|
DOC PENFRO
CYFEIRNOD GRID: SM 963034
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 455
Cefndir Hanesyddol
Yn ystod y cyfnod canoloesol lleolid yr ardal hon, penrhyn bach ym Mhlwyf
y Santes Fair, Penfro, o fewn Maenor Kingswood with Golden, a oedd yn
un o faenorau demên arglwyddiaeth Penfro. Cofnodir bod tir yn cael
ei ddefnyddio i dyfu cnydau mewn adroddiadau manwl o’r 14eg ganrif
a’r 15fed ganrif, a bod gwenith, ffa, pys, haidd a cheirch yn cael
eu tyfu. Fodd bynnag, cofnodir doldir, defaid a gwlân hefyd, ynghyd
ag elw a gafwyd o brosesu brethyn – sefydlwyd dwy felin bannu yma
yn ystod y 15fed ganrif. Cafwyd incwm hefyd o’r fferi a groesai’r
ddyfrffordd i Burton. Ni ddisodlwyd y fferi hon gan bont tan ddiwedd yr
20fed ganrif. Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol daeth yr ardal yn
rhan o ystad Bush. Er i gaer gael ei rhannol adeiladu yn Paterchurch ym
1758 ni newidiwyd golwg amaethyddol yr ardal hon, fel y dangosir ar fapiau
o’r ystad dyddiedig 1772 a 1813, er yr ymddengys, yn debyg i’r
mwyafrif o mornentydd ar Aberdaugleddau, fod gweithgarwch adeiladu llongau
yn mynd ymlaen ar raddfa fach yn Bentlass ar Afon Penfro ac yn Fferi Penfro.
Pan benderfynodd y Morlys adleoli ei iardiau llongau o Aberdaugleddau
i safle newydd yn Paterchurch yn 1812 dechreuodd tref newydd Doc Penfro
dyfu. Tyfodd yn gyflym. Dengys map o’r ystad dyddiedig 1848 â’r
teitl ‘Town of Pater’ batrwm grid yr egin-dref. Dangosir bod
adeiladau yn sefyll ar lawer o’r lleiniau, ond mae llawer eraill
yn aros i gael eu datblygu. Yn wir, mae llaw ddiweddarach wedi ysgrifennu
ar y map yn nodi enwau’r adeiladau a adeiladwyd ar ôl hynny
a pha fath o adeiladau oeddynt. Agorwyd iardiau llongau llyngesol ym 1814,
fe’u hymestynnwyd ym 1830-32 ac unwaith eto ym 1844. Ym 1832 agorwyd
pier o gerrig yn Hobbs Point a gwesty a stablau ar gyfer Gwyddelod yn
teithio ar y llong bost yn ddiweddarach ar ôl i’r gwasanaeth
hwn gael ei drosglwyddo o Aberdaugleddau. Fel rhan o’r amddiffynfeydd
cyffredinol ar gyfer Aberdaugleddau adeiladwyd nifer o safleoedd mawr
o fewn yr ardal hon yng nghanol y 19eg ganrif, gan gynnwys caer ‘seren’
fawr a dau dwr gynnau ar flaen y traeth gerllaw’r iardiau llongau.
Ym 1864, rhedodd y trên cyntaf o Ddoc Penfro i Ddinbych-y-Pysgod.
Ymestynnwyd y llinell yn ddiweddarach i mewn i’r dociau. Bu iardiau
adeiladu llongau preifat ar Water Street, Front Street a Lower Meyrick
Street i gyd yn gweithredu yn ystod y 19eg ganrif, yn ogystal ag iard
sylweddol yn Jacob’s Pill ar Afon Penfro. Agorwyd y safle olaf hwn
ym 1874 a chaeodd ym 1884, pan y’i newidiwyd yn ysbyty arwahanu.
Ar ddiwedd y 19eg ganrif sefydlwyd storfeydd torpidos yn Pennar Point
a chynhaliwyd arbrofion gyda llongau tanfor yn gosod ffrwydron ar yr afon
yma. Roedd y dociau yn un o’r canolfannau adeiladu llongau llyngesol
pwysicaf yn y byd, a lansiwyd dros 260 o longau yn ystod y 112 o flynyddoedd
y bu’n gweithredu. Wrth i longau mwy o faint gael eu datblygu, proses
a gyrhaeddodd ei huchafbwynt gyda’r dosbarth dreadnought, daeth
oes y dociau i ben. Nid oedd y Morlys yn fodlon buddsoddi mewn cyfleusterau
newydd, ac ym 1907 diswyddwyd gweithwyr. Caewyd yr iard longau yn ddirybudd
ym 1926. Ym 1930, sefydlodd yr Awyrlu orsaf ar gyfer awyrennau môr
yn rhan ddwyreiniol yr hen ddociau a darparodd yr orsaf rywfaint o waith
ar gyfer yr ardal nes iddi gau ym 1959. Yn ystod y cyfnod rhwng dechrau
a chanol yr 20fed ganrif lleolwyd safleoedd milwrol eraill yn yr ardal
hon gan gynnwys barics, storfeydd olew a ffrwydron rhyfel. Yn fwy diweddar,
bu gwasanaeth fferi i Iwerddon yn rhedeg mewn safle newydd yn yr hen ddociau.
Ehangodd tref Doc Penfro ar y cyd â’r datblygiad milwrol a
diwydiannol, yn gyntaf yn agos at y dociau ac ym Mhennar, ac wedyn, yn
yr 20fed ganrif, y tu allan i graidd hanesyddol y dref.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae Doc Penfro yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol drefol. Mae wedi’i
chanoli ar yr iardiau llongau llyngesol yn dyddio o’r 19eg ganrif
a’r 20fed ganrif, ac iardiau llongau preifat llai o faint. Mae’r
iardiau llongau llyngesol wedi’u hamgylchynu gan wal amddiffynnol
uchel ac o bob tu iddynt saif dau dwr gynnau o’r 19eg ganrif. Erbyn
hyn defnyddir rhannau mawr o’r iard gan ddiwydiant modern, gan gynnwys
porthladd y fferi i Iwerddon, ond mae nifer o adeiladau mawr o gerrig
yn y traddodiad Sioraidd yn agos at y fynedfa i’r dociau yn nodwedd
bensaernïol gadarn. Mae nifer o’r dociau gwreiddiol hefyd wedi
goroesi a chasgliad o strwythurau milwrol o’r 20fed ganrif hefyd,
gan gynnwys dwy sied awyrennau fawr a adeiladwyd ar gyfer awyrennau môr.
Mae caer Penfro, a adeiladwyd yn wreiddiol ar lethr agored yn edrych dros
y dociau bellach wedi’i hamgylchynu gan ddatblygiadau. Mae’r
dref, sy’n dyddio o’r 19eg ganrif, wedi’i hadeiladu
mewn patrwm grid, ac mae hyn, ynghyd â’r ffaith bod llawer
o strydoedd o dai ac adeiladau eraill o’r un cyfnod wedi goroesi,
yn darparu nodwedd bensaernïol gadarn. Mae’r cyfuniad o batrwm
strydoedd wedi’i gynllunio a’r ffaith bod nifer go fawr o
dai ac adeiladau eraill o’r un cyfnod wedi goroesi yn rhoi i Ddoc
Penfro gymeriad hanesyddol cydlynol na welir mo’i debyg yn aml mewn
trefi eraill yng Nghymru. Mae’r tai a adeiladwyd ar gyfer y gweithwyr
yn y dociau yn dyddio o’r 19eg ganrif fel arfer yn dai teras deulawr
sydd wedi’u rendro â sment ac sydd at ei gilydd yn y traddodiad
Sioraidd. Amlygir tirlun cymdeithasol ac economaidd y dref mewn manylion
megis y tai ‘forman’ mwy o faint a saif ar ben y terasau.
Mae tai trillawr ar gorneli rhai strydoedd yn y ganolfan fasnachol yn
pwysleisio pwysigrwydd rhai croesffyrdd. Ym Mhennar sy’n edrych
dros y dociau i’r de mae patrwm grid y strydoedd llydan i’w
weld o hyd, ond yma mae terasau o fythynnod unllawr yn rhoi golwg nodedig
iawn, os nad unigryw, i’r dref. At ei gilydd mae 125 o adeiladau
rhestredig o fewn y dref. Nid oes fawr ddim tai yn perthyn i ddiwedd y
19eg ganrif a’r cyfnod rhwng dechrau a chanol yr 20fed ganrif, ond
mae tai ac adeiladau eraill o ddiwedd yr 20fed ganrif yn tystio i’r
ffaith bod y dref yn prysur dyfu yn ystod y cyfnod hwn. Ailddatblygwyd
llawer o’r safleoedd milwrol yn dyddio o’r 20fed ganrif yn
swyddfeydd ac ystadau diwydiannol ysgafn; dymchwelwyd llawer ac adferwyd
y tir. Mae Pont Cleddau, a ddisodlodd y fferi, wedi adfywio ochr ogleddol
y dref. Yma y lleolir llawer o’r diwydiant ysgafn. Lleolir cwrs
golff o fewn yr ardal hon.
Yn ffinio â’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon i’r
gorllewin, i’r gogledd ac i’r dwyrain y mae’r môr.
Ar yr ochr arall mae’n cyffinio â thir ffermio. Fodd bynnag,
mae’n debyg y bydd Doc Penfro yn cyfuno â Phenfro cyn hir
am mai dim ond ychydig o gaeau sydd rhyngddynt.
Ffynonellau: Carradice 1991; Findlay 1875; Jack 1981; Map Degwm Eglwys
y Santes Fair ym Mhenfro 1841; Owen 1918; Peters 1905; Price 1986; PRO
D/BUSH/6/26; PRO D/BUSH/6/27; PRO D/BUSH/6/40;
|