yn ystod y cyfnod canoloesol, roedd y lleiniau yn perthyn i dri rhanbarth y faenor, Maenorbyr a Jameston (gweler yr ardaloedd cymeriad unigol), a Manorbier Newton, sef yr anheddiad cnewyllol canoloesol yn yr ardal hon. Cofnodwyd Manorbier Newton gyntaf yn 1331 fel pentrefan amaethyddol gyda maer yn gyfrifol am gasglu rhent. Cynhaliwyd tri arolwg manwl ohoni yn 1601, 1609 a 1618. Bryd hynny Manorbier Newton oedd y pentrefan mwyaf ond dau o fewn y faenor. O ran morffoleg mae’n anheddiad cnewyllol bach heb ei gynllunio sydd tua’r un maint heddiw ag ydoedd ar ddechrau’r 17eg ganrif. Mae 6 fferm o faint, 7 ty ac un bwthyn. Cadarnhawyd bod y d yn cael ei dyfu yn y gefnwlad o amgylch y pentref gan yr arolygon, ond cofnodwyd bod 56 erw o dir âr wedi’i golli rhwng 1606 a 1618. Cadwodd y ‘Lord’s Mead’ i’r dwyrain o’r pentref ardal fach o ddemên barnwrol. Fel arall, byddai tenantiaid yn dal tir drwy rydd-ddaliad, a chan ddau fath o gopihowld a elwid yn ‘ddaliadaeth hwsmonaeth’ a ‘daliadaeth sensori’, yr ymddengys eu bod wedi goroesi o ddeiliadaeth ffiwdal gynharach. Dim ond daliadaethau hwsmonaeth a gofnodir yn y llain-gaeau; ymddengys mai hen ddemên barwnol nas daliwyd ar y cyd oedd tiroedd sensor (fodd bynnag roedd y tiroedd sensor yn ardal gymeriad East Moor a West Moor wedi’u cynnwys o fewn Newton yn yr arolygon). Dros y tri arolwg, cofnodir 16 o denantiaid hwsmonaeth a oedd yn meddu ar ffermydd mawr - cyfanswm o 8 ysgubor, 9 ysgubor yd a 6 beudy. Ymddengys o’r arolygon fod y caeau yn dal i fod yn agored ar y cyfan ar ddechrau’r 17eg ganrif ond nad oeddent wedi’u dal ar y cyd mwyach. Erbyn arolwg arall yn ddiweddarach yn yr 17eg ganrif roedd y broses o amgáu tir wedi dechrau gan fod 19 o enwau caeau wedi’u cofnodi. Roedd y broses fwy neu lai wedi gorffen erbyn 1774 pan ddengys map ystad o New House, Mudmoor a Slade israniad heb ei amgáu o fewn rhai o’r lleiniau wedi’u hamgáu. Wedi hynny sefydlwyd nifer o ffermydd o fewn y llain-gaeau amgaeedig. Slade oedd y gyntaf i’w chofnodi ar ddechrau’r 18fed ganrif, a Sunny Hill ar ddiwedd y 18fed ganrif. Crëwyd Tynewydd yn gymharol ddiweddar. Erbyn yr arolwg degwm yn 1842 roedd y patrwm caeau a’r patrwm anheddu fwy neu lai fel y maent heddiw, ac eithrio rhai ffiniau a gollwyd. Mae llinell reilffordd yn croesi’r ardal, gyda gorsaf i’r gogledd o Faenorbyr, a agorwyd gan Reilffordd Penfro a Dinbych-y-pysgod yn 1864 ac a brynwyd gan GWR yn 1896.

LLAIN-GAEAU MANORBIER NEWTON

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Llain-gaeau hirgul sy’n nodweddu’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon. Mae echelinau hir y rhain yn rhedeg o’r gogledd i’r de. Maent yn rhedeg dros dir ymdonnog o amgylch Jameston a Maenorbyr rhwng 30 a 50 m ar lethrau sy’n wynebu i’r de ar frig y Ridgeway dros 100m. Mae’r Ridgeway yn derfyn gogleddol pendant i’r llain-gaeau. Ar fapiau mae’n bosibl diffinio grwpiau neu flociau o leiniau, megis y rhai i’r gogledd-ddwyrain o Faenorbyr ac i’r de-orllewin o Manorbier Newton, ond un system unedig yw’r patrwm cyffredinol. Fodd bynnag, mae terfynau caeau yn amrywio’n fawr ar draws yr ardal. Cloddiau â wyneb carreg a chloddiau pridd a gwrychoedd yn tyfu arnynt a geir ran amlaf. Hyd yn oed gyda’r math hwn mae amrywiaeth, gyda chloddiau ochr ffordd yn aml yn enfawr ond mae eraill yn ansylweddol. Gwelir waliau o galchfaen llanw â morter hefyd yn ogystal â chloddiau o gerrig llanw/waliau cerrig sychion. Mae’r ddau fath hyn yn aml mewn cyflwr gwael. Mae gwrychoedd ar y cloddiau wedi’u cynnal yn dda. Ychydig iawn sydd wedi tyfu’n wyllt neu sydd heb eu trin. Mae’n dirwedd sy’n agored i’r tywydd ac felly nid yw gwrychoedd o goed yn gyffredin, a’r prif fath o goetir yw rhesi bach prysgog mewn pantiau cysgodol. O ran defnydd tir mae tua 80% o dir pori wedi’i wella a 20% o dir âr. Mae’r ffermydd ar draws y llethrau sy’n wynebu i’r de islaw’r Ridgeway ar y gyflin 60m yn fras yn elfen nodweddiadol o’r patrwm anheddu. Mae ffermydd ac anheddau eraill yn eithaf gwasgaredig. Pentrefan Manorbier Newton yw’r unig anheddiad cnewyllol. Calchfaen lleol (wedi’i rendro â sment a cherrig noeth) a llechi ar gyfer toeau yw’r prif ddeunyddiau adeiladu mewn adeiladau hy n. Mae maint ffermdai a ffermydd yn amrywio, ac er bod anheddau sylweddol yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif yn y traddodiad Sioraidd gyda rhesi mawr o dai allan cerrig ryw bellter o’r anheddau, mae’r rhan fwyaf yn llai ac yn dyddio o ganol i ddiwedd y 19eg ganrif. Adeiladau deulawr a ffryntiad dwbl yw’r rhain yn bennaf gydag enghreifftiau yn yr arddull Sioraidd gain a’r traddodiad brodorol. Mae hen adeiladau fferm yn fach, yn aml gydag un neu ddau o resi, ac mewn rhai achosion ynghlwm wrth ochr y ffermdy, gan awgrymu maint cymharol fach y tir a ddaliwyd gan yr hen ffermydd. Mae amaethu wedi peidio ar lawer o’r ffermydd - meysydd gwersylla a chanolfannau garddio a geir yma - ac mae adeiladau allan yn aml wedi cael eu haddasu at ddefnydd nad yw’n ymwneud ag amaethyddiaeth. Mae eraill wedi cael eu hesgeuluso ac maent wedi mynd yn anghyfannedd. Ceir adeiladau amaethyddol modern, mawr ar ffermydd gweithredol. Ym mhentrefan Manorbier Newton ceir tai unllawr a deulawr yn y traddodiad brodorol, adeiladau allan bach o gerrig, capel o’r 19eg ganrif nad yw’n cael ei ddefnyddio mwyach, hen orsaf reilffordd a llond dwrn o dai modern. Ceir clwstwr mwy llac o adeiladau ger Gorsaf Maenorbyr gan gynnwys adeiladau’r orsaf , ysgol a chapel, pob un wedi’i godi yn y 19eg ganrif, maes gwersylla a chanolfan arddio. Mae tri phrif lwybr yn croesi’r ardal hon o’r dwyrain i’r gorllewin. Mae’r Ridgeway i’r gogledd, rheilffordd Penfro a Dinbych-y-pysgod, a ffordd yr A4139, ac mae nifer o lonydd bach. Ar wahân i’r Ridgeway ymddengys bod pob un o’r llwybrau hyn yn torri ar draws y system llain-gaeau ac felly maent yn fwy diweddar o ran dyddiad. Ymhlith yr archeoleg gofnodedig mae crugiau crwn o’r oes efydd ar hyd y Ridgeway a sawl safle cloddio fflint cynhanesyddol. Mae odynnau calch a phyllau bach yn dyst i’r ffaith bod calchfaen wedi’i gloddio at ddefnydd amaethu ac adeiladu.

Llain-gaeau yw prif nodwedd yr ardal hon ac mae’r rhain yn ei gwahanu oddi wrth gaeau mwy rheolaidd yr ardaloedd cyfagos.

Ffynonellau: Austin 1988; Charles 1992; King a Perks 1970; Kissock 1997; map degwm Plwyf Maenorbyr 1842; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyf 88; Price 1986; Roberts 1987; Walker 1992

MAP LLAIN-GAEAU MANORBIER NEWTON

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221